Canlyniadau 3521–3540 o 20000 ar gyfer speaker:David Rees OR speaker:David Rees OR speaker:David Rees OR speaker:David Rees OR speaker:David Rees OR speaker:David Rees

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (14 Chw 2017)

David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad heddiw? Mae un ohonynt gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd ynghylch rhoi canllawiau a chryfhau'r canllawiau i awdurdodau cynllunio lleol ar gloddio glo brig, oherwydd unwaith eto, yn fy etholaeth i, ar safle Parc Slip, mae’n bosib mai sefyllfa’r cais yw gohirio’r gwaith adfer ar hyn o bryd. Pan fyddant yn gwneud...

8. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Datblygu Economaidd ( 8 Chw 2017)

David Rees: Diolch i’r Aelod am dderbyn ymyriad. A ydych, felly, yn croesawu mewnbwn arian Ewropeaidd tuag at ddatblygu sgiliau, yn enwedig sgiliau lefel gradd Meistr a ddaeth drwy’r rhaglen honno? Erbyn hyn mae gennym lawer mwy o raddedigion a graddedigion Meistr o ganlyniad i’w buddsoddiad.

8. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Datblygu Economaidd ( 8 Chw 2017)

David Rees: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

8. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Datblygu Economaidd ( 8 Chw 2017)

David Rees: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Fe sonioch am ddur, felly, fi, felly—. Yn amlwg, a ydych mor siomedig, ac efallai’n ffieiddio cymaint â mi at y diffyg pwyslais ar ddur, sy’n ddiwydiant sylfaen yma yn y DU, yn y strategaeth ddiwydiannol honno, ac mai ychydig iawn y mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud i gefnogi’r diwydiant dur hyd yn hyn mewn gwirionedd? Llywodraeth Cymru sydd wedi...

4. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 7 Chw 2017)

David Rees: Arweinydd y tŷ, hoffwn i ymhelaethu rhywfaint ar bwynt arweinydd y Ceidwadwyr ar ardaloedd menter. Yn amlwg, cyflwynwyd ardaloedd menter yn y pedwerydd Cynulliad, ac mae'n bwysig ein bod ni’n deall y cynnydd sy'n cael ei wneud ar ardaloedd menter. Felly, a wnewch chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros seilwaith a'r economi i gynhyrchu diweddariad ar gynnydd o ran ardaloedd menter a pha...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Mynediad i Bobl Anabl mewn Gorsafoedd Trenau
( 7 Chw 2017)

David Rees: Brif Weinidog, roedd gan Bort Talbot orsaf â mynediad ofnadwy i bobl anabl ac, ar ôl blynyddoedd lawer iawn o ymgyrchu, yn enwedig gan fy rhagflaenydd, Brian Gibbons, dyrannwyd y grant gwella gorsafoedd i sicrhau bod gorsaf Port Talbot yn cael ei huwchraddio, ac rwy'n siŵr eich bod chi’n croesawu'r newidiadau yr ydym ni’n eu gweld ym Mhort Talbot yn awr o ran mynediad i'r anabl a...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cryfhau Cymunedau
( 1 Chw 2017)

David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg mae cymunedau cryf hefyd yn dibynnu, nid yn unig ar y tri ffactor a grybwyllwyd gennych, ond hefyd ar iechyd a lles y cymunedau hynny er mwyn sicrhau eu bod mewn sefyllfa i fanteisio ar yr holl agweddau eraill. I’r perwyl hwnnw, ar hyn o bryd mae gan Cymunedau yn Gyntaf elfen iechyd a lles o’i fewn, ac rydych wedi dweud mewn datganiad blaenorol eich bod yn...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Parthau Plant yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru
( 1 Chw 2017)

David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, mae dirprwy gyfarwyddwr yr is-adran plant a theuluoedd wedi tynnu sylw at y meini prawf allweddol ar gyfer parthau plant mewn gwirionedd, yn enwedig gwaith amlasiantaeth, y cwmnïau angori a’r sefydliadau, ac mae’r trydydd sector yn chwarae rhan bwysig yn hynny. Yn awr, mae’r cynigion wedi cael eu cyflwyno i chi. A wnewch chi sicrhau bod y cynigion yn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Dyfroedd Mewndirol Cymru
( 1 Chw 2017)

David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich ateb a’ch awgrym y byddwch yn cyhoeddi’r penderfyniad ar yr ymgynghoriad cyn bo hir. Yn amlwg, pan gyhoeddwyd y Papur Gwyrdd, mynegwyd pryderon mawr gan bysgotwyr ynglŷn â’r effaith y buasai’n ei chael ar stociau pysgota ac amseroedd bridio. Ac efallai mai mater mynediad ‘cyfrifol’ yw’r gair pwysig. Cyfarfûm â fy nghymdeithas bysgotwyr...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cynllun Diwydiannol Llywodraeth y DU
(31 Ion 2017)

David Rees: Brif Weinidog, rydych chi newydd grybwyll dur yn y fan yna, ac a ydych chi mor siomedig ag yr oeddwn innau pan ddarllenais drwy'r cynllun diwydiannol gan Lywodraeth y DU mai prin yw’r trafod ar ddur? A dweud y gwir, mae'n adlewyrchu, o bosibl, ei holl agwedd at ddur—nid yw’n bodoli, i bob pwrpas. A wnewch chi edrych ar y strategaeth ddiwydiannol, gan fod gweithgynhyrchu yn 16 y cant o...

7. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Gwaed Halogedig (25 Ion 2017)

David Rees: Fel y dywedwyd eisoes y prynhawn yma, mae llawer o bobl yng Nghymru wedi cael eu heintio â naill ai HIV neu hepatitis C o ganlyniad i gynhyrchion gwaed halogedig, a ddaeth iddynt fel triniaeth, ac fel y nododd Hefin David, fel plant ifanc ar sawl achlysur. Yn anffodus, mae llawer o’r rhai a heintiwyd wedi marw. Nid yw poen y teuluoedd sydd wedi colli anwyliaid wedi diflannu, na’r stigma...

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Damweiniau ac Achosion Brys (Derbyn Pobl i’r Ysbyty)
(25 Ion 2017)

David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r ffyrdd i leihau’r pwysau ar unedau damweiniau ac achosion brys mewn gwirionedd yw edrych ar sut y gellir defnyddio’r unedau mân anafiadau yn effeithiol. Nawr, yng Nghastell-nedd Port Talbot ac yn Singleton ar hyn o bryd, mae ymgynghoriad ar y gweill ynglŷn â lleihau’r oriau, ond rhan o’r broblem yw staffio ac ariannu’r unedau hynny. Pa gamau y mae...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Twf Busnesau
(25 Ion 2017)

David Rees: Ysgrifennydd y Cabinet, cyflwynodd eich rhagflaenydd ardaloedd menter fel modd o fynd ati i dyfu’r economi mewn ardaloedd penodol ledled Cymru, a’r llynedd, cyflwynodd ardal fenter ym Mhort Talbot. Beth rydych chi’n ei wneud gyda’ch cyd-Aelodau i sicrhau y gellir ymestyn y lwfansau cyfalaf uwch y tu hwnt i’r amser a roddwyd i ni eisoes, fel y gellir sefydlu’r ardal fenter, sy’n...

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

David Rees: Hyd yn hyn, mae hyder y gweithlu wedi cael ei chwalu—rwyf wedi dweud hyn droeon wrth y Prif Weinidog ac wrthych chi. A wnewch chi hefyd ymuno â mi, efallai, i alw ar gadeirydd newydd Tata Sons i wneud datganiad cyhoeddus i geisio dechrau ailadeiladu hyder yn yr hyn y maent yn ei ddweud?

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

David Rees: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ildio ar y pwynt penodol hwn. Yr hyn sy’n bwysig, yn y cyfnod yn arwain at unrhyw bleidlais, yw hyder.

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

David Rees: Fe ildiaf, gwnaf.

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

David Rees: Rwy’n credu bod ail bwynt y cynnig mewn gwirionedd yn amlygu bod cydweithio’n bwysig. Mae pwynt cyntaf y cynnig yn dweud y dylai’r Llywodraeth gymryd lle’r undebau yn y trafodaethau. Felly, mae’n wahaniad—yn gymysgedd o’r ddau. Yn 2016, fe welsom Brexit, Trump a Rwsia sy’n fwyfwy rhyfelgar. Yn 2017, rydym eisoes yn gweld heriau gyda Tsieina a’r byd masnachu gan weinyddiaeth...

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

David Rees: A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy ddatgan fy mod yn aelod balch o Unite, un o’r undebau a gynrychiolir yn y gwaith dur, wrth gwrs, ynghyd â Community a GMB? Rwy’n gobeithio erbyn hyn y bydd yr Aelodau yn y Siambr yn ymwybodol o fy angerdd dros y diwydiant dur, fy nghred mewn dyfodol cryf, hyfyw, fy mharch tuag at y gweithwyr dur, a fy ymrwymiad llwyr iddynt hwy, eu teuluoedd a fy...

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

David Rees: Diolch i’r Aelod am ganiatáu i mi ymyrryd. A ydych yn derbyn y ffaith—rydych yn siarad am y sioeau teithiol—fod cynrychiolwyr undebau llafur hefyd yn y sioeau teithiol hynny hefyd yn cyflwyno gwybodaeth i’r rhai sy’n eu mynychu? Felly, mae’r undebau llafur yn cyflwyno gwybodaeth i’r aelodau mewn gwirionedd os ydynt yn mynychu’r sioeau teithiol hefyd.

4. 4. Dadl Plaid Cymru: Tata Steel (18 Ion 2017)

David Rees: Mae’n wir.

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.