Alun Davies: Hoffwn wneud pwynt o drefn ar y weithdrefn hon, Llywydd.
Alun Davies: Roeddwn wedi tybio mai fel hyn y byddai'r ddadl y prynhawn yma, mewn gwirionedd. Efallai y dylwn fod wedi meddwl yn wahanol amdani. Pan ystyriwch beth a ddigwyddodd cyn ac ar ôl y refferendwm, yn eironig credaf mai gyda Phrif Weinidog Lwcsemourg, Xavier Bettel, rwy'n cydymdeimlo fwyaf, pan ddywedodd, 'O'r blaen, roeddent i mewn ac yn optio allan o lawer o bethau; yn awr maent eisiau bod...
Alun Davies: Mae eraill wedi dadlau y prynhawn yma dros yr egwyddor o fysiau ac ariannu gwasanaethau bysiau, a threfnu a rheoli gwasanaethau bysiau. Ategaf bopeth a ddywedwyd wrth agor y ddadl hon gan fy nghyd-Aelod Huw Irranca-Davies; rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn cydnabod lle bysiau mewn polisi trafnidiaeth gyhoeddus ehangach. Yr hyn yr hoffwn ei wneud yw ceisio disgrifio sut y byddai...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Weinidog. Byddwn yn awgrymu efallai y dylai'r Llywodraeth wneud hynny. Mae'r rheini ohonom sy'n byw ac sydd wedi cael ein magu ym Mlaenau'r Cymoedd wedi hen arfer gweld defaid o amgylch ein cymunedau fel rhan o natur y lle. Ond yr hyn a welsom yn ddiweddar yw methiant yr awdurdod lleol ym Mlaenau Gwent i gynnal ffensys a chynnal yr ardaloedd tir comin lle mae ganddynt...
Alun Davies: 3. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith anifeiliaid fferm sy'n crwydro ar les anifeiliaid? OQ56661
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd. Roeddwn i'n dymuno ymateb i bwynt a wnaeth Peter Fox. Nid yw hwn yn fater gwleidyddol yn ei hanfod. Pan oeddwn i'n Weinidog yn Llywodraeth Cymru, gweithiais ochr yn ochr â Gweinidogion Ceidwadol. Fe wnaethom ni eistedd yn yr ystafell ddirprwyo ym Mrwsel a dadlau yr un achos dros weision sifil a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y...
Alun Davies: Na, nid i gael gwared arnoch chi. Wnaethoch chi ddim ei ddeall; dyna'r broblem, Peter. Pan ofynnais i chi pa bwerau yr oeddech chi yn dymuno eu cael, wnaethoch chi ddim ateb. Yr hyn y mae angen inni allu ei wneud yw darparu'r cyllid a'r ffrydiau ariannu'n agored, yn dryloyw, yn deg, yn ôl yr angen, ac yna ei ddarparu i'r bobl hynny. Dyna oedd yn cael ei wneud, a'r hyn sy'n cael ei wneud yn y...
Alun Davies: Rwy'n croesawu'r ddadl y prynhawn yma. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi cyflwyno dadl ar y mater pwysig hwn mor gynnar ar ôl yr etholiad. Mae'n gwbl hanfodol, os yw'r DU am olygu unrhyw beth o gwbl, bod cyfoeth y Deyrnas Unedig yn cael ei rannu'n deg rhwng rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig, ar draws gwledydd y DU, ond hefyd o fewn gwledydd y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn...
Alun Davies: Prif Weinidog, dwi'n croesawu'r datganiad y prynhawn yma, a dwi'n croesawu'r weledigaeth radical sy'n mynd trwyddo fe hefyd. Mae'n un peth cyflwyno dogfen fawr sych, ond mae'n beth gwahanol cyflwyno dogfen sy'n disgrifio taith radical i Gymru. Dwi'n croesawu'r ddogfen rydyn ni wedi'i gweld y prynhawn yma. Dwi'n croesawu nid jest y weledigaeth sydd ynddi hi, ond yr egwyddorion radical sydd...
Alun Davies: Gweinidog, a gawn ni ddatganiad brys gan y Llywodraeth o ran eu dadansoddiad o'r cytundeb masnach yr ymddengys ei bod wedi'i gytuno neithiwr rhwng y Deyrnas Unedig ac Awstralia? Mae'n ymddangos yn yr adroddiadau, ac yn sicr ym marn y ddau undeb ffermio yng Nghymru, fod hwn yn gyfle i Lywodraeth y DU aberthu amaethyddiaeth yng Nghymru, gyda'r effaith gysylltiedig ar gymunedau gwledig, ein...
Alun Davies: Prif Weinidog, rwy'n credu bod croeso eang iawn i'r £70 miliwn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i wella rheilffordd cwm Ebwy dros y blynyddoedd nesaf, a thrwy wneud y buddsoddiad hwn, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud iawn am fethiant Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fuddsoddi yn y materion hyn, ac rwy'n credu y byddai llawer ohonom ni'n dymuno i Lywodraeth y DU wario cymaint...
Alun Davies: Hoffwn i ofyn am ddatganiad brys ar unrhyw gytundeb masnach rydd bosibl ag Awstralia. Fe wnaethom ni glywed y newyddion dros y penwythnos fod Llywodraeth Geidwadol y DU yn troi ei chefn ar y Gymru wledig ac yn troi ei chefn ar y diwydiant amaethyddol. Rydym wedi clywed gan y ddau undeb ffermio am yr effaith andwyol bosibl ar ffermio ledled ein gwlad ar sail cytundeb masnach rydd a fydd o fudd...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am hynna, ac yn ddiolchgar am y ffordd y mae wedi arwain ymateb Llywodraeth Cymru i COVID dros y flwyddyn ddiwethaf. Ac mae llawer o agweddau ar adfer o COVID y mae'r Prif Weinidog wedi eu disgrifio eisoes. Ond, heddiw, hoffwn ganolbwyntio unwaith eto ar ddyfodol canol ein trefi. Prif Weinidog, siaradodd John Griffiths yn gynharach heddiw am ddyfodol...
Alun Davies: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r adferiad o COVID-19 ym Mlaenau Gwent? OQ56514
Alun Davies: Brif Weinidog, fe wnaeth pobl Blaenau Gwent ymddiried ynoch chi a Llywodraeth Cymru i ymdrin â'r pandemig hwn, ac maent wedi ymddiried yn y penderfyniadau rydych wedi bod yn eu gwneud dros y flwyddyn ddiwethaf. Ac fe fyddwch yn gwybod, o'ch ymweliadau â Blaenau Gwent, fod pobl am ddiolch yn fawr iawn i chi am y ffordd y gwnaethoch chi arwain ymateb y Llywodraeth ar hyn, ac rwy'n sicr am...
Alun Davies: Brif Weinidog, fel eraill, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth Lafur wedi cael ei hailethol, yn ogystal â’r ffaith eich bod wedi eich ailbenodi’n Brif Weinidog a’r tîm o Weinidogion rydych wedi’u cynnull ynghyd i yrru Cymru ymlaen dros y pedair blynedd nesaf. Mae fy nghwestiwn y prynhawn yma’n ymwneud â sut y bydd hynny'n digwydd yn nhermau polisi ac am fecanwaith y...
Alun Davies: Rydw i'n eilio'r enwebiad.
Alun Davies: Bydd llawer ohonom wedi rhannu cwmni'r Tywysog Philip, wrth fod yn bresennol gydag Ei Mawrhydi y Frenhines, mewn agoriadau brenhinol yn y Senedd ac ar adegau eraill, ond cofiaf hefyd rai o'r sgyrsiau llai ffurfiol. Pan ymwelodd ef a'r Frenhines â Glynebwy yn 2012 yn rhan o ddathliadau'r Jiwbilî Ddiemwnt, sylwais ar sut y treuliodd amser hefyd yn helpu pobl i deimlo'n gartrefol er mwyn iddyn...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Cadeirydd am ei gyflwyniad. Dylwn ddweud hefyd ein bod wedi bod yn ddiolchgar am ei arweinyddiaeth drwy gydol y Senedd hon hefyd, oherwydd, ers iddo ddod yn Gadeirydd, mae wedi arwain y pwyllgor fel Cadeirydd mewn ffordd sydd wedi dangos grym y system bwyllgorau a phŵer ei esiampl ei hun fel Cadeirydd. Rydym yn ddiolchgar iawn iddo am hynny, ac yn ddiolchgar hefyd i...
Alun Davies: Rwy'n credu y bydd gan genedlaethau'r dyfodol lawer iawn i ddiolch i'r Gweinidog hwn amdano. Bydd y diwygiadau y mae wedi eu gwneud mewn pum mlynedd yn gwrthsefyll prawf amser. Trwy osod y rheoliadau hyn a'r cod hwn heddiw, bydd hefyd yn sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei adael ar ôl, ac mae hynny'n record eithriadol o un tymor seneddol. Pan wnaethom gyflwyno'r ddeddfwriaeth yn ôl yn...