Vaughan Gething: Wel, credaf fod Noel Mooney wedi bod yn wych mewn sawl ffordd, yn enwedig wrth gyfathrebu o fewn y gêm a thu hwnt hefyd sut y mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn disgwyl defnyddio eu hadnoddau, o ran pobl, ei delwedd, ei gallu i arwain sgyrsiau yn ogystal â chymryd rhan ynddynt, ac nid yn unig o ran dyfodol gêm y dynion yng Nghymru, ond rwyf wedi fy mhlesio’n fawr gan ei gyfarwyddyd a’i...
Vaughan Gething: Credaf fod yr Aelod yn gwneud pwynt cyffredinol, ac nid wyf yn siŵr fy mod yn cytuno â'r holl fanylion, ond rwyf am fod yn gadarnhaol wrth ymateb. Oherwydd mae Gwlad yr Iâ a gwledydd llai eraill sydd wedi cyrraedd—. Rwy'n meddwl am ein cymdogion agos, Gweriniaeth Iwerddon, hefyd, cenedl gymharol fach, a sut y mae cyrraedd y rowndiau terfynol fwy nag unwaith wedi helpu nid yn unig gyda'r...
Vaughan Gething: Mae llwyddiant Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd—llwyddiant tîm y dynion i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd—wedi rhoi hwb aruthrol i’r wlad gyfan. Ac rydym yn gweithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a rhanddeiliaid eraill i ystyried sut i wneud y gorau o’r cyfleoedd a ddaw yn sgil y ffaith y bydd Cymru'n cymryd rhan yn y digwyddiad chwaraeon mwyaf yn y byd....
Vaughan Gething: 'Ydw', yw'r ateb syml, ac wrth gwrs, nodwyd y weledigaeth ar gyfer gwneud rhywbeth fel hynny gan fy rhagflaenydd, Ken Skates. Ac nid yn unig ein bod yn cefnogi'r syniad o sefydlu canolfan ymchwil uwch-dechnoleg yng Nghymru, ond gallaf roi newyddion ychydig yn fwy diweddar i'r Aelod. Yn amodol ar ddatblygu pecyn ariannu cynaliadwy, yr wythnos diwethaf, arwyddodd Llywodraeth Cymru y prif...
Vaughan Gething: Ie. Mae’n anarferol clywed dyfyniad gan Aelod o'r Ceidwadwyr Cymreig yn canu clodydd y Llywodraeth yr SNP yn yr Alban, ond croesawaf blwraliaeth a chynwysoldeb sylwadau’r Aelod. Ac a dweud y gwir, pan edrychwch ar yr uchelgeisiau mewn ystod o feysydd gan Lywodraethau ledled y DU, mae pob un ohonom yn awyddus wrth gwrs i feithrin diwylliant mwy entrepreneuraidd. Mae pob un ohonom yn...
Vaughan Gething: Diolch am eich cwestiwn. Yn amlwg, nid wyf am ragfarnu popeth a fydd yn y strategaeth derfynol, ond rwy’n hyderus y bydd gennym strategaeth ddrafft a strategaeth derfynol a fydd yn gweld lle i arloesi ymhlith busnesau bach, a gallwn dynnu sylw at y llwyddiant y mae SMARTCymru wedi'i gael mewn sawl maes, ac ym mhob rhanbarth neu etholaeth, yn ôl pob tebyg, bydd yna fusnes sydd wedi cael...
Vaughan Gething: Gwnaf. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar y cyd ag Aelodau dynodedig Plaid Cymru, yn unol â’r cytundeb cydweithio, i ddatblygu’r strategaeth arloesi newydd. Rydym yn bwriadu cyhoeddi strategaeth ddrafft i gynnal ymgynghoriad arni yn yr haf, gyda'r cyhoeddiad terfynol wedi'i gynllunio ar gyfer yr hydref.
Vaughan Gething: Continued support for entrepreneurship in Wales is vital to driving economic growth post Brexit and COVID. That is why I am investing £20.9 million per annum in the Business Wales service to replace lost EU funding, despite the UK Government’s failed commitment to replace funding.
Vaughan Gething: We are committed to building on Wales's success in hosting major events. We work proactively with event owners across the whole of Wales, and I was pleased to see the Big Retreat Festival take place last week delivering economic, cultural and social benefits to Carmarthen West and South Pembrokeshire.
Vaughan Gething: Hyd yma nid oes unrhyw swyddi wedi'u creu ym Mharc Bryn Cegin. Mae nifer o bartïon un ai wedi cyflwyno cynigion i brynu plotiau neu’n ystyried gwneud hynny. Gobeithir y bydd hyn yn arwain at ddatblygu 110,000 troedfedd sgwâr o unedau diwydiannol hapfasnachol sydd wedi’u teilwra’n arbennig ar gyfer eu defnyddwyr, gan helpu i greu swyddi at y dyfodol.
Vaughan Gething: Nid wyf wedi bod yn cilwenu.
Vaughan Gething: Gyda phob parch, credaf ein bod yn drysu mwy nag un mater yn y gyfres o gwestiynau sy'n cael ei gofyn. Nid wyf am drafod y materion hanesyddol y mae'r Aelod yn fy ngwahodd i'w hailadrodd heddiw. Mae'r mater yn ymwneud â'r gwerthwyr a'u hawydd a'u parodrwydd i werthu, lle mae'r ŵyl wedi'i lleoli ar hyn o bryd, ein gallu i gadw'r ŵyl yng Nghymru gyda'r holl fudd economaidd sylweddol sy'n...
Vaughan Gething: Fel y dywedais, mae'r pris prynu wedi'i ardystio'n annibynnol i ni, ac rydym yn edrych ar y cyfle sy'n bodoli ynghylch dyfodol hirdymor Gŵyl y Dyn Gwyrdd. Fel bob amser, mae yna fuddiannau'n cystadlu â'i gilydd mewn perthynas â defnydd tir a budd economaidd. Yn y cynllun busnes, rwy'n disgwyl gweld sut y byddai'r ystad gyfan yn cael ei rheoli. Byddai'n anghywir imi geisio nodi polisi...
Vaughan Gething: Cafwyd amryw o gwestiynau yn y fan honno. Fe geisiaf fynd i'r afael â hwy cystal ag y gallaf, ac mor gryno ag y gallaf—rwy'n edrych ar y Dirprwy Lywydd. Cafodd y pris prynu ei ardystio'n annibynnol gan ein syrfewyr ymgynghorol. Fe fyddwch yn falch o wybod na wnaethom dalu mwy na gwerth y farchnad amdano. O ran ein sefyllfa yn awr, mae wedi'i adlesio i'r perchnogion presennol. Mae ganddynt...
Vaughan Gething: Llwyddodd Llywodraeth Cymru i sicrhau rhydd-ddaliad ac adles tymor byr Fferm Gilestone am £4.25 miliwn. Rydym yn caffael yr eiddo er mwyn hwyluso buddsoddiad mewn busnesau lleol, y gymuned ac economi Cymru.
Vaughan Gething: Wel, cytunaf fod potensial sylweddol yn y gogledd a'r cyffiniau i gynhyrchu ynni sylweddol yn llwyddiannus o'r llanw gydag elw economaidd sylweddol. Ein her yw sut yr ydym ni'n gweithio gyda'r sector preifat a Llywodraeth y DU i roi hynny ar waith, ac mae'n mynd yn ôl at y pwynt bod angen prosiect arddangos ar raddfa sylweddol i helpu i gyflawni potensial y technolegau hynny. Dyna pam mae...
Vaughan Gething: Diolch. Credaf fod llawer o botensial i bobl sydd wedi bod yn ymwneud â diwydiannau blaenorol sy'n annhebygol o fod yn ddiwydiannau a fydd yn bodoli yn y dyfodol yn y tymor hwy. Pobl sydd â sgiliau peirianneg, ymchwil a datblygu, mae cyfleoedd yn bodoli. Pan feddyliwch chi am y potensial ar gyfer hydrogen a'r seilwaith y bydd ei angen, bydd angen inni gael buddsoddiad sylweddol gan...
Vaughan Gething: Iawn, felly ynghylch eich pwynt olaf, mae'n dibynnu pa rwystrau yr ydych chi'n cyfeirio atyn nhw. Rydym newydd gael sgwrs am yr effaith amgylcheddol, ac mae'n dibynnu pa rwystrau eraill yr ydych yn cyfeirio atyn nhw, boed hynny cyn ei ddefnyddio neu, mewn gwirionedd, y gallu i weithgynhyrchu a chynhyrchu ar raddfa sylweddol, a lle mae'r diddordeb gan gwmnïau. Rydym yn gwybod bod amrywiaeth o...
Vaughan Gething: Wel, dyna'r dull yr ydym yn ceisio'i fabwysiadu. Rydym yn ceisio sicrhau bod datblygiadau'n digwydd mewn ardaloedd priodol sy'n ystyried effaith amgylcheddol datblygiadau. Dyna'r union bwynt sydd wedi ei wneud mewn ymateb i Huw Irranca-Davies; dyma'r union ddull y bydd Gweinidogion Cymru yn ceisio'i fabwysiadu. Rydym ni'n credu ei bod yn gwbl bosibl defnyddio mwy o'r potensial hwn i gynhyrchu...
Vaughan Gething: O ran eich pwynt olaf, dyna yn sicr y safbwynt y mae Gweinidogion Cymru yn ei arddel. Rydym yn awyddus iawn i weld y manteision economaidd. Rydym yn awyddus iawn i weld y manteision o ran ynni adnewyddadwy, gan wybod y bydd hynny'n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd o'n cwmpas. Ond, mae creu unrhyw fath o system cynhyrchu pŵer yn sefyllfa lle mae angen i chi feddwl beth yw'r effaith ar...