Vikki Howells: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer y meddygon teulu yng Nghymru?
Vikki Howells: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae rhieni wedi cysylltu â mi, ac maent yn parhau i gysylltu â mi mewn niferoedd cynyddol, yn pryderu nad oes unrhyw ddosbarthiadau anghenion dysgu ychwanegol arwahanol mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn fy etholaeth, ac maent yn teimlo bod eu plant o dan anfantais ac yn methu cael mynediad at addysg yn eu hiaith ddewisol. Pa drafodaethau rydych wedi'u cael...
Vikki Howells: 2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg drwy'r system addysg? OAQ54854
Vikki Howells: Credaf fod llawer i'w groesawu yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ac rwy'n cymeradwyo'r Gweinidogion am eu hymrwymiad i fuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw, ac yn wir yn nyfodol ein cenedl, ac mae hynny, wrth gwrs, er gwaethaf, fel y mae Aelodau eraill wedi cyfeirio ato, y ffaith bod cyllideb Cymru yn dal i deimlo canlyniadau, yn fawr iawn, effaith...
Vikki Howells: Prif Weinidog, cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach i drafod eu hadroddiad 'Are We There Yet?', sy'n ystyried y ffordd orau o ddefnyddio gwariant ar seilwaith yng Nghymru i gefnogi twf busnesau bach a chanolig eu maint. Sut mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu hyn o fewn ei gwariant cyfalaf?
Vikki Howells: Rwy’n croesawu’r cyfeiriad polisi a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn perthynas â phroffesiynoli’r gweithlu gofal cymdeithasol a chydnabod y gwaith hanfodol y gallant ei wneud, ond rhaid wrth adnoddau priodol i gefnogi hyn, er mwyn rhoi cyflogau i weithwyr gofal sy’n adlewyrchu pwysigrwydd eu galwedigaeth. Fel arall, gallai staff symud yn weddol ddi-dor i’r maes nyrsio yn...
Vikki Howells: Mae ymatebion eraill gan gyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnwys defnyddio technoleg. Bydd llinell fywyd technoleg gynorthwyol Rhondda Cynon Taf yn cael ei gwella i ddarparu gwasanaeth ymateb cyflym, symudol 24 awr a 365 diwrnod y flwyddyn i bobl sy'n defnyddio mwclis llinell fywyd Rhondda Cynon Taf. Ac wrth gwrs, mae'r cyngor hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cyfleusterau gofal ychwanegol ar...
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar gyfer fy nadl fer, rwyf am edrych ar rai o'r heriau sy'n gysylltiedig â darparu gofal cymdeithasol yn yr unfed ganrif ar hugain. Gan fod hwn yn bwnc mor eang, ni allaf ymdrin â phob agwedd ar y ddadl. Er enghraifft, byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau'n bennaf ar ddarparu gofal cymdeithasol i oedolion. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio taflu digon o oleuni ar rai...
Vikki Howells: Fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein hymchwiliad yn ogystal â'r Cadeirydd a'r tîm clercio am eu gwaith rhagorol ar y pwnc hynod bwysig hwn. Mae'r rhestr o randdeiliaid a gyfrannodd yn faith ac yn amrywiol dros ben ac nid yw hynny'n syndod i mi mewn gwirionedd, oherwydd fe wyddom oll pa mor bwysig yw mynediad at fancio, a pha...
Vikki Howells: Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, mae llu o bethau y gallwch edrych arnynt wrth ystyried tlodi tanwydd, ac rwy'n derbyn nad yw llawer o'r ysgogiadau wedi'u datganoli. Yn ddiweddar, cyfarfûm â Smart Energy, a ddywedodd wrthyf am y gwaith y mae'n ei wneud i annog pobl i osod mesuryddion deallus. Mae 40 y cant o aelwydydd yng Nghwm Cynon eisoes wedi newid i fesuryddion deallus, roeddwn...
Vikki Howells: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau ar gyfer strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer tlodi tanwydd? OAQ54829
Vikki Howells: Hoffwn ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad yma heddiw. Fel y gwyddoch chi, nodwyd yn gynharach eleni mai Penrhiwceibr yn fy etholaeth i sydd â'r gyfradd uchaf o dlodi plant yng Nghymru, ac rwy'n credu bod hynny'n dditiad cywilyddus o ddegawd o gyni gan y Torïaid. Yn y bumed wlad gyfoethocaf yn y byd, does dim angen dioddefaint o'r fath, ond mae'n ddioddefaint a achoswyd gan...
Vikki Howells: Er nad wyf yn aelod o'r pwyllgor hwn, hoffwn eu canmol am yr hyn y credaf ei fod yn waith pwysig iawn. Bydd pawb ohonom wedi gweld canfyddiadau syfrdanol Shelter y bydd y nifer uchaf o blant ers 12 mlynedd mewn tai dros dro y Nadolig hwn ledled Prydain. Nawr, mae cyfraddau Cymru yn is nag mewn mannau eraill o'r DU ond maent yn dal i fod wedi codi dros chwarter dros y pedair blynedd diwethaf....
Vikki Howells: Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Mae cynllun olynol i gyllid strwythurol Ewropeaidd yn gwbl hanfodol i economi Cymru, ac ategwyd hyn unwaith eto bythefnos yn ôl mewn datganiad ar y cyd gan Prifysgolion Cymru, ColegauCymru, Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru, y Sefydliad Dysgu a Gwaith, y Ffederasiwn Busnesau Bach, Siambr Fasnach De Cymru, yr Undeb Prifysgolion a Cholegau a Chyngor Gweithredu...
Vikki Howells: Diolch am eich ateb cyffredinol, Weinidog. Nawr, nid hwn oedd y cwestiwn atodol roeddwn wedi bwriadu ei ofyn, ond mae tarfu diweddar ar wasanaethau rheilffyrdd yn fy nghymuned wedi newid fy ffocws heddiw. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwyf wedi cael perthynas dda gyda Trafnidiaeth Cymru ers iddynt ddod yn gyfrifol am y gwasanaethau, ond roedd y digwyddiadau yr wythnos diwethaf yn anhrefn...
Vikki Howells: 5. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella trafnidiaeth gyhoeddus o fewn cymoedd y gogledd? OAQ54802
Vikki Howells: 9. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ynghylch sut y bydd cronfa ffyniant gyffredin yn gweithio yn y dyfodol? OAQ54783
Vikki Howells: Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb hwnnw. Rwyf i wedi cyrraedd y cyfarfod llawn heddiw yn syth o gyfarfod â Persimmon, lle mae'n ymddangos ein bod ni'n agos iawn, iawn at gael tair ystad wedi eu mabwysiadu, rai ohonyn nhw wedi'u hadeiladu bron 18 mlynedd yn ôl. Ond rwy'n ymwybodol iawn, ar gyfer pob teulu yr wyf i wedi llwyddo i'w helpu, fod llawer iawn o berchenogion cartrefi eraill yng...
Vikki Howells: 9. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ganfyddiadau'r tasglu ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu? OAQ54799
Vikki Howells: Dirprwy Weinidog, fel y gwyddoch chi, rwyf i wedi bod yn bleidiol bob amser i'r economi sylfaenol, a pheth ardderchog iawn yw eich gweld chi nawr, yn aelod o Lywodraeth Cymru, yn gweithio i sefydlu rhai o'r syniadau y buom ni'n gweithio mor agos ar y meinciau cefn arnyn nhw. Felly, rwy'n dal yma y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, y mae'r Prif Weinidog, yn y rhagair, yn ei ddisgrifio...