Canlyniadau 321–340 o 2000 ar gyfer speaker:Alun Davies

5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mynediad at ddiffibrilwyr (15 Med 2021)

Alun Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd am ddod â'r ddadl hon i'r Senedd ar ddechrau'r tymor newydd hwn, a diolch am y geiriau caredig rydym newydd eu clywed. O ran ble'r ydym, mae'r araith a wnaed gan Andrew R.T. Davies yn gwbl gywir: mae'n dda ac rydym yn croesawu ac rydym yn ddiolchgar am y gwaith y mae'r Llywodraeth wedi'i gwblhau, ac rydym yn hynod ddiolchgar am...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Datblygu Strategol ac Economaidd (15 Med 2021)

Alun Davies: Diolch am eich ateb, Weinidog. Ar yr ochr hon i'r Siambr, yn sicr nid ydym yn credu bod Cymru yn cael yn agos at ei chyfran deg o adnoddau a chyllid gan Lywodraeth bresennol y Deyrnas Unedig. Ond o ran sut rydym yn gwario ein hadnoddau, un o'r gwersi y credaf y byddwn yn eu dysgu dros yr wythnosau, y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, wrth edrych yn ôl ar y pandemig, yw'r ffordd y mae...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Datblygu Strategol ac Economaidd (15 Med 2021)

Alun Davies: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb a ddyrennir i gynllunio datblygu strategol ac economaidd yn ne-ddwyrain Cymru? OQ56829

QNR: Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd (14 Gor 2021)

Alun Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y meini prawf asesu ar gyfer dewis safleoedd i leoli prosiectau cynhyrchu ynni ar raddfa fawr?

10. Dadl: Paratoi’r Gyllideb: Blaenoriaethau ar gyfer 2022-23 (13 Gor 2021)

Alun Davies: Liciwn i ddechrau trwy ddweud gair o ddiolch i'r Llywodraeth am gynnal y drafodaeth yma yn absenoldeb y Pwyllgor Cyllid yn ystod y cyfnod yma. Dwi'n credu ei bod yn beth pwysig bod y Senedd yn cael cyfle i drafod y gyllideb cyn i'r Llywodraeth sefydlu'r gyllideb, so mae gennym ni gyfle i ddweud, fel cynrychiolwyr pobl Cymru, beth yw ein blaenoriaethau ni fel cenedl. A dwi eisiau dechrau trwy...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050 (13 Gor 2021)

Alun Davies: —yn cydweithio â Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ac eraill, i sicrhau ein bod ni’n normaleiddio’r Gymraeg lle dŷn ni’n cymdeithasu, lle dŷn ni’n byw a lle dŷn ni’n gweithio?

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050 (13 Gor 2021)

Alun Davies: Liciwn i groesawu’r Gweinidog newydd i’r swydd a hefyd ddiolch iddo fe am y cyfle i gael y drafodaeth yma’n fuan iawn yn ystod y Senedd yma. Dwi’n croesawu’r dôn y mae’r Gweinidog wedi’i gosod yn ystod ei sylwadau cychwynnol. Mae yna gwpl o bethau dwi eisiau eu dweud yn ystod fy nghyfraniad y prynhawn yma. Yn gyntaf, pwysigrwydd cymunedau Cymraeg, cymunedau lle mae’r Gymraeg...

3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Confensiwn ar ein Dyfodol Cyfansoddiadol (13 Gor 2021)

Alun Davies: Cyn dod at y cwestiwn, gyda'ch caniatâd, Llywydd, liciwn i ddweud gair amboutu Elystan Morgan. Mi gollon ni Elystan yn ystod yr wythnos diwethaf, ac mi oedd e, wrth gwrs, yn un o gewri'r Blaid Lafur, y mudiad Llafur, ond hefyd gwleidyddiaeth Cymru. Un peth oedd yn gyson gan Elystan drwy gydol ei fywyd oedd ei gred yn ein democratiaeth ni a hawl i Gymru i lywodraethu ei hun. Rwy'n ei gofio fe...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Triniaeth Breifat yn y GIG ( 7 Gor 2021)

Alun Davies: Rydym eisoes wedi clywed y prynhawn yma am boen a dioddefaint aruthrol pobl sy'n aros am wasanaethau ar hyd a lled y wlad, yn dilyn y pandemig neu wrth i'r pandemig ddominyddu'r gwasanaeth iechyd gwladol. Weinidog, a yw'n bryd inni ystyried atal y defnydd o adnoddau'r GIG ar gyfer gwaith preifat er mwyn sicrhau bod holl adnoddau'r gwasanaeth iechyd gwladol yn cael eu darparu ar gyfer y rhai...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Triniaeth Breifat yn y GIG ( 7 Gor 2021)

Alun Davies: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y defnydd o driniaeth breifat o fewn y GIG? OQ56718

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Gor 2021)

Alun Davies: Yn amlwg, mae'n cael ei reoli gan y Llywodraeth. [Chwerthin.] A gawn ni ddatganiad o ran strategaeth y Llywodraeth ar gyfer ataliad ar y galon y tu allan i'r ysbyty, os gwelwch yn dda? Rwy'n sylwi bod y Llywodraeth y bore yma wedi sicrhau bod mwy o arian ar gael i gefnogi lleoli diffibrilwyr, ond, wrth gwrs, un elfen yw honno o'r strategaeth gyffredinol, a hoffwn i glywed sut y mae'r cynnydd...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Gor 2021)

Alun Davies: Nid yw'n ymddangos bod y dechnoleg yn gweithio y prynhawn yma, Llywydd, o ran tawelu a dad-tawelu aelodau . A gaf i—

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ymgynghoriadau Wyneb yn Wyneb â Chlinigwyr ( 6 Gor 2021)

Alun Davies: Diolch yn fawr am hynna, Gweinidog, er nad dyna brofiad llawer o'r bobl yr wyf i'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent. Mae llawer o bobl yn ei chael hi'n fwyfwy anodd cael gafael ar ofal sylfaenol ar hyn o bryd. Nawr, rydym ni i gyd yn cydnabod y problemau a grëwyd gan y pandemig, ond ni all fod yn dderbyniol nad yw pobl yn gallu cael gafael ar y gofal a'r cymorth meddygol sydd eu hangen arnyn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ymgynghoriadau Wyneb yn Wyneb â Chlinigwyr ( 6 Gor 2021)

Alun Davies: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad cleifion at ymgynghoriadau wyneb yn wyneb â chlinigwyr? OQ56755

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Polisi TGCh (30 Meh 2021)

Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am hynny. Cefais fy synnu'n fawr wrth ddarllen adran 2 o'r polisi, lle mae'n datgan yn glir iawn y gall Comisiwn y Senedd, heb rybudd, wirio a gwneud a chadw copïau o'r holl wybodaeth, sy'n cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, alwadau ffôn ac unrhyw gyfathrebiadau electronig, gwybodaeth wedi'i storio, a data a anfonwyd, a grëwyd neu a gynhwysir o fewn system...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2021 (30 Meh 2021)

Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi am yr ymateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Cafodd y cwestiwn ei fframio cyn inni gael y newyddion hapus hwnnw gan y llys wrth gwrs. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech gadarnhau y byddwch yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i'r Senedd hon—[Anghlywadwy.]—yn mynd rhagddo. Fy nghwestiwn i chi—[Anghlywadwy.]—yw hwn: rydym wedi trafod a dadlau ynghylch Deddf y...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2021 (30 Meh 2021)

Alun Davies: 3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am asesiad cyfreithiol Llywodraeth Cymru o Ddeddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2021? OQ56679

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Polisi TGCh (30 Meh 2021)

Alun Davies: 5. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ei bolisi TGCh ar gyfer y chweched Senedd? OQ56681

1. Enwebiadau ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau (29 Meh 2021)

Alun Davies: Ydw, ar bwynt o drefn, roeddwn i'n hynod siomedig bod y Pwyllgor Busnes wedi achub ar y cyfle i rwystro'r ymgeisyddiaeth hon y bore yma a pheidio ag archwilio'r potensial i rannu swydd Cadeirydd pwyllgor. Mae'n ymddangos i mi, ac roedd yn ymddangos, rwy'n credu, i eraill, fod hwn yn gynnig syml iawn ac yn un y gellid bod wedi'i gynnwys yn ein Rheolau Sefydlog presennol. Mae'n ymddangos i mi...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.