Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Rydym wedi cyhoeddi dau adroddiad ar y memorandwm a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch y Bil Rheoli Cymorthdaliadau, y cyntaf ym mis Rhagfyr a'r ail yr wythnos diwethaf.
Huw Irranca-Davies: Mynegodd ein hadroddiad cyntaf ein pryderon ynglŷn â'r Bil. Rydyn ni’n credu y gallai'r cynigion rheoli cymhorthdal—ac rydyn ni’n dweud hyn yn ein hadroddiad—gael effaith niweidiol ar ddatganoli ac ar arfer swyddogaethau datganoledig, yn enwedig mewn ffyrdd a allai gyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru a sefydliadau cyhoeddus i ariannu prosiectau angenrheidiol. Felly, mae effaith bosibl...
Huw Irranca-Davies: Pa sicrwydd y mae'r Prif Weinidog wedi'i geisio gan Lywodraeth y DU ynghylch y cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i ymateb i amgylchiadau iechyd y cyhoedd sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws?
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Mae'n bleser dilyn y ddau o fy nghyd-Gadeiryddion pwyllgor. Ac a gaf i ddweud, ar y pumed achlysur yr wyf wedi codi y prynhawn yma, diolch i dîm clercio'r pwyllgor a fy nghydweithwyr yn ogystal am ystyried y materion hyn? Ac a gaf i nodi yn fyr amddiffyniad ysbrydoledig gan y Cwnsler Cyffredinol yn gynharach ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol, a oedd yn ddiddorol iawn, a...
Huw Irranca-Davies: Diolch eto, Llywydd. Mae'n wych croesawu cyn Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn ei rôl bresennol yma heddiw. Rwy’n nodi’r sylwadau y mae wedi'u gwneud wrth agor nad yw'r Llywodraeth yn bwriadu rhoi cydsyniad i'r memorandwm hwn, ond mae rhai o'r sylwadau yr wyf i am eu gwneud yn berthnasol rhag ofn y bydd y sefyllfa honno'n newid wedyn. Ein hadroddiad ar...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Gweinidog, rwy'n derbyn y ffordd rydych chi'n egluro hyn, bod cydbwysedd yma rhwng y flaenoriaeth wirioneddol o roi polisi da ar waith y byddai Llywodraeth Cymru a phobl Cymru am ei weld yn erbyn cydbwysedd, fel mae wedi'i egluro, sy'n lleihau'r risg gyfansoddiadol. Ond, efallai y byddai sicrwydd ychwanegol, i Aelodau'r Senedd, pe bai defnydd annisgwyl o'r pwerau sydd wedi'u...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Rydym wedi cynhyrchu dau adroddiad yn ymdrin â'r tri memorandwm cydsyniad a osodwyd gan y Gweinidog ar y Bil hwn. Cwblhawyd y cyntaf fis Rhagfyr diwethaf, a dim ond prynhawn ddoe y gosodwyd yr ail.
Huw Irranca-Davies: Nawr, o ystyried nifer yr argymhellion sydd wedi’u cynnwys yn ein hail adroddiad ar femoranda Rhif 2 a Rhif 3, fe wnaethom roi copi cynnar i'r Gweinidog er mwyn llywio'r ddadl y prynhawn yma'n well, ac rwy’n diolch i'r Gweinidog am ymateb yn ffurfiol i'n hadroddiad y bore yma hefyd. Llywydd, ein hadroddiad ar femoranda Rhif 2 a Rhif 3 oedd ein trydydd adroddiad ar hugain nawr ar femoranda...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Dyma fy ail gyfle i siarad ar y cynigion hyn ger ein bron ni y prynhawn yma ac rwy'n mynd i fod hyd yn oed yn fyrrach ar y daith hon. Gwnaethom ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 7 Chwefror ac mae ein hadroddiad i'r Senedd yn cynnwys un pwynt adrodd technegol. Mae'r rheoliadau, fel y dywedodd y Gweinidog, yn gwneud diwygiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol ac...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr, Lywydd, a diolch i'r Gweinidog hefyd.
Huw Irranca-Davies: Fe geisiaf gadw hyn mor fyr â phosibl. Gwnaethom ni ystyried y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 31 Ionawr, ac mae ein hadroddiad i'r Senedd yn cynnwys dau bwynt adrodd rhagoriaeth. Mae'r rheoliadau hyn, fel y dywedodd y Gweinidog, yn diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i osod dau gyfyngiad pellach ar allu landlord i roi hysbysiad sy'n ceisio meddiant—yn gyntaf, os nad oes...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Gydag eich gwahoddiad, dyma fydd y cyntaf o bum araith y byddaf yn eu gwneud am waith craffu fy mhwyllgor dros yr wythnosau diwethaf. Rydw i felly yn bwriadu cadw ffocws i’m cyfraniadau.
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna.
Huw Irranca-Davies: Mae hwn yn gwestiwn gwirioneddol agored, oherwydd mae'r graddau y mae'r Senedd yn agor i bobl—pobl ifanc ac eraill—ledled y wlad yn creu argraff arnaf a dweud y gwir, o ran dweud, 'Dewch yma a phrofwch—a chael profiad gwaith,' neu, 'Gwnewch gais am waith yma, wrth galon ein democratiaeth genedlaethol.' Ac os edrychwch chi ar y wefan, mae wedi'i gyfeirio'n dda iawn ac yn y blaen. Ond fy...
Huw Irranca-Davies: Credaf fod y diwygiadau rhynglywodraethol yn cynnwys rhywfaint o newyddion cadarnhaol. Os gellir eu gwneud yn rhan annatod o'r cywair parchus ond hefyd o beirianwaith y Llywodraeth fel eu bod yn wirioneddol ystyrlon rhwng Llywodraethau, mae ynddynt obaith gwirioneddol ar gyfer y dyfodol. Ond yr hyn a wyddom, wrth gwrs, yw bod cryfhau'r peirianwaith rhynglywodraethol yn golygu bod angen mwy o...
Huw Irranca-Davies: Ategaf y pwyntiau a wnaeth Rhys ynghylch ymgysylltu priodol ac ymagwedd adeiladol y Gweinidog, ond a gaf fi ddweud, roedd dinasyddion ledled y wlad yn chwifio'r baneri dros y penwythnos. Roeddent yn falch iawn o glywed y newyddion hwn, a hefyd am benodi dyn y bobl, Jacob Rees-Mogg, yn Weinidog dros gyfleoedd Brexit, ac y byddai coelcerth o reoliadau'n cael ei chreu wrth i'r Bil Brexit rhif 2...
Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Wrth gwrs, cyflwynwyd y cwestiwn hwn cyn i'r llysoedd ddwyn rheithfarn ar lofruddiaeth drasig ac chiaidd Dr Gary Jenkins, ac rwy'n sicr y bydd y Gweinidog am ymuno â phob un ohonom yn y Siambr hon heddiw i dalu teyrnged iddo. Roedd hwn yn ymosodiad homoffobig a ddigwyddodd yn y ddinas hon, nid nepell o'r man lle'r ydym yn siarad heddiw. Rwy'n siŵr fy...
Huw Irranca-Davies: 5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynllun gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru? OQ57600
Huw Irranca-Davies: 3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith ar Gymru y caiff cynigion Llywodraeth y DU ar gyfer deddfwriaeth ar gyfraith yr UE a ddargedwir? OQ57599
Huw Irranca-Davies: 7. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'r angen am ddiwygiadau rhyngseneddol yn sgil y newidiadau i gysylltiadau rhynglywodraethol ar lefel y DU? OQ57602