Rhun ap Iorwerth: Diolch am dderbyn ymyriad. Yn bendant—rwy’n meddwl ein bod ni i gyd yn y Siambr hon eisiau dathlu’r hyn sydd gennym i’w gynnig mewn perthynas â thwristiaeth. Mae’r gwahaniaeth yma rhwng dathlu, gwneud y gorau o, a chamfanteisio, ac mewn gwirionedd rwy’n croesawu’r gwahaniaethau a wnaed yn glir heddiw. Mae’n ymddangos bod y Ceidwadwyr ym mhob dim a ddywedoch chi yn awyddus...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn. Mae'r Gweinidog yn ymwybodol fy mod i wedi gofyn am gyfarfod efo hi ers tro i drafod yr angen am fuddsoddi yn y sector bwyd môr yn Ynys Môn. Dwi'n falch, ers i fi gyflwyno'r cwestiwn yma, fod amser wedi cael ei gytuno arno fo inni gyfarfod, a dwi'n edrych ymlaen at gyfarfod y Gweinidog a'i swyddogion. Mae yna gyfleon lu, dwi yn gwbl glir ar hynny, i dyfu'r sector. Mae...
Rhun ap Iorwerth: Mae'n dda gweld rhywfaint o lacio ar gyllidebau eleni, ond, wrth gwrs, mi fydd cynghorau dan arweiniad pob plaid wedi wynebu heriau mawr efo cyllidebau mewn blynyddoedd diweddar. Ond er gwaethaf hynny, mae'r sefyllfa ym Môn wedi cael ei thrawsnewid. Yn 2017-18 mi wnaeth Swyddfa Archwilio Cymru feirniadu cyngor Môn yn eithaf llym ar y pryd am ba mor fregus oedd ei sefyllfa ariannol. Ond...
Rhun ap Iorwerth: Mae'r Llywodraeth wedi gwneud llanast o'r ymgais i gyflwyno taliadau bonws dro ar ôl tro, mae'n rhaid dweud, dros y blynyddoedd diwethaf. Mi ddywedais i, funud yn ôl, wrth gwrs fod unrhyw daliad ychwanegol i gael ei groesawu gan y rhai sy'n ei dderbyn o, ond problem fawr arall ydy bod llawer ddim yn ei gael o: gweithwyr ceginau a glanhawyr mewn cartrefi gofal, fel mae etholwyr i fi ac undeb...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ym mis Chwefror, mi gyhoeddodd eich Llywodraeth y bydd 53,000 o weithwyr gofal yng Nghymru yn cael taliad bonws o ryw £1,000 o bunnau. Mae unrhyw arian ychwanegol i weithwyr yn y sector i'w groesawu, wrth gwrs, ond nid taliadau bonws one-off ydy'r ateb. Dydy o ddim yn mynd i'r afael â'r broblem go iawn. Beth sydd angen ydy i weithwyr yn y sector gofal gael eu...
Rhun ap Iorwerth: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyllideb Cyngor Sir Ynys Môn? OQ57935
Rhun ap Iorwerth: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y diwydiant bwyd môr yn Ynys Môn? OQ57936
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn am y cyfle i ymateb. Eisiau gwneud hi'n glir ydw i, fel efo'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol blaenorol, nad gwrthwynebu egwyddor yr hyn sydd dan sylw o'n blaenau ni yn fan hyn heddiw ydyn ni yng ngrŵp Plaid Cymru wrth wrthwynebu'r cynigion cydsyniad yma, ond gwneud pwynt unwaith eto na allwn ni anwybyddu'r ffaith bod y cynigion yma yn cael eu gwneud yng nghyd-destun...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog. Dim ond ychydig iawn o sylwadau gen i. Yn gyntaf, dwi'n croesawu'r ffaith bod y cyngor sy'n cael ei roi i'r Llywodraeth yn dal i gynnig ein bod ni'n gallu symud yn raddol tuag at godi'r mesurau diogelwch sydd wedi bod mewn lle. Mae eisiau ystyried bod yna bobl sy'n nerfus o hyd, serch hynny. Felly, un cwestiwn: wrth i'r gofynion am asesiadau risg mewn...
Rhun ap Iorwerth: Rwyf wedi cael rhai sylwadau heddiw gan Cymru Versus Arthritis, yn poeni am y targedau sy'n ymwneud â thorri amseroedd aros ar gyfer y rhan fwyaf o arbenigeddau, yn hytrach na phob un. O ystyried pa mor hir yw amseroedd aros orthopedig, dyma dipyn o esgus i beidio â gwneud rhywbeth gan Lywodraeth Cymru: 'Byddwn yn rhoi trefn ar amseroedd aros ac eithrio'r bobl hynny sy'n aros hwyaf'. Byddwn...
Rhun ap Iorwerth: Technoleg, yn fyr iawn—roeddwn i am bwyso arnoch chi i sôn dipyn am dechnoleg a defnyddio technoleg. Dwi'n falch o'r ymrwymiadau i ddatblygu'r portal i gleifion gael gwybod lle maen nhw arni o fewn y system. Mae ambell i gwestiwn yn codi yn sgil hynny. Pa bryd fydd y portal yma yn barod? A fyddwch chi'n defnyddio staff rheng flaen i helpu datblygu'r cynllun hwnnw? A hefyd, fydd e'n...
Rhun ap Iorwerth: mae'r pandemig wedi gwaethygu'r broblem yr oeddem eisoes yn ei hwynebu.
Rhun ap Iorwerth: Dyna ydy gwirionedd y sefyllfa, ac mae hynny'n dweud cymaint, onid ydy hi, am fethiant Gweinidogion, un ar ôl y llall, i roi y gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru ar y seiliau cynaliadwy dŷn ni eu hangen. Beth mae'r pandemig wedi'i wneud ydy dangos pa mor anghynaladwy oedd pethau cynt. Os mai bwriad y Gweinidog ydy mynd â ni nôl i sut oedd pethau cyn i'r pandemig daro, wel, dyn â'n...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Y peth cyntaf y dywedaf i yw dwi ddim yn meddwl bod posib imi ofyn pob cwestiwn dwi eisiau ei ofyn heddiw yma, ac a bod yn deg, does dim modd i'r Gweinidog roi bob ateb heddiw yma. Ond heddiw ydy dechrau proses ar ddal y Llywodraeth i gyfri ar y dasg fwyaf pwysig, am wn i, sydd gan y Llywodraeth o'i blaen ar hyn o...
Rhun ap Iorwerth: Gwleidyddiaeth hen ffasiwn o wario er mwyn ennill pleidleisiau yw hyn, onid yw? Clywsom yn ddiweddar y byddai Ynys Môn yn cael tua £16 miliwn o'r gronfa ffyniant gyffredin fel y'u gelwir. Ac er bod unrhyw gyllid i'w groesawu, wrth gwrs—a byddaf yn gweithio gyda phartneriaid i wneud yn siŵr y bydd prosiectau ar Ynys Môn yn elwa cystal â phosibl—nid oes dianc rhag y ffaith bod hyn yn...
Rhun ap Iorwerth: Dwi'n gallu gweld bod yr amser wedi fy nghuro fi. Mae'n dda gweld cytundeb ar hwn heddiw, ond un peth ydy cael cytundeb ar set o egwyddorion, peth arall ydy gweld y Llywodraeth yn delifro ar y pethau hynny sydd wir yn mynd i wneud fferylliaeth yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy ar gyfer y blynyddoedd i ddod.
Rhun ap Iorwerth: Wrth gwrs.
Rhun ap Iorwerth: Byddwn yn sicr yn cytuno â hynny fel awgrym. Hoffwn feddwl am ein holl weithwyr iechyd a gofal fel prentisiaid cyflogedig mewn rhyw ffordd, yn dysgu crefft y byddant yn gallu ei defnyddio, boed hynny fel meddyg neu weithiwr gofal neu fferyllydd o fewn ein gwasanaethau iechyd a gofal yng Nghymru. Mae’n rhaid inni fod yn arloesol yn y ffordd y ceisiwn gryfhau ein gweithlu.
Rhun ap Iorwerth: Diolch am y cyfle i wneud ychydig o sylwadau yn y ddadl yma, a na, dydyn ni ddim wedi cynnig gwelliannau, oherwydd mae yna set o egwyddorion yn fan hyn dwi'n siŵr y gallem ni i gyd eu cefnogi. Mae fferylliaeth wrth galon ein gwasanaethau iechyd ni. Mae'n gorfod bod, ond nid felly mae hi wastad wedi cael ei weld. Yn rhy aml, dwi'n meddwl bod fferylliaeth, a fferylliaeth gymunedol yn arbennig,...
Rhun ap Iorwerth: Mae'n iawn.