Lesley Griffiths: Wel, rwy’n meddwl ei fod yn ymwneud â chael cydbwysedd rhwng llygredd aer a llygredd sŵn, ond mae’n ymwneud, fel y dywedais, â sicrhau’r cydbwysedd hwnnw. Nid yw hynny wedi cael ei ddwyn i fy sylw o’r blaen, ond rwy’n hapus iawn i edrych arno. Y tu hwnt i Gymru, mae yna nifer o feysydd gweithgaredd heb eu datganoli sydd eu hangen er mwyn lleihau allyriadau cyn gynted â phosibl....
Lesley Griffiths: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno’r ddadl hon ar y mater pwysig hwn, ac rwy’n hapus iawn i gefnogi’r cynnig gwreiddiol. Mae’n ddrwg iawn gennyf nad yw David Melding, yr Aelod dros Ganol De Cymru, heb gael digon o sicrwydd yr wythnos diwethaf gan fy ateb iddo, mai fy nghyfrifoldeb i, ie, mai fy nghyfrifoldeb i yn llwyr yw ansawdd aer; mae yn fy...
Lesley Griffiths: Rwyf yn enwebu Lynne Neagle.
Lesley Griffiths: Diolch. Yn gyffredinol, nid yw ardaloedd gwledig yn cael eu heffeithio gan lefelau sylweddol o lygredd o ganlyniad i draffig, oherwydd y cyfeintiau llai o draffig mewn lleoliadau gwledig. Mae gan nifer fach o drefi gwledig lefelau uchel o lygryddion a gynhyrchir gan draffig. Mae awdurdodau lleol yn rhoi cynlluniau gweithredu ansawdd aer ar waith er mwyn lleihau llygredd yn y lleoliadau hyn.
Lesley Griffiths: Wel, yn amlwg, cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw’r ffyrdd dan sylw. Gwn fod swyddogion wedi bod yn siarad â Chyngor Dinas Casnewydd, sydd wedi comisiynu asesiad traffig ac ansawdd aer yng Nghaerllion yn ddiweddar. Yr hyn y maent eisiau ei wneud yw nodi mesurau sy’n gysylltiedig â thraffig, a fuasai, pe gellid eu rhoi ar waith, yn gwella ansawdd aer, a sŵn hefyd o bosibl. Rwyf wedi gofyn...
Lesley Griffiths: Diolch. Fe wyddom y bydd yr ocsid nitraidd mewn pysgod yn effeithio ar niferoedd wyau yn y dyfodol, ond y gobaith yw y bydd yr afon yn adfer yn naturiol ymhen amser. Soniais fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda’r ffermwr i weithredu mesurau atal llygredd—er mwyn gwella’r seilwaith ar y fferm a lleihau’r tebygolrwydd o ddigwyddiadau pellach o lygredd. Maent wedi casglu...
Lesley Griffiths: Roeddwn am ddweud fod hwnnw, yn fy amser i, yn cael ei alw’n Tufty. Rwy’n credu eich bod yn nodi pwynt pwysig iawn, ac yn sicr, byddaf yn cyfarfod yn rheolaidd iawn gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i drafod coedwigaeth. Mae’n hynod bwysig i’n gwlad, felly rwy’n hapus iawn i fwrw ymlaen â hynny.
Lesley Griffiths: Diolch. Roedd hwn yn ddigwyddiad o lygredd dŵr difrifol a achoswyd gan gyfaint anhysbys o fiswail fferm yn llifo i mewn i gwrs dŵr o fferm leol, gan ladd 380 o bysgod. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystyried camau gorfodi ffurfiol yn dilyn adolygiad o ffeithiau’r achos a ffactorau budd y cyhoedd.
Lesley Griffiths: Roeddwn yn falch iawn o weld hynny yr wythnos diwethaf. Cefais gynnig y draenog, ond penderfynais y buaswn yn hyrwyddo holl fioamrywiaeth Cymru. [Torri ar draws.] Roeddwn yn tybio efallai ei fod braidd yn bigog. [Chwerthin.] Ond rwy’n cefnogi rôl hyrwyddwyr rhywogaethau. Rwy’n credu ei bod yn fenter wirioneddol dda, gan y bydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhywogaethau, eu hanghenion...
Lesley Griffiths: Ydy, cytunaf yn llwyr. Wrth i ni edrych ar ba gynlluniau y byddwn yn eu hariannu dros y blynyddoedd nesaf, mae’n rhywbeth y gallwn edrych arno—y mater penodol hwnnw. Mae yna bob amser dechnoleg ac ymchwil sy’n dangos ffyrdd newydd o wneud hynny i ni, ac mae’n bwysig iawn fod gennym yr hyblygrwydd i allu gwneud hynny.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae cynllun adfer natur Cymru yn amlinellu ein hamcanion a’n camau gweithredu ar gyfer cyflawni ein huchelgais i wrthdroi’r dirywiad mewn bioamrywiaeth erbyn 2020. Bydd hyn yn cyfrannu at les y genedl a rheolaeth gynaliadwy ar ein hadnoddau naturiol.
Lesley Griffiths: Ydw, rydych yn hollol gywir. Mae’r llefydd hyn wedi elwa o gyfraniadau cyllid yr UE ar gyfer cynlluniau rheoli perygl llifogydd. Maent wedi ategu ein cyllid ein hunain hefyd, ac maent wedi ein galluogi i gynyddu nifer yr eiddo sy’n cael eu hamddiffyn rhag llifogydd yng Nghymru.
Lesley Griffiths: Unwaith eto, mae’n ddrwg gennyf nad oes gennyf y wybodaeth ynglŷn â’r gwaith ymchwil o fy mlaen, ond byddaf yn ysgrifennu atoch.
Lesley Griffiths: Diolch. Byddaf yn gwneud datganiad yr wythnos nesaf ar reoli perygl llifogydd ac arfordirol ar gyfer Cymru gyfan. Yn ddiweddar cyhoeddwyd cynlluniau rheoli perygl llifogydd Rhondda Cynon Taf a Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n nodi’r dull manwl o reoli perygl llifogydd yng Nghwm Cynon.
Lesley Griffiths: Rwy’n ofni nad oes gennyf y data hwnnw ar hyn o bryd, ond byddaf yn hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda hynny.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae fy swyddogion wedi ceisio sicrwydd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mewn perthynas ag ardal rheoli ansawdd aer yr A472 ger Crymlyn a grybwyllwyd gennych, o ran y camau y maent yn bwriadu eu cymryd i wella ansawdd aer yn lleol. Mae’r cyngor yn trefnu cyfarfod grŵp llywio fis nesaf, fel rydych yn gwybod mae’n siŵr, a byddant yn cael mewnbwn gan grwpiau lleol a thrigolion...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae gwella ansawdd aer yn lleol yn un o amcanion allweddol Llywodraeth Cymru. Rydym yn cynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995, sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt fonitro ansawdd aer a chyflawni cynlluniau gweithredu i’w wella mewn ardaloedd a effeithir gan lefelau uchel o lygredd.
Lesley Griffiths: Wel, ym mis Mai y llynedd y cafodd ei gymeradwyo, felly ychydig dros flwyddyn yn unig sydd wedi bod. Rydym wedi agor 15 o gynlluniau: agorais gynllun pellach yr wythnos diwethaf. Mae gennym dros £260 miliwn o gyllid wedi’i ymrwymo ar draws pob sector. Felly, fel rwy’n dweud, rwy’n credu bod potensial aruthrol ar gyfer y sector. Rwyf eisiau gweithio’n iawn ar y mentrau strategol hynny...
Lesley Griffiths: Rwy’n credu eich bod yn hollol gywir. Mae angen i ni weld llawer mwy o newid trawsnewidiol, ac mae angen i ni wneud hynny mewn partneriaeth â’r ffermwyr. Yn sicr, o fy nhrafodaethau gydag Undeb Amaethwyr Cymru ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, maent yn barod iawn ar gyfer hyn. Rwy’n credu eu bod am weld rhywfaint o gyflymder wrth symud ymlaen. Un o’r pethau rwyf wedi’u trafod...
Lesley Griffiths: Mae rhaglen datblygu gwledig cymunedau gwledig Llywodraeth Cymru 2014-20 yn cefnogi cymunedau gwledig a’r economi gyda chyfuniad o gyllid Llywodraeth Cymru a’r UE. Mae pymtheg o gynlluniau wedi agor yn barod a bydd grantiau bach Glastir yn agor ar 27 Mehefin. Rydym yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i fireinio a datblygu’r rhaglen.