Canlyniadau 3401–3420 o 4000 ar gyfer speaker:Lesley Griffiths

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cymysgedd Ynni
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Wel, rydym yn cefnogi buddsoddiadau ynni mawr sydd wedi’u lleoli’n briodol, ac mae hynny’n cynnwys ein hynni adnewyddadwy ar y tir a’r môr, yn ogystal â’r sector nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol carbon isel. Unwaith eto, rwy’n meddwl ein bod wedi cael llwyddiant da iawn yma yng Nghymru, ac rwy’n gweithio gyda fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet o dan y fframwaith a nodir yn Neddf...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Gwahardd Defnyddio Maglau
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Mae lles anifeiliaid yn ganolog i god ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer maglau. Cyhoeddwyd y cod y llynedd ac mae’n rhoi arweiniad clir ar y modd y caiff maglau llwynog eu defnyddio a’u harolygu. Byddwn yn barod i ystyried rhoi camau pellach ar waith, os yw’r cod yn profi’n aneffeithiol.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cymysgedd Ynni
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Yn ystod y newid i economi carbon isel, mae ein polisïau’n cefnogi cymysgedd ynni amrywiol yng Nghymru, sy’n darparu cyflenwad diogel a fforddiadwy i ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas am gost nad yw’n bygwth diwydiant a swyddi.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Ailgylchu yn Nwyrain De Cymru
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Mwy na thebyg fod hynny’n rhywbeth y byddai angen i ni ei ystyried yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, mae gennyf fwy o ddiddordeb mewn edrych ar yr hyn sy’n digwydd ar lefel awdurdodau lleol. Soniais ei fod yn llwyddiant gwirioneddol, ailgylchu yng Nghymru. Rydym ymhell ar y blaen, a phe baem yn cael ein cyfrif ar sail unigol yn Ewrop, byddem yn bedwerydd yn y tablau cynghrair. Soniais fod tri...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Ailgylchu yn Nwyrain De Cymru
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae ailgylchu yng Nghymru wedi bod yn llwyddiant, er bod rhai awdurdodau lleol yn y de-ddwyrain yn wynebu heriau. Mae tri awdurdod lleol wedi methu â chyrraedd y targed ailgylchu ar gyfer 2015-16. Gofynnwyd i bob awdurdod esbonio pam nad ydynt wedi llwyddo i gyrraedd y targed, a byddaf yn ystyried yr esboniadau hyn.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cynllun Morol Cenedlaethol i Gymru
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae swyddogion wrthi’n drafftio’r cynllun morol cenedlaethol cyntaf erioed i Gymru. Yn ddiweddar cytunais i lansio’r ymgynghoriad ffurfiol erbyn haf y flwyddyn nesaf. Bydd y cynllun yn nodi ein polisi ar gyfer defnydd cynaliadwy o’r ardal forol ar gyfer yr 20 mlynedd nesaf.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cynllun Morol Cenedlaethol i Gymru
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Rwy’n sylweddoli ein bod wedi bod yn aros am hyn, ac rwyf wedi—credaf fy mod wedi dweud yn y pwyllgor wrth gael fy nghraffu fod hyn yn flaenoriaeth, ond mae’n bwysig ein bod yn ei wneud yn iawn. Mae’n gymhleth iawn. Dyma’r cyntaf—credaf ein bod yn arloesi yng Nghymru wrth gael y cynllun hwn. Credaf ei fod yn bwysig iawn i’n helpu i reoli ein moroedd mewn modd llawer mwy...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cefnogi Arfordir Cymru
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Roeddwn yn meddwl hynny pan welais y cwestiwn, ond gwn fod yna fuddiannau ynghlwm wrth y peryglon arfordirol yn Sir Fynwy, ac rwy’n cytuno â chi am safle picnic Black Rock. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ynglŷn â’r mater hwn, ond byddaf yn edrych i weld a yw fy swyddogion wedi cael trafodaethau o’r fath, ac yn ysgrifennu at yr Aelod.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Y Grid Cenedlaethol (Ynys Môn)
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Byddwn yn annog pawb sydd â diddordeb yn y maes hwn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Yn amlwg, penderfyniad ar gyfer Llywodraeth y DU yw cydsynio i brosiect atgyfnerthu’r Grid Cenedlaethol yng ngogledd Cymru, felly er ein bod yn rhan o’r trafodaethau, fel y dywedais, mater i Lywodraeth y DU yw gwneud hynny.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cefnogi Arfordir Cymru
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae ymateb i’r heriau sy’n wynebu ein cymunedau arfordirol wrth addasu i newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaeth ariannol i gefnogi ein harfordir yng Nghymru. Mae’r Llywodraeth yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar baratoi rhaglen fuddsoddi gwerth £150 miliwn ar gyfer rheoli perygl arfordirol.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Y Grid Cenedlaethol (Ynys Môn)
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Bydd angen i’r Grid Cenedlaethol gwblhau asesiad o’r effaith amgylcheddol. Mae angen iddynt fod yn sensitif iawn i’r amgylchedd, ac mae hynny’n cynnwys llinellau o dan y Fenai, o ganlyniad i ddynodiadau tir penodol. Bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod â phrif weithredwr newydd y Grid Cenedlaethol yr wythnos nesaf i drafod y gwaith sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd, a bydd hynny’n...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Y Grid Cenedlaethol (Ynys Môn)
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Mae nifer o ofynion statudol ar waith er mwyn sicrhau bod y Grid Cenedlaethol yn ystyried effaith amgylcheddol ei argymhellion ar draws Ynys Môn. Agorodd y Grid Cenedlaethol ei ymgynghoriad diweddaraf yr wythnos diwethaf ar brosiect cysylltu gogledd Cymru i gysylltu Wylfa Newydd â’r grid presennol.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Tân yn Safle South Wales Wood Recycling
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Yn hollol. Rwy’n fwy na pharod i wneud hynny. Mae’n bwysig iawn fod y cynigion rydym yn eu cyflwyno yn briodol ac yn berthnasol.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Tân yn Safle South Wales Wood Recycling
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Fel y dywedais yn fy ateb i Suzy Davies, rwy’n derbyn yn llwyr fod angen newid. Gwn eich bod wedi cymryd rhan yn y ddadl fer, felly fe fyddwch wedi clywed fy atebion. Felly, rydym yn edrych ar yr holl opsiynau ar gyfer y dyfodol.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Tân yn Safle South Wales Wood Recycling
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Nid wyf wedi edrych ar hynny’n benodol, ond cytunaf yn llwyr â chi fod angen newid, ac fel y dywedaf, bydd y trafodaethau hynny’n dechrau yn awr. Rwyf wedi gofyn i swyddogion wneud hyn yn flaenoriaeth, oherwydd yn amlwg, credaf fod y ddadl fer wedi tynnu sylw at lawer o faterion y mae angen i ni fynd i’r afael â hwy. Ond rwy’n eich sicrhau y byddwn yn ceisio newid pethau yn y dyfodol.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Tân yn Safle South Wales Wood Recycling
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Cawsom ddadl fer dda iawn gan fy nghyd-Aelod, Huw Irranca-Davies, a chyfrannodd Aelodau eraill o’r Cynulliad ati hefyd. Rwy’n mynd i gyfarfod â Huw Irranca-Davies. Cyflwynais rai argymhellion, fel y gwnaeth ef, a byddaf yn edrych ar yr holl opsiynau yn y dyfodol.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Tân yn Safle South Wales Wood Recycling
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn aros am ganlyniad ymchwiliad Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru a’r heddlu i achos y tân. Maent yn adolygu systemau rheoli’r safle, gan gynnwys y rhai ar gyfer pentyrru gwastraff, a byddant yn cynyddu arolygiadau o’r cyfleuster.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Credaf fod y ffordd y mae cymdeithas yn trin ei hanifeiliaid yn dweud llawer amdani, ac rwyf newydd fod draw—. Roeddwn yn falch iawn o noddi digwyddiad yr RSPCA i gyflwyno gwobrau am waith cymunedol sy’n digwydd ar draws ein sector cyhoeddus mewn perthynas â lles anifeiliaid, ac mae’n amlwg ein bod yn genedl sy’n hoff o anifeiliaid. Nid wyf wedi ystyried y posibilrwydd o gyflwyno un...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Nid wyf wedi ystyried cyflwyno deddfwriaeth. Rydym yn edrych ar y gwahanol godau ymarfer sydd gennym ar gyfer gwahanol anifeiliaid, ac yn sicr mae’n rhywbeth rwyf wedi gofyn i’r prif swyddog milfeddygol a swyddogion ei fonitro. Ond rwy’n fwy na pharod i edrych ar y pwynt a grybwyllwyd gennych; credaf ei fod yn bwynt diddorol iawn, fel y dywedwch, ynglŷn â thramgwyddwyr gydag...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Diolch. Nododd yr adolygiad o lenyddiaeth wyddonol a gyflwynwyd yn gynharach eleni ystyriaethau lles mewn perthynas â’r defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol ac mewn digwyddiadau corfforaethol, adloniant a lleoliadau addysgol. Rwyf wedi ysgrifennu at Weinidogion y DU, ac rwy’n ystyried pob opsiwn, a byddaf yn gwneud datganiad cyn toriad y Nadolig.

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.