Canlyniadau 341–360 o 4000 ar gyfer speaker:Lesley Griffiths

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Mae'r mater yr ydych chi'n cyfeirio ato mewn gwirionedd yn fater gweithredol i Trafnidiaeth Cymru, a byddwn yn eich annog chi i ysgrifennu at y prif weithredwr.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Rha 2022)

Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae dau ychwanegiad at yr agenda heddiw. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ar ddiwygio bysiau. Ac yn ail, rwy'n gwybod eich bod nawr wedi rhoi caniatâd i Gyfnod 4 o'r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) gael ei gynnig ar ôl cwblhau Cyfnod 3 yn ddiweddarach heddiw. Mae busnes drafft ar gyfer y...

7. Dadl ar ddeiseb P-06-1302, 'Rhaid gwarchod mynyddoedd unigryw Cambria yng Nghanolbarth Cymru drwy eu dynodi yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol' (30 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r deisebwyr a gododd y mater pwysig iawn hwn, a hefyd i'r Pwyllgor Deisebau am ei ystyriaeth feddylgar o'r mater. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod yn llawn y rôl hanfodol y mae ardaloedd o brydferthwch naturiol eithriadol a pharciau cenedlaethol yn eu chwarae yng Nghymru, ac mae'n cefnogi dynodiadau newydd posibl lle bo hynny'n...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Capasiti Prosesu Bwyd (30 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, a gwelsom yr hyn a ddigwyddodd yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar ôl inni golli prosesydd llaeth—yr anawsterau a achoswyd gan hynny. Felly, rwy’n awyddus iawn i weld mwy o brosesu llaeth yma yng Nghymru, ac nad ydym yn gweld y tanceri hynny, fel y dywedwch, yn croesi’r ffin. Mae’n benderfyniad masnachol, ond rôl y Llywodraeth yn fy marn i yw...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Capasiti Prosesu Bwyd (30 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar ei hanes cryf o fuddsoddi yn y diwydiant bwyd, fel a ddisgrifiwyd yn fy ngweledigaeth strategol a gyhoeddwyd y llynedd. Y mis hwn, lansiais £40 miliwn o fuddsoddiad drwy’r cynllun sbarduno busnesau bwyd newydd i gefnogi buddsoddiad cyfalaf mewn offer prosesu a seilwaith.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ffliw Adar (30 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach fod hynny, yn amlwg, yn rhywbeth y gallwn ei ystyried. Byddai'n well gennyf aros tan fy mod wedi cael fy nghyfarfod gweinidogol ddydd Llun i weld beth yw'r safbwyntiau eraill ledled y DU ac i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud ar y cyd. Credaf eich bod yn iawn; mae'r rhain yn adegau heriol i bawb, ac rwy’n derbyn yn llwyr...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ffliw Adar (30 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Ers 1 Hydref 2022, mae tri achos o ffliw adar wedi’u cadarnhau yng Nghymru. Roedd dechrau epidemiolegol yr achosion presennol ym mis Hydref 2021, a gwelsom achosion yn parhau i gael eu cadarnhau drwy gydol yr haf am y tro cyntaf. Rydym yn parhau i fonitro sefyllfa’r clefyd yn ddyddiol.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cynllun LEADER (30 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Rydych yn llygad eich lle, rwyf wedi cael llythyr ac rwyf wedi ymateb i Menter Môn mewn perthynas â'u pryderon ynghylch rhaglen yn lle LEADER yng Nghymru. Yn amlwg, ni allaf wneud unrhyw ymrwymiadau cyn y gyllideb ddrafft, ond mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i weld sut y gallwn barhau i gefnogi cymunedau gwledig yn y dyfodol. Mae gwaith rhagorol wedi'i wneud drwy...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cynllun LEADER (30 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. O ganlyniad i’r ffaith nad yw Llywodraeth y DU wedi anrhydeddu ei hymrwymiad i ddarparu cyllid llawn yn lle cyllid yr UE, mae Cymru oddeutu £1.1 biliwn ar ei cholled. Fodd bynnag, fy mwriad yw parhau i gefnogi datblygu lleol dan arweiniad y gymuned drwy ein fframwaith ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) (30 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Mae'n ddeddfwriaeth bwysig iawn ar sawl lefel. Fe gyfeirioch chi at ddwy ohonynt, ond mae’r rhan o’r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag ymosodiadau gan gŵn ar dda byw, i mi, yn bwysig iawn. Nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn addas i’r diben o gwbl. Rwy'n edrych ar fy mhapur briffio i weld pa flwyddyn—cafodd y ddeddfwriaeth rydym yn gweithio iddi ar hyn o bryd ei llunio ym 1953. Wel,...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) (30 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Rwyf am gyfeirio at y ddau beth ar wahân. Felly, o safbwynt Llywodraeth Cymru, yn amlwg, ein blaenoriaeth yw lles anifeiliaid, fel y nodir yng nghynllun lles anifeiliaid Cymru. Ac mae pethau y gallwn eu gwneud ar ein pen ein hunain, ond hefyd, yn y cynllun hwnnw, mae'n cynnwys cydweithredu â Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill lle mae gwneud hynny'n cynnig manteision amlwg....

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir) (30 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y Bil lles anifeiliaid, sy’n gwneud darpariaethau i sicrhau diwygiadau pwysig ar gyfer lles anifeiliaid a gedwir. Mae memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer holl gymalau'r Bil wedi’u gosod yn y Senedd.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ymgysylltiad Cymunedau â Ffermio (30 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Rwyf wedi cael cryn dipyn o drafodaethau, yn sicr yn ystod sioeau’r haf. Roedd gan Gwartheg ar Daith gornel wych yn sioe sir Benfro, lle roedd ganddynt lif cyson o blant ysgol yn mynychu, lle roeddent yn adrodd hanes y daten, sut y dechreuodd y daten, gan fynd drwy fywyd taten a sut y mae'n cyrraedd ein platiau ar wahanol ffurfiau. Mae'r mathau hynny o bethau'n wirioneddol bwysig....

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ymgysylltiad Cymunedau â Ffermio (30 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, ac rwy'n sicr yn gweld y cynllun ffermio cynaliadwy yn y dyfodol yn cael ei ymgorffori i'r maes hwn. Fel y soniais yn yr ateb a gyflwynais i chi, mae gennym lawer o gynlluniau rydym yn eu cefnogi, ac mae'n dda iawn clywed am y prosiect yn eich etholaeth. Rwyf wedi bod yn falch iawn o weld faint o ffermwyr sydd am ymgysylltu ag ysgolion, ac...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ymgysylltiad Cymunedau â Ffermio (30 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella dealltwriaeth o sut mae bwyd yn cael ei gynhyrchu, yn ogystal â darparu buddion cymdeithasol drwy dyfu a gefnogir gan y gymuned. Mae cymorth ar gael ar gyfer amaethyddiaeth a gefnogir gan y gymuned drwy raglen datblygu gwledig cymunedau gwledig Llywodraeth Cymru, o dan y cynllun datblygu cadwyni cyflenwi a chydweithio a LEADER.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy (30 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Fel rwy'n dweud, mae'n bwysig iawn fod pob partner yn gweithio gyda'i gilydd ac rwy'n meddwl eich bod chi'n iawn ynghylch prosiect HyNet. Unwaith eto, cyfarfûm â Steve Rotherham ac Andy Burnham i drafod y rôl y gall HyNet a'r prosiect hydrogen ei chwarae ar draws y ffin, ac mae'r ddau'n awyddus iawn i gymryd rhan. Felly, gall y pwyllgor ddod â'r holl bartneriaid hyn at ei gilydd, ac fe...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy (30 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Yn sicr, byddwn yn cytuno â chi ar y pwynt olaf ac rwy'n gwybod ei bod yn bwysig iawn fod gennym bartneriaid yn cydweithio mewn perthynas â rheilffordd Wrecsam-Bidston, ac mae hynny'n cynnwys Trafnidiaeth Cymru, Merseyrail, a Llywodraeth Cymru ei hun. Mewn perthynas ag uwchgynhadledd, ar hyn o bryd mae'n debyg, tra bo comisiwn trafnidiaeth gogledd Cymru yn cael golwg ar yr hyn sydd...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy (30 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Mae is-bwyllgor Cabinet gogledd Cymru wedi trafod meysydd polisi bras sy'n effeithio ar ardal Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, gan gynnwys trafnidiaeth, sgiliau ac adferiad COVID. Mae Llywodraeth Cymru yn un o'r sylfaenwyr, ac rydym yn gwerthfawrogi'r bartneriaeth o sefydliadau sy'n gweithio i gefnogi'r economi drawsffiniol.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (30 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Aeth hynny â fi'n ôl i drafodaethau pysgota cyngor mis Rhagfyr mewn bywyd blaenorol. Yn sicr, nid yw'r ffigurau hynny gennyf wrth law, ond fe fyddwn i'n hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod mewn perthynas â hynny. Rwy'n gwybod bod swyddogion yn cael trafodaethau ar hyn o bryd ynglŷn â nifer y trwyddedau sydd wedi'u dyrannu ers inni adael yr Undeb Ewropeaidd, wrth symud ymlaen, ond...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (30 Tach 2022)

Lesley Griffiths: Wel, unwaith eto, mae'n rhywbeth y gallem ei wneud. Nid ydym yn gwybod am ba hyd y mae hyn yn mynd i bara. Gallai fod angen inni ei wneud yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, er enghraifft, ond byddai'n well gennyf gael y drafodaeth honno, oherwydd nid ydym wedi cael y drafodaeth weinidogol honno'n iawn ar draws y DU, oherwydd yn amlwg mae'n integredig iawn ar draws y DU. Felly, byddai'n well...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.