Mike Hedges: Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i drafod y setliad datganoli. Mae hyn yn rhywbeth y mae angen i ni ei wneud. A gaf fi wneud tri sylw cyffredinol i ddechrau? Nid yw datganoli anghymesur yn gweithio; ymddengys bod gan Blaid Cymru bolisi tameidiog ar ymwahanu, ac mae arnom angen safbwynt terfynol, diffiniedig ar ddatganoli i Gymru, ac yn bwysicach, o fewn Cymru. Rwyf wedi cefnogi 'devo max' ers tro...
Mike Hedges: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygiad SA1 yn Abertawe?
Mike Hedges: A gaf i gytuno â'r hyn y mae'r Prif Weinidog newydd ei ddweud a diolch iddo am ei ymateb? Ond y cwestiwn yw: beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i annog pobl i beidio â diswyddo ac ailgyflogi? A yw'n gallu defnyddio ei pholisi caffael, a yw'n gallu defnyddio ei chymorth ariannol i fusnesau, i annog pobl i beidio ag arfer y broses hon, sydd yn anffodus wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd...
Mike Hedges: 2. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r defnydd o arferion diswyddo ac ailgyflogi gan gyflogwyr yng Nghymru? OQ56530
Mike Hedges: Rwy'n gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar ddedfrydau hwy am greulondeb i anifeiliaid. Cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn unfrydol i'w gefnogi yn ystod y Senedd ddiwethaf, ond, yn anffodus, roedd yn rhy agos at y diwedd iddo gael ei weithredu. A wnaiff y Trefnydd roi dyddiad ar gyfer ei gyflwyno gerbron y Senedd i ni,...
Mike Hedges: Roeddwn i hefyd yn mynd i ddweud, mantais arall yw lleihau tagfeydd traffig ar draffyrdd. Ond mae pobl yn gweithio mewn swyddfeydd oherwydd, pan oedd popeth ar bapur, roedd yn rhaid iddyn nhw wneud hynny er mwyn cael gafael ar ddata a diweddaru ffeiliau. Bu symudiad tuag at weithio gartref, gyda'r niferoedd yn cynyddu'n araf ymhell cyn y cynnydd mawr yn ystod y cyfyngiadau symud. Mae naw o...
Mike Hedges: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fanteision economaidd gweithio gartref? OQ56515
Mike Hedges: Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi economi Dwyrain Abertawe?
Mike Hedges: Yn hytrach na thrin gweithio o bell fel anomaledd, dylem ei weld fel y norm newydd. O edrych ar y meysydd canlynol o waith swyddfa, cyflogau ac adnoddau dynol, cyfrifon ac archwilio, yn y dyddiau cyn TGCh, roedd angen eu gwneud yn y swyddfa. Roedd yn rhaid diweddaru cyflogau a chofnodion personol â llaw a'u ffeilio'n gorfforol, gyda thâl yn cael ei gyfrifo, ei gyfrif, ei wirio â llaw a'i...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? Hynny yw, mae gennyf fi a llawer o bobl eraill rwy'n siŵr, bryderon difrifol ynglŷn â'r ffordd y mae athrawon cyflenwi’n cael eu trin a'u talu drwy asiantaethau. Gwn nad dyma'r ateb gorau, ond gallai cynghorau ail-greu'r gofrestr gyflenwi a chyflenwi athrawon fel eu bod yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan gynghorau, neu gonsortia o...
Mike Hedges: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyflogi athrawon cyflenwi yng Nghymru? OQ56429
Mike Hedges: Diolch. Rwy'n falch o allu cyfrannu at y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Gosodwyd y rheoliadau ar 9 Chwefror. Y diwrnod canlynol, fe wnaethom ni ysgrifennu at y Gweinidog yn unol â Rheol Sefydlog 27.8 i'w hysbysu y byddem ni'n adrodd ar y rheoliadau. Rydym ni'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ohirio'r ddadl ar y rheoliadau am wythnos i'n galluogi...
Mike Hedges: Yn San Steffan ac mewn cynghorau lleol, mae'r gyllideb a'r ddadl ar y gyllideb yn ddigwyddiadau mawr, hyd yn oed pan nad oes unrhyw amheuaeth y caiff y gyllideb ei phasio gyda mwyafrif mawr. Yn y Senedd, mae'n cael ei hystyried yn deilwng o ddadl awr yn unig. Nid yw'r ddadl ar y gyllideb yn rhan o waith craffu, sydd, yn fy marn i, yn rhywbeth nad yw rhai aelodau o'r Llywodraeth—ac nid wyf...
Mike Hedges: Ein prif ased o ran ynni adnewyddadwy yw'r symudiad llanw yn aber afon Hafren. Mae'n cyfateb i ynni dŵr a phŵer geothermol yng Ngwlad yr Iâ, a phŵer dŵr yn Tsieina a Brasil. Ni fu amheuaeth erioed ynghylch cefnogaeth Llywodraeth Cymru. A wnaiff y Prif Weinidog barhau i bwyso ar Lywodraeth San Steffan o ran cynhyrchu trydan drwy forlyn llanw, gan ddechrau gydag Abertawe yn amlwg?
Mike Hedges: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amcanestyniadau o'r angen am dai yng Nghymru?
Mike Hedges: Un pwynt olaf ar hyn. A gawn ni roi'r gorau i geisio iro dwylo cwmnïau i ddod â ffatrïoedd cangen i Gymru, lle maent yn addo cannoedd o swyddi na fyddant byth yn cael eu gwireddu ac yna'r toriadau i ddilyn hynny? Nid dyma'r cyfeiriad cywir. Nid yw'n gweithio, nid yw wedi gweithio ers Awdurdod Datblygu Cymru, ac nid yw'n gweithio yn awr.
Mike Hedges: Mae gennyf olwg cadarnhaol iawn ar hyn. Credaf ein bod yn dechrau'r pedwerydd chwyldro diwydiannol—nid yn ôl y disgwyl, fel roedd pobl yn sôn amdano, gyda deallusrwydd artiffisial, ond gyda gweithio a siopa gartref. Mae'n cau'r cylch o fod pobl yn symud i ddinasoedd i weithio mewn ffatrïoedd, i fod pobl yn gadael swyddfeydd i weithio gartref. Dros y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi gweld...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw? Mae'r ffordd rydym yn trin anifeiliaid yn arwydd o'r math o gymdeithas ydym ni. Er bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud cynnydd sylweddol yn sicrhau bod fersiwn well o gyfraith Lucy yn cael ei chyflwyno y mis hwn, pa gynigion sydd gan Lywodraeth Cymru i wahardd pobl rhag bod yn berchen ar brimatiaid, cyflwyno teledu cylch cyfyng mewn lladd-dai,...
Mike Hedges: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella lles anifeiliaid? OQ56379
Mike Hedges: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am adeiladu tai cyngor yng Nghymru?