Sioned Williams: Yng Nghymru a Lloegr, mae'r heddlu naw gwaith yn fwy tebygol o ddefnyddio eu grymoedd stop and search a bron wyth gwaith yn fwy tebygol o ddefnyddio tasers ar bobl ddu, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig nag ar bobl wyn. Mae canran y bobl ddu yng ngharchardai Cymru yn uwch na'r ganran yn y boblogaeth Gymreig. Ac yn ôl arolwg Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, mae canran uwch o bobl ddu,...
Sioned Williams: Rwy'n gobeithio ein bod ni oll yn cydsefyll gyda dioddefwyr hiliaeth, ond mae lle inni fod yn gwneud llawer mwy i daclo troseddau casineb. Yn ôl ffigurau'r Llywodraeth ei hun yn 2020-21, bu cynnydd o 16 y cant mewn troseddau casineb o'r flwyddyn flaenorol, ac roedd 66 y cant o'r troseddau casineb hyn yn droseddau casineb hiliol. Mae hyn yn gyson â thueddiad cyffredinol o gynnydd, flwyddyn i...
Sioned Williams: Fel yr ydym wedi ei glywed heddiw, rydym ni wedi cael y ddadl hon yn y Siambr dair blynedd yn olynol, pan fu'r cynnig wedi ei eirio yn debyg iawn, ond eto mae troseddau casineb hiliol yn dal i gynyddu. Sut mae'r Llywodraeth yn gyfrifol am hyn? Rydym ni, wrth gwrs, yn croesawu'r cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol, ond beth sy'n mynd o'i le yma? Mae angen i ni ei wynebu.
Sioned Williams: Mae hanes pobl dduon yn rhan annatod o hanes Cymru. Mae agweddau i'w dathlu, er enghraifft cyfieithu naratifau caethweision John Marrant, Moses Roper a Josiah Henson i'r Gymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a daniodd angerdd diddymu radicalaidd y Cymry; y cysylltiadau â Paul Robeson, a wnaeth ddadlau ei fod yn dyst i undod pobl sy'n gweithio o bob hil yng Nghymru; a'r myrdd o...
Sioned Williams: Rwy'n falch iawn fod Plaid Cymru yn cydgyflwyno'r cynnig pwysig hwn heddiw. Wrth i ni drafod y cynnig, rydym hefyd wrth gwrs yn nodi Mis Hanes Pobl Dduon, mis sy'n dathlu ffigyrau du pwysig yn ein hanes, yn ogystal â nodi mor greiddiol yw profiad a thystiolaeth pobl ddu i'n diwylliant, hanes sy'n bwysig drwy'r flwyddyn, wrth reswm.
Sioned Williams: Weinidog, os ydym am wella sefyllfa economaidd pobl Gorllewin De Cymru, mae angen inni daclo'r lefelau uchel ac annheg o drethi cyngor mewn awdurdodau lleol a mynd i'r afael â'r broblem gynyddol o ôl-ddyledion trethi cyngor. Mae cyngor Castell-nedd Port Talbot yn gyson yn pennu un o'r lefelau uchaf o'r dreth gyngor yng Nghymru. Dyw preswylwyr ddim yn gallu deall pam mae e'n costio cymaint...
Sioned Williams: Mae adroddiad blynyddol y comisiynydd plant yn nodi bod grwpiau o blant yn wynebu anghydraddoldeb ar hyn o bryd oherwydd amrywiaeth o ffactorau, ond hoffwn ganolbwyntio ar effaith tlodi. Rwy'n croesawu yr adroddiad hwn, ac anogaf Lywodraeth Cymru i ystyried ei hargymhellion gyda'r ymdeimlad o frys a awgrymir, yn enwedig o ran ehangu cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim. O ystyried...
Sioned Williams: Diolch, Weinidog, a diolch, Llywydd, am dderbyn y cwestiwn amserol pwysig hwn.
Sioned Williams: Daw’r ychwanegiad o £20 at y credyd cynhwysol i ben heddiw. Bydd y penderfyniad creulon hwn gan Lywodraeth Dorïaidd ddideimlad yn San Steffan yn effeithio ar dros 275,000 o aelwydydd tlotaf Cymru. Mae hynny'n un o bob pum cartref. Yn ôl Sefydliad Bevan, bydd yr effaith yn waeth ar deuluoedd Cymru, gan fod cyfran uwch o deuluoedd yma yn hawlio credyd cynhwysol neu gredyd treth gwaith. Ac...
Sioned Williams: Weinidog, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â thad disgybl ag anghenion dysgu ychwanegol sydd wedi colli gwerth misoedd o'i addysg a'i ddatblygiad hollbwysig yn ystod y pandemig wrth gwrs, ac yn wahanol i'w blant eraill, ni fu cyfle i barhau ag addysg arbenigol iawn ei fab gartref. Nid yw'r awdurdod lleol wedi cynnig unrhyw hyfforddiant i rieni wneud hyn y tu allan i oriau gwaith arferol. A gaf...
Sioned Williams: 1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i liniaru effeithiau penderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu y cynnydd mewn credyd cynhwysol o heddiw ymlaen? TQ569
Sioned Williams: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ynghylch tlodi tanwydd yng Ngorllewin De Cymru?
Sioned Williams: Pan ges i fy ethol, fe ddwedais wrth Beti George, a gollodd ei gwr, David Parry-Jones, i dementia, y byddwn yn gwneud popeth posib i wella cefnogaeth i bobl fel hi a’i gwr. ‘Digon o siarad wedi bod yn y Senedd, Sioned’, meddai hi, ‘Mae angen gweithredu.’
Sioned Williams: Oherwydd natur gymhleth dementia, mae angen mawr am ddata hirdymor o ansawdd, ac felly rwy'n falch o gefnogi'r alwad yn y cynnig i Lywodraeth Cymru sefydlu arsyllfa ddata dementia genedlaethol i wella'r gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau dementia. Fel cyn-aelod o staff, rwy'n falch fod Prifysgol Abertawe yn fy rhanbarth yn chwarae rhan allweddol mewn ymchwil dementia amlddisgyblaethol...
Sioned Williams: Rwy'n falch o gael y cyfle i gyfrannu i’r ddadl heddiw, ac rwy’n diolch i’m cyd-Aelod Plaid Cymru dros Orllewin De Cymru, Luke Fletcher, am godi’r mater pwysig hwn am yr angen i ddatblygu a gwella dulliau diagnostig ac ariannu cymorth er mwyn cefnogi’r degau o filoedd o bobl yng Nghymru sydd wedi’i heffeithio gan bob math o ddementia. Rwy’n dweud degau o filoedd, achos fel rŷn...
Sioned Williams: A gaf fi ddiolch i Joyce Watson am godi'r mater hwn inni allu siarad amdano yn y Senedd? Ac wrth gwrs, codais fater yr angen i gryfhau’r strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn y Senedd ddoe yng ngoleuni llofruddiaeth erchyll Sabina Nessa. Ac rwy'n falch fod y Gweinidog wedi cyhoeddi datganiad yn ddiweddarach brynhawn ddoe yn nodi bod y Llywodraeth wedi...
Sioned Williams: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch amodau a thelerau gwaith yng Ngorllewin De Cymru?
Sioned Williams: Drefnydd, mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel mewn mannau cyhoeddus, boed hynny ar drafnidiaeth gyhoeddus, wrth gerdded ar y stryd, neu mewn unrhyw fan arall. Ond, yn anffodus, dro ar ôl tro, rydym ni'n clywed am achosion o drais gwrywaidd yn erbyn menywod yn y mannau hyn. Rydym ni oll, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r hyn ddigwyddodd yn Llundain i Sabina Nessa, athrawes 28 oed a gafodd ei...
Sioned Williams: Mae ymateb i'r argyfwng hinsawdd yn gofyn am ail-lunio ein system economaidd mewn pob math o ffyrdd. Mae'n rhaid i'r byd gwaith fod wrth galon yr economi sero carbon ac mae oriau gwaith a sut rydyn ni'n diffinio gwaith yn greiddiol i hynny. Er mwyn sicrhau bod gan bawb lais wrth ffurfio'r gymdeithas gynaliadwy y mae'n rhaid inni ei chyd-greu, rhaid sicrhau bod pawb yn cael eu hymrymuso ac yn...
Sioned Williams: Gadewch inni fod yn glir, nid yw'r wythnos waith pedwar diwrnod yn ffordd o ddatrys yr holl anghydraddoldebau hyn. Mae angen i'n dealltwriaeth o waith yn ei gyfanrwydd newid, ac mae hyn yn gyraeddadwy yn fy marn i. Mae'r modd y gwnaethom dderbyn arferion gwaith newydd radical mewn cyfnod mor fyr yn dangos hyn. Nid gwaith cyflogedig yw'r unig faes sydd angen ei ailddychmygu, ond byddai'r cyfle...