Suzy Davies: Ddirprwy Lywydd, rwy'n derbyn wrth gwrs eich bod wedi cael cyngor cyfreithiol i ganiatáu’r gwelliannau Cyfnod 2 sydd bellach yn ysgogi'r gwelliannau hyn yng Nghyfnod 3. Nid wyf yn herio hynny, ond rwy'n credu ei bod yn werth atgyfnerthu'r pwyntiau pam y cytunodd y Comisiwn, sy'n cynrychioli'r pedair plaid fwyaf yn y Siambr hon wrth gwrs, na ddylid cynnwys yr estyniad penodol hwn i'r...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr, Llyr. Diolch am eich sylwadau. Rydym yn ailadrodd yr hyn a wnaethom yn y Pwyllgor Cyllid, a dweud y gwir. Fe ddechreuoch chi drwy sôn am hyn bron fel gwahanu pwerau rhwng y bwrdd cydnabyddiaeth ariannol a chyllideb weithredol y Comisiwn, sy'n gam a gymerodd y Comisiwn i raddau helaeth ar sail awgrymiadau a gafwyd gan y Pwyllgor Cyllid, ac...
Suzy Davies: Diolch, Lywydd, a chynigiaf gyllideb y Comisiwn ar gyfer 2021, felly o fis Ebrill y flwyddyn nesaf ymlaen, a gofynnaf iddi gael ei hymgorffori yng nghynnig y gyllideb flynyddol. Fel y byddwch wedi gweld yn nogfen y gyllideb, mae'r Comisiwn yn ceisio cyllideb o £61.411 miliwn i gyd, ac mae hynny'n cynnwys £36.274 miliwn ar gyfer gwasanaethau'r Comisiwn—sef ein cyllideb...
Suzy Davies: Weinidog, mae oddeutu blwyddyn ers i Hefin David—a dweud y gwir, ers i Andrew R.T. Davies ddwyn mater cyfyngu ar hawliau cominwyr yn eu hardaloedd i'ch sylw. Ond ar y pryd, soniais wrthych am y broblem o'r cyfeiriad arall, ynghylch trigolion Pennard ym Mhenrhyn Gŵyr yn fy rhanbarth, lle mae hawliau comin yn cael eu harfer braidd yn anghyfrifol, os caf ei roi felly, sy'n golygu bod...
Suzy Davies: Yn eich ateb i gwestiwn Helen Mary yn gynharach, Prif Weinidog, fe wnaethoch chi sôn am god ymarfer cyflogaeth foesegol Llywodraeth Cymru. Rwy'n tybio mai hwnnw yw'r un cod yr ydym ni'n sôn amdano yn y fan yma. Felly, roeddwn i'n falch o glywed bod cynifer o sefydliadau cyhoeddus a phreifat wedi ymrwymo iddo. Clywaf eich ymateb i gwestiwn Dawn Bowden, a oedd yn llawn iawn, i fod yn deg, ond...
Suzy Davies: Rhif 9, ie?
Suzy Davies: Ocê. Diolch yn fawr am hynny. Sori.
Suzy Davies: Fe sonioch chi am fargen ddinesig bae Abertawe, Ddirprwy Weinidog, ac wrth gwrs, rydym yn dal i aros i £18 miliwn cyntaf y fargen ddod drwodd. Deallaf mai'r rheswm dros yr oedi yw nad yw Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth arweinydd y fargen ddinesig, Rob Stewart, un o'ch cymheiriaid Llafur, beth yw telerau ac amodau'r £18 miliwn y maent wedi bod yn aros amdano. Mae wedi cwyno ei bod wedi...
Suzy Davies: A gaf i hefyd ddechrau drwy roi fy niolch personol i Meri Huws? Hi wnaeth baratoi'r ffordd, wedi pob peth, a doedd y ffordd honno ddim bob amser yn syth ac yn llyfn: gorymateb y Gweinidog blaenorol i ddechrau'n anghywir ar safonau, erydu ei chyllideb a'i rhyddid i gyflawni ei dyletswyddau hi i hyrwyddo'r Gymraeg—nad oedd yn hawdd ymdrin â hwy. Ac i fi, yn dod at y portffolio hwn heb unrhyw...
Suzy Davies: Tybed a gaf i wahodd yr Aelodau i ymuno â mi i longyfarch Bad Wolf ar y bennod gyntaf o'u cynhyrchiad gwych His Dark Materials, a ddarlledwyd nos Sul. Wedi dweud hynny, fodd bynnag, rwy'n credu bod lle o hyd, gan eu bod bellach yn meddiannu Pinewood Studios, i Lywodraeth Cymru gyflwyno datganiad i egluro beth sydd wedi digwydd mewn gwirionedd gyda Pinewood, pam mae'r trefniant gyda nhw wedi...
Suzy Davies: Wel, nid yw hyn yn ymwneud ag amseroedd aros am ambiwlansys yn unig, ond amseroedd rhyddhau o ambiwlansys hefyd. Yn ddiweddar, pasiodd eich Llywodraeth ei datganiad brys ar yr hinsawdd, ac eto mae gennym ni gleifion ac ymwelwyr yn gyrru rownd a rownd mewn cylchoedd mewn mannau parcio yn ysbytai Treforys, Singleton a Thywysoges Cymru, gan gyfrannu'n ddiangen at lygredd lleol. Mae hefyd yn...
Suzy Davies: Os caf amser, gwnaf, diolch.
Suzy Davies: Iawn, wel, fe ddof ymlaen at hynny mewn ychydig bach, ond fel y cofiwch—credaf i chi glywed gan fy nghyd-Aelod, Angela Burns, heb fod yn bell iawn yn ôl am rai o'r safbwyntiau sydd gennym ar gredyd cynhwysol, ei amseriad a phryderon ynghylch yr oedi am bum wythnos ar ei ddechrau. Ond wrth gwrs, nid yw wedi'i ddatganoli ac ni allwn wneud mwy na hyn a hyn o waith ar hynny'n uniongyrchol ein...
Suzy Davies: Credaf yn wirioneddol ei bod yn ddiddorol clywed gan Leanne am brofiadau unigolion y gwrthodir eu ceisiadau llwyddiannus ar sail mân newidiadau. Dyma'r mathau o bethau sydd o ddifrif yn effeithio ar bolisi yn ehangach, a phan geisiwn wahaniaethu rhwng syniadau da—ar draws y pleidiau gobeithio—a chyflwyno syniadau da yn wael. Cefais fy nghalonogi mewn gwirionedd wrth glywed gan y Prif...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn, Lynne. Pwynt o eglurhad yn unig am yr adolygiad ydoedd yn fwy na dim. Roedd ein hargymhelliad yn ymwneud â chyllid ysgolion—digonolrwydd cyllid ysgolion—nid addysg yn gyffredinol. Ac o gofio'r rhaniad rhwng llywodraeth leol a'r pot addysg yn ganolog, rwy'n credu bod hwnnw'n wahaniaeth pwysig y mae angen ei gofnodi.
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Diolch yn fawr. Wrth gwrs, er bod yna gyllideb addysg o dan oruchwyliaeth y Gweinidog addysg, un o'r pethau a ganfuwyd yn ystod ein gwaith pwyllgor yw mai pen llywodraeth leol i bethau sydd wedi bod yn achosi'r broblem, ac rwy'n tybio efallai fod gennych chi rywbeth i'w ddweud am hynny.
Suzy Davies: Gadewch i mi barhau, oherwydd, wrth gwrs, fel y crybwyllodd Lynne Neagle yn ei sylwadau agoriadol, cyfeiriwyd at San Steffan yn hyn, a chredaf ei bod yn werth inni nodi bod San Steffan bellach wedi ymateb i bryderon a wnaed yn amlwg iddynt yn ystod y pedair neu bum mlynedd diwethaf yn unig. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb i'r bwlch ariannu fesul disgybl a amlygwyd iddynt ers i mi fod yma...
Suzy Davies: Yn gyflym iawn. Efallai y byddaf yn symud ymlaen i ateb eich cwestiwn a dweud y gwir.
Suzy Davies: A gaf fi ddiolch i chi, Lynne? Nid wyf yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi synnu'n arbennig at gynnwys yr adroddiad hwn. Mae'r cyllid fesul disgybl ar gyfer ysgolion wedi bod yn wael yn hanesyddol o'i gymharu â gweddill y DU, ac mae'r canlyniadau i'w gweld bellach. Mae athrawon, arweinwyr ysgolion, undebau fel Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon ac arweinwyr cynghorau wedi bod yn...