Lee Waters: Fel y gwneuthum gadarnhau i Joyce Watson yn y pwyllgor newid hinsawdd y bore yma, ni fydd prosiect yr A40 Llanddewi Felffre i Redstone Cross yn cael ei adolygu gan y panel adolygu ffyrdd, a bydd yn mynd rhagddo yn ôl y rhaglen.
Lee Waters: Wel, yn amlwg, mae gan Lywodraeth y DU rôl i'w chwarae ym maes trafnidiaeth gyhoeddus yng ngogledd Cymru, ac nid yw'r rheilffyrdd wedi'u datganoli. Ac fel y soniwyd eisoes, nid yw rheilffordd gogledd Cymru wedi cael ei thrydaneiddio eto. Rydym wedi pwyso am gyllid cysylltedd yr undeb er mwyn i'r uned gyflawni fwrw ymlaen â thrydaneiddio rheilffordd gogledd Cymru, a byddwn yn gwerthfawrogi...
Lee Waters: Wel, credaf y dylem fod yn fwy diagnostig, mewn gwirionedd, wrth ystyried trafnidiaeth gyhoeddus mewn ardaloedd gwledig. Gwn fod yna ffocws ar drenau rheilffordd trwm, ond o ran carbon, mae gennym dargedau anodd iawn i'w cyrraedd. Mae'n rhaid inni gynyddu'r toriadau i allyriadau yn y 10 mlynedd nesaf i raddau mwy nag y llwyddasom i'w wneud dros y 30 mlynedd diwethaf, a swm cyfyngedig o arian...
Lee Waters: Wel, mae'n rhaid i mi ddweud nad oes unrhyw beth i atal yr awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru rhag datblygu rhwydwaith teithio llesol uchelgeisiol yn awr, nac yn wir rhag creu lonydd bysiau. Mae'r pŵer hwnnw wedi bod yno drwy'r amser, ac mae arian ar gael i'w wneud. Felly, dyna pam fy mod eisiau sefydlu'r uned gyflawni, fel ein bod yn gweithredu'n llawer gwell gyda'n gilydd ac yn gwthio i'r...
Lee Waters: Wel, nid yw Darren Millar byth yn colli cyfle i greu rhwyg a cheisio creu ymdeimlad o anghyfiawnder—
Lee Waters: Dyma'r tro cyntaf i mi ei glywed yn cyflwyno achos dros fuddsoddi mewn rheilffyrdd yng ngogledd Cymru. Fel y dywedais, mae ganddo obsesiwn gyda rhoi arian i gynlluniau adeiladu ffyrdd, er ei fod yn mynd ymlaen wedyn i bledio dros drafferthion y wiwer goch—a gyda llaw, os nad awn i'r afael â newid hinsawdd, bydd bioamrywiaeth dan fygythiad. Felly, mae datgysylltiad yn ei ddadl a'i ffordd o...
Lee Waters: Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch rhoi gwybodaeth i bobl. Mae'r ymchwil yn dangos bod dau beth yn rhwystro pobl rhag manteisio ar drafnidiaeth gyhoeddus: y cyntaf yw diffyg gwasanaethau, ond yr ail yw diffyg gwybodaeth am y gwasanaethau sy'n bodoli. Felly, mae rhoi gwybodaeth wedi'i thargedu i bobl yn hanfodol, a dyna un o'r pethau rydym yn edrych arnynt fel rhan o...
Lee Waters: Wel, rydym o ddifrif eisiau gweithio gyda hwy, ac rydym yn gwneud ein gorau glas i gael deialog adeiladol gyda hwy, ond mae'n un ochrog ar hyn o bryd, mae'n rhaid dweud. Cefais gyfarfod da gyda chadeirydd Network Rail yn ddiweddar, fel y dywedais, ac rwyf wedi cyfarfod â rhai o'r Gweinidogion trafnidiaeth iau, ond nid gyda Grant Shapps ei hun. Eu barn hwy yw y dylem fod yn gwneud ceisiadau...
Lee Waters: Wel, Ddirprwy Lywydd, nid oes unrhyw Fil yn y rhaglen ddeddfwriaethol nad yw gwahanol ymgyrchwyr eisiau iddo gael ei wneud ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon, ac yn amlwg ni allwn eu gwneud i gyd ym mlwyddyn gyntaf tymor y Senedd hon. Felly, mae'r Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol ar hyn o bryd yn edrych ar y ffordd orau o reoli'r dagfa honno. Byddwn yn dweud bod yr oedi'n caniatáu...
Lee Waters: Yn naturiol, byddwn yn falch iawn o gyfarfod â'r Aelod, a'i gydweithwyr yn yr awdurdodau lleol, i drafod y pum opsiwn rydym yn edrych arnynt ar hyn o bryd i gynyddu amlder gwasanaethau ar reilffordd Maesteg fel rhan o broses cam 2 yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru a gwblheir yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae'r holl opsiynau sy'n cael eu hasesu yn cynnwys canolfannau trafnidiaeth...
Lee Waters: Wel, fel cyn-arweinydd awdurdod lleol yng ngogledd Cymru, gwn y bydd Sam Rowlands yn llawn werthfawrogi pwysigrwydd arweinyddiaeth leol, a'r rôl sydd gan awdurdodau lleol yn llunio'r cynigion hyn. A dyna pam fy mod yn credu ei bod yn bwysig creu'r mecanwaith cyflawni cyfunol hwn, ar gyfer dulliau gweithredol a strategol, fel y gallwn gynyddu'r uchelgais gyda'n gilydd. Cyfarfûm ag aelodau...
Lee Waters: [Anghlywadwy.]—dal popeth sy'n digwydd, mae hynny'n sicr. Mae gennym gynigion i'r Adran Drafnidiaeth am waith i gyflawni argymhellion adroddiad Burns. Rydym wedi clywed pethau calonogol wrth gyfarfod â Gweinidogion, ond nid ydym wedi cael unrhyw gadarnhad eto y byddwn yn cael y cyllid. Heb y cyllid, ni fydd modd cyflawni argymhellion adroddiad Burns a mynd i'r afael â'r tagfeydd. Felly,...
Lee Waters: Yn sicr. Credaf fod y ddwy elfen yn agweddau ar yr un ddadl. Mae capasiti a gallu o fewn awdurdodau lleol yn gyfyngiad gwirioneddol ar gyflawniad. Dyna pam ei bod yn hanfodol fod awdurdodau lleol yn gweithio drwy'r cyd-bwyllgorau corfforedig i gronni eu hadnoddau. Yna, byddwn yn gweithio ochr yn ochr â hwy, drwy Trafnidiaeth Cymru. Mae James Price wedi dweud, fel prif weithredwr, ei fod am i...
Lee Waters: Diolch. Fe ofynnoch chi nifer o gwestiynau. Mae'r galw gan deithwyr yn dechrau dod yn ôl yn y gwasanaeth rheilffyrdd. Mae bellach yn 66 y cant o'r lefelau cyn y pandemig, sy'n is o lawer, yn amlwg, ond mae'n codi drwy'r amser ac rydym yn cynnal gwaith glanhau dwys mewn gorsafoedd ac ar drenau. Rydym wedi gweld y duedd hon ledled y byd, gyda llai o hyder mewn trafnidiaeth dorfol yn sgil y...
Lee Waters: Ar y gwahanol lefelau o fuddsoddiad mewn gwahanol rannau o Gymru, fel y dywedais yn glir, rydym ar wahanol gamau datblygu. Mae metro de Cymru wedi bod ar y gweill ers amser hir iawn. Mae angen inni sicrhau bellach ei fod yn cael ei efelychu ledled gweddill Cymru. Rwy'n gobeithio y byddai wedi croesawu'r cyhoeddiad a wnaethom heddiw ynglŷn â bwrdd cyflawni ar gyfer gogledd Cymru, gyda...
Lee Waters: Rydych wedi gofyn nifer o gwestiynau, ac rwy'n ymwybodol o gais y Dirprwy Lywydd i gadw'r atebion yn gryno, felly rwyf am wneud fy ngorau. Rwy'n dechrau blino ar rannu llwyfannau gyda llefarwyr Ceidwadol sy'n galw arnom i roi camau beiddgar ar waith ar y newid yn yr hinsawdd a'r diwrnod wedyn yn codi yn y Senedd i fynnu ein bod yn gwario biliynau o bunnoedd ar raglenni ffyrdd. Nid yw'r ddau...
Lee Waters: Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'r argyfwng hinsawdd yn golygu bod yn rhaid inni newid y ffordd y teithiwn. Mae 17 y cant o allyriadau carbon Cymru yn cael eu cynhyrchu gan drafnidiaeth, ac fel y mae Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn ei nodi'n glir, ni fydd newid i geir trydan yn unig yn cyflawni targed sero-net 2050. Mae angen inni leihau nifer y teithiau a chael pobl i newid i fathau mwy...
Lee Waters: Gwnaf, ond rwyf am ddweud wrtho na fyddwn yn camgymryd lanlwytho gwybodaeth i wefan am ddiffyg gweithgarwch ar ynni cymunedol.
Lee Waters: Wel, yn amlwg, ni ellir dadlau â hynny. Ac un o'r pethau y byddaf yn canolbwyntio arnynt wrth ddechrau'r gwaith i fynd at wraidd y mater yfory fydd sut i symbylu a chynnull cynghrair dros newid ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat i wneud cynnydd go iawn. Oherwydd, fel y mae pob un ohonom yn cytuno yma y prynhawn yma, mae'r wobr yn wych a chost diffyg gweithredu yn rhy anodd ei...
Lee Waters: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod llawer iawn o gonsensws wedi bod yn y Senedd y prynhawn yma ar bwysigrwydd ynni adnewyddadwy a pha mor hanfodol yw sicrhau bod hyn wedi'i wreiddio yn ein cymunedau, o ran cael ei dderbyn, ond hefyd o ran gwireddu'r budd y tu hwnt i'r budd ehangach neu ein helpu i gyrraedd sero-net. Rydym yn cytuno â safbwynt yr Aelod y dylem sicrhau bod ein...