David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad heddiw? Mae un ohonynt gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ynghylch rhoi canllawiau a chryfhau'r canllawiau i awdurdodau cynllunio lleol ar gloddio glo brig, oherwydd unwaith eto, yn fy etholaeth i, ar safle Parc Slip, mae’n bosib mai sefyllfa’r cais yw gohirio’r gwaith adfer ar hyn o bryd. Pan fyddant yn gwneud...
David Rees: Diolch i’r Aelod am dderbyn ymyriad. A ydych, felly, yn croesawu mewnbwn arian Ewropeaidd tuag at ddatblygu sgiliau, yn enwedig sgiliau lefel gradd Meistr a ddaeth drwy’r rhaglen honno? Erbyn hyn mae gennym lawer mwy o raddedigion a graddedigion Meistr o ganlyniad i’w buddsoddiad.
David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
David Rees: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Fe sonioch am ddur, felly, fi, felly—. Yn amlwg, a ydych mor siomedig, ac efallai’n ffieiddio cymaint â mi at y diffyg pwyslais ar ddur, sy’n ddiwydiant sylfaen yma yn y DU, yn y strategaeth ddiwydiannol honno, ac mai ychydig iawn y mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud i gefnogi’r diwydiant dur hyd yn hyn mewn gwirionedd? Llywodraeth Cymru sydd wedi...
David Rees: Arweinydd y tŷ, hoffwn i ymhelaethu rhywfaint ar bwynt arweinydd y Ceidwadwyr ar ardaloedd menter. Yn amlwg, cyflwynwyd ardaloedd menter yn y pedwerydd Cynulliad, ac mae'n bwysig ein bod ni’n deall y cynnydd sy'n cael ei wneud ar ardaloedd menter. Felly, a wnewch chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros seilwaith a'r economi i gynhyrchu diweddariad ar gynnydd o ran ardaloedd menter a pha...
David Rees: Brif Weinidog, roedd gan Bort Talbot orsaf â mynediad ofnadwy i bobl anabl ac, ar ôl blynyddoedd lawer iawn o ymgyrchu, yn enwedig gan fy rhagflaenydd, Brian Gibbons, dyrannwyd y grant gwella gorsafoedd i sicrhau bod gorsaf Port Talbot yn cael ei huwchraddio, ac rwy'n siŵr eich bod chi’n croesawu'r newidiadau yr ydym ni’n eu gweld ym Mhort Talbot yn awr o ran mynediad i'r anabl a...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg mae cymunedau cryf hefyd yn dibynnu, nid yn unig ar y tri ffactor a grybwyllwyd gennych, ond hefyd ar iechyd a lles y cymunedau hynny er mwyn sicrhau eu bod mewn sefyllfa i fanteisio ar yr holl agweddau eraill. I’r perwyl hwnnw, ar hyn o bryd mae gan Cymunedau yn Gyntaf elfen iechyd a lles o’i fewn, ac rydych wedi dweud mewn datganiad blaenorol eich bod yn...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, mae dirprwy gyfarwyddwr yr is-adran plant a theuluoedd wedi tynnu sylw at y meini prawf allweddol ar gyfer parthau plant mewn gwirionedd, yn enwedig gwaith amlasiantaeth, y cwmnïau angori a’r sefydliadau, ac mae’r trydydd sector yn chwarae rhan bwysig yn hynny. Yn awr, mae’r cynigion wedi cael eu cyflwyno i chi. A wnewch chi sicrhau bod y cynigion yn...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich ateb a’ch awgrym y byddwch yn cyhoeddi’r penderfyniad ar yr ymgynghoriad cyn bo hir. Yn amlwg, pan gyhoeddwyd y Papur Gwyrdd, mynegwyd pryderon mawr gan bysgotwyr ynglŷn â’r effaith y buasai’n ei chael ar stociau pysgota ac amseroedd bridio. Ac efallai mai mater mynediad ‘cyfrifol’ yw’r gair pwysig. Cyfarfûm â fy nghymdeithas bysgotwyr...
David Rees: Brif Weinidog, rydych chi newydd grybwyll dur yn y fan yna, ac a ydych chi mor siomedig ag yr oeddwn innau pan ddarllenais drwy'r cynllun diwydiannol gan Lywodraeth y DU mai prin yw’r trafod ar ddur? A dweud y gwir, mae'n adlewyrchu, o bosibl, ei holl agwedd at ddur—nid yw’n bodoli, i bob pwrpas. A wnewch chi edrych ar y strategaeth ddiwydiannol, gan fod gweithgynhyrchu yn 16 y cant o...
David Rees: Fel y dywedwyd eisoes y prynhawn yma, mae llawer o bobl yng Nghymru wedi cael eu heintio â naill ai HIV neu hepatitis C o ganlyniad i gynhyrchion gwaed halogedig, a ddaeth iddynt fel triniaeth, ac fel y nododd Hefin David, fel plant ifanc ar sawl achlysur. Yn anffodus, mae llawer o’r rhai a heintiwyd wedi marw. Nid yw poen y teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid wedi diflannu, na’r stigma...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r ffyrdd i leihau’r pwysau ar unedau damweiniau ac achosion brys mewn gwirionedd yw edrych ar sut y gellir defnyddio’r unedau mân anafiadau yn effeithiol. Nawr, yng Nghastell-nedd Port Talbot ac yn Singleton ar hyn o bryd, mae ymgynghoriad ar y gweill ynglŷn â lleihau’r oriau, ond rhan o’r broblem yw staffio ac ariannu’r unedau hynny. Pa gamau y mae...
David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, cyflwynodd eich rhagflaenydd ardaloedd menter fel modd o fynd ati i dyfu’r economi mewn ardaloedd penodol ledled Cymru, a’r llynedd, cyflwynodd ardal fenter ym Mhort Talbot. Beth rydych chi’n ei wneud gyda’ch cyd-Aelodau i sicrhau y gellir ymestyn y lwfansau cyfalaf uwch y tu hwnt i’r amser a roddwyd i ni eisoes, fel y gellir sefydlu’r ardal fenter, sy’n...
David Rees: Hyd yn hyn, mae hyder y gweithlu wedi cael ei chwalu—rwyf wedi dweud hyn droeon wrth y Prif Weinidog ac wrthych chi. A wnewch chi hefyd ymuno â mi, efallai, i alw ar gadeirydd newydd Tata Sons i wneud datganiad cyhoeddus i geisio dechrau ailadeiladu hyder yn yr hyn y maent yn ei ddweud?
David Rees: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ildio ar y pwynt penodol hwn. Yr hyn sy’n bwysig, yn y cyfnod yn arwain at unrhyw bleidlais, yw hyder.
David Rees: Fe ildiaf, gwnaf.
David Rees: Rwy’n credu bod ail bwynt y cynnig mewn gwirionedd yn amlygu bod cydweithio’n bwysig. Mae pwynt cyntaf y cynnig yn dweud y dylai’r Llywodraeth gymryd lle’r undebau yn y trafodaethau. Felly, mae’n wahaniad—yn gymysgedd o’r ddau. Yn 2016, fe welsom Brexit, Trump a Rwsia sy’n fwyfwy rhyfelgar. Yn 2017, rydym eisoes yn gweld heriau gyda Tsieina a’r byd masnachu gan weinyddiaeth...
David Rees: A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy ddatgan fy mod yn aelod balch o Unite, un o’r undebau a gynrychiolir yn y gwaith dur, wrth gwrs, ynghyd â Community a GMB? Rwy’n gobeithio erbyn hyn y bydd yr Aelodau yn y Siambr yn ymwybodol o fy angerdd dros y diwydiant dur, fy nghred mewn dyfodol cryf, hyfyw, fy mharch tuag at y gweithwyr dur, a fy ymrwymiad llwyr iddynt hwy, eu teuluoedd a fy...
David Rees: Diolch i’r Aelod am ganiatáu i mi ymyrryd. A ydych yn derbyn y ffaith—rydych yn siarad am y sioeau teithiol—fod cynrychiolwyr undebau llafur hefyd yn y sioeau teithiol hynny hefyd yn cyflwyno gwybodaeth i’r rhai sy’n eu mynychu? Felly, mae’r undebau llafur yn cyflwyno gwybodaeth i’r aelodau mewn gwirionedd os ydynt yn mynychu’r sioeau teithiol hefyd.
David Rees: Mae’n wir.