Canlyniadau 341–360 o 5000 ar gyfer speaker:John Griffiths OR speaker:John Griffiths OR speaker:John Griffiths OR speaker:John Griffiths OR speaker:John Griffiths OR speaker:John Griffiths

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mynd i'r Afael â Digartrefedd (23 Hyd 2019)

John Griffiths: Rhaid imi ddweud, yn fy mhrofiad i, mae'r cyhoedd yn credu, yn y bumed neu'r chweched economi fwyaf yn y byd, ei fod yn gyhuddiad ofnadwy yn erbyn y DU fod cynifer o bobl yn cysgu ar y stryd ac mewn perygl o fod yn ddigartref. Mae pobl yn ei ystyried yn anamddiffynadwy'n foesol, ac mae hynny'n wir. Nid wyf yn credu y gallwn osgoi cefndir o gyni Llywodraeth y DU dros gyfnod tebyg i 10 mlynedd...

5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ddiogelwch Adeiladau (22 Hyd 2019)

John Griffiths: Mae arnaf i eisiau codi rhai materion a grybwyllwyd eisoes gennych chi, Gweinidog, ac, yn wir, cyfranwyr eraill, ac mae hynny'n ymwneud ag adeiladau preswyl uchel iawn yn y sector preifat. Dim ond yr wythnos diwethaf, derbyniodd y pwyllgor cydraddoldeb ohebiaeth gan lesddeiliad yn codi pryderon sylweddol iawn am fesurau ansawdd sylfaenol a diogelwch rhag tân a'u diffyg, ac roedd hyn yn dilyn...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: y Cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu (16 Hyd 2019)

John Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau. Pwysleisiodd Mark Drakeford—Mark Isherwood, mae'n ddrwg gennyf—[Chwerthin.] Mae'n anodd iawn drysu rhwng y ddau, Ddirprwy Lywydd—rhaid ei fod yn arwydd o flinder, rwy'n meddwl. Pwysleisiodd Mark Isherwood y model cymdeithasol o anabledd wrth ystyried y materion hyn, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth a ddaeth i'r amlwg yn glir...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: y Cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu (16 Hyd 2019)

John Griffiths: Derbyniwyd argymhelliad 8 mewn egwyddor. Buom yn trafod gyda'r Gweinidog yr angen i gynnwys y rheini sydd wedi cael profiad byw o'r broses asesu. Roedd yn hyderus, pan fydd cyd-awdurdodau trafnidiaeth yn cael eu sefydlu, y byddai hon yn nodwedd bwysig i roi cyngor ar sut y gellid gwella'r modd y darparir gwasanaethau. Rydym yn sylweddoli bod darpariaethau sy'n ymwneud â sefydlu...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: y Cynllun Bathodyn Glas yng Nghymru: Cymhwystra a Gweithredu (16 Hyd 2019)

John Griffiths: Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y cynllun bathodyn glas yng Nghymru. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, yn enwedig y rhai a gymerodd ran yn y sesiynau grŵp ffocws niferus a gynhaliwyd gennym ledled y wlad. Hoffwn groesawu cynrychiolwyr o Grŵp Mynediad Trefyclo,...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Datblygu'r Gymraeg (16 Hyd 2019)

John Griffiths: Diolch yn fawr, Weinidog. Mae'r Gymraeg yng Nghasnewydd heddiw yn llawer mwy adnabyddadwy na phan ddaeth y Cynulliad i mewn i fodolaeth. Mae addysg Gymraeg yn parhau i dyfu, ac mae disgyblion ymhob ysgol cyfrwng Saesneg yn dysgu Cymraeg. Mae arwyddion a chyhoeddiadau yn ddwyieithog ac mae cyfleoedd i oedolion ddysgu a defnyddio'r Gymraeg, ond mae'r iaith yn dal yn gymharol wan a dim ond...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Datblygu'r Gymraeg (16 Hyd 2019)

John Griffiths: 5. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu'r Gymraeg mewn ardaloedd lle mae llai o siaradwyr Cymraeg? OAQ54551

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ( 9 Hyd 2019)

John Griffiths: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gwasanaethau anstatudol a gaiff eu rhedeg gan awdurdodau lleol?

4. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Digartrefedd ( 8 Hyd 2019)

John Griffiths: Hoffwn i groesawu eich datganiad chi heddiw, Gweinidog ac, yn wir, gyhoeddi'r strategaeth. Fel y gwyddoch, mae cysgu ar y stryd ac, yn wir, fater digartrefedd yn fwy eang, yn ofid canolog i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, yr wyf i'n ei gadeirio, ac rwy'n gwybod y cawn ni gyfle'r wythnos nesaf i ofyn mwy o gwestiynau i chi a chyflwyno rhagor o safbwyntiau wrth ystyried y materion hyn. Ond, fel y mae...

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ( 2 Hyd 2019)

John Griffiths: A wnaiff y Gweinidog ddarparu datganiad am wasanaethau rheilffyrdd yn ne-ddwyrain Cymru?

9. Dadl Fer: Agwedd ysgol gyfan Cymru: Cynorthwyo pob plentyn i ffynnu, dysgu a llwyddo mewn ysgolion (25 Med 2019)

John Griffiths: A gaf fi longyfarch Jayne hefyd am gyflwyno'r set bwysig a blaengar hon o faterion i'r Cynulliad heddiw? Mae mor bwysig i blant gael y dechrau gorau mewn bywyd, onid yw? Nid oes yr un ohonom yn gwybod beth y gall bywyd ei daflu atom, felly mae datblygu gwytnwch emosiynol mor bwysig dros holl lwybr ein bywyd. Fel eraill, hoffwn innau dynnu sylw at ysgol yn fy etholaeth, Ysgol Gynradd Somerton,...

6. Dadl y Pwyllgor Cyllid ar flaenoriaethau gwariant y llywodraeth (25 Med 2019)

John Griffiths: Hoffwn gefnogi'r Aelodau sydd wedi crybwyll addysg fel blaenoriaeth ar gyfer gwariant Llywodraeth Cymru, a hoffwn ganmol yn fawr yr adroddiad gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ariannu ysgolion. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion, ond rwy'n credu ei fod yn gosod achos cryf iawn dros flaenoriaethu cyllid ysgolion i raddau helaethach nag sydd wedi...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Hawliau Pleidleisio i Garcharorion (25 Med 2019)

John Griffiths: Cytunaf yn llwyr â hynny. Fel y dywedais, yr hyn yr ydym yn siarad amdano, yn fy marn i, yw gwneud y peth iawn o ran egwyddor, ond gwneud y peth iawn hefyd o ran yr effaith ymarferol. Ac nid wyf yn dweud bod rhoi'r bleidlais i garcharorion yn mynd i roi hwb mawr i adsefydlu ac ailintegreiddio, ond rwy'n credu ei fod yn arwydd pwysig, ac rwy'n credu, pan oeddem yn cymryd tystiolaeth yn y...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Hawliau Pleidleisio i Garcharorion (25 Med 2019)

John Griffiths: Diolch yn fawr. Wel, mae wedi bod yn ddadl ddiddorol gyda safbwyntiau cymysg. Wrth gwrs, roedd barn gymysg ar y pwyllgor, rhywbeth a adlewyrchwyd yn yr adroddiad, ond mae'r mwyafrif yn cefnogi argymhellion y pwyllgor a'r adroddiad ei hun. Credaf fod nifer o faterion ymarferol sy'n rhaid mynd i'r afael â hwy, fel yr amlinellwyd gan yr Aelodau, ond ymdrinnir â'r rheini yn yr adroddiad a'r...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Hawliau Pleidleisio i Garcharorion (25 Med 2019)

John Griffiths: Diolch yn fawr. Rwy’n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar hawliau pleidleisio i garcharorion. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, naill ai drwy roi tystiolaeth ysgrifenedig neu ar lafar; aelodau'r cyhoedd a gyfrannodd at ein fforwm trafod ar-lein, a'r ffordd barchus y trafodwyd ac y cynhaliwyd...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Amseroedd Aros Canser (25 Med 2019)

John Griffiths: Weinidog, ar gyfer yr wyth math mwyaf cyffredin o ganser, mae cyfraddau goroesi deirgwaith yn fwy pan geir diagnosis cynnar a phan gaiff ei ganfod yn y camau cynharaf yn hytrach nag yn y camau diweddaraf. Wrth gwrs, mae cleifion a'u teuluoedd yn dioddef yr artaith llwyr o'r amheuaeth o ganser i ddiagnosis un ffordd neu'r llall. Rwy'n croesawu'r hyn a grybwyllwyd gennych yn eich ymateb...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Amseroedd Aros Canser (25 Med 2019)

John Griffiths: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am amseroedd aros am ddiagnosis ar ôl i'r GIG ganfod amheuaeth o ganser? OAQ54385

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Rheilffordd i Gymru (24 Med 2019)

John Griffiths: Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'n fawr eich uchelgais a'ch ymrwymiad i roi Cymru mewn sefyllfa fwy grymus, Gweinidog, o ran penderfynu ar y seilwaith a'r gwasanaethau sydd gennym yma yng Nghymru. Gan mai dim ond un cwestiwn sydd gennyf, fe'i cyfyngaf felly i fater gorsaf reilffordd gerdded Magwyr, sydd, fel y gwyddoch chi, wedi cael llawer o gefnogaeth gan y gymuned leol, ac rwy'n credu ei...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cysgu Allan (24 Med 2019)

John Griffiths: Prif Weinidog, adroddodd y Pwyllgor yr wyf i'n ei gadeirio—y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau—ar gysgu ar y stryd a gwnaeth argymhellion 18 mis yn ôl. Rydym ni'n parhau i graffu ar waith Llywodraeth Cymru o ran cynnydd, a chynhaliwyd digwyddiad gennym ni, yn wir,mewn gwirionedd, yr wythnos diwethaf a byddwn yn cynnal un arall yr wythnos hon. Cefais gyfarfod hefyd â...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.