David Rees: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella economi cymoedd Gorllewin De Cymru?
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Rees: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. A ydych yn cytuno felly hefyd fod—? Rydych yn dweud cael y gorau gan y gweithlu—un ffordd o gael y gorau gan y gweithlu yw gweithio mewn partneriaeth gyda’r gweithlu, fel y gwelwn ar draws Castell-nedd Port Talbot, lle y ceir partneriaeth wych rhwng y gweithlu a’r cyngor. Dyna ffordd o gael llwyddiant.
David Rees: Roeddwn yn aros am honno. A gaf fi atgoffa’r Aelod fod ei blaid, mewn gwirionedd, wedi addo’r pecyn hwnnw yn 2011? Yn 2014 cymeradwyodd yr UE becyn mewn gwirionedd, yn 2015 cymeradwywyd un arall ganddynt, a’i ymestyn, ac erbyn 2016 roeddem yn dal heb gael yr arian. Pan gaiff cyhoeddiadau eu gwneud am golli swyddi, pan gafodd cyhoeddiadau eu gwneud am werthiannau—dros bedair blynedd o...
David Rees: Mae’n bleser mawr gennyf siarad yn y ddadl heddiw, i gofnodi’r gwaith ardderchog y mae’r Llywodraeth Lafur hon wedi’i wneud yng Nghymru, ac yn parhau i wneud, wrth i bobl Cymru brofi effaith ymosodiadau a methiant y Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan. Nid oes ond angen i’r Aelodau edrych ar fy etholaeth i i weld sut y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn darparu arweinyddiaeth gref ar...
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Rees: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Efallai y gallaf roi rhywfaint o gyngor i chi: defnyddiwch hi ar gyfer eich maniffesto nesaf. Mae’n gweithio.
David Rees: Cyn i mi ofyn fy nghwestiwn, a gaf i atgoffa'r Siambr bod fy ngwraig yn radiograffydd ac felly yn ôl pob tebyg mae hi ar y rhestr o'r rhai y mae eu data wedi ei danseilio? Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am yr atebion yr ydych wedi eu rhoi, ac edrychaf ymlaen at y datganiadau ysgrifenedig y byddwch yn eu darparu. Ond, yn amlwg, yn ogystal â'r materion tanseilio diogelwch data, mae...
David Rees: Arweinydd y tŷ, fel y nododd Suzy Davies, mae Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru yn gweithredu yn unol â rheolau polisi rhanbarthol yr UE ar hyn o bryd, ond mewn dwy flynedd nid ydynt yn mynd i fod yno, i bob pwrpas. Yr hyn rwy'n ei ofyn yw: pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch polisi rhanbarthol yn y dyfodol, ac a ydych chi’n achub ar y cyfle i fod yn...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n amlwg fod pren yn elfen bwysig yma, ac rydym wedi gweld cynaeafu pren yn newid yn fy ardal yn sgil y clefydau yn ardal y cwm. Felly, mae ailblannu’n bwysig, er mwyn edrych, fel y dywed Simon Thomas, nid yn unig ar natur y tir, ond hefyd efallai ar y cyfleoedd i fusnesau eraill y tu hwnt i’r diwydiant gweithgynhyrchu, megis ardaloedd twristiaeth. Pa gynnydd...
David Rees: Diolch i chi am yr ateb yna, arweinydd y tŷ. Ar 14 Chwefror, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ddatganiad ar Gymunedau yn Gyntaf ac roedd ei weithredoedd yn y datganiad hwnnw hefyd yn amlygu’r uchelgais i gyrraedd y rhai sydd bellaf o'r farchnad lafur a'u symud ymlaen. Ond, yn anffodus, mae rhai o'r rheini sydd bellaf o'r farchnad lafur o ran sgiliau hefyd yn...
David Rees: 8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl o gymunedau difreintiedig i gael cyflogaeth a chodi allan o dlodi? OAQ(5)0466(FM)
David Rees: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am yr ateb hwnnw, er bod angen i mi ymhelaethu ychydig ar fy nghwestiwn gwreiddiol. Ond rwy’n siwr ei fod yn derbyn, ers mis Ionawr y llynedd, fod yr awyr wedi bod yn dywyll iawn dros Bort Talbot a’r gwaith dur yno, y gymuned leol a’r economi leol. Fe welwn yn awr, efallai, ar ôl y bleidlais hon, yr awyr dywyll honno’n diflannu a mwy o sicrwydd yn...
David Rees: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Rwy’n siŵr y byddwch chi a phawb arall yn cydnabod pwysigrwydd codeiddio a’r effaith a gaiff. A wnewch chi amlinellu’r manteision economaidd a chymdeithasol y bydd gwneud y gwaith hwn yn ei sicrhau mewn gwirionedd?
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, ar ddiwrnod pan ydym yn aros am ganlyniadau pleidlais Tata Steel mewn perthynas â’r diwydiant dur a dyfodol hynny, mae’n bwysig ein bod yn egluro’r sefyllfa o ran ardrethi busnes gyda dur. Soniwyd droeon yn y Siambr hon am y cymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi. A ydych wedi cael trafodaethau pellach gyda chydweithwyr yn Llywodraeth y DU neu swyddogion yr UE...
David Rees: 5. Pa gynnydd sydd wedi’i wneud o ran rhaglen Llywodraeth Cymru i godeiddio’r gyfraith? OAQ(5)0028(CG)
David Rees: Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw mewn perthynas â balot gweithlu Tata ynghylch dur, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch pa drafodaethau y mae wedi’u cael i sicrhau bod yr ymrwymiad i fuddsoddi mewn cynhyrchu dur ym Mhort Talbot yn ddiogel? EAQ(5)0122(EI)
David Rees: Diolch am ildio, ond a ydych chi’n cydnabod mewn gwirionedd bod llawer o argaeau ac adeiladau eraill sy'n cynnwys bylchau i bysgod i ganiatáu i bysgod symud yn ddiogel i fyny ac i lawr yn y ffyrdd hynny? Mae hyn ychydig yn wahanol oherwydd tyrbinau yw’r rhain sy'n denu pysgod i mewn â symudiadau’r tonnau a’r llanw. Felly, nid yw’n union yr un darlun.
David Rees: A wnewch chi ildio?
David Rees: Diolch i'r Aelod am ildio. Rwyf innau hefyd wedi cael sylwadau gan y pysgotwyr, pysgotwyr yr Afan yn arbennig, ac rwy’n meddwl ei bod yn bwysig ein bod nawr yn sicrhau penderfyniad cyflym rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a Tidal Lagoon Power fel y gallwn sicrhau bod y bwlch rhwng y ddau, sy'n eithaf enfawr ar hyn o bryd, yn dod yn fwy realistig, oherwydd rwy’n deall bod y ddau, mae’n rhaid...