Russell George: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Gweinidog yn sôn am weithredu; wel, mae'r gymuned ffermio, Weinidog, am eich gweld chi'n gweithredu. Nawr, yr unig faes y gallaf gytuno yn ei gylch y siaradoch chi amdano y prynhawn yma, Weinidog—a Jenny Rathbone—oedd bod gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn y gwaith o wella ansawdd dŵr. Mae hynny'n gywir—mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae, yn...
Russell George: Dewch nawr—[Anghlywadwy.]
Russell George: A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad? Rwy'n cytuno â'r Dirprwy Weinidog; rwy'n credu bod y pandemig wedi cryfhau'r achos dros yr economi sylfaenol, am y rhesymau a amlinellodd ef. Bymtheg mis yn ôl, Dirprwy Weinidog, gwnaethoch chi ddweud y byddech chi'n adeiladu'r ffordd wrth i chi deithio o ran y dull arbrofol o ymdrin â'r economi sylfaenol. Yn ôl bryd hynny, ym mis...
Russell George: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw a'r copi ymlaen llaw, fel bob amser? Credaf, o'm safbwynt i, Gweinidog, fod yn rhaid croesawu unrhyw gymorth ychwanegol i fusnesau Cymru, felly, yn sicr, o'm safbwynt i, rwyf i a'm cyd-Aelodau'n croesawu'r gefnogaeth ychwanegol i Fanc Datblygu Cymru. Gallaf gytuno â llawer iawn o'r hyn a ddywedoch chi. Yn amlwg, rwy'n mynd i ganolbwyntio...
Russell George: Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Rwy'n sicr yn croesawu'r ffaith bod ysgolion wedi ailagor ddoe ar gyfer plant iau. Un pryder a godwyd gyda mi yw ei bod hi'n ymddangos bod gwisg ysgol yn cael ei hystyried yn eitem nad yw'n hanfodol ac na ellir ei phrynu. Mae siopau esgidiau ar gau, sy'n golygu na ellir mesur plant i gael esgidiau maint bras. Felly, pa gyngor allwch chi ei roi i rieni i'w...
Russell George: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailagor ysgolion? OQ56303
Russell George: Mae fy nghwestiwn wedi cael sylw mewn cwestiwn cynharach. Diolch.
Russell George: Clywais eich ymateb i David Rowlands, Weinidog, ond wrth gwrs, mater i Lywodraeth Cymru yw sut y mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu ei chyllid o'r Llywodraeth ganolog. Nawr, rwy'n pryderu bod seilwaith, yn y gyllideb ar gyfer trafnidiaeth genedlaethol, wedi mynd o £150 miliwn eleni i £129 miliwn yn y flwyddyn ariannol nesaf. Yn sicr, mae angen prosiectau seilwaith hirdymor ac uwchraddio...
Russell George: Rwy'n credu mai'r pryder mawr i'r pwyllgor a minnau yw'r ffaith nad yw'r holl gyllideb sydd ar gael ar gyfer y pandemig o ran rhyddhad busnes wedi ei thynnu i lawr, mae hi'n ymddangos—os wyf i'n anghywir, gall y Gweinidog Cyllid amlinellu hynny. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod a deall, os nad yw Llywodraeth Cymru yn tynnu' i lawr yr holl arian sydd ar gael iddi o ran cymorth...
Russell George: Diolch—diolch i'r Llywodraeth, am gyflwyno'r ddadl hon, yn amlwg, ond rwy'n hapus i siarad fy hun yn rhinwedd fy swydd o fod yn Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Yn gyntaf oll, byddwn i'n dweud—. Rwy'n ymbalfalu i ddod o hyd i'm nodiadau, fel y mae'n digwydd. Ymddiheuriadau am hynny. Dyna ni. Mae'n ddrwg gen i, Llywydd. O ran gwaith y pwyllgor, mae'n amlwg ein bod ni...
Russell George: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau y mae llifogydd yng nghanolbarth Cymru wedi effeithio arnynt?
Russell George: Diolch, Weinidog. Rwy'n falch iawn o glywed am bont afon Dyfi. Gwn fod hwnnw'n gwestiwn sydd wedi’i ofyn ers peth amser, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn cael y manylion a’r ymrwymiad cadarn rydym eu hangen mewn perthynas â hynny. Mae fy nghwestiwn penodol yn ymwneud ag oedi ger pont Cefn yn Nhre-wern, sy’n achosi tagfeydd enfawr ac yn tarfu ar bobl sy'n byw yn yr ardal honno a ledled...
Russell George: Wel, a gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei gynnig, ac rwy'n sicr yn fwy na pharod i'w dderbyn? Rwy'n credu mai'r prif bethau gennyf fi, o ran syniadau, fyddai gwneud y meini prawf yn llai cyfyngol ar gyfer y gronfa cadernid economaidd, er mwyn caniatáu i fwy o fusnesau wneud cais. Rwy'n sylweddoli y gallai busnesau lletygarwch ar y stryd fawr fod wedi cael y rhyddhad ardrethi annomestig, ond...
Russell George: Diolch am eich ateb, Weinidog. Byddwn yn awgrymu nad yw'r ffigurau hynny'n arbennig o dda. Os mai 7,600 o fusnesau yn unig sydd wedi cyflwyno ceisiadau, nid yw'r arian wedi eu cyrraedd hwy eto hyd yn oed; dim ond ceisiadau a ddaeth i law yw'r rheini. Mae hynny'n dweud wrthym fod miloedd ar filoedd o fusnesau ledled Cymru heb gael unrhyw gymorth yn y sector penodol hwn. Ac o’m safbwynt i,...
Russell George: Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Bythefnos yn ôl, Weinidog, fe wnaethoch chi lansio'r gronfa sector-benodol sy'n werth £180 miliwn i gefnogi sectorau lletygarwch, twristiaeth a hamdden. Faint o fusnesau sydd eisoes wedi cael cymorth a faint sydd wedi'i ddyrannu, a faint o arian sydd ar ôl yn y pot hwnnw i'w ddyrannu i'r busnesau hynny?
Russell George: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau gwella ffyrdd yng nghanolbarth Cymru? OQ56172
Russell George: Rwy'n credu y gwnaf i ofyn fy nghwestiwn mewn ffordd ychydig yn wahanol. Roeddwn i'n falch iawn, Prif Weinidog, bod ymrwymiad diweddar Wizz Air i ddechrau gweithredu o'r maes awyr yn arbennig o dda i'r maes awyr—hwb gwirioneddol i'r maes awyr a'r sector hedfan ar adeg anodd iawn, yn amlwg. O'm safbwynt i, rwyf i eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn cefnogi Maes Awyr Caerdydd er mwyn gallu...
Russell George: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Hoffwn ddiolch i grŵp y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio am y ddadl heddiw. Mae'r cynnig yn eang iawn, ond rwy'n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar gymorth i fusnesau a'r economi. I wneud hynny, rwy'n credu y rhoddaf rywfaint o gyd-destun y cymorth y mae Llywodraeth y DU eisoes wedi'i roi i...
Russell George: A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw? Ac yn ogystal â hynny hoffwn i fynegi fy niolch innau i Arglwydd Burns a'r comisiynwyr am eu hargymhellion. Ac fe hoffwn i ddiolch hefyd i Arglwydd Burns a Peter McDonald o ysgrifenyddiaeth y comisiwn am fod yn bresennol yn y pwyllgor Economi, Seilwaith, a Sgiliau yr wythnos diwethaf, a oedd, yn fy marn i, yn arbennig o fuddiol....
Russell George: Prif Weinidog, codwyd nifer o bryderon gyda mi gan y busnesau hynny yn y sector lletygarwch a thwristiaeth. Mae'n ymddangos mai'r broblem yw mai'r meini prawf ar gyfer y gronfa cadernid economaidd yw bod yn rhaid iddyn nhw gyflogi staff ar y system talu wrth ennill. Byddai llawer yn y diwydiant hwnnw, wrth gwrs, yn tynnu sylw at y ffaith mai dyna union natur y diwydiant, lle maen nhw'n...