Ken Skates: Mae Joyce Watson yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig, ac wrth gwrs gall rôl yr economïau sylfaenol fod yn hollbwysig yn y gymuned. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod yna fusnesau bach sy'n gallu nodi sut y bu'r cwmni yn eu cefnogi, p'un a ydynt yn y gadwyn gyflenwi fodurol yn uniongyrchol neu'n siop bapur, cigydd neu bobydd lleol. Bydd hyn yn cael effaith, pe bai'r cyfleuster yn cau a...
Ken Skates: Yn bendant, gallaf gynnig y sicrwydd hwnnw i Helen Mary Jones. Yn ddiweddar iawn, cefais beth llwyddiant yn cadw rhai cyfleoedd gwaith yn ffatri Laura Ashley, eto ym Mhowys, lle credaf ein bod wedi gallu edrych ar nifer o gyfleoedd a gallu cefnogi'r cyfle sydd wedi arwain yn y pen draw at gadw nifer o bobl. A byddwn yn gwneud yn union yr un fath gyda'r safle hwn. Mae'n hanfodol oherwydd, fel...
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau ac am y pwyntiau y mae'n eu gwneud, a hynny'n briodol, am bwysigrwydd y safle hwn i'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu a'r gymuned sy'n dibynnu arno am swyddi sy'n talu'n dda? Mae ein tîm rhanbarthol eisoes yn gweithio i edrych ar sut y gallwn gefnogi'r gymuned. Mae gennym berthynas dda gyda'r cwmni. Rydym wedi cynnig cyfarfod ar y cyd gyda...
Ken Skates: Wel, a gaf fi fynegi fy nghydymdeimlad â phawb sy'n gweithio ar y safle? Mae hyn, yn ddealladwy, yn newyddion dinistriol, ac mae fy swyddogion mewn cysylltiad uniongyrchol â'r cwmni, ac maent yn archwilio'r holl opsiynau posibl a'r cymorth sydd ar gael.
Ken Skates: Mae'r cynllun y mae'r busnes hwnnw wedi'i ddatblygu yn swnio'n wirioneddol arloesol. Gwn fod sinemâu ledled y DU yn ei chael hi'n anodd, ond rwy'n gobeithio y bydd y busnes y mae'r Aelod wedi'i nodi yn llwyddiannus iawn. Holl ddiben trydydd cam y gronfa cadernid economaidd yw darparu cymorth drwy gyfnodau byr o gyfyngiadau—ond hefyd drwy'r grant datblygu busnes i helpu busnesau i addasu...
Ken Skates: Popeth sy'n bosibl. Rydym eisoes wedi dyfarnu £9.5 miliwn drwy ddau gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd, a £5.4 miliwn arall drwy Fanc Datblygu Cymru. Mae hwnnw wedi cael ei ddarparu i fwy na 700 o fusnesau yn Sir Benfro.
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei gwestiwn? Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn—fod bragwyr annibynnol yn bwysig i'n diwylliant a'n hunaniaeth yn ogystal â'r sector bwyd a diod mewn gwirionedd. Rwyf wedi ymweld â llawer o fragwyr annibynnol ledled Cymru, ac mae eu cyfraniad i'r economi yn rhyfeddol. Maent yn greadigol, maent yn dangos llawer o benderfyniad hefyd, pan fyddant yn...
Ken Skates: Rwy'n ymwybodol iawn o'r her y mae'r sector lletygarwch yn ei hwynebu ar hyn o bryd, ond mae'n rhaid i mi ddweud y gallai eithriadau bach ar eu pen eu hunain fod yn un peth, ond pan fyddwch yn creu eithriad o un grŵp o bobl ar gyfer un maes gweithgarwch penodol, caiff y drws ei chwythu ar agor wedyn i eraill fynnu eithriadau hefyd. Gyda'i gilydd, gall hynny effeithio'n fawr ar ein gallu i...
Ken Skates: Gallaf ddweud wrth yr Aelod heddiw fod 672 o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig yn y sector lletygarwch yng ngogledd Cymru yn unig wedi cael cyllid drwy'r gronfa cadernid economaidd, ac mae hynny'n gyfanswm o fwy na £12 miliwn. Bydd trydydd cam y gronfa cadernid economaidd yn cynnwys £20 miliwn a glustnodwyd ar gyfer busnesau ym maes twristiaeth a lletygarwch.
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a'r pwyntiau pwysig a wnaeth am y cyfrifoldeb sydd gan bob un ohonom fel dinasyddion i geisio goresgyn yr her hon? Rwy'n falch o ddweud, Lywydd, yn seiliedig ar arolygon, yn seiliedig ar waith maes, ein bod yn gweld cyfartaledd o 95 y cant o deithwyr yn cydymffurfio â'r galw i wisgo gorchuddion wyneb ar drenau a bysiau. Mae hwnnw'n ffigur eithaf...
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a dweud fy mod yn cydymdeimlo'n fawr â'r pwynt y mae'n ei wneud? Mae heriau platfformau byr yn broblem mewn mannau eraill yng Nghymru hefyd, ac rwy'n gwybod bod Trafnidiaeth Cymru yn adolygu'n rheolaidd nid yn unig y ffigurau sy'n ymwneud â throsglwyddiad COVID, ond hefyd sut y gallent gynhyrchu ateb newydd i'r her a wynebir gan orsafoedd sy'n rhy...
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiwn? Rwy'n credu yr ysgrifennaf at yr Aelod gyda manylion cynhwysfawr am y rhesymeg sy'n sail i'r mesurau a gymerwyd gan Trafnidiaeth Cymru. Ond hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod Trafnidiaeth Cymru ar hyn o bryd yn gweithredu 70 o fysiau, yn ogystal â'r holl drenau, i gefnogi trafnidiaeth gyhoeddus ledled Cymru, a gall myfyrwyr o'r un sefydliadau...
Ken Skates: Gwnaf, yn sicr. Diogelwch cwsmeriaid a staff yw prif flaenoriaeth Trafnidiaeth Cymru o hyd. Rwy'n parhau i drafod cadw pellter cymdeithasol gyda Trafnidiaeth Cymru ac yn wir gyda phartneriaid eraill yn y diwydiant wrth inni gydweithio i sicrhau bod diogelwch teithwyr ar drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau.
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a sicrhau'r Aelod bod y mesurau'n gymesur? Fel rwyf eisoes wedi dweud, maent wedi'u cynllunio i sicrhau bod cyfnod gweithredu'r cyfyngiadau cyn fyrred ag y bo modd, a gweithredu'n gynnar, gan gyfyngu ar faint o amser sydd gennym i roi'r cyfyngiadau hynny ar waith. Ddydd Llun, cyfarfûm ag aelodau o gyngor busnes gogledd Cymru, gan gynnwys...
Ken Skates: Yn sicr. Mae'r economi ymwelwyr yn eithriadol o bwysig i economi Cymru, yn enwedig yng ngogledd Cymru. Rydym wedi rhyfeddu at ysbryd a dyfalbarhad y sector yn ystod yr argyfwng. Rydym wedi cydnabod hyn nid yn unig drwy roi cymorth i'r diwydiant twristiaeth drwy ddau gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd a thrwy'r grantiau ardrethi annomestig, ond hefyd drwy glustnodi £20 miliwn, yn...
Ken Skates: Wel, os gallant fodloni meini prawf y grantiau datblygu busnes neu'r grantiau cyfyngiadau lleol, gallaf sicrhau'r Aelod y byddant yn gallu cael y cyllid. Ond mae hefyd yn werth tynnu sylw at y ffaith bod gan Lywodraeth y DU rôl bwysig i'w chwarae yn y maes hwn, oherwydd Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am y cynllun cymorth incwm i'r hunangyflogedig. A bydd yr Aelod yn ymwybodol fod y...
Ken Skates: Mae Helen Mary Jones yn llygad ei lle: mae rôl allweddol i awdurdodau lleol ei chwarae. Siaradais â llefarydd CLlLC ddoe ynghylch datblygu economaidd ac mae trafodaethau wedi mynd rhagddynt yn dda iawn ar lefel swyddogol hefyd, oherwydd bydd llywodraeth leol yn hollbwysig wrth weinyddu'r cronfeydd cyfyngiadau lleol i fusnesau. Gallaf sicrhau'r Aelod heddiw, yn wahanol i Loegr, nad oes rhaid...
Ken Skates: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn a dweud bod trydydd cam y gronfa cadernid economaidd yn cynnwys £60 miliwn i gefnogi busnesau mewn ardaloedd dan gyfyngiadau lleol? Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i gymryd camau mwy beiddgar i sicrhau ein hadferiad economaidd a chefnogi ffyniant busnesau a phobl ledled y DU yn y dyfodol, gan gynnwys yng Nghymru.
Ken Skates: Wel, rwy'n siŵr y byddai gennyf fi, a fy nghyd-Aelodau ddiddordeb brwd iawn yn y cynnig, yn enwedig Kirsty Williams, y gweinidog addysg. Byddwn yn edrych arno'n ofalus iawn, a gallaf sicrhau'r Aelod fy mod yn cael trafodaethau rheolaidd gyda TVR a Britishvolt. Mae'r rhain yn gyfleoedd sylweddol i economi Cymru, ac mae TVR yn arbennig yn cynnig cyfle enfawr i Flaenau'r Cymoedd hefyd, nid yn...
Ken Skates: Wel, hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn ac unwaith eto, carwn bwysleisio pwysigrwydd ein cynllun gweithgynhyrchu a gyhoeddwyd yn ddiweddar; mae'n cwmpasu'r meysydd twf ym maes peirianneg y gofynnodd yr Aelod amdanynt. Mae ganddo tan ganol y mis i fynegi ei farn ar y cynllun gweithgynhyrchu, ond ceir cyfleoedd i dyfu, nid oes amheuaeth am hynny. Heddiw, rwyf wedi dysgu am y cyfleoedd...