Canlyniadau 321–340 o 2000 ar gyfer speaker:Darren Millar

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Metro (20 Hyd 2021)

Darren Millar: Weinidog, fe gyfeirioch chi'n gynharach at yr angen i Gymru gael ei chyfran ar sail poblogaeth. Beth am gyfran ar sail poblogaeth o fuddsoddiad o fewn Cymru? Rydych wedi dweud bod £1 biliwn wedi cael ei fuddsoddi neu ei glustnodi hyd yma ar gyfer y tri phrosiect metro, ac eto, o'r £1,000 miliwn hwnnw, £50 miliwn yn unig sydd wedi'i ddyrannu i ogledd Cymru. Mae hwnnw'n wahaniaeth mawr yn y...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Metro (20 Hyd 2021)

Darren Millar: Chi sydd wedi creu'r rhwyg hwn.

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (20 Hyd 2021)

Darren Millar: Gallaf eich sicrhau fy mod wedi gwrando'n astud iawn ar yr hyn a ddywedoch chi ddoe, ac ni chlywais y geiriau, 'datganoli i ranbarthau ac awdurdodau lleol' o gwbl. Rydych yn sôn am rymuso pobl a chymunedau, ond onid y gwir yw eich bod yn syml eisiau cipio pwerau gan awdurdodau lleol a chipio pwerau gan Lywodraeth y DU ac mai dyna yw hanfod y comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (20 Hyd 2021)

Darren Millar: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Yn eich datganiad ddoe, eich datganiad ysgrifenedig a'ch datganiad llafar, ni chafwyd unrhyw gyfeiriad at ddatganoli rhagor o bwerau o Fae Caerdydd i Fae Colwyn a lleoedd eraill ledled y wlad. Onid yw'n ffaith bod eich Llywodraeth chi, dros y blynyddoedd, wedi bod yn Llywodraeth sydd wedi canoli pwerau i lawr yma ym Mae Caerdydd, yn hytrach na'u...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (20 Hyd 2021)

Darren Millar: Diolch, Lywydd. Gwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a wnewch chi wneud datganiad am safbwynt eich Llywodraeth ar ddatganoli pellach i ranbarthau ac awdurdodau lleol Cymru?

5. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Comisiwn Cyfansoddiadol (19 Hyd 2021)

Darren Millar: A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad, Gweinidog? Mae'n siomedig ei fod wedi'i hyrwyddo yn y cyfryngau am gyfnod mor hir cyn iddo gael ei wneud i Aelodau'r Senedd, ond mae'n debyg mai dyna'n union yr ydym ni'n dod i arfer ag ef yma o dan Lywodraeth bresennol Cymru. Rwy’n credu ein bod wedi cofnodi'r ffaith y byddwn ni'n cymryd rhan yn y comisiwn hwn. Rydym wedi gwneud hynny'n eithaf clir....

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (19 Hyd 2021)

Darren Millar: Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad brys gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran y stori a gafodd ei hadrodd yn ddiweddar ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? Gwnaeth adroddiadau a ddaeth i'r amlwg yn ystod y dyddiau diwethaf awgrymu bod barnwr wedi darganfod bod bwrdd iechyd Besti Cadwaladr yn ceisio dileu ei enw mewn adroddiad, a oedd yn cyfeirio at ofal gwael...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyfoeth Naturiol Cymru (19 Hyd 2021)

Darren Millar: Prif Weinidog, un o'r swyddogaethau allweddol sydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yma yn ein gwlad ni yw cynorthwyo'r Llywodraeth o ran rheoli'r perygl o lifogydd, a rhoi cyngor a gwneud gwaith dilynol ar unrhyw lifogydd sy'n digwydd ledled y wlad. Fel y byddwch chi'n ymwybodol, bu nifer o ddigwyddiadau llifogydd yn fy etholaeth i yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn Abergele, Pensarn, yn Rhuthun,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyfoeth Naturiol Cymru (19 Hyd 2021)

Darren Millar: 8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effeithiolrwydd Cyfoeth Naturiol Cymru? OQ57058

Cynnig i ethol Aelod i bwyllgor (13 Hyd 2021)

Darren Millar: Rwy'n cynnig.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Hyd 2021)

Darren Millar: Ond o gofio eu bod yn ymrwymiad maniffesto, a'ch bod newydd awgrymu y byddant yn cael eu cyflawni o fewn pum mlynedd tymor y Llywodraeth Lafur, pam ar y ddaear y byddech yn eu rhewi yn y lle cyntaf? Y gwir amdani yw y dylent fod yn mynd rhagddynt, oherwydd rydych wedi rhoi ymrwymiad clir. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedwch, eich bod yn malio am ogledd-ddwyrain Cymru: mae hwnnw'n lle rydych...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Hyd 2021)

Darren Millar: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ond ni fydd llawer o bobl yng ngogledd Cymru yn ystyried ei fod yn ddigon da. Gwnaeth y Blaid Lafur addewidion cyn yr etholiad y byddai'n sicrhau gwelliannau sylweddol i'r rhwydwaith cefnffyrdd yng ngogledd Cymru. Fe ddywedoch chi y byddech yn darparu pont dros y Fenai—trydedd bont y Fenai—ond mae wedi'i gohirio. Fe ddywedoch chi y byddech yn cael gwared...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Hyd 2021)

Darren Millar: Diolch, Lywydd. Yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog gogledd Cymru, pa gamau a gymerir gennych i ddatgloi'r moratoriwm ar fuddsoddi cyfalaf mewn ffyrdd yn y rhanbarth?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Staff Gofal Cymdeithasol (12 Hyd 2021)

Darren Millar: Prif Weinidog, un o'r pethau sydd wedi cael eu croesawu gan fy mhlaid i yw'r taliad ariannol ar gyfer gofal cymdeithasol—y taliad bonws—y mae llawer o bobl, wrth gwrs, yn ei gael yn eu pecynnau cyflog y mis hwn. Ond mae'n rhaid i'r taliadau bonws hynny gyrraedd pawb sy'n rhan o'r gweithlu gofal cymdeithasol hwnnw, sydd wedi bod yn gweithio ar y rheng flaen yn ystod y pandemig, ac mae...

10. Dadl Plaid Cymru: Tâl gweithwyr gofal iechyd ( 6 Hyd 2021)

Darren Millar: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

10. Dadl Plaid Cymru: Tâl gweithwyr gofal iechyd ( 6 Hyd 2021)

Darren Millar: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod nad yw pob rhan o'r £1.20 am bob £1 a ddaw yn cael ei wario ar y gwasanaeth iechyd. Nid yw'r gwasanaeth iechyd yn derbyn y £1.20 yng Nghymru am bob £1 a werir, felly mae capasiti o fewn cyllideb Llywodraeth Cymru i fuddsoddi yn ein GIG ac i dalu staff y GIG yn wahanol, pe bai Llywodraeth Cymru yn dymuno gwneud hynny.

10. Dadl Plaid Cymru: Tâl gweithwyr gofal iechyd ( 6 Hyd 2021)

Darren Millar: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

10. Dadl Plaid Cymru: Tâl gweithwyr gofal iechyd ( 6 Hyd 2021)

Darren Millar: Diolch, rwy'n ddiolchgar iawn am hynny. A ydych yn cydnabod, o ganlyniad i'r setliad presennol gyda Llywodraeth y DU, fod Cymru'n derbyn oddeutu £1.20 am bob £1 ar gyfer y gwasanaeth iechyd datganoledig? Mae hynny'n eich galluogi, pe baech yn dymuno gwneud hynny, i roi 20 y cant yn ychwanegol at yr hyn a dalwch i aelodau staff ar hyn o bryd. A ydych yn derbyn—[Torri ar draws.] A ydych yn...

9. Dadl Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Meddwl ( 6 Hyd 2021)

Darren Millar: Rwy'n sicr yn cytuno fod cwtsh syml yn gwneud gwahaniaeth enfawr weithiau ac rwyf hefyd yn cydnabod bod pawb yn cael diwrnodau gwael gyda'u hiechyd meddwl. Gallant deimlo'n isel neu'n ofidus neu'n bryderus am bob math o bethau gwahanol. Ac mae'n rhaid inni gydnabod na ddylai fod stigma ynghlwm wrth iechyd meddwl gwael. Mae'n rhaid inni sicrhau, fel y dywedodd Altaf Hussain, ei fod yn cael yr...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.