Canlyniadau 321–340 o 4000 ar gyfer speaker:Lesley Griffiths

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (13 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Nid ydym ni wedi cael gwybod na'n hysbysu bod deiliaid cartrefi mewn parciau wedi gweld cynnydd sylweddol mewn ffioedd am leiniau yma yng Nghymru, ond yn amlwg mae'n bwysig iawn ein bod ni'n monitro'r sefyllfa. Yn wahanol i Loegr, mae ffioedd am leiniau yma yn seiliedig ar y mynegai prisiau defnyddwyr ac nid y mynegai prisiau manwerthu, felly rwy'n credu mai dyna'r gwahaniaeth...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (13 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n ymwybodol bod y Dirprwy Weinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gweithio'n agos iawn gyda gwasanaethau cyn-filwyr ledled Cymru ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud ag iechyd a thai, er enghraifft. Nid ydw i'n ymwybodol o unrhyw beth penodol am y grŵp o bobl yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw, ond yn sicr fe wnaf ofyn a oes unrhyw beth penodol y byddai modd ei wneud, ac, os felly, bydd...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (13 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n ymwybodol iawn o ddigwyddiadau parkrun iau. Mae gen i un yn fy etholaeth fy hun, ac mae fy merch, sy'n gwneud parkrun, wedi fy ngorchymyn i wirfoddoli arno. Rwy'n credu ei bod yn ffordd dda o gael pobl ifanc i fod yn egnïol, ac yn sicr mae'r rhai yr wyf i wedi'u gweld yn Wrecsam wedi cael eu cefnogi'n dda iawn. Byddwch chi'n ymwybodol, yn ein hysgolion ni, fod Gweinidog y...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (13 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Gan fy mod i wedi ymrwymo'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd i gyhoeddi datganiad ysgrifenedig am fetro'r de, rwy'n meddwl ei bod hi ond yn deg ei fod yn cyhoeddi un ar fetro'r gogledd hefyd. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (13 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n cymryd bod y broses yn dal yr un fath i Aelodau allu rhoi'r dystiolaeth honno, ond fe wnaf gadarnhau hynny gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (13 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Mae'n wir bod nifer o gyfnodau o oedi siomedig wedi bod wrth ddod â'r trenau newydd hyn i wasanaeth. Maen nhw'n cynnwys yr angen i Trafnidiaeth Cymru sicrhau'n drwyadl eu bod yn ddiogel ac maen nhw'n ddibynadwy at ddefnydd teithwyr, yn dilyn rhai digwyddiadau yn ystod eu profion. Mae'n anffodus iawn bod Vivarail wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, ond yn amlwg nid Trafnidiaeth Cymru sydd ar...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (13 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Yn bendant, rwy'n cytuno â Mike Hedges. Yn amlwg, rydym ni'n credu y dylai pawb gael mynediad i gartref digonol, fforddiadwy. Mae hyn yn hanfodol i iechyd meddwl a chorfforol pobl, ac wrth gwrs eu lles hefyd. Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn ariannu nifer o raglenni i gynyddu mynediad i'r cartrefi hynny, gan gynnwys cofnodi cyllid ar gyfer adeiladu tai cymdeithasol carbon isel i'w...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (13 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Roeddwn i'n darllen erthygl ddiddorol iawn ar y mater yma ddoe. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymwybodol, yn amlwg, o'r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr, ac yn ystyried camau eraill a allai fod yn angenrheidiol yma yng Nghymru. Rwy'n siŵr y bydd hi'n gwneud datganiad pan fydd hi wedi ystyried hynny.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (13 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn hapus i wneud datganiad ysgrifenedig. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (13 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Mae un newid i'r busnes yr wythnos hon. Bydd Rheoliadau Ardrethi Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022 yn cael eu trafod yn syth wedi'r drafodaeth ar y datganiad drafft ar y gyllideb. Mae busnes drafft ar gyfer tair wythnos nesaf o dymor y gwanwyn wedi'i nodi yn y datganiad busnes a'r cyhoeddiad, sydd i'w weld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i Aelodau yn electronig. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Bydd datganiad ysgrifenedig yn cael ei ddosbarthu'r prynhawn yma, ond a gaf i ddim ond—

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Fe fydd yna ddatganiad ysgrifenedig y prynhawn yma, ond os caf i ddim ond egluro oherwydd fe ddywedodd yr Aelod, rwy'n credu, bod naw o blant a fu farw yng Nghymru yn drist iawn; ond yn y DU yw hynny. Rwy'n cytuno yn llwyr â chi, er hynny, mai achosion trist tu hwnt yw'r rhain i gyd.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r holl fyrddau iechyd ar barodrwydd ar gyfer y gaeaf, ond rydym ni'n amlwg yn cydnabod bod llawer o heriau, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi cwrdd â'r gwasanaeth ambiwlans—rwy'n credu mai bythefnos yn ôl oedd hi, ond efallai mai'r wythnos diwethaf oedd hi—i drafod materion o ran...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Byddwch chi wedi fy nghlywed i'n dweud yn fy ateb wrth Jane Dodds ein bod ni wir yn gwerthfawrogi partneriaeth gymdeithasol, felly mae'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol yn sicr yn gweithio gyda'r gwasanaeth tân ar hyn o bryd i weld beth arall y mae modd ei wneud i geisio denu pobl i'r swyddi. Nid oeddwn i'n ymwybodol o'r nifer sylweddol yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw,...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Wel, rydym ni'n cydnabod pam mae cymaint o weithwyr ambiwlans wedi pleidleisio'r ffordd y gwnaethon nhw, a'r dicter a'r siom ymhlith cymaint o'n gweithwyr yn y sector cyhoeddus ar hyn o bryd. Rydym ni'n credu y dylai ein gwasanaethau brys gael eu gwobrwyo'n deg am eu gwaith pwysig, ond byddwch chi'n gwerthfawrogi bod ein setliad ariannol presennol yn llawer llai na'r hyn sydd ei angen...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Wel, yn amlwg, mae hyn yn dod o fewn fy mhortffolio i, ac rwy'n awyddus iawn i ymdrin â'r pryderon lawer sydd wedi'u codi gyda mi ynghylch rasio milgwn. Fel y byddwch chi'n ymwybodol, mae'r Pwyllgor Deisebau wedi cael deiseb sylweddol, ac rwy'n aros am ganlyniad hynny, yn ogystal â bod â hyn yn amlwg yn rhan o'n cynllun lles anifeiliaid—mae hwnnw'n gynllun pum mlynedd yr wyf i'n...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Wel, dydw i ddim yn ymwybodol o'r mater yr ydych chi'n ei godi ynghylch y feithrinfa. Rwy'n credu y byddai'n well gohebu'n uniongyrchol â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili y tro hwn. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn. Mae osteoporosis yn effeithio ar lawer ohonom ni a llawer o'n hetholwyr, ac yn sicr fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad ysgrifenedig. 

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad cyn gynted â phosibl o amgylch sefyllfa strep A. Yn sicr, rydym ni'n mynd i weld nifer uwch o achosion o heintiau strep A bacterol eleni o'i gymharu â'r blynyddoedd diwethaf, ac yn anffodus rydym ni wedi gweld y canlyniadau trasig yn ystod yr wythnosau diwethaf, ac mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad yn mynd i'r...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n derbyn yn llwyr yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am yr ymadrodd 'argyfwng costau byw' a sut mae wedi dod yn rhan o'n hiaith ni, mewn gwirionedd, yn ystod y misoedd diwethaf. Roeddwn i'n siarad â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol y bore 'ma. Rwy'n gwybod ei bod hi'n cyflwyno sylwadau brys i Lywodraeth y DU, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.