Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog. Mae Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol yn rhoi'r cyfle inni nid yn unig i ddathlu'r ffaith bod dros 5,000 o ieithoedd brodorol yn cael eu siarad ledled y byd, ond hefyd i weithio gyda'n gilydd i arbed yr ieithoedd hynny rhag diflannu. Mae ffrind da i mi, Mohammed Sarul Islam, wedi gweithio'n ddiflino dros y ddegawd ddiwethaf i sicrhau cofeb...
Caroline Jones: Diolch i'r prif swyddog meddygol am ei adroddiad blynyddol diweddaraf. Mae Dr Atherton wedi tynnu sylw at sawl her iechyd sy'n wynebu ein cenedl. Rwyf i eisiau canolbwyntio yn fy nghyfraniad i ar ddwy o'r heriau hynny. Dwy her i iechyd ein cenedl a allai, o'u gadael heb eu harchwilio, wneud niwed aruthrol i les Cymru. Yr heriau hynny yw ymwrthedd gwrthficrobaidd a lledaeniad y mudiad 'gwrth...
Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Weinidog. Ddoe, fe wnaethom ni ddysgu bod lefelau carbon deuocsid yn ein hatmosffer wedi cyrraedd 415ppm am y tro cyntaf mewn hanes dynol—nid hanes ar gofnod; nid yw'r lefelau wedi bod mor uchel â hyn ers cyn i bobl grwydro'r ddaear miliynau o flynyddoedd yn ôl. Oni bai ein bod yn cymryd camau llym, byddwn yn gadael cefnforoedd gwenwynig a phlaned sy'n marw i...
Caroline Jones: Diolch, Prif Weinidog. Mae pobl ifanc heddiw yn wynebu pwysau nad oedd yr un ohonom ni wedi breuddwydio amdano yn ystod ein cenhedlaeth ni. O bwysau ynghylch sut maen nhw'n edrych ar Instagram i'r angen i wario arian er mwyn osgoi bod yn 'default' yn Fortnite, mae baich yr oes gyfryngau cymdeithasol yn cael effaith niweidiol. Yr wythnos diwethaf, datgelodd arolwg fod plant chwech a saith oed...
Caroline Jones: 9. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella iechyd meddwl pobl ifanc? OAQ53877
Caroline Jones: 6. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am sut y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gwella bywydau pobl yng Nghymru? OAQ53878
Caroline Jones: Rwy'n croesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl heddiw a diolch i David Melding am gyflwyno'r ddadl. Rhaid imi gyfaddef nad oeddwn yn ymwybodol o e-chwaraeon cyn gweld y ddadl hon ar yr agenda, ond rwy'n cydnabod gwerth posibl y diwydiannau creadigol i economi Cymru. Mae e-chwaraeon a gemau fideo yn gyffredinol yn rhan werthfawr o'n sector creadigol sy'n tyfu yng Nghymru. Fodd bynnag, nid wyf...
Caroline Jones: Gwnaf siŵr.
Caroline Jones: Mae'n ddrwg gennyf—? Do, rydw i wedi. Do, mi wnes i. [Torri ar draws.] Mae pleidiau asgell dde wedi ennill rhwng 10-20 y cant o'r pleidleisiau yn Sweden, y Ffindir, Estonia, yr Iseldiroedd a nifer o wledydd eraill. Ac, yn nes at adref, rydym ni wedi gweld UKIP yn symud i'r dde eithafol. Pan ymunais ag UKIP, fe wnaeth yr arweinyddiaeth hi'n glir nad oedd lle yn y blaid i hilgwn, ac roedd...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Mae'n ffaith drist bod yn rhaid inni gyflwyno dadl o'r fath yn yr unfed ganrif ar hugain. Nid oes lle i hiliaeth yn ein cymdeithas, ond yn anffodus mae elfennau hiliol yn bodoli o hyd. Cadarnhaodd y Cenhedloedd Unedig y Confensiwn Rhyngwladol ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol yn y 1960au, ar adeg pan roedd y mudiad...
Caroline Jones: Diolch, Weinidog. Nid wyf yn siŵr a ydych yn ymwybodol, ond mae Ysgol Gynradd Notais ym Mhorthcawl yn bwriadu newid eu diwrnod ysgol i gyd-fynd â'r ysgol gyfun. Er mwyn cyflawni hyn, heb gwtogi'r amser addysgu, mae'r cynigion yn galw am leihau amser chwarae 40 munud a chaniatáu un amser egwyl 10 munud yn unig. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi y bydd lleihau amser chwarae a chyfyngu ar...
Caroline Jones: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y canllawiau a roddir i awdurdodau addysg lleol ynghylch sicrhau bod digon o amser yn y diwrnod ysgol i ddiwallu anghenion iechyd a lles disgyblion? OAQ53777
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Ochr yn ochr â materion yn ymwneud â'r GIG, mae'r rhan fwyaf o fy mag post yn cynnwys materion yn ymwneud â thai cymdeithasol. Mae problemau cyson gyda chymdeithasau tai wedi fy arwain i holi pwy sy'n elwa o dai cymdeithasol. Yn fy mhrofiad i, yn sicr nid yw'r tenant yn elwa. Pan oedd tai cymdeithasol yn cael eu darparu gan gynghorau lleol, nid elw oedd yn eu gyrru, ac ar y...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Bethan am gyflwyno'r ddeddfwriaeth arfaethedig hon, ac rwyf am ddweud ar y dechrau fy mod yn ei chefnogi'n llwyr yn hyn o beth. Fel Bethan, cyfarfûm â Mayameen pan ddaeth i'r Senedd i gyflwyno ei deiseb yn galw am ddarparu tai plant yng Nghymru ar gyfer plant sy'n cael eu cam-drin yn rhywiol. Treuliais amser gyda Mayameen pan adroddodd ei stori...
Caroline Jones: Weinidog, diolch byth, ar wahân i ychydig o faterion hyfforddiant, mae sefydliadau mawr yn y sector preifat megis banciau a chwmnïau cyfleustodau eisoes yn derbyn gohebiaeth yn nwy iaith swyddogol Cymru. Os ydym am annog mwy o sefydliadau sector preifat i wneud yr un peth, a ydych yn cytuno bod rhaid inni gymell yn hytrach na chosbi? Weinidog, pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i...
Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rydym dair blynedd i mewn i’r ymgyrch recriwtio, ac, er fy mod i’n cydnabod ac yn croesawu’r cynnydd rydym ni’n ei wneud, mae gennym brinder meddygon a nyrsys o hyd. Rwy’n cydnabod nad yw'r broblem yn unigryw i Gymru. Yr wythnos diwethaf, lansiodd y King's Fund, Ymddiriedolaeth Nuffield a’r Sefydliad Iechyd adroddiad ar...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Hoffwn ddechrau drwy ddweud y bûm i, am flynyddoedd lawer, yn gofalu am blant nad oedden nhw'n blant biolegol i mi ac na chawson nhw erioed mo'u smacio na'u tapio ac, yn yr un modd, a minnau'n athrawes flynyddoedd lawer yn ôl, roedd yr un peth yn wir. Fodd bynnag, mae'r newidiadau i'r ddeddf yr ydych chi'n eu cynnig yn peri pryder i lawer iawn o...
Caroline Jones: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu preifatrwydd dinasyddion Cymru?
Caroline Jones: Rhaid imi ddatgan buddiant ar y dechrau, oherwydd rwy'n ddynes WASPI. Rwy'n ddynes yr effeithiwyd arni'n annheg gan y newidiadau i oedran pensiwn y wladwriaeth ac un o'r Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth. Yn 1995, cyflwynodd y Llywodraeth Geidwadol Ddeddf Pensiynau newydd a fyddai wedi codi oedran ymddeol menywod i 65 oed—yr un oedran â dynion—erbyn 2025. Byddai hyn...
Caroline Jones: Ddirprwy Weinidog, mae gan ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol rym i drawsnewid busnesau bach, ac eto nid yw'r mwyafrif o fusnesau yng Nghymru yn gwybod sut i harneisio ei bŵer. Nid ar gyfer cwmnïau technoleg mawr yn unig y mae dysgu peirianyddol; gall y caffi lleol ei ddefnyddio, i helpu i brosesu taliadau, ffurflenni TAW, ac awtomeiddio nifer fawr o dasgau. Gyda'r mwyafrif o...