Lee Waters: Bydd yn rhaid i mi ysgrifennu at yr Aelod ynglŷn â'r manylion hynny. Nid yw gennyf ar flaen fy mysedd yr eiliad hon. Fodd bynnag, mae'r pwynt cyffredinol y mae'n ei wneud yn un teg, fel y nodais yn awr, yn y cwestiwn, ac rwy'n hapus i fynd ar drywydd hynny.FootnoteLink
Lee Waters: Wrth gwrs, byddwn yn hapus i gyfarfod â fy nghyd-Aelodau o Blaid Gydweithredol Cymru yn y Senedd i drafod hyn. Mae gan drafnidiaeth gymunedol ran bwysig i'w chwarae fel rhan o'r gymysgedd o atebion a welwn er mwyn newid dulliau teithio. Rydym yn treialu ein gwasanaeth bws Fflecsi ein hunain gyda Trafnidiaeth Cymru, gwasanaeth sy'n mabwysiadu egwyddor debyg i drafnidiaeth gymunedol, sef...
Lee Waters: Ar hyn o bryd, caiff Cwm Cynon ei wasanaethu gan gynllun trafnidiaeth gymunedol a weithredir gan Accessible Caring Transport. Mae cyngor Rhondda Cynon Taf yn darparu cymorth ariannol ar gyfer y gwasanaeth hwn, gan ddefnyddio'r grant cynnal gwasanaethau bysiau a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a'u harian eu hunain.
Lee Waters: Diolch am y cwestiwn. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am gysylltedd, ond rydym yn parhau i gamu i mewn i ddarparu cysylltedd. Mae 7,508 o adeiladau bellach wedi cael mynediad ffeibr llawn yng ngogledd Cymru o dan gynllun cyflwyno ffeibr llawn gwerth £56 miliwn Llywodraeth Cymru. Rydym yn parhau i ddarparu atebion cysylltedd drwy ein cronfa band eang lleol a'n cynllun mynediad band eang.
Lee Waters: Dyna'r pwynt allweddol yn y ddadl sy'n rhaid inni barhau i'w bwysleisio. Mae hwn bellach yn wasanaeth cyfleustodau hanfodol. Clywaf gan Aelodau ar draws y Siambr am anawsterau y mae eu hetholwyr yn eu cael wrth geisio sicrhau cysylltedd, ac mae'n rhwystr gwirioneddol i allu cyflawni swyddogaethau hanfodol mewn cymdeithas. Ond oherwydd ideoleg neu syrthni, mae Llywodraeth y DU, sy'n gyfrifol...
Lee Waters: Wel, dylwn ganmol yr Aelod am ei ddyfeisgarwch yn ceisio cyflwyno'r mater yn y ffordd hon. Wrth gwrs, ffordd ddeuol ddwy lôn 13 cilometr yw coridor sir y Fflint, felly nid yw'n gwbl amlwg i mi ei bod yn rhan annatod o fetro gogledd Cymru, ac mae hefyd wedi'i chynnwys yng nghynllun yr adolygiad ffyrdd, ac ni allaf ragweld pa benderfyniadau y byddant yn eu gwneud, oherwydd yn amlwg, fel rhan...
Lee Waters: Wel, diolch am eich cwestiwn, ac rwy'n sicr yn cytuno â chi fod delweddau brand yn bwysig iawn i ennyn cynnwrf ymysg pobl fod newid yn dod, ac i roi ffydd i bobl fod newid yn dod hefyd. Felly, rwy'n derbyn y pwynt. Rwy'n trafod hyn gyda Trafnidiaeth Cymru yng nghyswllt metro de Cymru, felly rwy'n addo ychwanegu hynny at y sgyrsiau rwy'n eu cael ac i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelod;...
Lee Waters: Diolch. Wel, mae'r metros, mewn gwahanol rannau o Gymru, ar wahanol gamau datblygu. Mae metro de Cymru, er enghraifft, wedi datblygu ymhellach, ac mae'n brosiect hynod gymhleth. Mae'r un yng ngogledd Cymru yn gymysgedd gwahanol o ddulliau teithio—mae llai o reilffyrdd nag sydd gennych yng Nghymoedd de Cymru, er enghraifft, felly mae gan fysiau rôl fwy o lawer i'w chwarae, fel sydd gan...
Lee Waters: Gwnaf. Yn ddiweddar, cytunais i roi £9.3 miliwn yn ychwanegol o gyllid i awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru ar gyfer prosiectau sy'n cefnogi'r gwaith o ddatblygu a darparu metro gogledd Cymru, gan gynnwys gwelliannau i'r seilwaith bysiau, rheilffyrdd a theithio llesol ar draws y gogledd.
Lee Waters: Credaf fod hwnnw'n bwynt hollbwysig—rydym am wneud mwy na newid y fflyd bresennol o geir o fod yn geir petrol a diesel i fod yn geir trydan; rydym yn awyddus i weld llai o geir ar y ffordd, am bob math o resymau fod ceir yn achosi niwed. Ond rydym am roi dewis i bobl, a gallwn wneud hynny drwy ddarparu clybiau ceir trydan—rhywbeth rwy'n awyddus iawn i'w weld—gyda chymunedau'n cael...
Lee Waters: Diolch am eich cwestiwn pwysig, ac yn amlwg, rydym mewn cyfnod o newid o'r motor tanio mewnol i geir trydan, ac mae Llywodraeth y DU wedi dweud na fyddwch yn gallu prynu ceir petrol neu ddiesel erbyn diwedd y degawd. Felly, mae hwn yn gynllun y bydd angen inni weithio'n agos arno gyda Llywodraeth y DU, oherwydd ar eich cwestiwn ynglŷn â chynlluniau sgrapio a chymelliadau treth, mae hynny'n...
Lee Waters: Diolch am eich cwestiwn. Mae ein strategaeth ar gyfer annog trafnidiaeth fwy gwyrdd wedi'i nodi'n glir yn 'Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021', sy'n ailadrodd ein hymrwymiad i gyflawni mwy o deithio llesol, mwy o ddefnydd o drafnidiaeth gyhoeddus a cherbydau allyriadau isel, a chreu cysylltiadau agosach rhwng cynlluniau defnydd tir a thrafnidiaeth yn unol â'r cynllun aer...
Lee Waters: Llwybr Newydd: the Wales Transport Strategy 2021 reiterates our determination and sets out how we will reduce carbon emissions by encouraging more active travel, greater use of public transport and by supporting the uptake of low-emission vehicles.
Lee Waters: Rwy'n deall y ddadl, rwyf hefyd yn deall y dystiolaeth, ac mae'r dystiolaeth gan Bwyllgor Newid Hinsawdd y DU yn dangos nad yw hynny'n wir, oherwydd os ydych yn adeiladu mwy o ffyrdd, rydych wedi ymgorffori carbon yn y ffyrdd eu hunain, sy'n gynhyrchwyr allyriadau sylweddol. Mae cynhyrchu'r ceir ychwanegol a ddaw o'r gofod ffordd ychwanegol ynddo'i hun yn cynhyrchu carbon. A hyd yn oed pe bai...
Lee Waters: Nawr, gwnaed cyfres o bwyntiau y ceisiaf fynd i'r afael â hwy yn eu tro. Fe'm trawyd gan ddadl Joel James. Dywedodd ei fod o blaid Deddf aer glân ond ei fod yn erbyn datgymhellion, ac roedd ei ddisgrifiad o sut brofiad oedd beicio yn destun penbleth i mi. Clywsom am bobl yn glanio ar ymylon ffyrdd wedi'u hamgylchynu gan anifeiliaid marw a sbwriel, a rhaid imi ddweud, nid dyna fy mhrofiad i...
Lee Waters: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd yn rhaid i Aelodau ateb cwestiynau eu hwyrion un diwrnod ynglŷn â'r hyn a wnaethant pan gyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig rybudd coch am gyflwr y blaned, ac yn seiliedig ar eu cyfraniadau y prynhawn yma, y cyfan a glywsom yw ymdrechion i greu rhaniadau. Dyna a glywsom y prynhawn yma. Dro ar ôl tro, ymdrech i rannu pobl yn seiliedig ar anwireddau. Clywsom Joel...
Lee Waters: Yn ffurfiol.
Lee Waters: Diolch am y cwestiwn teg iawn hwnnw. Credaf fod Sioned Williams yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod cefnogaeth drawsbleidiol yn y Siambr hon i forlyn llanw yn Abertawe, a bod Llywodraeth y DU, er iddi wneud llawer o synau cadarnhaol, wedi ein siomi. Hefyd, yn adroddiad y pwyllgor dethol ar faterion Cymreig y bore yma, nodais y gefnogaeth drawsbleidiol i drydaneiddio'r rheilffordd i Abertawe,...
Lee Waters: Mae cynhyrchiant adnewyddadwy yng Nghymru eisoes yn darparu hanner ein trydan ar gyfartaledd. Gallai ynni morol, gan gynnwys môr-lynnoedd llanw, chwarae rhan yn y gwaith o gyflawni'r uchelgais ynni a nodir gennym yng nghynllun morol cenedlaethol Cymru.
Lee Waters: Nid ydym yn mynd i gytuno ar hyn. Er ymdrechion y naill ohonom i berswadio'r llall, ni chredaf ein bod yn mynd i wneud hynny. Ni chredaf y bydd ffyrdd osgoi diddiwedd ac astudiaethau traffyrdd o gymorth gyda phroblem tagfeydd yn y tymor canolig, ac yn wir, yn enwedig felly gyda materion ansawdd aer neu leihau carbon. Felly, rydym yn anghytuno'n llwyr, fel rydym wedi trafod o'r blaen, ar y...