Canlyniadau 321–340 o 800 ar gyfer speaker:Delyth Jewell

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 5 Hyd 2021)

Delyth Jewell: Wrth i ni nesáu at COP26, hoffwn i gael datganiad ynghylch yr hyn y bydd y Llywodraeth yn ei wneud i ymdrin â'r pryder hinsawdd y mae nifer cynyddol o bobl ifanc yn ei deimlo. Arweiniais i ddadl ar y mater hwn ym mis Mehefin, Trefnydd, ac rwyf i'n awyddus iawn i ni weld cynnydd. Gwnaeth astudiaeth gan Brifysgol Caerfaddon ddarganfod bod 56 y cant o bobl ifanc yn credu ei bod hi ar ben ar...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Trafnidiaeth (29 Med 2021)

Delyth Jewell: Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n symud y gwelliannau hynny. 

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Trafnidiaeth (29 Med 2021)

Delyth Jewell: Pan ddatganodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd yn 2019, roedd llawer ohonom yn disgwyl gweld gweithredu radical, ac mewn rhai meysydd polisi rydym wedi gweld uchelgais cryf mewn perthynas â chartrefi, ynni, coedwigaeth—mae'r rhestr yn parhau—i gyd wedi'i glymu gyda'i gilydd gan darged sero-net beiddgar ar gyfer 2050, ond gwyddom i gyd fod angen uchelgais mwy radical, a mwy o...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Dementia (29 Med 2021)

Delyth Jewell: Mae'r meddwl dynol yn beth gwerthfawr a bregus. Rydym yn byw gyda'n hatgofion a phan gânt eu dwyn oddi wrthym a chyflwr fel dementia yn gafael, gall fod yn greulon ac yn wanychol. Fel y clywsom, amcangyfrifir bod 50,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda dementia, ond mae'n effeithio nid yn unig ar unigolion, ond ar deuluoedd cyfan sy'n gorfod ymdopi â galar a cholled bob dydd, er bod eu...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Gwasanaeth Ambiwlans (29 Med 2021)

Delyth Jewell: Mae amseroedd aros ambiwlansys yn y de-ddwyrain yn destun pryder mawr, Weinidog, a chaiff hyn ei ddwysáu gan amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys. Mae ffigurau a ryddhawyd yr wythnos hon yn dangos mai ysbyty'r Faenor yng Nghwmbrân sydd wedi perfformio waethaf, yn anffodus, o bob ysbyty yng Nghymru, gyda dim ond pedwar o bob 10 claf yn cael eu gweld o fewn pedair awr yno. Mae...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Rheoliadau Diogelwch yn y Gweithle (29 Med 2021)

Delyth Jewell: Diolch am eich ateb cychwynnol, Weinidog. Cefais lythyr gan undeb y Gwasanaethau Cyhoeddus a Masnachol yn mynegi, ac rwy'n dyfynnu, 'pryderon gwirioneddol ynghylch diogelwch yn cael ei beryglu gan reolwyr yr Adran Gwaith a Phensiynau yng Nghasnewydd, gan roi staff a hawlwyr mewn perygl yng nghanolfan waith Casnewydd mewn modd byrbwyll'. Mae'r llythyr yn nodi cyfres o faterion pryderus,...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Rheoliadau Diogelwch yn y Gweithle (29 Med 2021)

Delyth Jewell: 2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch y rheoliadau diogelwch yn y gweithle y disgwylir i gyflogwyr yn Nwyrain De Cymru eu dilyn? OQ56929

6. Dadl: Defnyddio Adolygiad Llywodraeth y DU o Wariant i fynd i’r afael â diogelwch tomenni glo yng Nghymru (28 Med 2021)

Delyth Jewell: Mae ein tirweddau'n gwisgo creithiau gorffennol Cymru. Pennau pyllau, traphontydd yn dadfeilio, pontydd sy'n arwain at unman, a thomenni glo sy'n staenio ochrau ein mynyddoedd, tomenni o gyfnod o huddygl a thwrw, o danau gwyllt dan ddaear, a bywydau wedi'u claddu yn y pridd. Talodd ein Cymoedd yn hir ac yn galed am ysbail cloddio am lo, ac mae'n wallgof meddwl, Dirprwy Lywydd, na chafodd...

5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd (28 Med 2021)

Delyth Jewell: Mae Cymru a'r Senedd hon wedi cyhoeddi argyfyngau hinsawdd a natur, ond mae'r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i ategu'r brys a'r argyfyngau—mae'r llywodraethu amgylcheddol, targedau adfer natur, targedau aer glân—i gyd ar goll, Dirprwy Lywydd. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu ar y materion hyn, ac rydym ni ym Mhlaid Cymru yn credu mai'r Senedd hon yw'r corff priodol ac angenrheidiol...

4. Cwestiynau Amserol: Prisiau Nwy (22 Med 2021)

Delyth Jewell: Diolch, Weinidog, a diolch, Lywydd, am dderbyn y cwestiwn amserol hwn. Mae'r argyfwng hwn yn fyd-eang ei natur wrth gwrs, ond mae'r DU mewn sefyllfa arbennig o beryglus oherwydd cronfeydd nwy anarferol o isel, colli'r rhyng-gysylltydd IFA, gan lesteirio ein gallu i fewnforio trydan o Ewrop, a chynhyrchiant ynni gwynt ar lefel is na'r arfer. Rydym yn gweld argyfwng yn digwydd o fewn llawer o...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Y Confensiwn Cyfansoddiadol Arfaethedig (22 Med 2021)

Delyth Jewell: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Flaenau Gwent am godi'r mater pwysig yma. Mae Plaid Cymru wedi bod yn galw am gomisiwn cyfansoddiadol ers peth amser. Ein syniad ni oedd comisiwn yn ymgynghori â dinasyddion ynglŷn â'r gwahanol opsiynau cyfansoddiadol am ein dyfodol fel cenedl. Nawr, Gweinidog, dyw cylch gorchwyl comisiwn y Llywodraeth heb ei gyhoeddi eto, felly rwy'n credu bod hwn yn amser...

4. Cwestiynau Amserol: Prisiau Nwy (22 Med 2021)

Delyth Jewell: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith y cynnydd sylweddol mewn prisiau nwy a'r cynnydd cydamserol mewn prisiau ynni ar ddefnyddwyr Cymru? TQ565

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (21 Med 2021)

Delyth Jewell: Hoffwn i gael datganiad yn esbonio penderfyniad Llywodraeth Cymru i barhau i fynychu Ffair Arfau Ryngwladol Offer Amddiffyn a Diogelwch. Dywedodd y Prif Weinidog yn 2019 y byddai'n adolygu presenoldeb y Llywodraeth yn y digwyddiad hwn, ar ôl i Leanne Wood alw ei chyfranogiad yn 'wrthun', ond adroddodd y BBC yr wythnos hon y byddai Llywodraeth Cymru yn bresennol yn y digwyddiad eleni....

6. Dadl Plaid Cymru: Credyd Cynhwysol (15 Med 2021)

Delyth Jewell: Beth yw £20 yr wythnos? Nid yw'n gymaint â hynny, does bosibl? Dyna mae rhai o'r biliwnyddion yn San Steffan wedi awgrymu, ond mae £20 yn dod yn £1,040 y flwyddyn: swm enfawr i deuluoedd y mae'r pandemig ymhell o fod ar ben iddynt. A bydd y toriad hwn, fel y clywsom, yn digwydd yr wythnos ar ôl yr adeg y mae'n debygol y daw'r cynllun ffyrlo i ben ac ar adeg pan fydd costau byw'n codi....

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Treth Incwm (15 Med 2021)

Delyth Jewell: Diolch, Gweinidog. Hoffwn i ategu'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud gan Aelodau eraill heddiw, sef bod penderfyniad Llywodraeth San Steffan i godi yswiriant gwladol yn annheg oherwydd bydd yn cael effaith anghyfartal ar bobl ar incwm isel. O ran treth incwm, mae gan eich Llywodraeth chi y gallu i amrywio'r graddau o fewn y bandiau ond nid y pŵer i gyflwyno bandiau newydd. Ond mae gan...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Treth Incwm (15 Med 2021)

Delyth Jewell: 7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi treth incwm Llywodraeth Cymru? OQ56813

3. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Affganistan (14 Med 2021)

Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Diolch, Gweinidog, am y datganiad. Yn yr ymateb diweddar fe wnaethoch chi anfon llythyr ar y cyd a anfonwyd oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a minnau, ac ynddo fe wnaethoch chi nodi nifer o fanylion. A wnewch chi ddweud mwy wrthym ni am y trafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU ynghylch datblygu'r amserlen ar gyfer cynllun...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (14 Med 2021)

Delyth Jewell: Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda, ynghylch pwysigrwydd seibiant ar gyfer gofalwyr a gwasanaethau gofal dydd i bobl ag anableddau. Mae hwn yn fater yr wyf i wedi ei godi droeon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae llawer o deuluoedd yn fy rhanbarth i, yng Nghaerffili yn bennaf, nad oes ganddyn nhw'r cymorth seibiant a oedd ganddyn nhw cyn y pandemig. Nawr, rwy'n...

10. Dadl Plaid Cymru: Prydau ysgol am ddim (14 Gor 2021)

Delyth Jewell: Beth sydd ar gymdeithas i'w phlant? Mae hynny'n sicr yn un o'r cwestiynau mawr sy'n rhannu gwleidyddion. Yn fy marn i, mae gan gymdeithas a Llywodraeth gyfrifoldeb ar y cyd dros fywydau a lles plant, a bydd eraill o'r farn fod syniad o'r fath yn warthus. Yn wir, mae'n ymddangos bod rhai gwleidyddion, gwleidyddion cyfoethog, sydd wedi cael yr holl lwc yn y byd, yn meddwl y dylid cosbi plant am...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Amser Ysgol a gaiff ei Golli (14 Gor 2021)

Delyth Jewell: Gan fynd ar ôl yr union bwynt hwnnw, Weinidog, rwy'n poeni ein bod i gyd yn defnyddio'r term 'coll' pan fyddwn yn sôn am ddysgu neu brofiadau i bobl ifanc oherwydd y pandemig. Os bydd pobl ifanc yn parhau i glywed y gair 'coll' mewn perthynas â'u hunain, mae perygl y byddant yn meddwl eu bod wedi torri neu fod rhywbeth wedi mynd na ellir ei adfer, ac rwy'n credu bod y genhedlaeth hon o...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.