Peredur Owen Griffiths: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal llifogydd mewn cymunedau yn Nwyrain De Cymru?
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Llywydd. Dwi'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl hon heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid.
Peredur Owen Griffiths: Mae pwerau codi treth, gan gynnwys y gallu i greu trethi newydd, yn arfau hanfodol i lywodraethau eu defnyddio fel ffordd o godi refeniw i gefnogi gwariant ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac i ddylanwadu ar newid ymddygiad. Mae Deddf Cymru 2014 wedi datganoli pwerau cyllidol i'r Senedd am y tro cyntaf, gan gynnwys rhoi pwerau trethu i gymryd lle treth dir y dreth stamp, treth tirlenwi, yn...
Peredur Owen Griffiths: Dwi'n ddiolchgar i gael ymateb i'r datganiad heddiw.
Peredur Owen Griffiths: Mae Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol wedi'i chanmol yn rhyngwladol, ac yn gwbl briodol felly. Mae'n ddarn arloesol o ddeddfwriaeth sydd â'r potensial i drawsnewid ein gwlad er gwell. Pwy allai ddadlau â deddfwriaeth sy'n ymgorffori saith nod llesiant trawsbynciol o ffyniant, cydnerthedd, iechyd, cydraddoldeb, cymunedau cydlynol, diwylliant bywiog gydag iaith Gymraeg ffyniannus, ac yn...
Peredur Owen Griffiths: Sut mae'r Llywodraeth yn gweithio i wella trafnidiaeth gyhoeddus?
Peredur Owen Griffiths: Mae dementia yn glefyd creulon sy'n cael effaith enfawr ar filoedd o deuluoedd ledled Cymru. Gwn am ei effaith ddinistriol ar fy nheulu fy hun oherwydd roedd dementia ar fy hen fodryb. Byddwn yn clywed llawer o straeon personol a phwerus yn cael eu rhannu yn ystod y ddadl hon, felly i ategu hynny, roeddwn am ganolbwyntio ar yr hyn a oedd gan sefydliadau'r trydydd sector i'w ddweud am yr hyn y...
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr i Luke am ddod â'r ddadl bwysig yma gerbron heddiw, a dwi'n falch iawn o gael cymryd rhan ynddi hi.
Peredur Owen Griffiths: Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Cyllid.
Peredur Owen Griffiths: Yn y Senedd flaenorol, dywedodd y Gweinidog wrth y Pwyllgor Cyllid ei bod yn ceisio cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU i fynd i'r afael â diogelwch tomenni glo yng Nghymru. Mewn ymateb i'r cais hwnnw, dywedodd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys ar y pryd fod Llywodraeth Cymru yn cael ei hariannu'n ddigonol i reoli costau yn y dyfodol fel rhan o'i gwaith cynllunio cyllideb arferol. Fodd bynnag,...
Peredur Owen Griffiths: Ym marn Plaid Cymru, mae gofal cymdeithasol yn waith medrus iawn, a dylid ei drin felly o ran cyflog ac amodau. Mae'n annheg ac yn anghyfiawn nad yw gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael y parch y maen nhw'n ei haeddu. Efallai y byddwch chi'n cofio, yr wythnos diwethaf, i mi godi'r newidiadau i'r ddarpariaeth gofal dydd i oedolion anabl ym mwrdeistref sirol Caerffili, o safbwynt y teuluoedd y...
Peredur Owen Griffiths: Mae'r rhain i gyd yn bethau fyddai'n cyfrannu at sicrhau Cymru decach, fwy llewyrchus ac hapusach. Mae'n siŵr bydd hi'n groes i'r graen i rai yn y Siambr hon i gefnogi unrhyw fesur a fyddai'n helpu i greu wythnos waith well i bobl gyffredin, ac rydyn ni'n nabod y bobl rheini. Ond, fodd bynnag, rwy'n galw heddiw arnoch chi sy'n credu mewn hawliau gweithwyr ac yn ystyried eich bod yn...
Peredur Owen Griffiths: Dwi'n ddiolchgar iawn am gael siarad yn y ddadl yma heddiw ar bwnc mor bwysig. Mae gan wythnos waith pedwar diwrnod y potensial i fod yn drawsnewidiol i Gymru, a dylem gefnogi'r syniad am lu o resymau. Mae COVID wedi rhoi cyfle inni adeiladu economi well sy'n gweithio i bobl Cymru, a dylem gofleidio'r cyfle hwn i fod yn flaengar. Mae wythnos waith pedwar diwrnod yn syniad sy'n cyd-fynd yn...
Peredur Owen Griffiths: 'dull dewr a blaengar o lunio polisïau a meddwl yn hirdymor sy’n rhoi amrywiaeth, yr economi lesiant, mynd i’r afael ag allyriadau a cholli bioamrywiaeth, a dysgu gydol oes ar flaen ein meddyliau.' Ar fater comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, rwy'n ymwybodol o waith ei swyddfa, mewn partneriaeth â'r felin drafod Autonomy, sy'n ymwneud ag wythnos pedwar diwrnod ac incwm sylfaenol...
Peredur Owen Griffiths: Diolch. Yn ystod etholiadau diweddar y Senedd, gwelwyd defnydd arloesol o dechnoleg mewn un etholaeth yn ymwneud â'r ffordd y câi'r pleidleisiau eu marcio ar y gofrestr. Yn draddodiadol, câi'r cofnod o bwy sydd wedi pleidleisio ei wneud ar bapur, ond gwnaed hyn ar gyfrifiaduron llechen gan staff yr orsaf bleidleisio ym Mlaenau Gwent. Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, rwy'n cyfeirio at y...
Peredur Owen Griffiths: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog defnyddio technoleg mewn etholiadau yng Nghymru? OQ56891
Peredur Owen Griffiths: Diolch yn fawr, Llywydd dros dro. A diolch i chi, Gweinidog. Rwy’n croesawu’r diweddariad hwn ar ddyfodol optometreg yng Nghymru. Prin yw’r bethau sy’n fwy gwerthfawr na golwg ac ni ddylem byth fychanu'r gwahaniaeth y gall gwasanaeth sy'n cael ei redeg yn dda ei gael ar fywydau pobl. Rwy'n falch o glywed o’r datganiad bod gwaith yn cael ei wneud i uwchsgilio optometryddion i'w...
Peredur Owen Griffiths: Mae'n rhaid i minnau ddatgan buddiant hefyd: rwy'n gynghorydd cymuned ym Mhenyrheol, Trecenydd ac Energlyn. Hoffwn i dynnu sylw at y ddarpariaeth lai o ofal dydd ar gyfer oedolion anabl ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. I rai, mae oriau wedi gostwng o 30 awr yr wythnos i ddim ond chwech, gostyngiad o 80 y cant i'r cymorth sydd wedi bod yn niweidiol iawn i oedolion anabl a'u teuluoedd. Mae grŵp...
Peredur Owen Griffiths: Ers 2012, mae Plaid Cymru wedi galw'n barhaus am fwy o gaffael cyhoeddus, polisi a nodwyd gennym unwaith eto yn ein maniffesto diweddaraf. Rydym ni eisiau cynyddu cyfran cwmnïau Cymru o gontractau o 52 y cant i 75 y cant o'r gyllideb caffael cyhoeddus. Amcangyfrifir y byddai hyn yn creu 46,000 o swyddi ychwanegol ac yn diogelu llawer o swyddi presennol yn economi Cymru. Mae hynny'n fantais...
Peredur Owen Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am y diweddariad a gafwyd gan y Gweinidog heddiw. Croesawaf y gydnabyddiaeth y bu gwaith dros yr haf gyda phartneriaid allweddol i fireinio cynigion a geir o fewn drafft cynharach o'r Bil. Mae llawer o fewn y drafft rydyn ni'n ei groesawu yn gyffredinol, ac mae Plaid Cymru wedi hyrwyddo caffael lleol ers blynyddoedd llawer fel ffordd o gefnogi busnesau lleol...