Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o ymuno â chi yn y lansiad a chroesawu'r canllawiau, ond fel y dywedais, wrth gwrs, cam cyntaf yw hwn. Maent yn ganllawiau rhagorol a luniwyd gan yr Athro Ann John, ond ni fyddant ond cystal â'r broses o'u gweithredu. Tybed hefyd a ydych yn ymwybodol o ganllawiau a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr, a nododd y dylid trin un achos o...
Lynne Neagle: 6. Sut y mae'r Gweinidog yn sicrhau bod y canllawiau newydd ar siarad am hunanladdiad yn cael eu rhoi ar waith ym mhob ysgol yng Nghymru? OAQ54602
Lynne Neagle: 2. Sut y mae'r Gweinidog yn sicrhau bod cleifion yng Nghymru yn gallu cael triniaethau newydd ar gyfer canser? OAQ54603
Lynne Neagle: Diolch, Dirprwy Lywydd dros dro. Fel yr ydych chi wedi ei gydnabod heddiw, Gweinidog, ac fel y mae Aelodau eraill wedi cyfeirio ato, mae gennym ni sefyllfa lle mae un ym mhob pedwar o'n plant ni'n dechrau'r ysgol naill ai dros eu pwysau neu'n ordew. Ac, fel y gwyddoch chi, roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn awyddus iawn i ddylanwadu ar feddylfryd Llywodraeth Cymru yn y maes hwn a...
Lynne Neagle: Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynghylch digonolrwydd y dyraniadau cyllid ar gyfer addysg yng Nghymru?
Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Rwy'n siŵr nad wyf ar fy mhen fy hun yn y Siambr hon yn canfod, bron yn ddieithriad, fod gan yr etholwyr a ddaw i fy ngweld ynghylch problemau tai broblemau iechyd, a phroblemau iechyd meddwl hefyd fel arfer. Mae'n gwbl hanfodol gan hynny fod byrddau iechyd yn gweithio'n rhagweithiol gyda darparwyr tai i ddiwallu anghenion y cymunedau. Yn fy mhrofiad i, gall y gwaith hwnnw...
Lynne Neagle: 6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch gwella cydweithio rhwng y sectorau tai ac iechyd? OAQ54498
Lynne Neagle: Ac ni ddylem anwybyddu'r cefndir i'r anghysondeb hwn, sef y cywair a osodir gan newyddiadurwyr a sylwebyddion o oedran, rhyw a dosbarth penodol. Maent yn rhyfeddol o gyflym i honni bod cydraddoldeb wedi'i gyflawni, er gwaethaf yr holl dystiolaeth i'r gwrthwyneb. Ceir cred ymhlith y dosbarth hwn fod ffeministiaeth yn y DU yn anacronistaidd, ac am hawliau menywod, wel, 'Duw a'n helpo ni i gyd',...
Lynne Neagle: Ceir ymgais i wneud y ddadl hon yn ddadl ynglŷn ag un gair a ddefnyddiwyd gan Leanne Wood. Wedi'r cyfan, dyna'r peth symlaf i'w wneud, ond wedyn mae'n haws arestio rhywun sy'n dwyn torth o fara na gofyn pam eu bod yn llwglyd. Mae'n symlach carcharu dynes a gafodd ei gwthio i gyflawni trais yn hytrach na mynd i'r afael â degawdau o reolaeth drwy orfodaeth. Mae'n haws ceryddu dynes o liw na...
Lynne Neagle: Diolch. Weinidog, rwy'n siŵr eich bod chi, fel finnau, wedi gweld y llythyr a anfonwyd gan nifer o sefydliadau'r trydydd sector, gan gynnwys llawer iawn o Gymru, at Brif Weinidog y DU, yn rhybuddio am y pryderon dybryd ynghylch Brexit heb gytundeb. Mae'r llythyr yn dweud y byddai Brexit heb gytundeb yn niweidiol i gymdeithas sifil a'r cymunedau y gweithiwn gyda hwy. Mae'r ansicrwydd, y sioc...
Lynne Neagle: 4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Brexit heb gytundeb ar sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru? OAQ54420
Lynne Neagle: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella gwasanaethau bysiau yng nghymoedd de Cymru?
Lynne Neagle: Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i sicrhau bod y broses ddiwygiedig ar gyfer gwneud cais am arian i gleifion yng Nghymru yn gweithio'n dda i gleifion yn Nhorfaen?
Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn gwybod bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi mynegi pryderon difrifol ynghylch digonolrwydd cyllid ysgolion yn ein hadroddiad diweddar ar ein hymchwiliad i gyllid ysgolion. Roeddwn wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn pob un o'n hargymhellion. Nodaf hefyd y swm sylweddol iawn o arian ychwanegol a fuddsoddwyd mewn ysgolion yn yr adolygiad...
Lynne Neagle: 1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch dyraniadau cyllid i'r portffolio addysg? OAQ54345
Lynne Neagle: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth ryngwladol ddrafft Llywodraeth Cymru?
Lynne Neagle: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 hon i amlinellu prif argymhellion a chasgliadau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o ran y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Bydd yr Aelodau'n gallu gweld o'n hadroddiad bod y rhan fwyaf o'n pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Nid yw Suzy Davies a Janet Finch-Saunders yn cefnogi bod y Bil...
Lynne Neagle: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith Brexit heb gytundeb ar y trydydd sector yng Nghymru?
Lynne Neagle: Nid wyf yn ymddiried yn y Prif Weinidog, sydd wedi osgoi ac ochrgamu, a throi a throelli, ac sydd heb unrhyw hygrededd ar y mater hwn, gydag etholiad ar Brexit. Rwy'n credu ei bod yn gwbl gywir i wrthwynebu etholiad cyffredinol ddoe, i geisio ffrwyno'r Prif Weinidog hwn ar fater pwysicaf ein hoes. Yr unig amddiffyniad y mae'r Prif Weinidog yn ei gynnig am ei ymddygiad yw ei fod yn ceisio...
Lynne Neagle: Rwyf am ddechrau drwy ddweud ei bod yn hollol iawn inni fod wedi dod ynghyd i drafod Brexit heddiw. Mae'r digwyddiadau digynsail a welwyd yn San Steffan, y bygythiad go iawn o Brexit heb gytundeb gwrth-ddemocrataidd a dinistriol yn ei gwneud hi'n ofynnol i Gymru drafod y materion hyn yma yn ein Cynulliad Cenedlaethol ein hunain. O ystyried yr effaith enfawr y byddai Brexit heb gytundeb yn ei...