David Rees: Diolch i’r Aelod am hynny. Ni allaf roi’r ateb mewn gwirionedd, ond mae’n bwynt diddorol y gallwn ei ychwanegu at y rhestr o gwestiynau y byddwn yn eu gofyn. Mae gennym fusnesau’n dweud eisoes y byddant yn symud allan. Nawr, mae symud allan yn golygu nad ydynt yn dod i mewn, ac felly rydym yn colli busnes i’r economi. Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn honni y bydd y carchar hwn yn...
David Rees: Wrth agor y ddadl hon y prynhawn yma, sefydlodd yr Aelod dros Orllewin De Cymru nifer o elfennau yn y drafodaeth, gan gynnwys effeithiolrwydd uwch garchardai yn lleihau cyfraddau aildroseddu a chynnig amgylchedd diogel i garcharorion ar gyfer adsefydlu, pa un a oes angen mwy o garchardai ar Gymru, ac anaddasrwydd y safle hwn ym Maglan ar gyfer y carchar newydd, fel y cyhoeddodd y Weinyddiaeth...
David Rees: Yr wythnos diwethaf, Ysgrifennydd y Cabinet, cyfarfûm â chadeirydd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a’r uwch-swyddog a oedd yn un o’r bobl a ofynnodd am yr adroddiad hwnnw er mwyn cael sicrwydd, pe bai’r sefyllfa hon yn codi heddiw, y byddai’n cael ei chanfod yn gynt ac na fyddem yn gweld yr un methiannau ag a ddigwyddodd o’r blaen. Er bod yr Aelod dros Orllewin De Cymru yn dal i...
David Rees: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch â'r effaith y caiff y fenter ar y cyd rhwng Tata Steel a ThyssenKrupp AG ar y sector dur yng Nghymru? (TAQ0044)
David Rees: Wel, diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet—cryno iawn a byr iawn. Nawr, mae’r cyhoeddiad hwnnw ar fenter ar y cyd yn amlwg wedi bod yn rhywbeth yn y cefndir, ac mae llawer o bryderon wedi cael eu mynegi gan weithwyr dur yn fy etholaeth i a ledled Cymru ynglŷn â dyfodol cynhyrchu dur yma yng Nghymru. Gwta 18 mis yn ôl, gwelsom fygythiad i gau safle Port Talbot. Y tu hwnt...
David Rees: Diolch, Llywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma? Yn amlwg, rwy’n cefnogi sylwadau fy nghyd-Aelodau o ran diwygio etholiadol. A, gyda llaw, pleidleisio electronig: hwyrach yr hoffech chi edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn Estonia i gael gwybod am hynny. Ond ynghudd yn eich datganiad, mewn gwirionedd, roedd agwedd bwysig iawn i mi, a hynny yw'r...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet ac arweinydd y tŷ, ym mis Mai dathlwyd pumlwyddiant llwybr arfordir Cymru. Mae llawer o bobl wedi cerdded ar hyd y llwybr hwnnw a mwynhau manteision y daith, ond, fel y cyfryw, nid ydyn nhw’n cael unrhyw gydnabyddiaeth am gerdded y daith. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, neu efallai Ysgrifennydd y Cabinet dros...
David Rees: Mae’r olaf o’r wyth ardal fenter hynny ym Mhort Talbot mewn gwirionedd, yn fy etholaeth i, a hi yw'r unig un yng Ngorllewin De Cymru. Ond mae'n bwysig ein bod ni’n gweld hynny’n cael ei ddefnyddio nawr i wir dyfu'r economi leol a thyfu busnesau lleol. Sut ydych chi'n monitro’r cynnydd yn yr ardal fenter honno i sicrhau bod hynny’n digwydd mewn gwirionedd a bod diben yr ardal...
David Rees: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu manylion ynghylch agenda STEM Llywodraeth Cymru?
David Rees: Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel y gwyddoch, mae'r safle a nodwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder ym mherchnogaeth Llywodraeth Cymru, ac wedi ei leoli y drws nesaf i ystad o dai, cartref gofal preswyl, canolfan adnoddau meddyg teulu, â phedwar o feddygfeydd ynddi, a busnesau eraill ar yr ystad ddiwydiannol honno. Mae hefyd wedi ei leoli yn yr ardal fenter, a sefydlwyd pan godwyd...
David Rees: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y trafodaethau a gafwyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder mewn perthynas â lleoli carchar newydd ym Maglan? OAQ(5)0702(FM)
David Rees: Diolch i’r Aelod am ildio. Nid y gostyngiad yn unig ydyw, mae’n ymwneud hefyd â chael yr amser o’r gwaith—ni allent eu rhyddhau am yr amser hwnnw, felly ni allent gael pobl i fynd i mewn.
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r ateb i Bethan Jenkins, rwy’n credu, wedi tynnu sylw at y problemau ynglŷn â sut y gall y radicaliaeth hon godi mewn unrhyw sector; nid yw’n ymwneud â sectorau penodol yn unig. Felly, a ydych yn cytuno â mi fod angen i ni gyflwyno mesur mewn gwirionedd i atal pobl ifanc rhag cael eu radicaleiddio gan yr adain dde eithafol, sy’n creu safbwyntiau...
David Rees: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn eich ateb i Simon Thomas yn gynharach, fe dynnoch sylw at yr oedi sydd wedi bod yn effeithio ar Lywodraeth y DU, ond gyda’r etholiad cyffredinol bellach wedi bod, efallai y gallwn weld yr oedi a’r esgusodion hynny am yr oedi’n diflannu. Ond mae trwyddedu morol yn fater pwysig, oherwydd gallai’r oedi hwnnw ddiflannu a gallem gael...
David Rees: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr asesiadau a wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru mewn perthynas â'r cynnig ar gyfer morlyn llanw Bae Abertawe? OAQ(5)0161(ERA)
David Rees: Diolch i’r Aelod am dderbyn ymyriad. Rwyf eisiau eglurhad ar un peth. Rydym yn siarad o hyd am aelodaeth o’r farchnad sengl. A oes diffiniad cyfreithiol ar gael o aelodaeth o’r farchnad sengl, er mwyn inni allu bod yn glir ynglŷn â’r hyn y mae’n ei olygu mewn gwirionedd?
David Rees: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma a'r papur a gynhyrchodd ac a gyhoeddodd ddydd Iau diwethaf? Rwy'n meddwl, wrth i’r pwyllgor gymryd tystiolaeth dros y 12 mis diwethaf, ein bod wedi nodi nifer o faterion. A gwnaethoch siarad am y Cydbwyllgor Gweinidogion—rwy’n meddwl, o'n hadroddiad cyntaf ymlaen, bod y Cydbwyllgor Gweinidogion...
David Rees: A gaf fi ddiolch i’r Aelod dros Gastell-nedd am y ddadl heno ac am gynnig munud o’i amser i mi? Mae wedi siarad am Batagonia a’n symud draw yno yn y 1850au, ond a gaf fi hefyd ei atgoffa ynglŷn â ble arall y mynegwyd ein gwerthoedd sy’n seiliedig ar degwch a chyfiawnder cymdeithasol? Fe’u mynegwyd gan y llu o ddinasyddion Cymru a ymunodd â’r frigâd ryngwladol yn rhyfel cartref...
David Rees: Rwy’n credu, y prynhawn yma, ein bod wedi gweld, fel y mae’r rhan fwyaf o’r Aelodau ar draws y Siambr—Leanne Wood, Lynne Neagle, Mark Isherwood—wedi amlygu, fod pawb ohonom yn derbyn llawer o sylwadau gan deuluoedd sydd â phlant neu frodyr a chwiorydd yn byw gydag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Maent yn aml yn dod i’n swyddfeydd yn flin, dan straen, yn bryderus, wedi...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, ddydd Iau diwethaf, gwelsom lawer o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ar draws y DU, yn cael eu hysbrydoli—yn bennaf gan Jeremy Corbyn—i gymryd rhan ac arfer eu hawliau a lleisio eu barn. A ydych yn cytuno, os yw’r Cynulliad hwn yn symud ymlaen i gynnig pleidlais i rai 16 a 17 oed—? [Torri ar draws.] Rwy’n siomedig nad yw’r Aelodau’n...