Llyr Gruffydd: Diolch, Llywydd. Yr hyn dwi eisiau ei wneud yw tynnu sylw'r Gweinidog at gynlluniau sydd ar droed i greu llwybr beicio o Ruthun i Ddinbych ar hyd dyffryn Clwyd. Mi fyddai'r llwybr yma, wrth gwrs, yn cysylltu'r ddwy dref i drigolion lleol, o safbwynt teithio lesol, sydd, wrth gwrs, dwi'n gwybod, yn rhan bwysig o'r hyn mae'r Llywodraeth yn awyddus i'w hyrwyddo. Ond mi fyddai fe hefyd yn cynnig...
Llyr Gruffydd: Diolch i chi am eich ateb. Dwi eisiau tynnu eich sylw chi at ymgyrch sydd ar droed i roi cynlluniau ar waith i greu llwybr beicio o Ruthun i Ddinbych ar hyd Dyffryn Clwyd. Nawr, byddai hynny nid yn unig, wrth gwrs, yn cysylltu'r ddwy dref i drigolion lleol—
Llyr Gruffydd: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hybu twristiaeth yn sir Ddinbych? OQ56749
Llyr Gruffydd: Dwi'n falch eich bod chi'n sôn am sicrhau dyfodol cydnerth i'r sector, oherwydd wrth gwrs mae twristiaeth yn sector gwbl allweddol i ni yng ngogledd Cymru, fel mae e mewn rhannau eraill, wrth gwrs. Ond mae cael y cydbwysedd cywir yna rhwng twristiaid sy'n dod â budd i'n cymunedau ni, a gordwristiaeth, sy'n dod ag effeithiau negyddol, lle mae'r isadeiledd lleol yn methu dygymod â'r galw, yn...
Llyr Gruffydd: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynaliadwyedd y sector twristiaeth yng ngogledd Cymru? OQ56750
Llyr Gruffydd: Dau gais sydd gen i i'r Llywodraeth, yn ymwneud â'r un pwnc, a dweud y gwir. Yn y lle cyntaf, buaswn yn gofyn yn garedig i'r Trefnydd i sicrhau bod y Prif Weinidog yn ysgrifennu at Gymdeithas Bêl-droed Cymru i longyfarch carfan pêl-droed cenedlaethol Cymru ar yr hyn maen nhw wedi ei gyflawni yn yr Ewros. Mae yna wastad ychydig o rwystredigaeth, efallai, y gallem ni, ar ddiwrnod arall, fod...
Llyr Gruffydd: Diolch ichi am yr ymateb hwnnw. Byddwn i'n falch petaech chi'n cadarnhau bod y cronfeydd yna i gyd yn agored ac yn fyw ar hyn o bryd. Dwi wedi cael cyswllt gan rai cymunedau, yn cynnwys cyngor Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch a chyngor Cyffylliog yn sir Ddinbych, sydd wedi cytuno i weithio gyda chwmni i ddod â band eang ffeibr i’r ardal, a chymryd mantais, wrth gwrs, o’r cyllido sydd a’r...
Llyr Gruffydd: Diolch, Llywydd. Buaswn i'n dymuno enwebu Delyth Jewell i fod yn Gadeirydd y pwyllgor o dan sylw.
Llyr Gruffydd: 3. Pa gefnogaeth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru am ei rhoi i gymunedau fedru cael mynediad at well gwasanaeth bandeang? OQ56711
Llyr Gruffydd: Wel, os ŷch chi'n disgwyl i awdurdodau lleol wneud hyn o'u gwirfodd, dwi'n meddwl eich bod chi'n twyllo'ch hunan i raddau, Weinidog. Dwi'n meddwl bod angen i'r Llywodraeth yma fod yn rhagweithiol i annog yr awdurdodau lleol i fabwysiadu'r gyfundrefn yma. Felly, ydych chi'n cytuno gyda, er enghraifft, y Gymdeithas Diwygio Etholiadol bod angen gweithio gyda rhai awdurdodau lleol i beilota hyn,...
Llyr Gruffydd: Tra'n cydnabod heriau amlwg y setliadau annigonol ariannol, diffygiol, rydyn ni wedi eu cael o gyfeiriad Llundain, mae'r pwyllgor yn gosod yr her i'r Llywodraeth i wneud yr hyn sy'n bosib i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus ni, wrth gwrs, er mwyn cyflawni'r Ddeddf ac uchelgais y Ddeddf. Felly, y cwestiwn dwi eisiau ei gloi arno fe yw: a fydd y Llywodraeth yma, ac a fyddwch chi fel...
Llyr Gruffydd: Diolch. Dyw'r Llywodraeth ddim wedi ymateb yn ffurfiol i'r adroddiad eto. Dwi'n meddwl mai'r bwriad oedd gofyn i'r Llywodraeth bresennol ymateb gan fod yr adroddiad wedi dod ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf. Ac wrth gwrs, o gofio'ch rôl allweddol chi nawr yng nghyd-destun gwasanaethau lleol a chyllid hefyd, byddwn i'n gobeithio eich bod chi'n rhan o'r drafodaeth wrth ymateb i hynny, a dwi'n...
Llyr Gruffydd: 'Mae deddfwriaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynllunio ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol yn anos ei gweithredu’n briodol os caiff cyllidebau eu gwarantu am gyn lleied â blwyddyn ar y tro.’
Llyr Gruffydd: 'yn y tymor hwy, byddem yn rhagweld y byddai rhai o'r partneriaethau hynny, rhai o'r strwythurau eraill, yn dod yn ddiangen mewn gwirionedd, gan y bydd gan y cyd-bwyllgorau corfforedig drosolwg llawer mwy pwerus—a throsolwg llawer ehangach wrth iddynt ymsefydlu—a fydd yn dechrau mynd i’r afael â rhywfaint o waith y partneriaethau eraill.'
Llyr Gruffydd: Rydych chi wedi cyffwrdd ar hynny, efallai, yn eich ateb blaenorol, ond efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni, felly, pa bartneriaethau a strwythurau ŷch chi'n rhagweld bydd yn cael eu gwneud yn redundant dros y cyfnod nesaf. Ac yn wir, yr awgrym wedyn yw mai'r bwriad yw amsugno llawer o'r strwythurau yma i mewn i'r CJCs yn y pen draw, a bod hynny'n rhyw fath o aildrefnu llywodraeth leol a...
Llyr Gruffydd: Wel, mae Alun Michael yn ddyn lwcus. Dyna ni. Rwy'n siŵr y byddwch yn siarad â phobl eraill hefyd.
Llyr Gruffydd: Mae, wrth gwrs, y pwynt yma wedi dod yn glir yn sgil adroddiad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, pwyllgor trawsbleidiol, ar ddiwedd y Senedd ddiwethaf, wnaeth edrych ar roi'r Ddeddf llesiant ar waith. Roedd y pwyllgor yn dweud bod, ac rwy'n dyfynnu, 'trefniadau cyllido anghyson ar gyfer Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn cyfyngu ar ba mor effeithiol y gallent fod.' Mae'n 'aneffeithlon', ac...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gaf i achub ar y cyfle fan hyn i'ch llongyfarch chi ac i roi ar y record yn ffurfiol fy llongyfarchion i chi ar eich penodi yn Weinidog yn y Llywodraeth bresennol? Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i gysgodi eich gwaith chi yn ystod y Senedd yma. Mae yna sawl haen o weinyddiaeth gyhoeddus newydd wedi cael eu creu yma yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Un o'r...
Llyr Gruffydd: 3. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod awdurdodau lleol yn mabwysiadu'r bleidlais sengl drosglwyddadwy fel system bleidleisio yn sgil Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn dod i rym? OQ56641
Llyr Gruffydd: Pryd mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Bil amaeth i Gymru?