Mark Reckless: Mae adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 yn gymhleth iawn. Gwnaed pob math o newidiadau iddi, ac rwy'n pryderu nad yw rhagdybiaeth ar ran Aelodau Plaid Cymru, a Mike o bosibl, yn gywir. Nid wyf yn credu bod y didoliad hwn yn bodoli ar gyfer llety hunanddarpar hunangynhwysol a ddarparir yn fasnachol. Rwy'n credu bod hwnnw'n dod o is-adran (2), sef y didoliad ar gyfer gwestai, a gwely...
Mark Reckless: Weinidog, fe gyfeirioch chi at weithgareddau adfywio a thai cymdeithasol fel enghreifftiau cadarnhaol o ble y gallai llywodraeth leol yng Nghymru fod yn benthyca arian, ond ceir hefyd—ceir rhywfaint o dystiolaeth, o leiaf, o fenthyca llywodraeth leol yng Nghymru sydd wedi'i ysgogi gan fuddsoddiad y portffolio eiddo masnachol. Un enghraifft yw Sir Fynwy, ac rydym wedi clywed sawl tro yn y...
Mark Reckless: Diolch, Lywydd. Weinidog Cyllid, rydych yn disgrifio'r cynnydd yng nghyfraddau llog y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus fel cam yn ôl. Wrth wneud hynny, a oeddech yn adlewyrchu'r datganiad i'r wasg gan y Trysorlys, a ddywedai, drwy gynyddu'r gorswm ar fenthyciadau newydd 100 pwynt sylfaen, ei fod yn adfer cyfraddau llog i'r lefelau a oedd ar gael yn 2018? Ac a fyddech yn cytuno â fy...
Mark Reckless: Rwy'n eich canmol chi, Prif Weinidog, am y ddogfen hon ac am eich cynigion diddorol chi, a hefyd am eich awydd i gymryd rhan mewn dadl ledled y DU yn hytrach na chyfyngu hyn i fanylion datganoli yng Nghymru. Rydych chi'n dweud na fydd Plaid Cymru byth yn gweld y risgiau'n gorbwyso gwobrwyon annibyniaeth—y maen nhw o leiaf, o bosibl, hyd 2030, ac rwy'n credu mai dyna'r dyddiad y maen nhw'n...
Mark Reckless: Diolch, Llywydd. Datganwyd gennych ddoe y dylai Sbaen gael ei gwahardd o'r UE, felly hoffwn holi'r Prif Weinidog am ei safbwynt. Mae gan Lywodraeth Cymru Weinidog cysylltiadau rhyngwladol, er nad yw'r rhain wedi eu datganoli, a Phrif Weinidog sosialaidd yn Sbaen a ofynnodd i ni barchu penderfyniadau barnwrol annibynnol eu Goruchaf Lys. Yn y fan yma, dywedir wrthym gan Aelodau Llafur y dylid...
Mark Reckless: Mae ymateb y Gweinidog yn ymddangos yn dra gwahanol i'r rhai rwy'n cofio eu cael gan ei rhagflaenwyr ar bynciau tebyg, ond nid yw eu hareithiau ynghylch awgrymiadau fod mwy yn well yn gyffredinol yn rhai sydd wedi arwain at wneud i gynghorau, neu gynghorwyr o leiaf, fod eisiau uno. Tybed a yw Llywodraeth Cymru yn gallu cynnig amcangyfrif neu ryw ddadansoddiad neu rywbeth i gynorthwyo gyda'r...
Mark Reckless: 2. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau'r arbedion ariannol sydd wedi'u colli o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i gynigion i leihau nifer y cynghorau yng Nghymru? OAQ54494
Mark Reckless: Rwy'n gwybod nad y Llywodraeth yw'r noddwr, ond chi, Prif Weinidog, fel Aelod unigol, oedd yn gyfrifol am y sylwadau a wnaethoch chi, a dyna pam y gofynnais onid oedd hi'n wir bod gennym ni'r fersiwn a gyflwynwyd gan y Llywydd oherwydd y sylwadau hynny, ac oherwydd pa mor gryf a grymus y gwnaethoch chi gynnig y byddai cael 'Senedd' ar sail uniaith yn ennyn consensws pan ei bod hi'n amlwg nad...
Mark Reckless: Diolch, Llywydd. Roedd fy nhad-cu yn aelod ohono—rwy'n credu mai'r Dáil yw ei enw. Llywydd, fe wnaethoch chi weithio'n galed iawn i geisio cael fersiwn o'r Bil yr ydym ni'n ei drafod yfory sydd mor agos at gonsensws ag y gallem ni ei gael, ac ni wnaethoch chi weithio'n ddim caletach, yn fy marn i, nag ar enwi ein sefydliad. Nawr, tybed, Prif Weinidog, a ydych chi'n cofio bod cam yn y...
Mark Reckless: Byddai'n bleser gennyf, Suzy.
Mark Reckless: Credaf mai dyna'r duedd graidd. Cytunaf â chi ac, yn fras, â'r hyn y mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn ei wthio yn y maes hwnnw—yn y maes addysg yng Nghymru, mae hi'n ymddangos bod y canlyniadau wedi gwaethygu'n sylweddol dros ystod y cyfnod hwnnw, a dyna oedd y duedd fwyaf. Os oes rhywfaint o welliant eleni, credaf y dylem gydnabod hynny, ond credaf mai'r duedd yw'r prif fater o hyd. Gyda...
Mark Reckless: Rwy'n cynnig gwelliant 5, a gyflwynwyd gan Caroline Jones, yn ffurfiol. Rwyf am longyfarch Suzy Davies ar agor y ddadl hon, a Siân ar ei haraith yn awr. Rwy'n cytuno â'r hyn y mae Siân Gwenllian yn ei ddweud am yr angen am fwy o gyllid. Rwy'n credu bod y Gweinidog cyllid yma gyda ni a bod cyllideb ar y ffordd, a chawsom gynnydd sylweddol wedi'i gyhoeddi yn y gwariant ar addysg yn Lloegr,...
Mark Reckless: Addawodd y Gweinidog ddiweddariad i ni ar yr asesiad economaidd hwnnw, ond yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw ailgyhoeddi adroddiadau y mae'r Llywodraeth wedi cyfeirio atyn nhw o'r blaen. Mae gennym ni yn y fan yma amcangyfrifon y Llywodraeth ei hun—yn y crynodeb gweithredol mae hyn—sy'n awgrymu, gyda Brexit 'heb gytundeb', y bydd yr economi tua 9 y cant yn llai ymhen 15 mlynedd nag y...
Mark Reckless: Croesawaf y Gweinidog Cyllid i'w sesiwn yn ateb cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos hon, a hyderaf bod y Prif Weinidog wedi bod mor llwyddiannus yn hyrwyddo Cymru oddi ar y cae ag y mae'r tîm wedi bod hyd yn hyn ar y cae yn Japan. Mae'r Llywodraeth wedi neilltuo agenda heddiw i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ei pharatoadau pe byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb...
Mark Reckless: Credwn y dylid ei hadeiladu. Buom yn ymgyrchu dros ffordd liniaru i'r M4. Mae ei lliw neu'r union lwybr yn fater atodol i'r ffaith bod Cymru angen iddi gael ei hadeiladu.
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: Mae'n dweud bod ein cynnig yn cyfeirio at gyllid o'r Undeb Ewropeaidd. Nid yw'n gwneud hynny; mae'n cyfeirio at y pwerau a gymerodd yr Undeb Ewropeaidd dros y rhwydwaith traws-Ewropeaidd, ac nid dyna sydd dan sylw. Mewn rhai o'r rheini, maent yn eu rheoleiddio ac maent yn mynnu safonau penodol, ac yna, yn yr achos hwn, yn mynnu bod Cymru'n talu amdanynt.
Mark Reckless: Oni bai fy mod yn camgymryd yn fawr, rwy'n cofio'r Aelod yn siarad ym mis Gorffennaf am awydd i gael mwy o ddatganoli, ac nid wyf yn credu ei fod wedi bod yn ôl yn y lle hwn cyn i mi glywed adroddiadau amdano'n siarad yng Nghasnewydd yn dweud ei fod bellach am ddiddymu'r Cynulliad. Pam y newid dros doriad yr haf?
Mark Reckless: Cytunaf â'r hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud, ac mae'n un rheswm pam ein bod yn awyddus i ganslo HS2, ond hefyd, fel y dywedodd David T.C. Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig nos Sul wrth y Gweinidog Brexit, oherwydd HS2, oherwydd yr annhegwch hwnnw, roedd arno eisiau gwthio i gael Llywodraeth y DU i dalu am ffordd liniaru'r M4.
Mark Reckless: Ac i mi, y broblem yw methiant gormod o'r bobl sydd o blaid aros, gan gynnwys ac yn enwedig efallai yn San Steffan, i dderbyn canlyniad y refferendwm. Maent wedi treulio tair blynedd a mwy yn tyfu'n fwyfwy hyderus ac yn mynd ymhellach ac ymhellach yn erbyn yr hyn a ddywedasant yn y gorffennol i geisio rhwystro canlyniad y refferendwm hwnnw, ac rwy'n credu mai'r gwrthodiad hwnnw i weithredu'r...