I want to write to Gareth Davies
Gareth Davies: Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma ar fater pwysig a pherthnasol iawn. Ar wahân i rai ar gyrion cymdeithas, nid oes neb ar y blaned hon sy'n gallu gwadu'r trychinebau sy'n ein hwynebu, o'r newid hinsawdd sy'n bygwth digwyddiadau tywydd eithafol yn rheolaidd, fel y llifogydd dinistriol yn fy etholaeth ar ddechrau'r flwyddyn hon, i'r dirywiad enfawr ym myd...
Gareth Davies: Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw, Weinidog, ond mae gennyf bryderon sy'n ymestyn y tu hwnt i'r argyfwng presennol mewn perthynas ag amseroedd ymateb ambiwlansys. Yr wythnos ddiwethaf, cafwyd ymosodiad llosgi bwriadol yng Nghlwb Pêl-droed y Rhyl ar yr un pryd ag y cafwyd tân mewn gwesty ym Mhrestatyn. Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod dan bwysau wrth orfod ymdrin â'r...
Gareth Davies: 9. Pa ystyriaeth y mae pwyllgor Cabinet gogledd Cymru wedi'i rhoi i ddarparu gwasanaethau brys yng gogledd Cymru? OQ57011
Gareth Davies: Noswaith dda, pawb. Hoffwn ddiolch i'r comisiynydd plant a'i staff am eu gwaith parhaus i ddiogelu hawliau plant Cymru, ac am yr ymroddiad y maen nhw wedi'i ddangos drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf. Fodd bynnag, mae gennyf broblem gyda'r safbwynt a gymerwyd dros ddarparwyr gofal annibynnol. Mae'r sector preifat yn darparu wyth o bob 10 lleoliad ar gyfer plant mewn gofal. O ystyried y twll du...
Gareth Davies: Mae'r ddadl yn ymwneud â'r cerbyd ei hun. Os ydym yn gwella ansawdd y cerbydau o ddiesel a phetrol i drydan ar nifer cynyddol o ffyrdd, dyna'r pwynt rwy'n ei wneud, yn hytrach na'r ffyrdd presennol gyda cheir diesel.
Gareth Davies: Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Nid cynlluniau codi tâl am ddefnyddio ffyrdd yw'r ateb i dagfeydd, na'r llygredd aer a grëwyd o ganlyniad i draffig llonydd. Clywsom Aelodau'n cwyno am yr anhrefn traffig dyddiol ar hyd rhannau o'r M4 yn ne Cymru. I lawer o fy etholwyr yn Nyffryn Clwyd, mae diflastod tagfeydd ar yr A55 yr un mor rhwystredig ac yn rhwystr i dwf. Mae'r...
Gareth Davies: Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Siân Gwenllian am dynnu sylw'r Gweinidog at y pwnc hwn y prynhawn yma, gan fy mod yn dymuno canolbwyntio ar fy etholaeth yn Nyffryn Clwyd yn sir Ddinbych, lle hyd yn oed heddiw rydym wedi cael ysgol yn cau oherwydd achosion o COVID, gan darfu'n fawr ar addysg plant. Rwy'n meddwl tybed—. Wel, mae'n ddrwg gennyf, hoffwn ganolbwyntio ar ardaloedd gwledig a pha...
Gareth Davies: Mae gan fy etholwyr i, fel llawer o bobl yn y gogledd-ddwyrain, gysylltiadau agosach â Chaer, Lerpwl, a Manceinion na'r rhai sydd ganddyn nhw â Chaerdydd. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda meiri metro yng ngogledd-orllewin Lloegr i gyflawni nodau cyffredin a hyrwyddo cydwasanaethau? Mae materion trawsffiniol yn peri pryder arbennig yn Nyffryn Clwyd, felly sut mae Llywodraeth Cymru...
Gareth Davies: Diolch, Luke. Ar y pwynt hwnnw'n unig, ni fyddai'r galw am wasanaethau, a'r hyn sydd ei angen ar gleifion o fewn y sector gofal, yn gydnaws ag wythnos pedwar diwrnod beth bynnag. Ym maes gofal cymdeithasol, rydym yn ymdrin â rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, sy'n galw am y gofal 24 awr saith diwrnod yr wythnos na fyddai wythnos pedwar diwrnod yn ei hwyluso.
Gareth Davies: Gwnaf, fe ildiaf.
Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn am eich sylw crafog ynglŷn ag undeb, Jack. Nid wyf yn aelod o undeb, ac nid wyf yn arbennig o awyddus i fod, yn anffodus. Ond efallai mai dyma gynllun mawreddog Plaid Cymru; efallai eu bod am dwyllo'r cyhoedd yng Nghymru i gredu y gallent weithio diwrnod yn llai am yr un cyflog, ond mai dim ond Cymru annibynnol yn cael ei harwain gan Blaid Cymru a allai gyflawni hynny....
Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Er nad wyf yn cytuno â hi, credaf ei bod yn bwysig cyflwyno pob agwedd ar y ddadl. Ynghanol pandemig byd-eang, argyfwng ynni Ewropeaidd a phrinder bwyd byd-eang, heb sôn am broblemau iechyd a gofal yn y wlad hon, rwy'n credu ei bod yn ddiddorol fod Plaid Cymru wedi dewis y ddadl hon ar rinweddau arbrawf...
Gareth Davies: Diolch yn fawr am yr ymyriad, Altaf. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedoch yn eich rhan chi o'r ddadl pan sonioch chi am ddiagnosteg ar y safle a gwell hyfforddiant. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sy'n sicr yn werth edrych arno yn y dyfodol. Cyfaddefodd y Gweinidog iechyd yn ddiweddar na ellir rhyddhau cleifion oherwydd natur fregus y sector gofal. Gwyddom fod o leiaf 1,000 o bobl yn yr ysbyty...
Gareth Davies: Wrth gwrs.
Gareth Davies: Wel, diolch yn fawr am eich ymyriad, Mike, ac rwy'n cytuno bod niferoedd uchel mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn gyffredin. Credaf i Mark Isherwood sôn yn gynharach fod lle yn ffactor, ac mewn cyfraniadau eraill, a'r posibilrwydd o ddefnyddio ysbytai Nightingale a chyfleusterau eraill. Ac mae hynny, efallai, yn rhywbeth y gellir mynd i'r afael ag ef yn y dyfodol. Mae'r Gweinidog...
Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, ac rwy'n golygu hynny o ddifrif. Dyma'r tro cyntaf, fel Aelod cymharol newydd ac yn fy amser byr, y gallwch glywed pin yn cwympo yn y Siambr hon y prynhawn yma, a chredaf fod hynny'n dangos difrifoldeb yr hyn y siaradwn amdano heddiw. Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i...
Gareth Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Eleni, rydym yn dathlu hanner canmlwyddiant llwybr Clawdd Offa. Mae'r llwybr cenedlaethol hanesyddol hwn yn ymestyn o fy nhref enedigol, Prestatyn, drwy gefn gwlad hardd Dyffryn Clwyd, i fyny i ardal o harddwch naturiol eithriadol Bryniau Clwyd, cyn troelli tua'r de. Ar ei daith 177 milltir i Gas-gwent, mae llwybr Clawdd Offa yn croesi ffin Cymru a Lloegr...
Gareth Davies: Diolch, Gomisiynydd. Mae'r ffaith ein bod yn dal i weithredu yn y Siambr ar hanner capasiti yn ddisynnwyr yn fy marn i. Rydym yn disgwyl i'n plant fynd i'r ysgol ac yn briodol felly am ei bod yn niweidiol dal ati i'w tynnu allan. Diolch i raglen frechu wych, rydym wedi effeithio'n ddifrifol ar allu'r feirws i achosi salwch difrifol a marwolaeth. Rydym i gyd wedi cael ein brechu'n llawn, felly...
Gareth Davies: 1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gynlluniau i alluogi pob Aelod i fynychu ystâd y Senedd i gymryd rhan ym musnes y Senedd? OQ56865
Gareth Davies: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cynhwysiant digidol yn Nyffryn Clwyd?