Neil McEvoy: A wnewch chi ildio, Ysgrifennydd y Cabinet?
Neil McEvoy: A fyddech yn derbyn—dywedir wrthyf gan wyddonwyr; nid wyf yn wyddonydd—na fydd rhai mathau o blwtoniwm yn cael eu canfod gan y profion beta? Yn syml iawn, pam na chafodd sbectrometreg alffa ei wneud, a'r sbectrometreg màs plasma, fel yn Kosovo, ar y mwd?
Neil McEvoy: Mae hynny'n gwbl glir—
Neil McEvoy: Iawn. Wel, mae'n ffaith y bydd gollwng mwd yn caniatáu i'r orsaf niwclear gael ei hadeiladu, felly beth y mae Cymru yn ei gael o'r peth? Beth rydym yn ei gael o'r fargen hon? Yr ateb yw dim byd o gwbl—dim byd, nada, dim byd o gwbl. Felly, mae Lloegr yn gollwng ei mwd niwclear ar Gymru, ac mae'r Llywodraeth hon yn ei dderbyn—y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru. Mae bron â fy nharo'n...
Neil McEvoy: Mae yna bobl yn protestio y tu allan heddiw, a fi oedd yr unig Aelod Cynulliad yn bresennol. Gwn fod yr ymgyrchwyr yn siomedig iawn ynglŷn â hynny. Gyda'i gilydd, mae dros 100,000 o bobl wedi llofnodi deisebau amrywiol ynglŷn â hyn. Hoffwn ddechrau gyda ffaith ddigamsyniol, oherwydd drwy ganiatáu i 300,000 o dunelli o fwd o'r tu allan i Hinkley Point gael ei ollwng yn nyfroedd Cymru,...
Neil McEvoy: Diolch i chi, ond o ran tryloywder, ni throsglwyddwyd y data crai; cafwyd gwared arno. Mae hynny'n ffaith.
Neil McEvoy: A wnewch chi ildio eto?
Neil McEvoy: Ydw, rwy'n gwneud cymhariaeth, mewn gwirionedd, rhwng yr hyn sydd wedi digwydd yn Kosovo, gyda'r mwd yno, o ganlyniad i'r arfau a ddefnyddiwyd, lle y gwnaed prawf sbectrometreg pelydr gama, sbectrometreg alffa a hefyd sbectrometreg màs plasma. Yn anffodus, y cyfan y mae EDF wedi'i wneud yw un yn unig o'r rheini, felly mae sawl plwtoniwm sy'n amhosibl eu canfod gyda'r profion y mae EDF...
Neil McEvoy: A wnewch chi ildio?
Neil McEvoy: Rydych yn rhoi parch, Weinidog, ac rydych yn ei roi yn ôl.
Neil McEvoy: Rwy'n siarad â'r Gweinidog, mae'n ddrwg gennyf.
Neil McEvoy: A wnewch chi ildio?
Neil McEvoy: Diolch. Rwy'n clywed yr ymadrodd hwn drwy'r amser—'ymddygiad amhriodol'. [Torri ar draws.] A allech chi ddiffinio beth ydyw? Mae'n debyg mai'r ymddygiad mwyaf amhriodol yw gwneud honiadau ffug, er enghraifft. Mae hwn yn ymddangos yn dda iawn ar bapur, ond os edrychwch ar y diffyg parch yn y Siambr hon, wrth i mi yngan ychydig eiriau yn awr—y diffyg parch llwyr gan Aelodau gyferbyn â...
Neil McEvoy: Cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig ddoe am yr ail bont Hafren a'r cyfan a ddywedoch chi mewn ymateb—y Prif Weinidog—oedd mai ased y DU yw'r ail bont Hafren. Ond fel y clywsom, roeddech yn gwybod am hyn flwyddyn yn ôl, fe wnaethoch ei groesawu, roeddech eisiau bod yn rhan o'r dathliadau. Os ydych yn frenhinwr, pam na wnewch chi gyfaddef hynny? Pam nad ydych yn agored ac yn dryloyw gyda...
Neil McEvoy: Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders, bod polisi yn dweud un peth a realiti yn rhywbeth gwahanol, yn addas iawn. Mae'r cynnig yma yn cydnabod bod cael polisïau creu lleoedd cenedlaethol a pholisïau cynllunio cryf, bla bla, bla—. Y realiti yw nad oes gennym ni'r pethau hyn ar waith. Cefnogaf welliannau'r Ceidwadwyr, sy'n dweud bod angen addasu system gynllunio'r...
Neil McEvoy: A wnewch chi ildio? Diolch. Beth maen nhw'n ei wneud yw cymryd pwerau o Frwsel a ddylai fynd i'r Alban, i Gymru a rhanbarthau Lloegr ac yn hytrach eu cronni yn Whitehall. Mae hynny'n gwbl annerbyniol, ac rydym ni wedi gwneud hynny'n glir. Jeremy Corbyn: beth sydd gennych chi i'w ddweud ynghylch hynny?
Neil McEvoy: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ailenwi pont Hafren?
Neil McEvoy: Iawn, diolch yn fawr iawn. Ond y pwynt rwy'n ei wneud, y tu allan i oriau gwaith, credaf ein bod i gyd yn gwybod fod pobl yn y Siambr hon yn yfed gormod. [Torri ar draws.] Mae'n ffaith—gyda phob parch, mae'n un o ffeithiau bywyd. Mae'n beth diwylliannol. A oes unrhyw un yma o ddifrif yn dweud, ar adegau, nad ydynt yn yfed gormod o alcohol? Byddwch yn onest. O ddifrif? O'r gorau. Fe...
Neil McEvoy: Fel rydym wedi clywed, ni fydd isafbris yn torri lefel yr alcohol a yfir gan yfwyr sydd â phroblem yfed. O wrando ar yr hyn a ddywedodd Dr Dai yn awr, yn y bôn, bydd pobl yn dewis siorts, a gallai hynny achosi problemau pellach hyd yn oed. Rwy'n mynd i gefnogi'r cynnig, a'r rheswm pam rwy'n ei gefnogi yn fwy nag unrhyw beth arall—mae'n fwy o beth diwylliannol, a welwn yn y Cynulliad...
Neil McEvoy: Mae'n gwestiwn.