Samuel Kurtz: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i reoleiddio bridio cŵn yng Nghymru? OQ56814
Samuel Kurtz: Brif Weinidog, a gaf fi groesawu'r cyhoeddiad heddiw, ond rwyf am ofyn am rywfaint o eglurhad yn dilyn eich datganiad a'ch sylw ar eich cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â'r ffaith nad oes unrhyw gyfyngiadau ar nifer y bobl a all gwrdd yn yr awyr agored, a hynny heb gadw pellter cymdeithasol? A yw hyn yn golygu y gellir rhoi'r golau gwyrdd i ddigwyddiadau, megis digwyddiad poblogaidd Ironman...
Samuel Kurtz: Mae papur ymchwil Cymru ar berchnogaeth ail gartrefi a gyhoeddwyd ddoe yn datgan, ac rwy'n dyfynnu: 'Fodd bynnag, prin yw’r dystiolaeth gadarn sy’n rhoi sylw i effaith ail gartrefi ar gynaliadwyedd a chydlyniant cymunedol, gan gynnwys er enghraifft yr effaith ar yr iaith Gymraeg a’i diwylliant'. O gofio bod ymgynghoriad ar y cynllun tai mewn cymunedau Cymraeg wedi'i drefnu ar gyfer yr...
Samuel Kurtz: Rwy'n croesawu'r cyfle i godi, yn ystod y ddadl heddiw, bwysigrwydd y cynllun taliadau sylfaenol wrth gefnogi ffermwyr yng Nghymru sy'n gweithio'n galed a'r angen iddo gael ei ddiogelu yng nghyllideb 2022-23. Mae'r cynllun talu sylfaenol, y BPS, yn rhan annatod o ddiwydiant ffermio Cymru, gan gefnogi ffermwyr i gynhyrchu cynnyrch o safon mewn modd cynaliadwy. Rwy'n croesawu sylwadau...
Samuel Kurtz: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gwnaf i ddechrau gan ddiolch i'r Gweinidog am gopi ymlaen llaw o'r datganiad heddiw. Rwy'r croesawu'r gwaith y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i ddiogelu a datblygu'r Gymraeg ar gyfer y genhedlaeth nesaf. Fel rhywun a gafodd ei fagu yng nghefn gwlad sir Benfro, gydag addysg drwy ysgol ddwyieithog, ac sy'n ystyried fy hun yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf sydd bach yn...
Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Wrth grynhoi'r ddadl hon, hoffwn ddiolch yn gyntaf i'm holl gyd-Aelodau am y cyfraniadau pwysig a diddorol y maent wedi'u gwneud, a chanmol fy nghyd-Aelod o dde-ddwyrain Cymru am arwain y ddadl hon. Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ymateb. Seilwaith trafnidiaeth effeithiol, cydgysylltiedig ac integredig yw'r hyn y mae pobl Cymru nid yn unig yn ei haeddu, ond dyna hefyd sydd...
Samuel Kurtz: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau'r stryd fawr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro?
Samuel Kurtz: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. A minnau'n rhywun sy'n cynrychioli ardal hynod ddeniadol yn y gorllewin, lle mae tai i brynwyr tro cyntaf yn brin, rwy'n croesawu'r ffaith bod hwn yn ddull tair elfen. Er nad wyf yn cytuno â phob un yn ddiamod, rwy'n falch nad yw'n bolisi gordd unigol, a allai achosi llawer mwy o niwed na lles yn y pen draw. Ni allwn ni ychwaith danbrisio'r manteision...
Samuel Kurtz: Diolch, Trefnydd. Roeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n sôn am ffordd osgoi'r A40 yn Llanddewi Felffre, ac roeddwn i'n falch o gael sicrwydd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y bydd y prosiect hwn yn mynd rhagddo, er gwaethaf cyhoeddiad y Llywodraeth fis diwethaf am yr oedi i adeiladu ffyrdd. Fodd bynnag, er bod y Dirprwy Weinidog wedi fy sicrhau ynghylch cloddwyr ar lawr gwlad, nid wyf i...
Samuel Kurtz: 4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella'r seilwaith trafnidiaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ56740
Samuel Kurtz: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle i siarad ynghylch yr hyn y mae rhai gweithredwyr yn ei ddisgrifio fel y 'sector anghofiedig', sef canolfannau addysg awyr agored preswyl Cymru. Mae'r diwydiant werth tua £40 miliwn i'r economi, gyda mwy na 1,700 o bobl yn cael eu cyflogi. Cyn COVID, roedd 44 o ganolfannau yng Nghymru, a dangosodd ffigurau ym...
Samuel Kurtz: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Ymwelais i yn ddiweddar ag Ysgol wirfoddol a reolir Cosheston yn fy etholaeth i, ble y cyfarfûm â'r pennaeth a chadeirydd y llywodraethwyr. Mae hon yn ysgol hapus, a'r disgyblion yn awyddus i ddysgu gan athrawon brwdfrydig a galluog. Fodd bynnag, codwyd pryderon gyda mi ynghylch y diffyg lle sydd ar gael, sydd wedi gwaethygu oherwydd cyfyngiadau COVID. Mae'r...
Samuel Kurtz: 1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wella cyfleusterau addysgol yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OQ56710
Samuel Kurtz: Hoffwn ddiolch i Janet Finch-Saunders am sicrhau'r ddadl bwysig hon ar y clafr, ac rwyf bob amser yn croesawu gweithgarwch yn y lle hwn sy'n tynnu sylw at yr anawsterau y mae ffermwyr Cymru yn eu hwynebu wrth iddynt fwydo'r genedl. Gwnaeth rhaglen ddiweddar Amazon Prime Clarkson's Farm waith ardderchog hefyd yn tynnu sylw at yr anawsterau y mae ffermwyr yn eu hwynebu, wrth iddi ddilyn y...
Samuel Kurtz: Diolch, ond mae'r canlyniadau negyddol ffug sy'n deillio o'r prawf croen TB buchol presennol yn dangos, os yw symud yn digwydd o dan bolisi Llywodraeth Cymru, fod y polisi'n methu yma. Cyhoeddwyd yn ddiweddar, fodd bynnag, fod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gwario'r swm enfawr o £136,000 ar eu harwydd Caerfyrddin Hollywood-aidd ar ochr y gerbytffordd A40 tua'r dwyrain gydag arian yn dod o...
Samuel Kurtz: Diolch. Un mater sy'n parhau i achosi straen a gofid i ffermwyr ledled Cymru yw TB buchol, sy'n fater y mae Gweinidogion olynol wedi methu mynd i'r afael ag ef yn iawn. Yr wythnos diwethaf, wrth ymateb i gwestiwn gan fy nghyd-Aelod Janet Finch-Saunders, rhoddodd y Prif Weinidog y bai ar ffermwyr Cymru am ledaenu TB, gan ddweud, 'y rheswm pam mae statws ardal isel wedi symud i fyny yw oherwydd...
Samuel Kurtz: Diolch, Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi longyfarch y Gweinidog ar ei hailbenodiad, ac edrychaf ymlaen at weithio tuag at Gymru wledig decach a ffyniannus? Weinidog, mewn digwyddiad yng Nghaerdydd fel rhan o Wythnos Bwyd Môr yn 2016, fe gyhoeddoch chi eich bwriad i ddyblu cynhyrchiant dyframaethu morol erbyn 2020. Gan fod cynllun morol 2019 ac adroddiad dilynol 2020 wedi methu cyfeirio at yr...
Samuel Kurtz: Mae carfan amrywiol o lywodraethwyr ysgol o amrywiaeth o gefndiroedd yn allweddol i redeg a rheoli ysgol yn effeithiol. Daw llawer o ddisgyblion sy'n mynychu cyfleusterau addysgiadol cyfrwng Cymraeg o gartrefi lle nad yw'r rhieni yn siarad Cymraeg eu hunain. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i sicrhau bod rhieni di-Gymraeg yn cael eu hannog i sefyll etholiad fel...
Samuel Kurtz: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw ar bwnc sydd wedi chwarae rhan bwysig yn fy mywyd, ac sy'n parhau i wneud hynny. O oedran cynnar iawn, rwyf wedi bod yn cymryd rhan weithredol mewn chwaraeon. Er fy mod bob amser yn frwdfrydig, ni allaf honni fy mod erioed wedi bod mor dda â hynny mewn unrhyw gamp benodol. Fodd bynnag, rwy'n hyrwyddo'n...
Samuel Kurtz: Diolch, Weinidog. Rwyf wedi cael gohebiaeth gan rieni plant ag anawsterau clyw yn fy etholaeth sydd wedi codi pryderon nad yw eu plant, oherwydd y defnydd o fasgiau, yn gallu darllen gwefusau a'u bod yn wynebu rhwystrau parhaus i'w profiad dysgu. Ynghyd â cholli amser addysg dros y 18 mis diwethaf oherwydd ymdrechion i arafu lledaeniad y pandemig, mae'r disgyblion hyn wedi profi teimlad o...