Canlyniadau 321–340 o 900 ar gyfer speaker:Carl Sargeant

3. Cwestiwn Brys: Y Penderfyniad i Adeiladu Carchar ym Mhort Talbot (22 Maw 2017)

Carl Sargeant: Y mater yma, Lywydd, yw fy nhîm—nid yw ymgysylltu gydag unrhyw ddarpar ddatblygwr ynglŷn â maes sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru yn anarferol, gyda’r sector preifat neu gyhoeddus, fel y dywedais wrth Bethan Jenkins yn flaenorol. Mae fy nhîm wedi bod yn ymwneud â’r Weinyddiaeth Gyfiawnder ar sail y posibilrwydd y bydd y cyfleuster hwn yn cael ei gyflwyno. Roedd cyhoeddiad heddiw yn...

3. Cwestiwn Brys: Y Penderfyniad i Adeiladu Carchar ym Mhort Talbot (22 Maw 2017)

Carl Sargeant: Wel, diolch i Dr Lloyd am ei gwestiynau—ac roedd yn frwd iawn hefyd. Rwy’n credu—un neu ddau o bwyntiau, os awn ati i’w dadansoddi. Mae’n dechrau cyflwyno’r ddadl ei fod yn gwrthwynebu hyn ar sail gyfansoddiadol. Rwy’n credu bod hynny’n anffodus, oherwydd, mewn gwirionedd, mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod gan ein carcharorion, ein Cymry sy’n byw yng Nghymru, gyfleuster a...

3. Cwestiwn Brys: Y Penderfyniad i Adeiladu Carchar ym Mhort Talbot (22 Maw 2017)

Carl Sargeant: Rwy’n meddwl bod yr holl Aelodau wedi tynnu sylw at bwyntiau pwysig heddiw. Mater i’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yw’r cais, a byddant yn bwrw ymlaen ag ef. Mae gennym rôl mewn perthynas â chanlyniadau anuniongyrchol adeiladu sefydliad o’r fath yng Nghymru, o ran y pwysau addysgol a mathau eraill o bwysau lleol, ond mae’n cynnig cyfleoedd hefyd ar gyfer cyflogaeth a chaffael cymorth...

3. Cwestiwn Brys: Y Penderfyniad i Adeiladu Carchar ym Mhort Talbot (22 Maw 2017)

Carl Sargeant: Mae’r Aelod yn nodi materion pwysig iawn, ond a gaf fi ddweud bod y rhain yn gyfleusterau modern iawn? Mae mater addysg ac adsefydlu yn un pwysig. Mewn gwirionedd mae gan garchar Wrecsam a Phen-y-bont ar Ogwr brosesau da iawn gydag ailintegreiddio i’r gymuned yn un bwysig. Os ydych yn rhoi pobl dan glo ac yn eu trin fel anifeiliaid gwyllt mewn cewyll, dônt allan yn eu holau o’u cewyll...

3. Cwestiwn Brys: Y Penderfyniad i Adeiladu Carchar ym Mhort Talbot (22 Maw 2017)

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei sylwadau. Mae llawer o faterion yn codi. Unwaith eto, mae’n crybwyll ymatebion y Weinyddiaeth Gyfiawnder, fel y crybwyllodd yr Aelod lleol, Dai Rees. A gaf fi ddweud, o fy mhrofiad o Garchar Berwyn, mai personél o’r ardal leol oedd tua 60 y cant o’r rhai a gyflogwyd i ddatblygu ac adeiladu’r carchar, felly roedd yn hwb diwydiannol mawr i’r ardal honno? O...

3. Cwestiwn Brys: Y Penderfyniad i Adeiladu Carchar ym Mhort Talbot (22 Maw 2017)

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn a’i ddiddordeb yn hynny, wrth gynrychioli ei etholwyr. Wrth gwrs, mae llawer o’r cwestiynau y mae wedi’u gofyn, yn gywir, yn galw am atebion gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ond mae’n ddyddiau cynnar iawn. Roedd y datganiad a gyhoeddwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ymwneud â’r awgrym i ystyried adeiladu carchar yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac...

3. Cwestiwn Brys: Y Penderfyniad i Adeiladu Carchar ym Mhort Talbot (22 Maw 2017)

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rwyf wedi cael trafodaethau uniongyrchol â Gweinidog carchardai’r DU ynglŷn â’r safle arfaethedig ar gyfer datblygu carchar newydd ym Mhort Talbot. Mae gan y cynnig hwn botensial i gynnig cyfleuster modern, addas i’r diben i dde Cymru, sy’n canolbwyntio ar adsefydlu, a gwneud ein cymunedau’n fwy diogel.

4. 5. Datganiad: Cyfradd Comisiwn wrth Werthu Cartrefi mewn Parciau — Y Camau Nesaf (21 Maw 2017)

Carl Sargeant: Mae'r Aelod yn codi rhai pwyntiau diddorol. Rwy'n meddwl y dylai'r Aelod gymryd rhan yn yr ymarfer ymgynghori ar ran ei blaid os dyna mae'n dymuno ei wneud. Rwyf i wedi cwrdd â phreswylwyr cartrefi mewn parciau a pherchnogion safleoedd cartrefi mewn parciau yn y gorffennol ac mae'n anffodus fy mod—fel Ysgrifenyddion Cabinet a Gweinidogion rydym yn cael llawer o geisiadau gan unigolion i...

4. 5. Datganiad: Cyfradd Comisiwn wrth Werthu Cartrefi mewn Parciau — Y Camau Nesaf (21 Maw 2017)

Carl Sargeant: Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, a diolch am ei gyfraniad. Rwy'n meddwl mai’r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn deall yn llawn natur y busnesau a sut y maent yn gweithredu yma yng Nghymru. Rydych yn iawn i ddweud bod llawer mwy o weithredwyr llai na rhai mwy yng Nghymru, a beth mae hynny’n ei olygu o ganlyniad—ni fyddwn eisiau cael gwared ar y gyfradd comisiwn pe byddem yn gwybod, yn...

4. 5. Datganiad: Cyfradd Comisiwn wrth Werthu Cartrefi mewn Parciau — Y Camau Nesaf (21 Maw 2017)

Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Rwy’n meddwl bod yr Aelod, mewn egwyddor gyffredinol, yn gefnogol i'r datganiad heddiw. Wrth gwrs, o ran yr argymhellion eraill heblaw am y comisiwn, mae fy nhîm eisoes wedi dechrau gweithio ar hynny a byddwn yn gobeithio cyhoeddi rhywfaint o arweiniad tuag yr hydref. O ran y gyfradd comisiwn yn benodol, rwy’n disgwyl i’r broses lawn o ymgysylltu ac...

4. 5. Datganiad: Cyfradd Comisiwn wrth Werthu Cartrefi mewn Parciau — Y Camau Nesaf (21 Maw 2017)

Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei sylwadau a’i chwestiynau. Yn gyntaf oll, yr hyn mae'n rhaid inni ei ddeall yn llawn, ac rwy’n meddwl fy mod wedi cyfleu hynny drwy'r datganiad heddiw, yw economeg y parc. Roedd hyfywedd ariannol yr adroddiad yn amheus o ran y manylion a gawsom yn ôl a dyna pam nad wyf wedi gallu gwneud penderfyniad. Ond, rwyf yn ddeall y bydd rhai parciau’n cynnwys cyfradd...

4. 5. Datganiad: Cyfradd Comisiwn wrth Werthu Cartrefi mewn Parciau — Y Camau Nesaf (21 Maw 2017)

Carl Sargeant: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiweddaru'r Aelodau am fy nghynlluniau i ymdrin â phryderon parhaus am y diwydiant cartrefi mewn parciau yng Nghymru, yn dilyn cyhoeddi'r ymchwil i economeg y sector yr hydref diwethaf. Fe gofiwch ein bod wedi comisiynu ymgynghorwyr economaidd cyhoeddus a chorfforaethol i gynnal yr adolygiad hwn. Rwy'n ddiolchgar iddynt am gwblhau'r adolygiad mwyaf a'r mwyaf...

4. 5. Datganiad: Cyfradd Comisiwn wrth Werthu Cartrefi mewn Parciau — Y Camau Nesaf (21 Maw 2017)

Carl Sargeant: Roedd yn nodi'n glir bod angen codi ymwybyddiaeth preswylwyr presennol o rwymedigaethau cytundebol ac i sicrhau bod preswylwyr y dyfodol yn glir ar y materion cyn llofnodi contractau. Roedd hefyd yn argymell ein bod yn ystyried sut i ganfod ac unioni arfer gwael. Rwy’n derbyn y ddau argymhelliad hyn mewn egwyddor, a byddaf yn gwahodd cydweithwyr a rhanddeiliaid allweddol i weithio gyda ni...

10. 6. Dadl: Gwastraff Trefol ac Ailgylchu (14 Maw 2017)

Carl Sargeant: Felly sut y gallant gadw eu canolfannau ailgylchu gwastraff ar agor, a chithau’n cymryd yr arian i wneud hynny oddi arnynt? Gadewch imi hefyd atgoffa'r Aelodau—[Torri ar draws.] Fe dderbyniaf ymyriad. Byddwn wrth fy modd. Gadewch imi hefyd atgoffa'r Aelodau gyferbyn. [Torri ar draws.] Lywydd, gadewch imi atgoffa’r Aelodau gyferbyn: roeddent yn siarad am yr hyn yr ydym yn ei wneud dros...

10. 6. Dadl: Gwastraff Trefol ac Ailgylchu (14 Maw 2017)

Carl Sargeant: Gwnaf, fe wnaf; rwy'n fwy na bodlon.

10. 6. Dadl: Gwastraff Trefol ac Ailgylchu (14 Maw 2017)

Carl Sargeant: Felly, nid dim ond lleiafrifoedd ethnig, ond eraill hefyd. Rwy'n meddwl y byddai wedi bod yn well i'r Aelod ddefnyddio’r cyfraniad yna i ymddiheuro i bobl Caerdydd, yn hytrach na gwneud cyfleoedd yn y fan yna. A'r mater a gododd Michelle Brown yn ogystal, gwrandewais yn astud iawn ar hynny. Mae hi'n bychanu'r mater o amgylch taliadau am fagiau siopa. Mae’r dyddiau wedi hen fynd, rwy’n...

10. 6. Dadl: Gwastraff Trefol ac Ailgylchu (14 Maw 2017)

Carl Sargeant: Diolch, Lywydd. Dadl ddiddorol iawn, gyda’r cyfraniadau a godwyd gan lawer heddiw. Diolch am y cyfle i ymateb. Rwy’n mynd i ystyried pob un o'r pwyntiau a wnaethpwyd wrth lywio ein ffordd ymlaen, ac rwy'n gwybod y bydd swyddogion y Gweinidog yn gwylio'n ofalus, nid yn unig o ran yr hyn yr wyf i’n ei ddweud, ond hefyd yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud o ran y cyfleoedd y bydd hynny’n...

10. 6. Dadl: Gwastraff Trefol ac Ailgylchu (14 Maw 2017)

Carl Sargeant: A wnaiff yr Aelod ildio?

10. 6. Dadl: Gwastraff Trefol ac Ailgylchu (14 Maw 2017)

Carl Sargeant: Gwrandewais yn astud iawn ar eich cyfraniad yn y fan yna o ran y mater eich bod yn gwneud cyswllt rhwng tipio anghyfreithlon a newidiadau i gasglu. Nid oes gan y Llywodraeth unrhyw ddata a fyddai'n cefnogi hynny. A oes gennych chi ddata sy'n cefnogi hynny?

10. 6. Dadl: Gwastraff Trefol ac Ailgylchu (14 Maw 2017)

Carl Sargeant: Rwy'n gwybod y bydd yr Aelod yn ymwybodol o’r cyfrifoldeb gweinidogol ac mae ganddi ddiddordeb mawr yn y cynlluniau hyn ac mae hi’n ceisio cyngor pellach gan ei swyddogion. Mae’r Gweinidog wedi gofyn am astudiaeth ar y potensial i ddeddfwriaeth newydd ymestyn cyfrifoldeb cynhyrchwyr yng Nghymru a gwneud cynhyrchwyr cynhyrchion a defnyddiau pecynnu yn fwy cyfrifol am gostau rheoli...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.