Julie James: Ie, rwy'n ysgrifennu at awdurdodau cynllunio drwy'r amser yn atgyfnerthu gwahanol rannau o 'Polisi Cynllunio Cymru'. Mae gennym fforwm swyddogion cynllunio hefyd ac rwy'n cyfarfod yn fuan iawn—mae arnaf ofn na allaf gofio pryd yn union—gyda'r aelodau cabinet newydd sy'n gyfrifol am gynllunio ar draws llywodraeth leol, gan fod pob awdurdod bellach wedi ffurfio eu cabinetau newydd. Byddaf...
Julie James: Diolch yn fawr, Darren. Mae egwyddorion creu lleoedd yn sail i bolisi cynllunio cenedlaethol. Maent angen seilwaith digonol i gefnogi datblygu tai a hyrwyddo lleoedd o ansawdd. Rhaid i awdurdodau cynllunio lleol fabwysiadu dull strategol o ddarparu seilwaith wrth gynllunio ar gyfer tai newydd, ac mae'r Llywodraeth yn cynnig cymorth parhaus i gyflawni hyn.
Julie James: Ie. Yr ateb byr iawn i hynny yw 'gwnawn'. Mae'n bendant yn rhan o'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a'r rhaglen tai arloesol. Mae'r rhaglenni hynny'n cymryd cyfres gyfan o gynhyrchion ac rydym yn adeiladu tai—tai newydd ar gyfer y rhaglen tai arloesol a thai wedi'u hôl-osod ar gyfer y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio—ac yna rydym yn profi sut y mae'r cynnyrch wedi perfformio yn...
Julie James: Felly, yn amlwg, ceir cyfres gymhleth o gyfrifiadau'n ymwneud â dal a storio carbon ac atafaelu carbon ar gyfer amrywiaeth o wahanol gynhyrchion. Ni allaf gymryd arnaf fy mod yn arbenigwr ar hynny, ond mae gennym nifer o bobl yn ein cynghori, gan gynnwys ar y paneli archwilio dwfn ac yn y blaen, sy'n arbenigwyr ar hynny. Un o’r pethau yr ydym eisiau ei wneud yw dod i gytundeb gyda...
Julie James: Rwy'n cefnogi hynny'n fawr, Jenny. Mae gennym system gynllunio genedlaethol yng Nghymru—system wedi’i chynllunio sy’n caniatáu inni gael fframwaith cadarn er mwyn sicrhau bod tir amaethyddol yn cael ei ddiogelu at ddefnydd cynhyrchiol drwy ‘Polisi Cynllunio Cymru’ a ‘Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040’. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' yn ceisio sicrhau y gwneir y...
Julie James: Diolch, Jenny. Er mwyn cyflawni ein huchelgeisiau sero net bydd angen newid defnydd tir. Defnyddir y rhan fwyaf o dir Cymru ar gyfer amaethyddiaeth. Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn cymell ffermwyr i wneud y defnydd gorau o’u tir i gyflawni canlyniadau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol drwy ddull rhannu tir.
Julie James: Rydym eisoes yn gwneud hynny. Mae'n rhan o'r cwricwlwm, ar wahân i unrhyw beth arall. Wrth gwrs, rydym yn annog ysgolion i annog defnydd cymunedol. Nid yn unig fy mod wedi cael sgyrsiau, ond rwyf wedi ymweld ag ysgolion sy'n gwneud hynny, gyda fy nghyd-Aelod, Jeremy Miles. Rydym yn awyddus iawn i ysgolion ymuno â'r prosiect hwnnw, felly os gwyddoch am unrhyw un nad ydynt yn gwneud hyn eto...
Julie James: Rwy'n cytuno'n llwyr, Jayne; yn sicr, mae'r pandemig wedi tynnu sylw at yr angen i bobl gael man yn yr awyr agored y gellir ei ddefnyddio ac i ddod i gysylltiad â natur, sydd nid yn unig o fudd i'w hiechyd corfforol, ond hefyd yn dda iawn i iechyd meddwl wrth gwrs. Mae gan Lywodraeth Cymru ganllawiau sy'n rhoi'r wybodaeth a'r arfau i grwpiau cymunedol sicrhau perchnogaeth ar fannau...
Julie James: Mae ein grant cymorth rhandiroedd bellach yn ei ail flwyddyn, a bydd yn dyrannu £750,000 ar draws holl awdurdodau lleol Cymru i helpu i wella a chynyddu darpariaeth rhandiroedd. Yn ogystal â’r gronfa benodedig hon, mae amrywiaeth o raglenni eraill, megis Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, hefyd yn helpu i gefnogi datblygiad rhandiroedd.
Julie James: Diolch. Rwy’n deall eich bod wedi codi pryderon gyda Trafnidiaeth Cymru ynghylch perfformiad gwael y trenau yn eich etholaeth, a chredaf eich bod wedi cael ymateb ganddynt. Bu achlysuron pan fu’n rhaid i Trafnidiaeth Cymru ganslo gwasanaethau ar y funud olaf, ac achosion lle roedd angen inni weithredu gwasanaethau amgen er mwyn sicrhau bod opsiynau teithio amgen ar gael. Mae oddeutu 68 y...
Julie James: Bydd rhaglen metro gogledd Cymru yn trawsnewid gwasanaethau trên, bws a theithio llesol ar draws y gogledd. Mae’r metros yn cynnig rhai o’r cyfleoedd gorau i gyflawni ein targed o sicrhau bod 45 y cant o deithiau'n cael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus neu drwy deithio llesol erbyn 2040, gan helpu i leihau tagfeydd ar y ffyrdd, allyriadau carbon a llygredd aer.
Julie James: Gwnaf, yn sicr, Delyth. Mae caffael ym mhortffolio Rebecca Evans mewn gwirionedd, ond yn amlwg, rwy’n gweithio’n agos iawn gyda Rebecca. Yn ddiweddar, mae hi wedi cyhoeddi nifer o faterion ymchwil i'r maes caffael, ac un ohonynt yw sicrhau nad yw Cymru’n defnyddio mwy na’n cyfran deg o adnoddau’r byd. Rhan o hynny yw sicrhau, wrth brynu cynhyrchion neu gael cadwyni cyflenwi yma...
Julie James: Diolch, Delyth. Rwy'n cytuno'n llwyr; mae strategaeth ddigidol yn gwbl hanfodol er mwyn gwneud hynny. Rydych yn llygad eich lle; rydym wedi ymrwymo i gael o leiaf 30 y cant o bobl yn gweithio gartref neu’n agos i’w cartref—felly, llawer llai o amser cymudo, a ffyrdd o gymudo sy'n llygru llawer llai, gobeithio. Er mwyn gwneud hynny, wrth gwrs, mae’n rhaid inni ddarparu cyfleusterau...
Julie James: Felly, Janet, eto, unwaith eto, sawl gwaith y mae'n rhaid imi ddweud yr un peth? Rydym wedi ymrwymo’n llwyr i roi corff diogelu’r amgylchedd ar waith. Mae'r cynllun interim diogelu'r amgylchedd yn gweithio; mewn gwirionedd, mae'n tynnu sylw at faint o bobl sydd am i'w problemau gael sylw, ac mewn amserlen lawer byrrach nag a oedd yn bosibl erioed o'r blaen. Fel y gwyddoch, rydym yn...
Julie James: Felly, unwaith eto, geiriau teg a dim gweithredu o gwbl gennych chi. Felly, rydym wedi gwneud nifer o bethau eisoes ar Fil aer glân (Cymru), y byddwn yn ei gyflwyno yn ystod tymor y Senedd hon. Mae'n un o nifer o gamau gweithredu a nodir yn y cynllun aer glân i Gymru, 'Awyr Iach, Cymru Iach', yr ydym yn eu cymryd i wella ansawdd aer. Mae’r camau a gymerwyd yn cynnwys, wrth gwrs,...
Julie James: Wel, credaf fod hynny'n bum cwestiwn, a dweud y gwir. [Chwerthin.]
Julie James: Wel, pa un fyddech chi'n hoffi i mi ei ateb, Janet?
Julie James: Iawn, mae hynny'n syml iawn. Rwy’n falch o ddweud ein bod wedi cyhoeddi, ar 7 Mehefin, y cynllun ymgysylltu a fydd yn ein helpu gyda’r wybodaeth sydd ei hangen arnom er mwyn cyflwyno’r Ddeddf aer glân.
Julie James: Mae fferm Gilestone, fel y gwn fod yr Aelod yn gwybod yn iawn, wedi’i phrynu fel rhan o ymgais y portffolio datblygu economaidd i sicrhau dyfodol gŵyl y Dyn Gwyrdd, un o’r unig wyliau annibynnol sydd ar ôl yn Ewrop. Ac nid yw'n ddim i'w wneud â CNC na chreu coed. Wrth gwrs, ni allaf addo na fydd yr un goeden yn cael ei phlannu ar dir fferm Gilestone—byddai hynny’n hurt. O ran...
Julie James: Felly, mae honno’n set eithaf cymhleth o faterion, Rhun, er fy mod yn deall y teimladau sy'n sail i'ch cwestiwn, ac yn cytuno â hwy. Felly, ar y feirniadaeth o'r tir a brynwyd gan CNC, rydym yn prynu darnau bach o dir ledled Cymru, ac rydym wedi gwneud hynny ers blynyddoedd lawer, fel tir plannu amgen, yn enwedig lle mae ffermydd gwynt wedi’u lleoli ar ystad goed Cymru, ac felly, fel...