Canlyniadau 321–340 o 5000 ar gyfer speaker:Hannah Blythyn OR speaker:Hannah Blythyn OR speaker:Hannah Blythyn OR speaker:Hannah Blythyn OR speaker:Hannah Blythyn OR speaker:Hannah Blythyn

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Llwybr Arfordir Cymru (14 Mai 2019)

Hannah Blythyn: Diolch. Bydd yr Aelod yn falch o weld, gyda'r defnydd o'r ap newydd a'r wefan sy'n cael ei datblygu, y dechnoleg fodern sy'n cael ei defnyddio i ganu clodydd ein hasedau naturiol a'u hyrwyddo nhw. Rwy'n credu bod yr Aelod wedi gwneud gwaith da iawn ei hun o hyrwyddo'n huawdl iawn y llwybr arfordir gwych sydd gennym ni yng Nghymru. Mae'r Aelod yn sôn am fod yn ddefnyddiwr rheolaidd ohono....

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Llwybr Arfordir Cymru (14 Mai 2019)

Hannah Blythyn: Diolch i chi, Dirprwy Lywydd dros dro. Yr wythnos ddiwethaf, buom yn dathlu ugain mlynedd o ddatganoli yng Nghymru, achlysur a oedd yn gyfle i fwrw golwg yn ôl ar ein cyflawniadau allweddol yn ystod y ddau ddegawd diwethaf. Ers iddo agor yn 2012, mae llwybr arfordir Cymru wedi sefydlu ei hun yn esiampl loyw o harddwch naturiol ein gwlad. Mae'r llwybr yn ymestyn am 870 milltir o amgylch ein...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Llosgydd y Barri (27 Maw 2019)

Hannah Blythyn: Lywydd, o ystyried y broses gyfreithiol barhaus, nid yw'n briodol imi wneud sylwadau neu ychwanegu sylw pellach at yr atebion a roddwyd eisoes heddiw.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Llosgydd y Barri (27 Maw 2019)

Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn ar y mater hwn. Fel y gŵyr, mae'r achos yn codi materion cymhleth ynglŷn â sut y mae'r asesiad o'r effaith amgylcheddol yn berthnasol i geisiadau i ddiwygio amodau cynllunio, ac mae'n cymryd peth amser i weithio drwy'r materion hynny. Caiff manylion unrhyw gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â chyngor cyfreithiol, gan gynnwys a roddir neu a ofynnir am...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Llosgydd y Barri (27 Maw 2019)

Hannah Blythyn: Rydym yn parhau i roi ystyriaeth ofalus, gan gynnwys gofyn am ragor o eglurhad cyfreithiol ar rai agweddau ar yr achos, o ran sut y mae'r asesiad o'r effaith amgylcheddol yn y system gynllunio yn berthnasol i'r ffatri a adeiladwyd gan Biomass UK No. 2 Ltd. Byddwn yn cyhoeddi penderfyniad cyn gynted â phosibl.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Hybu Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol (27 Maw 2019)

Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Credaf eich bod yn codi pwynt dilys iawn ynglŷn â'r cyfraniad sydd gan bobl sy'n gweithio neu sydd wedi gweithio i'r awdurdod lleol i'w wneud i ddemocratiaeth leol mewn llywodraeth leol. Bydd yr Aelod yn ymwybodol y byddwn yn cyflwyno Bil llywodraeth leol ac etholiadau (Cymru) yn ddiweddarach eleni, a gobeithiwn gymryd camau drwy hynny i fynd i'r afael ag...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Hybu Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol (27 Maw 2019)

Hannah Blythyn: Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog a minnau'n fwy na pharod i'w goleuo ynghylch yr adnoddau a'r hyn y dylent fod yn ei wneud. Felly, os hoffech ysgrifennu ataf ynglŷn â'r awdurdodau penodol ac amlinellu beth yw'r pryderon, gan y gwyddom ei bod yn anhygoel o bwysig, os ydym am i'n cynghorau a'n cymunedau adlewyrchu'r cymunedau a wasanaethir ganddynt, eu bod yn gwneud pethau'n iawn yn ymarferol...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Hybu Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol (27 Maw 2019)

Hannah Blythyn: Rydym yn hybu pwysigrwydd amrywiaeth drwy ein menter Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Bydd gwerthusiad o'r gwaith a wnaed hyd yma ar gael cyn bo hir. Bydd cam arall o'r prosiect yn dechrau'n ddiweddarach eleni, gan adeiladu ar y gwaith cynharach cyn yr etholiadau llywodraeth leol nesaf.

6. Dadl: Dadansoddiad o Effaith Diwygio Lles Llywodraeth y DU ar Aelwydydd yng Nghymru (19 Maw 2019)

Hannah Blythyn: Nid wyf i'n credu mai beirniadaeth o swyddogion yn uniongyrchol neu fel unigolion yw hyn, ond rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch o ran meddwl am yr iaith a ddefnyddiwn ni. Ac, yn wir, bwriadwyd y ddogfen hon i fod yn ddogfen ffeithiol, ond rwy'n derbyn yn llwyr os nad ydym ni'n agored ac yn blaen o ran ystyr y pethau hyn yn ymarferol, gallai hynny fod yn annynoli ac yn dadwleidyddoli a thywys y...

6. Dadl: Dadansoddiad o Effaith Diwygio Lles Llywodraeth y DU ar Aelwydydd yng Nghymru (19 Maw 2019)

Hannah Blythyn: Diolch i chi, Dirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau at y ddadl ystyriol hon heddiw, ac yn enwedig i Leanne Wood, Huw Irranca-Davies a Joyce Watson. Roeddech chi'n dechrau drwy sôn, mewn gwirionedd, am sut y dylid barnu cymdeithas wâr yn ôl sut yr ydym ni'n trin y rhai mwyaf anghenus a'r rhai sy'n dioddef fwyaf. Joyce, gan gysylltu â hynny, roeddech chi'n sôn am...

6. Dadl: Dadansoddiad o Effaith Diwygio Lles Llywodraeth y DU ar Aelwydydd yng Nghymru (19 Maw 2019)

Hannah Blythyn: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am y cyfle i gyflwyno'r ddadl bwysig hon ar y dadansoddiad diweddaraf a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf ar effaith diwygiadau lles Llywodraeth y DU ar aelwydydd yng Nghymru. Hoffwn i droi yn gyntaf at y gwelliannau sydd wedi eu cyflwyno. Nid wyf i'n credu y bydd yn syndod i neb ein bod ni'n gwrthod y gwelliant gan y Ceidwadwyr, sydd ar ei orau yn ceisio...

10. Dadl Fer: Cartrefi i'n Harwyr: A ydym yn diwallu anghenion cartrefu ein cyn-filwyr? (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Mae gan bob Llywodraeth ddyletswydd i gefnogi cyn-filwyr y lluoedd arfog, yn enwedig y lleiafrif bach sy'n ei chael hi'n anodd newid i fywyd sifil. Fel y dywedodd yr Aelod, mae'n briodol inni roi'n ôl i'r rhai sydd wedi rhoi cymaint drwy wasanaethu eu gwlad. Dyma pam y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymuned y lluoedd arfog, ac wedi ymrwymo i barhau i wneud hynny yn y dyfodol. Nid yw ond yn...

10. Dadl Fer: Cartrefi i'n Harwyr: A ydym yn diwallu anghenion cartrefu ein cyn-filwyr? (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am godi'r mater pwysig hwn yn y Siambr heddiw? Gwn eich bod yn ddadleuwr brwd a gweithgar yn y maes hwn, ac wrth agor, roeddech yn dweud ei bod yn fraint bod yn gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar y lluoedd arfog a'r cadetiaid. Ac er fy mod yn gymharol newydd i'r rôl hon, mae'n fraint cael fy ngwahodd i wneud hyn ac arwain ar gyn-filwyr ar...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cryfhau'r Broses Gynllunio (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Unwaith eto, mae'r Aelod yn codi pwyntiau pwysig o ran hyder y cyhoedd yn y prosesau sydd ar y gweill. Credaf fod yna wên gyfarwydd ar wyneb sawl un ohonom pan sonioch am gymorthfeydd archfarchnadoedd—treuliodd llawer ohonom yn y lle hwn oriau lawer mewn un ohonynt. [Anghlywadwy.]—mae nifer o awdurdodau lleol wrthi'n adolygu eu cynlluniau datblygu ar hyn o bryd. Pan ddaw'n bryd i...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cryfhau'r Broses Gynllunio (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Y ffordd orau o gynllunio'n effeithiol mewn ardaloedd gwledig yw sicrhau bod cynlluniau datblygu lleol ar waith sy'n amlinellu'r strategaeth gynllunio ar gyfer ardaloedd gwledig. Mae 'Polisi Cynllunio Cymru: Argraffiad 10' yn cynnwys canllawiau cynllunio cryfach ar gyfer ardaloedd gwledig drwy wneud creu lleoedd effeithiol yn ofynnol er mwyn sicrhau bod datblygiadau'n hyrwyddo ffyniant,...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Tai Cydweithredol (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Mae'r Aelod yn sôn am fentrau arloesol sy'n digwydd mewn mannau eraill, nid yn unig yn Ewrop ond ar draws y byd. Rwy'n cytuno bod yna bethau y gallwn eu dysgu o fannau eraill yn y maes tai a meysydd polisi cyhoeddus eraill yn ogystal. Yn yr un modd, mae yna bethau y gallai gwledydd eraill eu dysgu gennym ni. Mae gennym fentrau arloesol mewn perthynas â thai cydweithredol yng Nghymru. Ar hyn...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Tai Cydweithredol (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Rydym wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad tai cydweithredol yng Nghymru a thai dan arweiniad y gymuned yn fwy cyffredinol. Drwy ein prosiect tai cydweithredol yng Nghymru, rydym yn ariannu, gyda Chanolfan Cydweithredol Cymru, er mwyn annog, hybu a chefnogi tai cydweithredol.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Mentrau Ailgylchu ac Ailddefnyddio (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am hynny ac am dynnu sylw at y gwaith rhagorol y mae Reseiclo yn ei wneud. Yn fy rôl flaenorol fel Gweinidog yr Amgylchedd, ac rwy'n dal i fod yn gyfrifol am hyn, rwyf wedi ymweld â nifer o ganolfannau ailddefnyddio: FRAME yn Sir Benfro, Crest Co-operative yng ngogledd Cymru a hefyd, yn fwyaf diweddar, The Shed yn Llantrisant. Felly, rwy'n fwy na pharod i ymuno â chi ar...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Mentrau Ailgylchu ac Ailddefnyddio (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Mae ailddefnyddio yn chwarae rôl bwysig yn y broses o gyflawni ein huchelgeisiau diwastraff, gyda'r potensial i arbed cannoedd o filoedd o dunelli o wastraff rhwng nawr a'n targed diwastraff yn 2050. Ym mis Tachwedd, cyhoeddais £5.4 miliwn yn ychwanegol ar draws wyth prosiect newydd i wella lefelau ailddefnyddio ac ailgylchu ledled Cymru.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.