John Griffiths: Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd yn Nwyrain Casnewydd?
John Griffiths: Diolch, Llywydd. Felly, dim prinder syniadau, Prif Weinidog, ond, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod angen i ni gael synnwyr o frys o ran sut yr ydym ni'n gwneud y newid hwn.
John Griffiths: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac yn arbennig am dynnu sylw at y gwaith da iawn sy'n digwydd yn ysgolion Casnewydd, yr wyf i'n amlwg yn gyfarwydd iawn ag ef. Cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, ac mae ehangder y problemau anadlu erbyn hyn yn rhywbeth tebyg i un ym mhob pump o bobl yn y DU gydag anawsterau anadlu. Yn amlwg, mae aer glân yn ffordd...
John Griffiths: 5. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd y cyhoedd yn Nwyrain Casnewydd? OAQ54793
John Griffiths: Diolch ichi am y gefnogaeth honno, David, ar fater sy'n sicr yn uno'r gymuned leol, a gwn fod llawer o Aelodau Cynulliad wedi bod yn rhan o'r gwaith hwnnw. Hoffwn innau hefyd adleisio'r hyn a ddywedodd Delyth am y cyswllt rheilffordd i deithwyr o Lynebwy i Gasnewydd, oherwydd mae'n fater a fu ar y gweill ers amser maith, ac mae bwlch mor amlwg yn y gwasanaethau lleol fel bod cymunedau,...
John Griffiths: Weinidog, rwy'n falch iawn ein bod yn cael y cyfle hwn heddiw, oherwydd mae'n fy ngalluogi i dynnu sylw eto at yr achos dros orsaf gerdded newydd ym Magwyr, y gwn eich bod yn gyfarwydd iawn ag ef, ac y soniodd Delyth amdano'n gynharach yn wir. Mae cefnogaeth gymunedol wych i orsaf newydd yno fel rhan o gronfa gorsafoedd newydd y DU. Mae gwaith wedi'i wneud, mae camau wedi'u cymryd ac mae...
John Griffiths: Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon heddiw, a chydnabod mor bwysig yw gofal diwedd oes a gofal lliniarol i gynifer o'n poblogaeth a'u teuluoedd. Mae wedi bod yn bwysig ers cryn dipyn o amser ac yn amlwg, fe fydd yn bwysig yn y dyfodol. Fel Aelodau eraill, rwy'n gyfarwydd iawn â gwaith hosbisau lleol ac ansawdd a phwysigrwydd y gwaith hwnnw, yn fy achos i, Hosbis Dewi Sant yn...
John Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn ddiweddar, dathlodd ColegauCymru 10 mlynedd yn eu hadeilad presennol, ac i nodi'r achlysur, cynhaliwyd seminar, a chafwyd trafodaethau ynglŷn â gorffennol, presennol a dyfodol sgiliau yng Nghymru. Rhaid peidio â thanbrisio gwerth addysg a hyfforddiant. Yn 2017, roedd ychydig dros 350,000 o bobl 16 i 25 oed yng Nghymru, ac roedd 50 y cant o'r rhain mewn addysg...
John Griffiths: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Yn Nwyrain Casnewydd, rydym yn ffodus iawn o gael cymunedau amrywiol, gan gynnwys cymunedau Pacistanaidd a Bangladeshaidd cryf, ac wrth gwrs, mae ganddynt lawer o gysylltiadau â Phacistan a Bangladesh. Tybed i ba raddau y mae Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y dreftadaeth honno a'r cysylltiadau hynny wrth feithrin ei chysylltiadau a'r fasnach a'r...
John Griffiths: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gryfhau'r berthynas rhwng Cymru a gwledydd sydd â chysylltiadau cryf â'n cymunedau mwyaf amrywiol? OAQ54724
John Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, yng Nghasnewydd, rydym ni mewn sefyllfa arbennig, wrth gwrs, lle cawsom y cyhoeddiad o ran Orb a'r bron i 400 o swyddi sydd yno a nawr y cyhoeddiad cyffredinol hwn gan Tata ar draws ei weithrediadau Ewropeaidd. Felly, mae'n bosibl y ceir effaith ar Lanwern, wrth gwrs, yn ogystal ag Orb. Rwy'n croesawu'n fawr iawn yr hyn y gwnaethoch ei ddweud am swyddi Orb...
John Griffiths: Diolch am y cyfle i siarad yn rhinwedd fy swyddogaeth yn Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, gan y byddwn wrth gwrs yn craffu ar y Bil hwn yn ystod ei daith drwy'r Cynulliad. Mae hwn yn Fil pwysig iawn ac yn wir yn sylweddol a byddwn yn craffu'n drylwyr ar y darpariaethau amrywiol maes o law. Ond ar hyn o bryd hoffwn holi'r Gweinidog am ddwy ddarpariaeth nad...
John Griffiths: Gwnsler Cyffredinol, gwaith busnesau bach a chanolig eu maint yw llawer o'r gweithgarwch economaidd yng Nghymru, a chredaf eu bod yn hanfodol i'n heconomi. Maent yn wynebu llawer o bwysau o ran llif arian a hyder oherwydd Brexit a'r hyn a allai ddigwydd yn sgil Brexit. Credaf y gall Banc Datblygu Cymru ddarparu cymorth hanfodol iddynt, felly a allech roi sicrwydd i ni heddiw fod y banc...
John Griffiths: Weinidog, dylai gwaith dur Orb yng Nghasnewydd barhau i weithredu, a chyda'r lefel gywir o gefnogaeth gan Tata Steel, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, byddai'n cael ei alluogi i gynhyrchu duroedd trydanol ar gyfer cynhyrchiant ceir trydan yn y dyfodol. Mae ymgyrch leol gref iawn ar waith i sicrhau bod gwaith Orb yn parhau i weithredu, ac yn wir, mae wedi bod yn un o nodweddion bywyd...
John Griffiths: 7. Pa fesurau y mae'r Cwnsler Cyffredinol yn eu cymryd cyn Brexit i ddiogelu economi Cymru? OAQ54635
John Griffiths: Prif Weinidog, fel yr ydym ni wedi clywed, mae angen gwella'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr yn fawr. Mae yna gorff o dystiolaeth sy'n sefydlu hynny, ac rwy'n credu bod yr adroddiad awdurdodol hwn yn ychwanegu'n sylweddol ato. Gwyddom y caiff llawer gormod o bobl eu hanfon i'r carchar, fel y gwnaethoch chi grybwyll yn eich datganiad agoriadol, o'u cymharu â'n cymdogion yng...
John Griffiths: Prif Weinidog, mae Casnewydd mewn sefyllfa dda iawn i helpu Llywodraeth Cymru i wireddu ei huchelgeisiau o ran datblygu cynaliadwy. Gallai chwarae rhan lawer mwy, rwy'n credu, mewn twf economaidd, creu swyddi, ynghyd â'r math o amddiffyniadau amgylcheddol yr ydym ni eisiau eu gweld yn ein gwlad—datblygu cynaliadwy yn ei gyfanrwydd. Mae ei lleoliad daearyddol rhwng ein prifddinas a Bryste...
John Griffiths: 3. Pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i gefnogi'r economi yng Nghymru? OAQ54634
John Griffiths: O'r gorau. Nid wyf yn credu y byddai unrhyw un ohonom yn gwadu bod problemau hirsefydlog yn bodoli. Byddai llawer ohonom yn ystyried profiad Llywodraethau Thatcher dros gyfnod o amser—wyddoch chi, gwerthu tai cyngor heb y gallu i ddefnyddio'r enillion i adeiladu tai cyngor newydd, y canolbwyntio ar brynu preifat. Gwyddom yn awr, er enghraifft, fod pwysau cyson cyflogau isel a rhenti uchel...
John Griffiths: Ni fyddai neb ohonom yn dweud nad yw'r problemau wedi bodoli dros—[Torri ar draws.]