Suzy Davies: Wel, efallai, Weinidog, fod rhan o'r ateb i hyn yn ymwneud â beth sy'n digwydd yn yr unedau mân anafiadau, ac edrychaf ymlaen at ddatganiad ar hynny cyn bo hir. Ond yn y cyfamser, ymwelais yn ddiweddar ag Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont ar Ogwr i ddarganfod mwy ynglŷn â pham fod yr amser y mae'n ei gymryd ar gyfartaledd i ambiwlans drosglwyddo claf yn sylweddol hirach nag mewn rhannau...
Suzy Davies: Weinidog, wrth gwrs, mae'r swm fesul disgybl yn codi fymryn bob tro y ceir cyhoeddiad o gynnydd yng nghyflogau a phensiynau athrawon. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i chi am eich datganiad ddoe. Tybed a allwch gadarnhau a yw'r £12.8 miliwn y sonioch amdano yn y datganiad hwnnw yn rhan o'r £14 miliwn a grybwyllwyd y llynedd, neu a yw'n dod o ffynhonnell hollol wahanol. Rwy'n siŵr eich bod yn...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Weinidog.
Suzy Davies: Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol—y wybodaeth ddiweddaraf am ddiogelwch adeiladau. A galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i wneud y datganiad. Julie James.
Suzy Davies: Ac yn olaf, Lynne Neagle.
Suzy Davies: Diolch, Weinidog. Angela Burns.
Suzy Davies: Yn gyntaf oll, Trefnydd, gwerthfawrogaf fod gennym ddatganiad gan y Gweinidog tai y prynhawn yma, a gobeithiaf y bydd yn cael cyfle i fynd i'r afael â'r cwestiynau hynny a godwyd gan Andrew R.T. Davies ynghylch rheoliadau adeiladu—cyfrifoldeb yr adeiladwr yn bennaf wrth gwrs, ond hefyd mae cwestiwn i'r awdurdodau lleol fod yn agored i niwed ar eu harolygiaethau adeiladu. Mae yna broblem,...
Suzy Davies: Diolch i chi am grybwyll bargen ddinesig Bae Abertawe yn y fan yna, ond mae un maes yn ein heconomi yn gyffredinol yng Nghymru lle'r ydym ni angen gweithwyr medrus iawn sydd yn faes lle na ystyrir bod lefelau uchel o sgiliau yn angenrheidiol, sef ein diwydiant twristiaeth. Gwn y bydd David Rees yn cytuno â mi am hyn, bod gennym ni yn Aberafan rai golygfeydd ac atyniadau gwych, ond hefyd...
Suzy Davies: Diolch eto, Lywydd. Mae'n debyg nad yw'n syndod clywed gennyf i am hyn, ond heddiw, 16 Hydref, yw Diwrnod Adfywio Calon. Mae sefydliadau o bob rhan o'r byd yn dod at ei gilydd i gynyddu ein hymwybyddiaeth o ba mor bwysig yw hi i gael yr wybodaeth a'r hyder i gamu ymlaen os oes rhywun yn dioddef ataliad ar y galon. Cynhelir digwyddiadau hyfforddi ledled Cymru, nid yn unig heddiw ond drwy gydol...
Suzy Davies: Diolch, Lywydd. Fe fyddwch yn falch o glywed y byddaf yn gryno iawn. Mae'r cwestiwn cyntaf yn ymwneud ag amseriad y cyhoeddiad hwn. Rydym yn gwybod hefyd fod INEOS yn dod i gyffiniau Pen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol agos. A oes unrhyw newyddion da am botensial ar gyfer cyfleoedd yma, oherwydd ni fydd y diswyddiadau’n digwydd am flwyddyn? A oes unrhyw newyddion yn dod oddi wrth INEOS a allai...
Suzy Davies: Diolch am hynny, ond, unwaith eto, rŷn ni'n sôn am dair blynedd mewn i'r Cynulliad yma, ac rwy'n sôn am bron hanner blwyddyn ers colloch chi eich Bil. Dyw e ddim yn edrych yn debyg i fi bod lot wedi newid yn y cyfamser. A pheth arall, efallai gallwch ddweud wrthyf sawl aelod o'r cyngor partneriaeth sydd â phrofiad personol o fod yn ddysgwyr Cymraeg eu hunain? Un o dair thema gwaith y...
Suzy Davies: Wel, diolch am yr ymateb, ond dyw e ddim cweit wedi ateb y cwestiwn o ran pam y mae wedi cymryd cymaint o amser. Rydym hefyd yn disgwyl cyhoeddi polisi trosglwyddo iaith o fewn y teulu a datganiad llafar ar seilwaith ieithyddol. Rwy'n gobeithio ein bod ni'n mynd i gael rhywbeth oddi wrthych chi ynglŷn â'r rhain hefyd, achos maen nhw ar amserlen y bwrdd rhaglen. Jest i symud ymlaen, mae...
Suzy Davies: Diolch, Llywydd, a phrynhawn da, Weinidog. Yn ôl dogfen cychwyn rhaglen eich bwrdd rhaglen o 20 Mawrth 2019, rydym yn disgwyl nifer o gamau oddi wrthych y mis hwn. Un o'r rheini yw datblygu a gweithredu cynllun cyfathrebu strategaeth Cymraeg 2050 ar draws adrannau'r Llywodraeth. Tair blynedd ers i'r Cynulliad hwn ddechrau, pam nad yw hyn wedi digwydd eto?
Suzy Davies: Mae'n ymwneud â'r pwynt hwnnw, mewn gwirionedd. Ym mis Gorffennaf, efallai y byddwch yn cofio i chi fod yn ddigon caredig i ysgrifennu, neu i ohebu beth bynnag, â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ynghylch eu rhyddhad ardrethi i siopau'r stryd fawr. Dywedasant wrthyf o'r diwedd ym mis Gorffennaf—ac ar ôl i chi gysylltu â hwy—fod 90 y cant o fusnesau a oedd wedi gwneud cais...
Suzy Davies: Wel, rwy'n falch iawn o glywed bod agwedd gyd-gynhyrchiol at hyn. Tybed beth fyddai barn y trigolion lleol ar y cynnydd yn nifer y safleoedd maes glas sydd wedi eu cynnwys yng nghynllun datblygu lleol newydd yr awdurdod lleol, gan gynnwys 19 hectar i'r de o Bont Rhyd-y-cyff. Ar hynny, a allwch chi ddweud wrthyf i beth yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru, gan ei bod wedi datgan argyfwng...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Efallai y bydd yn help mawr i rannu'r amserlen gydag Aelodau rhanbarthol hefyd ynglŷn â'r pwynt a gododd David Rees. Rwy'n siŵr eich bod chi'n cofio, yn sgil cwestiynau blaenorol, y gwnes i ofyn am y posibilrwydd y gallai Cyfoeth Naturiol Cymru ac ysgolion weithio gyda'i gilydd i blannu rhai coed bach er mwyn i'n plant allu dysgu am wyddoniaeth, natur, hanes...
Suzy Davies: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal yng ngoleuni'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ar 19 Medi 2019 ynghylch diogelwch adeiladau?
Suzy Davies: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, y cyntaf gan y Gweinidog iechyd ynghylch darparu unedau mân anafiadau yng Nghymru, yn enwedig yn wyneb y neges Dewis Doeth yr wyf i'n gobeithio ein bod ni i gyd yn ei chlywed. Fel Aelod etholaeth yn fy rhanbarth i, wrth gwrs, byddwch yn ymwybodol bod yr uned mân anafiadau dan arweiniad meddygon teulu yn Singleton wedi ei chau...
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad, Jenny?
Suzy Davies: Rwy'n credu bod lle i longyfarch Ysgol Teilo Sant—mae hynny'n newyddion rhagorol. A allwch chi egluro felly pam fod nifer y graddau A i C yn gyffredinol ledled Cymru, yn enwedig yn y pynciau allweddol, wedi gostwng, os yw ysgolion fel Teilo Sant yn codi’r cyfartaledd mewn gwirionedd?