Andrew RT Davies: Prif Weinidog, mae'n destun gofid na fydd rhai carfannau o blant yn mynd yn ôl i'r ysgol tan ar ôl y Pasg, a dyna'r dewis yr ydych chi'n ei wneud, er i chi ddweud mai eich prif flaenoriaeth yw cael plant ysgol i fynd yn ôl i ddysgu wyneb yn wyneb cyn gynted â phosibl. Roeddwn i'n benodol iawn yn y ffordd y gofynnais y cwestiwn am ddefnyddio'r hyblygrwydd sydd ar gael trwy fis Mawrth i...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mewn ymateb i gwestiwn Russell George, dywedasoch mai addysg ac ailagor addysg oedd eich prif flaenoriaeth, ac rwy'n credu y byddem ni i gyd yn cytuno â hynny. Ond, yn anffodus, mae Gweinidogion wedi cadarnhau na fydd rhai grwpiau blwyddyn sy'n mynd yn ôl i'r ysgol yn dychwelyd i'r ysgol tan ar ôl gwyliau'r Pasg. Felly, os ydych chi ym mlynyddoedd 7, 8, 9...
Andrew RT Davies: Ac rwy'n gobeithio y bydd y Senedd yn siarad ag un llais wrth sôn am welliant 1. Ac rwy'n credu mai'r ffordd orau o fyfyrio ar hynny, oherwydd gwn fod y Prif Weinidog yn ei sylwadau ynghylch cwestiynau'r Prif Weinidog wedi cynhyrfu, ddywedwn ni, nad oedd arweinwyr y pleidiau wedi sôn am gyflwyno'r brechiad—wel, pe byddai wedi clywed y datganiad yn gynharach yn y prynhawn, roedd y diolch...
Andrew RT Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolchaf i'r Prif Weinidog am gyflwyno'r ddadl bwysig hon i'r Senedd heddiw i fyfyrio ar yr adroddiad blynyddol a nodi ei gynnwys. Mae'r gwelliant cyntaf, yn fy marn i, yn gwbl briodol, ac rwy'n falch o glywed am gefnogaeth y Prif Weinidog i'r gwelliant hwnnw, gan ddiolch i bawb sy'n ymwneud â'r ymdrechion eithriadol gan y Llywodraeth, ond gan y gymdeithas yn...
Andrew RT Davies: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma, ac rwyf innau hefyd eisiau diolch ar goedd i bob un o'r timau o frechwyr, a phawb sy'n ymwneud â'r cyflwyno ledled Cymru. Mae'r niferoedd wedi cynyddu wythnos ar ôl wythnos bellach, ac mae'n braf gweld cynnydd o ran y targedau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynnar yn yr ymgyrch. Ac mae'r sylw yr ydych chi'n ei wneud ynghylch 60 diwrnod...
Andrew RT Davies: Yn anffodus, yn yr ateb yna, Prif Weinidog, ni chlywais i chi yn nodi'r cynllun ar gyfer datblygu gwasanaethau fel y gallan nhw ymgysylltu â rhai o'r 3,500 o bobl hynny nad ydyn nhw wedi cael diagnosis, yn ogystal â datblygu gwasanaethau ledled Cymru i ymateb i her yr amseroedd aros a gyfeiriais atoch chi yn fy nghwestiwn cyntaf. Rydym ni'n gwybod bod amseroedd aros yn broblem cyn y...
Andrew RT Davies: Prif Weinidog, mae'n ffaith, fel y nodais yn fy sylwadau agoriadol, bod amseroedd aros yn faith ledled y Deyrnas Unedig—rwy'n derbyn hynny—ond yma yng Nghymru maen nhw'n arbennig o ddifrifol, gydag un o bob pump o bobl ar restr aros o'r boblogaeth gyfan. A lle mae fy mhryder yn dod i'r amlwg yn y fan yma yw'r brys y mae'r Llywodraeth yn ei neilltuo i hyn i gael cynllun adfer allan o...
Andrew RT Davies: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, hoffwn roi sylw i fater amseroedd aros yng Nghymru, ac rwy'n sylweddoli bod pwysau ar amseroedd aros ledled y Deyrnas Unedig ond, yng Nghymru, er enghraifft, maen nhw'n arbennig o ddifrifol, gyda 530,000 o gleifion ar restr aros i ddechrau triniaeth—yr uchaf erioed ers i ddata gael eu casglu gyntaf yn y fformat hwn ers 2011. Mae 231,000 o'r...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn dalu teyrnged i Capten Syr Tom Moore, a aned ar 30 Ebrill 1920 yng Ngorllewin Swydd Efrog. Roedd ei fam a'i dad yn rhedeg cwmni adeiladu llwyddiannus. Roedd ei dad yn fyddar a bu i'r ymdeimlad o unigrwydd a deimlai ei dad yn sgil y cyflwr hwn aros gyda Syr Tom a dod yn un o'r achosion a hyrwyddodd drwy gydol ei oes. Priododd ei ail wraig Pamela ym 1968 a chawsant...
Andrew RT Davies: Weinidog, mae gwasanaethau cyhoeddus ledled Canol De Cymru yn dibynnu ar gyllidebau blynyddol sydd i'w gosod, ac ar hyn o bryd—. Ac rwy'n datgan buddiant, fel aelod o awdurdod lleol, awdurdod lleol Bro Morgannwg. Ar hyn o bryd, mae cynghorau ac awdurdodau’r heddlu yn gosod cyfraddau eu cyllidebau. Gosododd y comisiynydd heddlu a throseddu gyfradd ddangosol o gynnydd o 5.5 y cant, a...
Andrew RT Davies: Diolch.
Andrew RT Davies: Do, fe wnaethoch chi, Llywydd. Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rheolwr busnes, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd, os gwelwch yn dda, ynglŷn â'r amrywiolion newydd sy'n cael eu nodi ar hyn o bryd ledled y Deyrnas Unedig? Rwy'n sylweddoli bod datganiad brechu yn ddiweddarach y prynhawn yma, ond nid wyf i'n credu ei bod yn briodol cymysgu'r ddau, a bod yn onest â chi, a byddai...
Andrew RT Davies: Gyda pharch, Prif Weinidog, byddwn yn cytuno â chi bod un digwyddiad llygredd yn ormod, ac fel rhywun sy'n ymwneud â'r diwydiant amaethyddol, rwyf i eisiau gweld diwydiant sydd mor lân â phosibl. Ond rwyf am fynd yn ôl at y pwynt yr wyf i wedi ei ddweud wrthych chi; rwyf i wedi cynnig enghreifftiau i chi lle mae'r Gweinidog wedi dweud ar goedd na fyddai'r rheoliadau Parth Perygl Nitradau...
Andrew RT Davies: Byddwn yn cytuno â'ch asesiad, Prif Weinidog; mae rhywfaint o oleuni ym mhen draw'r twnnel gyda rhai o'r rhifau sy'n symud i'r cyfeiriad iawn erbyn hyn, ond mae gennym ni ffordd faith iawn o hyd i fynd gyda'r pandemig hwn, ac mae'n iawn ein bod ni'n cadw at y cyfyngiadau a'n bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu wrth i ni fynd i mewn i'r gwanwyn. Yr hyn sy'n fy mhoeni i'n fawr yw pan fydd...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd, a gyda'ch caniatâd, hoffwn gofnodi bod ein meddyliau a'n gweddïau gyda theuluoedd y tri physgotwr sy'n dal i fod ar goll oddi ar arfordir y gogledd, a'n diolch i'r timau chwilio ac achub sydd wedi bod allan yn ddiflino yn ceisio rhoi rhywfaint o gysur i'r teuluoedd hynny wrth geisio chwilio am eu hanwyliaid. Rwy'n siŵr bod meddyliau a gweddïau'r holl Aelodau gyda...
Andrew RT Davies: Wel, unwaith eto, nid yw'r Prif Weinidog yn edrych ar y ffeithiau sydd ger ei fron. Mae popeth yr wyf i wedi ei ddyfynnu iddo heddiw yn ffeithiau—am ymrwymiad y Llywodraeth ei hun i frechu oddeutu 70 y cant o bobl dros 80 oed erbyn diwedd yr wythnos; y ffaith fod y feddygfa honno yn y Barri wedi nodi bod 350 o bobl dros 80 wedi'u cofrestru â nhw a dim ond 50 sydd wedi cael y pigiadau; y...
Andrew RT Davies: Dydych chi ddim wedi cyflawni eich ymrwymiad, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, dywedasoch yn hollol eglur, a dywedodd eich Gweinidog iechyd yn hollol eglur—gwybodaeth a gynigiwyd gennych chi fel Llywodraeth oedd honno—y byddai pawb dros 80 oed, 70 y cant o'r garfan honno, yn cael eu brechu erbyn diwedd yr wythnos. Clywais yn uchel ac yn eglur beth oedd yr ymateb, ond ni wnaethoch chi...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, roedd llawer o bwyslais yr wythnos diwethaf ar y targed o frechu 70 y cant o bobl dros 80 oed. Clywais eich ymateb i gwestiwn cynharach y prynhawn yma, ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dros ben ein bod ni'n gwybod yn eglur pa un a ydych chi wedi cyflawni'r targed hwnnw ai peidio. Dywedasoch yr wythnos diwethaf y bydd gennych chi wybodaeth o ddydd i ddydd yn...
Andrew RT Davies: Diolch am eich ateb, Weinidog, ac os gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni yn rheolaidd ar y ffigurau hyn wrth i'r broses o gyflwyno'r brechlyn yma yng Nghymru fynd rhagddi, gan eu bod yn eithaf brawychus—72 y cant ym mhapurau’r Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau. Felly, credaf ei bod yn bwysig ein bod yn ceisio tawelu unrhyw ofnau a allai fod yn treiddio i'r cymunedau hynny gan...
Andrew RT Davies: Diolch am eich ateb, Weinidog. Hoffwn gadarnhau: roeddwn yn sôn am frechlyn AstraZeneca, nid yr oedi tra hysbys—