Caroline Jones: 7. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau biliau'r dreth gyngor yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54115
Caroline Jones: Cwnsler Cyffredinol, fel menyw WASPI fy hun, gallaf i ddweud wrthych chi na chefais i wybod erioed am y newidiadau yn fy mhensiwn i, a chefais i wybod dim ond o ganlyniad i sylw ffwrdd-â-hi gan ffrind. Nid yw fy achos i yn unigryw o bell ffordd, ac mae cannoedd o fenywod Cymru yn yr un cwch. Roeddwn i hefyd yng nghyfarfod Port Talbot, ynghyd â chi a David Rees. Roedd y cyfarfod hwnnw'n dyst...
Caroline Jones: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau brechu yng Nghymru?
Caroline Jones: Mae gennyf dri munud, Darren; mae'n ddrwg gennyf. Felly, er bod llawer ohonoch efallai'n anghytuno â'n safbwynt, ac rydych chi'n anghytuno, rhaid i chi dderbyn bod pobl Cymru wedi pleidleisio yn un o'r prosesau democrataidd mwyaf yn hanes ein cenedl. Fe wnaethant bleidleisio'n bendant dros adael y fiwrocratiaeth a'r ddiffynnaeth ac o blaid dyfodol yn rhydd o fod yn yr UE. [Torri ar draws.]...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon. Er gwaethaf y gwahaniaeth barn, mae pob cyfraniad yn y ddadl hon wedi bod yn werthfawr ac yn haeddu parch. Wrth agor, tynnodd Mark Reckless sylw at gynnig 'dileu popeth' y Ceidwadwyr. Hoffwn ddweud bod dryswch ac anhrefn Llywodraeth Geidwadol y DU bellach wedi'i drosglwyddo i Gymru. Gwnaeth Helen Mary Jones bwynt dilys yn ei...
Caroline Jones: Mae darparu gwasanaethau iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol. I rai cleifion, nid mater o ddewis iaith ydyw—dyna eu hunig ddewis. Dyna pam fod fy ngrŵp a minnau'n cefnogi'r bwriad y tu ôl i'r rheoliadau hyn. Fel y mae Comisiynydd y Gymraeg yn ei ddweud yn gywir, mae'r rheoliadau hyn yn gam cyntaf pwysig tuag at ddarparu mwy o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy gyfrwng y...
Caroline Jones: Weinidog, mae pob un ohonom yn cytuno bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl hŷn yn aros yn eu cartrefi am gyn hired â phosibl. Mae addasu cartrefi yn hanfodol er mwyn sicrhau hyn. Beth y mae eich Llywodraeth yn ei wneud i leihau'r amseroedd aros anarferol o hir ar gyfer addasiadau o'r fath?
Caroline Jones: Weinidog, hoffwn adleisio sylwadau David. Mae fy rhanbarth yn gartref i lawer o ryfeddodau naturiol, gan gynnwys gwarchodfa natur genedlaethol cors Crymlyn. Fel yr hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer corryn rafft y ffen, sydd â'i gartref yng nghors Crymlyn, a gaf fi ofyn pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol ynglŷn â sut y gall ein bioamrywiaeth chwarae rhan yn...
Caroline Jones: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol yn ei chael ar wasanaethau yng Ngorllewin De Cymru?
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog, a diolch ichi hefyd am ddarparu copi ymlaen llaw inni o argymhellion y gweithgor. Er ei bod yn amlwg bod llawer o waith wedi'i wneud ar osod yr agenda ar gyfer diwygio, ychydig iawn o ddiwygio a fu, mewn gwirionedd. Gweinidog, a ydych chi'n derbyn nad yw'r model presennol ar gyfer llywodraeth leol yn gynaliadwy, ac o ystyried cyflwr cyllid cyhoeddus,...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Gweinidog, yn ogystal â'ch datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ddoe ynglŷn â'r Bil. Rhaid imi gyfaddef, nid oedd 24 awr yn amser hir iawn i amsugno'r memorandwm esboniadol, ond mae gennyf ddigon o fanylion i gael hanfod y ddadl. Gweinidog, fel yr wyf wedi dweud wrthych chi yn y gorffennol, rwyf yn derbyn nad oedd popeth yn fêl i gyd gyda'r cynghorau iechyd...
Caroline Jones: Bob blwyddyn, mae mwyfwy o bobl yn dioddef yn sgil sgamiau ac mae'r sgamwyr yn tyfu'n fwyfwy soffistigedig er mwyn twyllo mwy o bobl. Yn ôl yr arolwg troseddu ar gyfer Cymru a Lloegr, troseddau twyll a throseddau camddefnyddio cyfrifiaduron oedd y troseddau mwyaf cyffredin a brofwyd gan unigolion y llynedd. Mae Action Fraud, corff yr heddlu a sefydlwyd i gydgysylltu gwybodaeth am...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw ac rwyf wedi cytuno i roi amser i Michelle Brown siarad yn y ddadl hon. Rydym yn wynebu epidemig yng Nghymru. Mae'r cyhoedd yng Nghymru yn cael eu targedu gan sgemiau i'w twyllo o'r arian y maent wedi gweithio'n galed i'w ennill, sgemiau mwyfwy soffistigedig sy'n targedu ein henoed a'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein...
Caroline Jones: Cefais y fraint o fod yn aelod o'r pwyllgor wrth i'r ymchwiliad i weithgarwch corfforol plant a phobl ifanc gael ei gynnal. Hoffwn ddiolch i'r Cadeirydd, cyd-aelodau'r pwyllgor, y clercod a phawb a roddodd dystiolaeth dros gyfnod yr ymchwiliad. Fel cyn-athrawes addysg gorfforol fy hun, mae'r pwnc hwn a'i bwysigrwydd yn agos iawn at fy nghalon—rwy'n deall yn llwyr, ar ôl blynyddoedd lawer o...
Caroline Jones: Rwy'n cynnig yn ffurfiol.
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Rwy'n siŵr bod pob un ohonom ni yn rhannu dymuniad y Llywodraeth i greu Cymru decach a mwy cyfartal. Mae wedi bod yn 70 mlynedd ers mabwysiadu datganiad cyffredinol y Cenhedloedd Unedig ar hawliau dynol, ac rydym ni wedi dod yn bell iawn yn y saith degawd diwethaf. Dirprwy Weinidog, rwy'n croesawu'r ffaith bod eich Llywodraeth yn ystyried...
Caroline Jones: Diolch, Prif Weinidog. Fel y dywedwyd eisoes, mae penderfyniad Ford i gau gwaith Pen-y-bont ar Ogwr yn ergyd drom i'm rhanbarth i, lle bu colledion swyddi digynsail dros y degawdau diwethaf. Gan fod ansicrwydd parhaus ynghylch gwaith dur Port Talbot, Tata, mae'n amlwg bod angen gwahanol strategaeth arnom. Mae cynlluniau datblygu economaidd blaenorol wedi methu â gwella'r rhanbarth, er...
Caroline Jones: Gweinidog, er fy mod i'n diolch ichi am eich datganiad ysgrifenedig yn gynharach, roeddwn i'n synnu na chafwyd datganiad llafar am benderfyniad Ford i gau'r ffatri injan ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Yn ogystal â bod yn newyddion torcalonnus i'r gweithlu a Phen-y-bont ar Ogwr, mae hefyd yn ergyd drom i Orllewin De Cymru. Er fy mod yn gobeithio y bydd Ford yn gweld eu camgymeriad, nid wyf i'n siŵr...
Caroline Jones: 7. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu cyflogaeth yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54028
Caroline Jones: Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae cyflwr y GIG yng ngogledd Cymru yn ddiffygiol iawn, a rhaid i Lafur Cymru dderbyn y bai yma, oherwydd mae'r diwygiadau dros yr 20 mlynedd diwethaf wedi arwain yn uniongyrchol at y sefyllfa yn Betsi Cadwaladr. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Mandy Jones, ddoe, bu'r bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig am bron i hanner ei...