Canlyniadau 321–340 o 400 ar gyfer speaker:Peter Fox

4. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Strategaeth Sero-net ( 2 Tach 2021)

Peter Fox: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n croesawu cynllun sero-net Llywodraeth Cymru'n fras a hoffwn gofnodi fy nghefnogaeth i'r uchelgais barhaus i gyflawni sero-net yng Nghymru a'r DU erbyn 2050. Un o'r ffactorau allweddol wrth gyflawni'r cynllun hwn, fel y bydd y Gweinidog, rwy'n siŵr, yn cytuno ag ef, yw sut y caiff y nodau a geir ynddo eu hariannu. Mae hwn yn bwynt arbennig o bwysig...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 2 Tach 2021)

Peter Fox: Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan eich cyd-Aelod, y Gweinidog iechyd, am ddefnyddio pasys COVID yng Nghymru? Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi ynglŷn â phroblemau y maen nhw wedi'u hwynebu wrth geisio cael gafael ar basys papur. Yn benodol, dydyn nhw ddim wedi gallu siarad â chynghorydd i ofyn am bàs, gan nad yw'r rhif ffôn sydd wedi'i restru ar wefan Llywodraeth Cymru wedi...

10. Dadl Fer: Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru: Datblygu pobl ifanc gydwybodol yng nghefn gwlad Cymru (20 Hyd 2021)

Peter Fox: Hoffwn ddiolch i Sam Kurtz am roi munud o'i amser gwerthfawr i mi. Rwy'n teimlo fy mod ymhlith ffrindiau heddiw wrth inni sôn am y pwnc hwn sy'n ein clymu ac mae'n dangos cryfder y mudiad CFfI wrth iddo ddod â ni at ein gilydd. Mae'r mudiad hwnnw bob amser wedi bod yn rhan sylfaenol o'r gymuned wledig: fel y dywed Alun, elfen allweddol o'r gwead sy'n rhwymo popeth sy'n arbennig am fywyd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cynorthwywyr Dysgu (19 Hyd 2021)

Peter Fox: Cyn i mi ddechrau, a gaf i ddatgan buddiant, gan fod fy ngwraig wedi ei chyflogi yn gynorthwyydd addysgu? Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i gynorthwywyr addysgu, yn ogystal â holl staff ysgolion, yn sir Fynwy a thu hwnt am bopeth y maen nhw wedi ei wneud i helpu plant a phobl ifanc gyda'u dysgu drwy gydol y pandemig. Prif Weinidog, mae llwyth gwaith cynorthwywyr addysgu wedi...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Llygredd Afonydd sy'n Deillio o Amaethyddiaeth (13 Hyd 2021)

Peter Fox: Diolch am ateb cwestiwn Mike, Weinidog; mae'n ddefnyddiol iawn. Mae'r sefyllfa gyda rhai o'n hafonydd ledled Cymru yn peri pryder mawr, ac rydym yn rhannu'r pryder hwnnw. Mae angen ymdrech ar y cyd ar frys i fynd i'r afael â'r lefelau llygredd a welir ar hyn o bryd. Serch hynny, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, Weinidog, nad yw llygredd afonydd i gyd yn deillio o amaethyddiaeth, fel y...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Hyd 2021)

Peter Fox: Wel, ni allaf ddiolch i chi am hynny, Weinidog; credaf eich bod wedi osgoi ateb y cwestiwn. Mae'n gwestiwn dilys gan blaid sy'n dwyn y Llywodraeth i gyfrif. Mae'r gyllideb sydd ar y ffordd gan Lywodraeth Cymru yn un o'r rhai mwyaf arwyddocaol y byddwn yn eu gweld yn y lle hwn, ac o ystyried yr effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar bobl ledled Cymru, mae angen i hon fod yn gyllideb sy'n...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Hyd 2021)

Peter Fox: Crybwyllais hyn, Weinidog, o gofio bod Llafur Cymru, eich Llywodraeth a Phlaid Cymru wrthi'n negodi cytundeb cydweithredu ar hyn o bryd. Serch hynny, Weinidog, ni wyddom o hyd beth sydd yn y cytundeb. Beth fydd yn ei olygu i gyllideb Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr? Y cyfan a gawsom hyd yn hyn yw datganiad annelwig a gyhoeddwyd fis diwethaf gan Lywodraeth Cymru, ac ni chredaf fod hynny'n...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (13 Hyd 2021)

Peter Fox: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, a ydych yn cytuno â honiad blaenorol y Prif Weinidog fod Plaid Cymru yn credu mewn economeg fwdw a bod ganddynt arfer, ac rwy'n dyfynnu unwaith eto, o 'addo pethau i bobl yr wyf i'n gwybod nad ydyn nhw'n bosibl'?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogi Pobl sy'n Agored i Niwed (12 Hyd 2021)

Peter Fox: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Hoffwn groesawu'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo pobl agored i niwed, a hoffwn dalu teyrnged yn arbennig i'n helusennau a sefydliadau eraill yn y trydydd sector sy'n gwneud gwaith gwych i helpu ein cymunedau. Fel y byddwch chi'n gwybod, Prif Weinidog, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £500 miliwn yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogi Pobl sy'n Agored i Niwed (12 Hyd 2021)

Peter Fox: 1. Sut bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl sy'n agored i niwed dros fisoedd y gaeaf? OQ57008

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Newid Hinsawdd ( 6 Hyd 2021)

Peter Fox: Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu diwallu'r angen cynyddol ar gyfer cynhyrchu ynni ledled Cymru?

8. Dadl: Datganoli Pwerau Trethu Newydd ( 5 Hyd 2021)

Peter Fox: Diolch. Rydych chi yn llygad eich lle. Nid rhywbeth y mae Cymru yn unig wedi'i ystyried yw hyn. Edrychodd Trysorlys Seland Newydd ar hyn a daeth i'r casgliad bod y dreth yn afresymol o gymhleth i'w chynllunio, ac fe wnaethon nhw ddweud bod y comisiwn wedi awgrymu'n flaenorol y gallai treth ar dir gwag leihau'r cyflenwad tai yn y tymor hirach, a bod y dreth yn cymell perchnogion tir i adeiladu...

8. Dadl: Datganoli Pwerau Trethu Newydd ( 5 Hyd 2021)

Peter Fox: Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Hoffwn ddiolch i chi, Gweinidog, am y datganiad, ond rwy'n cwestiynu pam mae'r Llywodraeth wedi defnyddio ei hamser seneddol i gyflwyno dadl ar ddatganoli trethi ymhellach ac i achosi rhaniad arall, mae'n debyg, rhwng Cymru a Llywodraeth y DU. Unwaith eto, mae'n ymddangos ein bod yn sôn am ddatganoli, yn hytrach na...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Trafnidiaeth (29 Med 2021)

Peter Fox: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf, ni wneuthum eich clywed yn fy nghyflwyno. Rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig a gyflwynwyd gan Joel James ac rwy'n cytuno â llawer o'r hyn y mae Delyth Jewell newydd ei ddweud hefyd. Pan fydd gennych bont gyda tholl ar ei thraws, mae'n gyfyngiad ar weithgarwch economaidd. Roedd hynny'n rhybudd clir, nid gan wleidydd ond gan ddarlithydd uchel ei barch...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (29 Med 2021)

Peter Fox: Diolch ichi am hynny, Weinidog. Yr hyn sy'n amlwg yw bod y DU, Cymru yn wir, yn arweinydd byd-eang yn y diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd, a gwelwyd ymdrech wych dros y blynyddoedd diwethaf i wneud i hynny ddigwydd. Yn ddiweddar, ymwelais â'r ganolfan Catapwlt Ceisiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd yng Nghasnewydd, lle siaradais â'r prif swyddog gweithredol yno, a bwysleisiodd pa...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Rheoliadau Diogelwch yn y Gweithle (29 Med 2021)

Peter Fox: Weinidog, mae'n debyg eich bod wedi cyfeirio at y rhan fwyaf o hyn beth bynnag yn yr hyn yr ydych newydd ei ddweud, ond mae'r pandemig wedi cael effaith ddifrifol ar lawer o ddulliau gweithio confensiynol, ac un o'r dulliau hynny oedd gweithio yn y swyddfa. Mae gweithio gartref, yn ôl Cymdeithas Frenhinol Iechyd y Cyhoedd, yn cael effaith andwyol ar iechyd meddwl llawer o bobl, gyda 56 y...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Y Diwydiant Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (29 Med 2021)

Peter Fox: 7. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gryfhau'r diwydiant lled-ddargludyddion cyfansawdd yng Nghymru? OQ56923

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (21 Med 2021)

Peter Fox: Trefnydd ychydig wythnosau'n ôl, gwnes i gyfarfod â phennaeth Coleg Gwent, ac fe wnaeth e' rannu stori eithaf dirdynnol gyda mi—wel, nid stori, ffaith—bod un o'i fyfyrwyr marchogaeth wedi cael damwain wael, a bod, o bosibl, anafiadau i'r asgwrn cefn ganddi, ac, o ganlyniad, dywedodd y gwasanaethau brys na ddylai hi gael ei symud tan iddyn nhw gyrraedd yno. Ar ôl ffonio bob 20 munud, am...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (21 Med 2021)

Peter Fox: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag amseroedd aros ambiwlansys yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan?

8. Dadl Fer: Byddwn yn eu cofio: Pam y mae'n rhaid inni warchod cofebion rhyfel Cymru (15 Med 2021)

Peter Fox: Rwy'n falch iawn o gael cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon, ac rwy'n diolch yn ddiffuant i Paul Davies am roi'r amser i mi. Rwy'n gwybod bod Paul yn teimlo'n angerddol iawn ynglŷn â hyn, fel y mae llawer ohonom. Mae'n fater pwysig, un sy'n croesi'r holl linellau pleidiol. Rhaid inni beidio byth ag anghofio'r bobl sydd wedi gwasanaethu ac wedi gwneud yr aberth eithaf ar ein rhan. Mae...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.