Sam Rowlands: Diolch yn fawr iawn am eich ymateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, ddechrau mis Gorffennaf, galwodd arweinwyr 22 awdurdod lleol Cymru ar Lywodraeth Cymru i adolygu pwerau a chylch gwaith y corff cyhoeddus sy'n gyfrifol am ofalu am yr amgylchedd yma yng Nghymru—Cyfoeth Naturiol Cymru. Ac fel y gwyddoch, cododd fy nghyd-Aelod, Janet Finch-Saunders, y mater hwn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ym...
Sam Rowlands: Diolch, Lywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Sut y byddech yn disgrifio'r berthynas sydd gan gynghorau â Cyfoeth Naturiol Cymru ar hyn o bryd?
Sam Rowlands: Diolch, Gweinidog, am ddod â'r datganiad heddiw. Rwy'n credu bod llawer o'r pwyntiau yr oeddwn i'n mynd i'w codi gyda chi, mae'n debyg, wedi cael eu gofyn a'u hateb eisoes y prynhawn yma, ond fe hoffwn i gydnabod y gwaith eithriadol sydd wedi cael ei wneud gan ein personél ni yn y lluoedd arfog wrth gefnogi'r rhai sy'n ffoi rhag erledigaeth yn Affganistan, ynghyd ag asiantaethau'r...
Sam Rowlands: Diolch, Prif Weinidog, am eich ateb. Rydym ni i gyd yn gwybod pa mor bwysig yw bargen twf gogledd Cymru i'r rhanbarth. Hoffwn i groesawu'r gwaith ar draws Llywodraethau, gydag awdurdodau lleol a chyrff eraill, i weld y cynnydd hwn yr ydym ni i gyd yn dymuno ei weld ar gyfer y rhanbarth. Un o'r prosiectau, a phrosiect pwysig ymysg llawer, yw prosiect i ddatblygu'r porthladd yng Nghaergybi...
Sam Rowlands: 7. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o gynnydd bargen twf Gogledd Cymru? OQ56839
Sam Rowlands: Diolch am eich ymateb, Weinidog, ac fel y gwyddoch mae dysgu yn yr awyr agored yn rhan bwysig o'r ddarpariaeth addysg, a gall fod yn wych i ddysgwyr o bob gallu ac oedran, ac o fudd iddynt mewn cynifer o wahanol ffyrdd, ac wrth gwrs, mae gan ogledd Cymru rai o'r canolfannau addysg awyr agored gorau yn y wlad. Fodd bynnag, drwy gydol COVID-19, nid yw wedi bod yn bosibl cael mynediad at y...
Sam Rowlands: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae eich asesiad o'r angen am dai yng ngogledd Cymru yn datgan y dylid adeiladu tua 1,600 o gartrefi bob blwyddyn yn y rhanbarth am yr 20 mlynedd nesaf. Ar hyn o bryd, mae'r nifer datblygu hwnnw oddeutu 1,200 o gartrefi y flwyddyn. Felly, mae bwlch eithaf sylweddol rhwng yr hyn sydd ei angen a'r hyn sy'n cael ei adeiladu. Fel y byddwch hefyd yn...
Sam Rowlands: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am flaenoriaethau tai Llywodraeth Cymru ar gyfer Gogledd Cymru? OQ56779
Sam Rowlands: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg yng Ngogledd Cymru? OQ56780
Sam Rowlands: Diolch am y cyfle i drafod paratoadau o ran y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf fwy neu lai. Mae hon yn ddadl amserol, ac mae'n amlwg yn un eithriadol o bwysig wrth i ni ddod allan o bandemig COVID-19, a hoffwn i droi fy nghyfraniad at lywodraeth leol, a'r swyddogaeth a'r chyfle i gefnogi cynghorau yn briodol. Ond ar yr adeg hon, rwy'n atgoffa'r Aelodau o'm diddordeb fel aelod...
Sam Rowlands: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Rwy'n sicr yn croesawu'r buddsoddiad hwnnw yn yr ysgol feddygol ym Mangor. Rwy'n siŵr y byddech chithau hefyd yn cytuno bod cael y cyfleusterau iawn ledled y rhanbarth a'r wlad yn ffactor pwysig o ran sicrhau bod gofal iechyd o ansawdd da yn cael ei ddarparu. Ac wrth edrych ar y buddsoddiad mewn cyfleusterau dros y pum mlynedd diwethaf, mae bwlch sylweddol...
Sam Rowlands: 8. Pa gamau y mae'r Prif Weinidog yn eu cymryd i wella gwasanaethau iechyd yng Ngogledd Cymru? OQ56795
Sam Rowlands: Diolch am gyflwyno'r ddadl heddiw, Mr Hefin David. Fel y gwyddom i gyd, ac fel sydd wedi'i amlinellu eisoes, mae'r diwydiant twristiaeth yn hanfodol i ffyniant economaidd Cymru. I mi yng ngogledd Cymru ac i'r rhanbarth rwy'n ei gynrychioli, mae'n cyflogi tua 40,000 o bobl, yn cyfrannu tua £3.5 biliwn y flwyddyn i'r economi leol ac fel y cyfryw, mae'r ffocws trawsbleidiol a'r gefnogaeth i'r...
Sam Rowlands: Diolch am eich sylwadau hyd yma, Ddirprwy Weinidog. A gaf fi ychwanegu fy nghefnogaeth i'r Aelod dysgedig dros Ganol De Cymru mewn perthynas ag ymweliadau â chartrefi gofal hefyd? Mae'n sicr yn brofiad rhwystredig i lawer o unigolion ar hyn o bryd. Weinidog, yn ystod y pandemig, rydym wedi gweld pwysigrwydd a gwaith anhygoel llawer o weithwyr gofal, sydd wedi mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n...
Sam Rowlands: Diolch am eich ymateb i gwestiynau gan yr Aelod dros Alun a Glannau Dyfrdwy, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae Alun a Glannau Dyfrdwy yn lleoliad strategol yng ngogledd Cymru, gyda'i ffin a chysylltiadau trafnidiaeth pwysig â gogledd-orllewin Lloegr. Mae llawer o fusnesau yn etholaeth Mr Sargeant, ac ar draws gogledd Cymru, yn dibynnu'n fawr ar gydweithredu trawsffiniol cryf, ac er mwyn sicrhau...
Sam Rowlands: Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heno, yn awr. Rwy'n credu bod rhai o fy sylwadau, mae'n debyg, yn dilyn o'r hyn, ac yn debyg i'r hyn yr oedd yr Aelod dros Gaerdydd Canolog yn cyfeirio ato yn y fan yna, o ran y dull cenedlaethol o ymdrin â rhai o hyn. Wrth gwrs, mae eich datganiad yn dilyn o'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, ac yn y crynodeb o'r ymatebion a gafodd ei gyhoeddi,...
Sam Rowlands: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y ddarpariaeth o wasanaethau deintyddol yng Ngogledd Cymru?
Sam Rowlands: Diolch i chi am eich ateb, Lywydd. Fel un o'r Aelodau newydd o'r Senedd hon, roedd yn ymddangos i mi fod diffyg cysylltiad braidd rhwng rhai o'r cynigion newydd roedd y Comisiwn yn eu cyflwyno mewn rheolau a newidiadau i reolau yn ein gwaith, a'r hyn roedd Aelodau'n ei geisio mewn gwirionedd. Felly, rwy'n meddwl tybed, gyda threfniadau cyfarfod ac amserlen ar waith, sut y byddwch yn...
Sam Rowlands: Diolch ichi am eich ymatebion hyd yn hyn i'r pwyntiau hyn, Weinidog. Yn amlwg, mae rhai cymunedau'n chwilio am fanciau cymunedol yn eu hardaloedd. Roeddwn yn meddwl tybed sut rydych yn blaenoriaethu pa drefi a chymunedau a fyddai â banc cymunedol ynddynt.
Sam Rowlands: 6. A wnaiff y Comisiwn gadarnhau ei drefniadau ar gyfer cwrdd yn ystod y tymor sydd i ddod? OQ56705