Canlyniadau 341–360 o 2000 ar gyfer speaker:Huw Irranca-Davies

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Profiad Gwaith a Recriwtio Agored ( 9 Chw 2022)

Huw Irranca-Davies: 2. Pa fesurau sydd ar waith i hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith a recriwtio agored yng ngweithle'r Senedd? OQ57601

6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2022-2023 ( 8 Chw 2022)

Huw Irranca-Davies: Felly, mae hyn hefyd yn garreg filltir bwysig wrth graffu ar wariant Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig â chyfiawnder, ac rwy'n gobeithio, drwy ein gwaith, ein bod yn dechrau taflu goleuni ar y mater pwysig iawn hwn. Fel rhan o'r gwaith craffu a thryloywder cynyddol hwn, rydym yn ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog am ymateb i'n cais a darparu gwybodaeth am wariant ar gyfiawnder cyn ein...

6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2022-2023 ( 8 Chw 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Mae'n galonogol iawn i allu cyfrannu i'r ddadl hon ar y gyllideb fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gan mai dyma'r tro cyntaf i'r pwyllgor hwn graffu ar y gyllideb.

5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol ( 8 Chw 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd, a dim ond ychydig o sylwadau sydd gen i i'w gwneud, a hynny dim ond oherwydd bod hwn yn un eithaf diddorol sydd o'n blaenau ni yma. Fe wnaethom ni adrodd ar y memorandwm hwn ar 3 Tachwedd 2021, ac nid oes gennym ni unrhyw argymhellion yn ein hadroddiad, ond dau sylw a ddylai fod o ddiddordeb i'r Senedd o ran cymhwysedd deddfwriaethol. Felly, rydym yn nodi ac yn cytuno...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Yr Argyfwng Costau Byw ( 8 Chw 2022)

Huw Irranca-Davies: Wel, Prif Weinidog, rydych chi'n iawn, ac rwy'n ei weld o ddydd i ddydd yn Ogwr—ac rwy'n siŵr bod pob Aelod yma, ni waeth beth fo'i ymlyniad gwleidyddol—oherwydd bod teuluoedd yn Ogwr bellach yn wynebu sawl ergyd. Mae'n argyfwng costau byw wedi ei achosi gan bolisïau Llywodraeth Geidwadol y DU. Mae'r toriad i gredyd cynhwysol wedi effeithio ar ddegau o filoedd o deuluoedd ledled Cymru....

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Yr Argyfwng Costau Byw ( 8 Chw 2022)

Huw Irranca-Davies: 2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch yr argyfwng costau byw? OQ57603

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: 70 mlynedd ers esgyn i'r orsedd ( 2 Chw 2022)

Huw Irranca-Davies: Rwy’n croesawu’r ddadl hon heddiw, a gyflwynwyd gan Darren Millar, i nodi deng mlynedd a thrigain ers i’r Frenhines esgyn i’r orsedd. Mae’n gynnig syml un linell o hyd, ac weithiau, y rhai symlaf yw'r rhai mwyaf effeithiol. Mae'r cynnig yn dweud: 'Cynnig bod y Senedd:'— ein Senedd ni— 'Yn estyn ei llongyfarchiadau cynhesaf i'w Mawrhydi y Frenhines ar achlysur 70 mlwyddiant ei...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ( 2 Chw 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Hoffwn gychwyn drwy roi clod llawn ac unrhyw freindaliadau sy'n deillio o unrhyw sylwadau yma i Sam Kurtz am ei ddatganiad barn ddoe, a gefnogwyd yn llawn ar sail drawsbleidiol gan Mabon ap Gwynfor a minnau—a llawer o rai eraill, mae'n siŵr—ar yr ymgyrch barhaus i blannu perthi, ymylon caeau a choed a arweinir gan Coed Cadw a Coed Cymru. A yw'r...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Gwariant ar Ddeddfwriaeth ( 2 Chw 2022)

Huw Irranca-Davies: Dylai'r Senedd fod â diddordeb gwirioneddol ym maint adnoddau Llywodraeth Cymru ar gyfer deddfwriaeth a'r modd o'u targedu'n effeithiol, oherwydd nodwn y cynnydd digynsail yn y defnydd o'r broses cydsyniad deddfwriaethol, lle mae adnoddau Llywodraeth Cymru yn cael eu hailgyfeirio tuag at San Steffan yn ychwanegol at yr hyn a geir yma yng Nghymru; yr adnodd ychwanegol sydd ei angen i ymateb i...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy ( 2 Chw 2022)

Huw Irranca-Davies: 8. Sut bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng natur? OQ57546

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ( 2 Chw 2022)

Huw Irranca-Davies: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o setliad cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer yr awdurdodau lleol sy'n gwasanaethu etholaeth Ogwr?

9. Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 ( 1 Chw 2022)

Huw Irranca-Davies: Fel yr eglurodd y Gweinidog eisoes, mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011 a Rheoliadau Paratoadau Cig (Diwygio ac Addasiadau Darfodol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Fe wnaethom nodi yn ein hadroddiad—dim ond ychydig o sylwadau byr sydd gennyf yma—bod Llywodraeth y DU wedi cynnal ymarfer...

9. Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021 ( 1 Chw 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd, a diolch, Weinidog, hefyd. Ystyriwyd y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 17 Ionawr, ac mae ein hadroddiad i'r Senedd yn cynnwys un pwynt adrodd teilyngdod. 

6. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Cymru ac Ewrop — Rheoli perthynas newydd ( 1 Chw 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd, a rwyf innau, fel eraill, yn croesawu penodiad Derek Vaughan fel cynrychiolydd Llywodraeth Cymru ar Ewrop. Bydd unrhyw arsylwr teg yn cydnabod ei brofiad perthnasol enfawr a'i wybodaeth, a'i enw da ar draws y pleidiau, a hefyd y berthynas y gall ei defnyddio yn yr UE. Mae'n ddewis ysbrydoledig, Gweinidog, a dymunwn y gorau iddo yn ei ymwneud â Chymru. A gaf i groesawu hefyd...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 1 Chw 2022)

Huw Irranca-Davies: Gadewch i mi ddechrau drwy adleisio'r galwadau gan Alun Davies heddiw ynghylch yr angen am ddatganiad ar ddeintyddiaeth y GIG. Mae wedi bod yn fater parhaus ers cryn amser, ac mae angen i ni ddeall sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r sector deintyddiaeth i gynyddu gallu ein hetholwyr i gael gwasanaeth deintydd. Ond, ar fater ar wahân, mae'n amlwg o'r cwestiynau heddiw nad fi yw'r...

QNR: Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd (26 Ion 2022)

Huw Irranca-Davies: Sut y bydd y Gweinidog yn ymgorffori'r hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy ar draws holl bortffolios polisi Llywodraeth Cymru?

7. Dadl Plaid Cymru: Costau byw (19 Ion 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Lywydd. Rhaid bod pawb yn ymwybodol o'r argyfwng costau byw sydd bellach yn bygwth taro llawer o'n hetholwyr, ac eithrio deiliaid Rhif 10 efallai. Mae chwyddiant wedi neidio i 5.4 y cant, ei lefel uchaf mewn bron i 30 mlynedd. Caiff ei yrru gan gostau uwch dillad, bwyd ac esgidiau, dodrefn a nwyddau'r cartref, ac oedi mewn cadwyni cyflenwi ym mhorthladdoedd Prydain. Mae Banc Lloegr yn...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyfyngiadau COVID (19 Ion 2022)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyfyngiadau COVID (19 Ion 2022)

Huw Irranca-Davies: Wel, na, mewn gwirionedd, oherwydd, Laura, rydym i gyd wedi cael llond bol ar y mesurau mewn ymateb i COVID. Mae pob un ohonom wedi cael llond bol, oherwydd yr effaith ar ein teuluoedd, ar fusnesau ac yn y blaen. Ond oni fyddech yn cytuno mai un o'r gwersi rydym wedi'u dysgu o donnau cynharach o'r pandemig hwn yw'r angen i symud ymlaen yn ofalus, a hefyd, rhaid imi ddweud, i wneud ymyriadau'n...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cyfyngiadau COVID (19 Ion 2022)

Huw Irranca-Davies: Russell, diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Rwyf fi, fel llawer o bobl, yn dilyn cyfryngau cymdeithasol y Ceidwadwyr Cymreig, ac mae'r ffaith eich bod yn cymryd y clod am hyn—. Chwarae teg i chi. Ond sylwodd un person, mewn ymateb i hynny, ei fod yr un peth â gweiddi, am 25 munud yn ddi-stop, o res Z yn y stand, 'Rhowch y bêl i Shane, rhowch y bêl i Shane' ac yna mae Biggar yn...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.