Jeremy Miles: Mae'n bwysig iawn fod pobl ifanc yng Nghymru yn cael addysg sy'n eu galluogi i ymdopi â'r byd lle'r ydym yn byw ac yn deall yr heriau y mae pobl ifanc yn eu hwynebu, heriau nad oeddwn i yn sicr yn eu hwynebu pan oeddwn i eu hoedran hwy, a dyna bwrpas ac effaith sylfaenol y cod a'r canllawiau addysg cydberthynas a rhywioldeb. Bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn fod dadl gyhoeddus wedi'i hysgogi...
Jeremy Miles: Wel, byddwn yn croesawu unrhyw gymorth y mae Llywodraeth y DU yn barod i'w ddarparu ar ffurf cyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus a chefnogi teuluoedd ledled Cymru. Rwy'n credu bod y methiant i fod yn glir am hynny yn bryder sylweddol i wasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Mae gennym ni, fel y bydd yr Aelod yn gwybod, nifer o gynlluniau i gefnogi'r argyfwng...
Jeremy Miles: O ran costau tâl y gweithlu, mae'r arian hwnnw eisoes wedi ei ddyrannu fel rhan o negodiadau yr RSG y llynedd. Dyna oedd y sail iddyn nhw gael eu cytuno. Rwy'n cytuno â beth mae Sioned Williams yn ei ddweud ynglŷn â'r pwysau sydd ar ein hysgolion ni oherwydd cynnydd mewn costau gwresogi a chostau eraill o ran chwyddiant ac ati. Fel mae'r Aelod yn gwybod o'r hyn rôn ni'n ei drafod yn y...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n cyfeirio Mark Isherwood at yr ateb a roddais eiliad yn ôl, ond rwyf am ddweud wrtho ef ac wrth Llyr Gruffydd, os hoffech chi ysgrifennu ataf ynglŷn â'r etholwr penodol, gallwn edrych ar hynny'n fwy manwl—oni bai eich bod wedi gwneud hynny eisoes; rwy'n sicr wedi cael peth gohebiaeth ar hyn. Ond byddwn yn hapus iawn i edrych yn fanylach ar hynny.
Jeremy Miles: Mae'r argyfwng costau byw yn cael, a bydd yn parhau i gael, effaith sylweddol ar bob gwasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys ein hysgolion. Fel y mae'r Prif Weinidog wedi egluro, dim ond Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd â'r grym ariannol sydd â'r grym ariannol i fynd i'r afael ag effeithiau andwyol y cynnydd mewn costau ynni a chostau eraill.
Jeremy Miles: Mae rhai newidiadau wedi digwydd eisoes. Felly, mae HEIW eisoes wedi cynyddu'r lwfans sydd ar gael i fyfyrwyr ynglŷn â llety placements er enghraifft, a hefyd trafnidiaeth. Felly, mae rhai camau eisoes wedi cael eu cymryd. Rŷn ni wedi sefydlu bwrdd rhaglen bwrsariaethau a chymhellion er mwyn sicrhau ein bod ni'n gallu adnewyddu'r fwrsariaeth i sicrhau ei fod e yn creu cymhelliad, fel...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru i adolygu cynllun bwrsariaeth gwasanaeth iechyd gwladol Cymru. Rŷn ni'n cydnabod effaith costau byw cynyddol ar fyfyrwyr gofal iechyd proffesiynol ac rŷn ni'n ceisio nodi camau y gellir eu cymryd ar unwaith i roi cymorth ychwanegol iddyn nhw.
Jeremy Miles: Diolch i Rhianon Passmore am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rwy'n credu y bydd nifer o ganlyniadau cadarnhaol ym mywydau'r dysgwyr ifanc hyn a'u teuluoedd. Yr effaith gyntaf, ar unwaith fydd cyfrannu at leddfu, i ryw raddau, agweddau ar y pwysau costau byw y mae teuluoedd o danyn nhw. Os mynnwch chi, rwy'n credu y bydd budd tymor hirach yn gallu trawsnewid rôl bwyd yn ein hysgolion o ran bwyta'n...
Jeremy Miles: Mae'n ddrwg gen i, rydw i eisiau bod yn glir: nid yw awdurdodau yn cael trafferth o ran cyflawni'r polisi hwn. Maen nhw wedi gweithio'n hynod o galed i wneud yn siŵr—
Jeremy Miles: Maen nhw wedi gweithio'n anhygoel o galed i sicrhau bod cymaint o bobl ifanc â phosibl yn gallu elwa ar y polisi hwn, yn unol ag amserlen fer iawn, iawn, ac mae hynny'n berthnasol i bob awdurdod yng Nghymru. Fel y dywedais i, lle mae nifer fach o ysgolion y mae angen gwneud rhai newidiadau seilwaith o hyd, maen nhw'n cydymffurfio â'r polisi mewn ffordd wahanol: felly, er enghraifft,...
Jeremy Miles: [Anghlywadwy.] —y mae Sarah Murphy yn ei godi, Dirprwy Lywydd. A'r cwestiwn y mae unrhyw Lywodraeth yn y sefyllfa hon yn ymgodymu ag ef, mewn gwirionedd, yw, o ystyried maint yr her costau byw y mae teuluoedd yn ei wynebu, mae mantais sylweddol i'w gael o gyflwyno cymaint â phosibl ledled y system cyn gynted â phosibl. A dyna, ar ddiwedd y dydd, oedd y farn y daethom ni iddi, ac, yn...
Jeremy Miles: Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny. Mae hyn yn dangos manteision cydweithio. Dyma un o'r elfennau polisi lle roedd gan y ddwy blaid flaenoriaeth i weithredu, felly yn gallu dod i gytundeb ar hyn yn y cytundeb sydd gyda ni. Ac rwy'n cytuno hefyd mai cam cyntaf yw hwn; rŷn ni i gyd eisiau gweld y polisi yn cael ei ymestyn y gorau gallwn ni. Dyw e ddim yn deg i ddweud bod awdurdodau...
Jeremy Miles: Diolch i Laura Anne Jones am y tri chwestiwn yna, ac am ei chefnogaeth i'r polisi. O ran y cwestiwn cyntaf ar fuddsoddi cyfalaf, bydd hi wedi fy nghlywed i'n dweud bod rhaglen sylweddol o fuddsoddi wedi digwydd o ran uwchraddio seilwaith. Mae llawer o hynny wedi digwydd dros gyfnod yr haf, ac mae'r gyllideb gyffredinol sydd wedi ymrwymo i hynny nawr wedi'i chynyddu i £60 miliwn. Nid oedd...
Jeremy Miles: Dirprwy Lywydd, hoffwn i achub ar y cyfle hwn i ddiolch i'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol, yn ogystal ag ysgolion ledled Cymru, am weithio gyda ni i gyflawni'r garreg filltir gyntaf hon. Mae wedi cymryd gwaith partneriaeth sylweddol a dull gweithredu tîm Cymru, sydd eisoes o fudd i filoedd o ddisgyblion ac yn rhoi arian yn ôl ym mhocedi eu teuluoedd ar unwaith. Rydym ni wedi gweithio'n...
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i gydnabod digwyddiadau ddoe a chyfleu fy nghydymdeimlad dwysaf gyda'r teulu brenhinol. Mae ein rhaglen lywodraethu ni yn glir: byddwn ni'n sicrhau'r tegwch mwyaf i bawb ac yn dileu anghydraddoldeb ar bob lefel o gymdeithas. Bydd Cymru yn wlad lle nad oes neb yn cael ei ddal yn ôl a neb yn cael ei adael ar ôl. Ym myd addysg, mae ein huchelgais i...
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Mae'r rheoliadau yma'n caniatáu i Gomisiynydd y Gymraeg ystyried ble mae'r cyrff ar eu taith iaith cyn gosod safonau terfynol arnyn nhw, hynny yw ystyried beth sy'n resymol i gorff ei wneud ond hefyd herio i wella gwasanaethau Cymraeg i'r cyhoedd. Y nod ar ddiwedd y dydd, y prif nod, yw sicrhau defnydd ymarferol bob dydd o'r Gymraeg yn ein cymunedau ni. Mae'r cyrff yma wedi...
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Rwy'n symud y cynnig ar Reoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 8) 2022. Mae'r rheoliadau'n caniatáu Comisiynydd y Gymraeg i osod safonau ar naw corff Prydeinig o'r sector iechyd, sef wyth corff rheoleiddio proffesiynol a'r Awdurdod Safonau Proffesiynol. Mae dros 120 o gyrff eisoes yn dod o dan y safonau, gan gynnwys byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru. Bydd...
Jeremy Miles: Diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn hwnnw a'r gwahoddiad hwnnw, a byddwn yn hapus i'w dderbyn. Roedd Meurig yn ei sylwadau yn y gwobrau ddydd Sul yn glir iawn ynglŷn â'r angen i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru a hoffai gael mynediad i addysg Gymraeg yn cael hynny, ac rwy'n sicr yn rhannu'r uchelgais hwnnw, fel y gwn y mae Huw Irranca-Davies hefyd.
Jeremy Miles: Wel, rwy'n cytuno ag ymdeimlad olaf yr Aelod, yn sicr, a dyna'r egwyddor sylfaenol y tu ôl i'r fenter gyfan yr ydym ni'n ymwneud â hi o ran cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg. Rwy'n sylwi bod yr Aelod wedi nodi ei siom yn gynnar. Rwy'n credu efallai mai'r ffordd arall o edrych ar hyn yw bod pob awdurdod, gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr, wedi cytuno i gynllun uchelgeisiol. Ond, fel y...
Jeremy Miles: Diolch o galon i Vikki Howells am y cwestiwn hwnnw, ac mae'n rhywbeth rwy'n gwybod mae hi'n teimlo'n angerddol yn ei gylch e; rydyn ni wedi trafod hyn un-wrth-un y tu allan i'r Siambr hon hefyd. Ac mae'n iawn i ddweud bod hi'n bwysig iawn sicrhau bod y ddarpariaeth sydd gyda ni ar gyfer y blynyddoedd cynnar yn caniatáu ac yn annog rhieni i ddewis addysg ym mhob cyfnod i'w plant trwy gyfrwng...