Canlyniadau 3421–3440 o 4000 ar gyfer speaker:Lesley Griffiths

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Arddangosfeydd Symudol o Anifeiliaid
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Nododd yr Athro Harris yn ei adroddiad fod nifer fawr o anifeiliaid gwyllt caeth yn cael eu defnyddio, fel y dywedais, mewn adloniant corfforaethol ac mewn lleoliadau addysgol. I fod yn onest, mae’r maes hwnnw’n peri mwy o bryder i mi, am fy mod yn credu nad ydym yn gwybod faint ohonynt sy’n cael eu defnyddio nac unrhyw beth am eu lles. Fe fyddwch...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Awyr Agored Gwych Cymru
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Ydw, yn bendant. Nid yw’r Ddeddf yn rhan o fy mhortffolio—mae’n rhan o un Rebecca Evans—ond byddwn yn fwy na pharod i wneud rhywfaint o waith pellach gyda Rebecca ar y mater hwnnw.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Awyr Agored Gwych Cymru
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Ydw, yn bendant, rwy’n cydnabod y pryderon hynny ac ni fyddwch yn synnu, yn fy mhortffolio, fy mod yn ei chael hi o’r ddwy ochr. Credaf mai dyna’r holl bwynt: mae’n ymwneud â chydbwysedd rhwng ehangu mynediad a sicrhau ein bod yn diogelu’r amgylchedd hefyd.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Awyr Agored Gwych Cymru
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Wel, mae hwnnw’n amlwg yn waith pwysig iawn, ac ar hyn o bryd, rydym yn llunio rhaglen reoli perygl arfordirol gwerth £150 miliwn ar y cyd ag awdurdodau lleol at y diben hwnnw.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Awyr Agored Gwych Cymru
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Yn bendant. Credaf fod Dr Lloyd yn gwneud pwynt pwysig iawn. Fe wyddoch ein bod wedi cynnal asesiad o fanteision iechyd cerdded ar lwybr arfordir Cymru yn ôl yn 2014, a daeth hwnnw i’r casgliad fod y gwerth economaidd a oedd yn gysylltiedig ag iechyd gwell drwy gerdded ar lwybr yr arfordir yn £18.3 miliwn bryd hynny. Felly, yn bendant, gallwn dderbyn bod hynny’n wir. Ac unwaith eto,...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Awyr Agored Gwych Cymru
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Diolch. Fe fyddwch yn ymwybodol ein bod wedi derbyn nifer sylweddol o ymatebion i’r Papur Gwyrdd—credaf fod bron 6,000 ohonynt, os cofiaf yn iawn—felly mae’n cymryd peth amser i edrych ar bob un ohonynt. Ond yn ddiweddar, darparais ychydig dros £0.5 miliwn yn ychwanegol i barciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol er mwyn iddynt edrych ar eu blaenoriaethau o ran...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Y Gyfarwyddeb Nitradau
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Credaf fod rhan o’r gwaith hwnnw wedi cael ei wneud, ac mae hynny’n un o’r rhesymau pam y gwnaethom y penderfyniad i ymgynghori ar hyn. Byddwn yn bendant yn annog yr Aelod a’r holl etholwyr sydd wedi dangos diddordeb yn hyn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gan fod gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed barn pobl. Os oes gan Aelodau eraill neu eu hetholwyr farn ar y dulliau gwahanol y...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Awyr Agored Gwych Cymru
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau gwelliannau o ran y cyfleoedd sydd ar gael i bobl gael mynediad i’r awyr agored. Rhoddir ystyriaeth lawn ar hyn o bryd i’r ystod o faterion a nodwyd yn yr adolygiad cynharach, ond mae angen mwy o waith cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ar gamau newydd posibl i gynyddu mynediad.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Bio-ddiogelwch ar Ffermydd Cymru
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Nid wyf yn ymwybodol fod unrhyw beth ar goll. Ond os yw’r Aelod o’r farn fod rhywbeth penodol ar goll, os hoffai ysgrifennu ataf, byddaf yn sicr o roi sylw iddo.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Y Gyfarwyddeb Nitradau
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Rwy’n ymgynghori ar hyn o bryd ar yr adolygiad o’r ardaloedd dynodedig a’r rhaglen weithredu i fynd i’r afael â llygredd nitradau yng Nghymru, ac yn amodol ar ganlyniadau’r ymgynghoriad, rwy’n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth newydd y flwyddyn nesaf. Bydd asesiad effaith rheoleiddiol llawn yn cael ei gynhyrchu bryd hynny.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Bio-ddiogelwch ar Ffermydd Cymru
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Gallaf, mae hwn wedi bod yn waith arwyddocaol. Gwn fod fy swyddogion wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’r grŵp cynghori ar adnabod da byw ar y cynigion ar gyfer yr unedau cwarantîn, ac rydym yn parhau i weithio gyda’n rhanddeiliaid ar y gwaith o gyflawni’r prosiect. Credaf mai’r hyn y bydd y trefniadau newydd yn ei wneud yw symleiddio’r drefn gwahardd symud drwy ddisodli...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Bio-ddiogelwch ar Ffermydd Cymru
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Diolch. Bioddiogelwch yw rheng flaen ein hamddiffyniad yn erbyn clefydau heintus hysbysadwy difrifol fel clwy’r traed a’r genau neu TB buchol. Dylai fod yn rhan hanfodol o fywyd ffermio bob dydd, gan helpu i sicrhau bod anifeiliaid yn aros yn iach a bod busnesau yn parhau i fod yn broffidiol.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cymunedau Gwledig
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Gallaf ddweud fy mod yn gyfrifol am gynllunio, ydw. Yn sicr, yn fy nhrafodaethau â ffermwyr, nid ydynt wedi crybwyll gormod o bryderon ynglŷn â TAN 6. Yn wir, maent yn ddiolchgar iawn ac yn hapus ei fod yno. Ond rwy’n credu bod cysondeb yn hollol gywir, ac yn amlwg mae gennym 25 o awdurdodau cynllunio ledled Cymru, a chydag unrhyw beth o’r fath, credaf y bydd yna bob amser lefel o...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Wel, ymddengys na allwn ennill. Y tymor diwethaf, cawsom ein beirniadu am gael dogfen rhy fawr ar gyfer ein rhaglen lywodraethu, a’r tro hwn rydym yn cael ein beirniadu am ei bod yn rhy denau. Y tro nesaf, efallai y bydd gan Lywodraeth Lafur Cymru yr un gwbl berffaith. Credaf eich bod yn nodi mater pwysig ynglŷn â Pharis, a byddaf yn cynrychioli Cymru yn y COP22 ym Marrakech y mis nesaf,...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cymunedau Gwledig
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Rydym wedi bod yn hollol glir ynglŷn â’n hymrwymiad i ddarparu cymorth i sicrhau cymunedau gwledig llwyddiannus a chynaliadwy ledled Cymru. Rydym yn cyd-ariannu ein rhaglen datblygu gwledig gyda’r Undeb Ewropeaidd ac felly’n disgwyl i Lywodraeth y DU ddarparu gwarant ddiamod y byddant yn cyllido pob prosiect dan gontract o dan y rhaglen drwy gydol eu hoes.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Wel, nid yw popeth yn y rhaglen lywodraethu, dylwn ddweud hynny, ond mae’r targed hwnnw’n parhau. Ond mae’n anhygoel o anodd, ni fyddwn yn oedi rhag dweud hynny. O ran y gyllideb garbon, rwy’n cyfarfod â fy holl gyd-Aelodau yn y Cabinet ar hyn o bryd i drafod sut y mae pob un o’u portffolios, ar draws y Llywodraeth, yn helpu i leihau ein hallyriadau. Mae’r broses o gyllidebu...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Yn sicr, gallaf gadarnhau bod y targed i leihau 40 y cant erbyn 2020 yn bendant yn dal i sefyll ar gyfer y Llywodraeth hon hefyd. Rwy’n edrych ar weithrediad Deddf yr amgylchedd wrth symud ymlaen, ond unwaith eto, nid yw’r dyddiad hwnnw gennyf wrth law, ond byddwn yn fwy na pharod i roi gwybod i chi.

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(12 Hyd 2016)

Lesley Griffiths: Nid oes gennyf y wybodaeth honno wrth law ond rwy’n fwy na pharod i ysgrifennu at yr Aelod gyda’r wybodaeth honno.

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.