Llyr Gruffydd: Pa dargedau amgylcheddol y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu gosod yn ystod y chweched Senedd?
Llyr Gruffydd: Wel, diolch ichi am ysgrifennu. Dwi'n siŵr na orffennith y broses fanna os oes angen mynd ymhellach, a byddwn i'n hyderu—efallai y gwnewch chi gadarnhau hynny mewn ymateb. Ond mae'n enghraifft fan hyn, rwy'n credu, lle mae'r Gymraeg yn colli'r frwydr ddigidol. Os ydych chi eisiau cyflawni'ch DBS drwy gyfrwng y Saesneg, gallwch chi ei wneud ar-lein; os ydych chi eisiau ei wneud e drwy...
Llyr Gruffydd: 5. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y trafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynglŷn â sicrhau’r hawl i lywodraethwyr ysgol gwblhau gwiriadau DBS ar-lein drwy gyfrwng y Gymraeg yn unol ag addewid ei ragflaenydd ar 17 Mawrth 2021? OQ56604
Llyr Gruffydd: Mae yna bedair blynedd nawr ers i Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd ddiwethaf gynnal ymchwiliad yn edrych ar iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru—perinatal mental health. Nawr, ymhlith yr argymhellion a dderbyniwyd gan y Llywodraeth oedd bod y Llywodraeth, yng ngoleuni'r ffaith nad yw'r uned mamau a babanod sydd wedi ei leoli yn ne Cymru yn addas i famau a theuluoedd yn y...
Llyr Gruffydd: Dwi'n falch iawn bod Plaid Cymru wedi cydgyflwyno'r ddadl yma y prynhawn yma, ac mai cynnig ar y cyd gan y gwrthbleidiau yw hyn, sy'n dangos, wrth gwrs, pa mor gryf yw teimladau ar y mater yma. Ond o'm safbwynt i, wrth gwrs, mae hwn yn gynnig sy'n cael ei osod mewn ysbryd positif, mai cychwyn proses o gyfaddawdu yw'r cynnig yma. Mae Llywodraeth Cymru, os caf i ddweud, wedi ymateb yn adeiladol...
Llyr Gruffydd: Roedd hi'n dda, wrth gwrs, gweld torfeydd yng ngemau Abertawe a Chasnewydd yn ddiweddar—a Wrecsam, gobeithio, cyn bo hir. Ond, tra eich bod chi wedi blaenoriaethu timau pêl-droed sy'n chwarae yng nghynghreiriau Lloegr, dwi eisiau gwybod pam eich bod chi wedi anwybyddu'r timau sy'n chwarae yn ein prif gynghrair genedlaethol ni yma yng Nghymru. Dyw'r clybiau yn y pyramid Seisnig ddim yn...
Llyr Gruffydd: 3. Pa wersi mae Llywodraeth Cymru wedi eu dysgu o'r digwyddiadau prawf peilot er mwyn datblygu prosesau a chanllawiau a fydd yn caniatáu i ddigwyddiadau ddychwelyd yn ddiogel yng Nghymru? OQ56529
Llyr Gruffydd: Rwy'n eilio David Rees, fel Aelod sydd â phrofiad helaeth iawn o fod yn cadeirio pwyllgorau yn y Senedd yma a hefyd sydd â rhinweddau personol i gyflawni'r swydd yn hynod effeithiol, dwi'n siŵr. Diolch.
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn. Dwi eisiau diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr ymchwiliad, wrth gwrs, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi siarad yn y ddadl yma. Dwi eisiau diolch yn arbennig, hefyd, i'r Gweinidog, nid yn unig am ei hymateb hi heddiw, ond am y modd y mae hi wedi ymwneud â gwaith y pwyllgor dros y blynyddoedd diwethaf. Mae yn sicr wedi cyfoethogi a bod yn help mawr i'n hystyriaethau...
Llyr Gruffydd: Mae’r pwyllgor yn cydnabod y lefel ddigynsail o ansicrwydd ynghylch cyllidebau Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’i hadolygiad o wariant yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i ffactorau fel Brexit, etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, a’r pandemig COVID-19. Er ein bod ni'n deall yr anawsterau wrth ddarparu setliadau aml-flwyddyn o dan yr amgylchiadau presennol, rŷn...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi’n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma ar ymchwiliad y pwyllgor i weithredu Deddf Cymru 2014 a'r fframwaith cyllidol. Mi liciwn i ddiolch, ar y cychwyn, i bob un, wrth gwrs, gyfrannodd at yr ymchwiliad yma, ac i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd hefyd am ei hymateb hi i'n hadroddiad ni. Fe wnaethon ni 12 argymhelliad, ac rŷn ni'n falch iawn bod y...
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am recriwtio nyrsys yng Ngogledd Cymru?
Llyr Gruffydd: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg am bwysigrwydd hybu'r Gymraeg mewn perthynas â gwaith llywodraethwyr ysgol?
Llyr Gruffydd: Mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r rheoliadau yma, wrth gwrs, a tra eu bod nhw efallai yn eithaf technegol eu natur, dwi'n credu ei bod hi'n bwysig bod parhad yn y gefnogaeth ar gael i ffermwyr Cymru yn y cyfnod ar ôl yr Undeb Ewropeaidd a'r polisi amaeth cyffredin, wrth gwrs, ac mi fydd y rheoliadau yma'n rhoi rhywfaint o sicrwydd yn hynny o beth. Dwi'n falch bod y Llywodraeth wedi...
Llyr Gruffydd: Diolch i'r Gweinidog am y ffaith ein bod ni'n cael y ddadl yma. Fel clywon ni, efallai'n hwyrach nag y byddai nifer ohonom ni wedi'i ddymuno, ond mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r rheoliadau yma hefyd, oherwydd mae e'n faes lle mae angen mynd i'r afael ag e, ac rŷm ni wedi aros yn hirach efallai nag y dylem ni i gyrraedd y pwynt yma. Nawr, rwyf innau hefyd eisiau codi y consérn y mae nifer...
Llyr Gruffydd: Dwi'n lywodraethwr fan hyn yn Sir Ddinbych, ac fel sy'n ofynnol ac yn rhesymol, wrth gwrs, i mi wneud, fel pawb arall, mae angen DBS check bob hyn a hyn, i sicrhau fy mod i'n berson addas a chymwys i fod yn lywodraethwr. Nawr, mi ges i wahoddiad i wneud DBS check yn ddiweddar ar lein, ond os ydw i am wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, mae'n rhaid i fi ofyn am ffurflen bapur. Er fy mod i'n...
Llyr Gruffydd: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau cyfrwng Cymraeg i lywodraethwyr ysgol yng Nghymru? OQ56437
Llyr Gruffydd: Mi fydd Plaid Cymru yn cefnogi'r rheoliadau yma heddiw, ond, wrth gwrs, y cwestiwn sydd angen i ni i gyd ofyn i'n hunain yw: ydy'r targedau yma'n ddigonol? Ydyn ni'n symud yn ddigon cyflym? Ac ydy cyrraedd net sero erbyn 2050 yn ddigon uchelgeisiol yn wyneb yr argyfwng hinsawdd a natur rŷn ni'n ei brofi? Pan gefnogodd y Senedd yma gynnig Plaid Cymru i ddatgan argyfwng hinsawdd ddwy flynedd...
Llyr Gruffydd: Ond dŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, Gwnsler, bod gan yr Alban y pwerau sydd eu hangen arnyn nhw i weithredu i daclo'r broblem yma, ac mae yna Fil eisoes wedi, wrth gwrs, ei osod a'i gyflwyno yn y Senedd yn fanna. Yn anffodus, rydym ni, ar y cyfan, yng Nghymru, yn ddibynnol ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu, ond maen nhw wedi gwrthod gwneud hynny. Maen nhw wedi gwrthod rhoi mwy o hawliau...
Llyr Gruffydd: 2. Pa gyngor y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei roi i Lywodraeth Cymru ynghylch y pwerau cyfreithiol sydd ar gael i gryfhau'r gallu i ddiogelu da byw rhag ymosodiadau gan gŵn yng Nghymru? OQ56443