Vikki Howells: Diolch, Prif Weinidog. Un o'r prif ganfyddiadau a ddeilliodd o'r adroddiad i mi oedd y cysylltiad rhwng cymunedau'r hen feysydd glo ac amddifadedd, gyda 42 y cant o gymunedau ymhlith y 30 y cant mwyaf difreintiedig ym Mhrydain, ac mae'r ffigur hyd yn oed yn fwy amlwg yn ardal meysydd glo y de, lle mae'n 52 y cant. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod mynd i'r afael â'r cyswllt hwn yn...
Vikki Howells: 8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i'r canfyddiadau a geir yn adroddiad State of the Coalfields 2019? OAQ54734
Vikki Howells: Diolch am eich ateb manwl, Ddirprwy Weinidog. Y mis diwethaf, cafwyd cyhoeddiad calonogol iawn eich bod chi, ynghyd â'ch cyd-Weinidogion, wedi cytuno gyda'ch gilydd i ariannu Sustrans i arwain cais partneriaeth ar gyfer casglu cyllid allanol ynghyd ar gyfer ailagor a gweithredu twneli Aber-nant a'r Rhondda. Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, credaf y gallai ailagor y twneli hynny roi hwb...
Vikki Howells: Diolch am eich ateb, Weinidog. Roeddwn yn arbennig o falch o weld, fel rhan o hynny, y buddsoddiad o £7 miliwn i gefnogi a gwarchod ein hamgylchedd. Mae ei ymgorffori yn ein gwariant cyfalaf yn rhan bwysig o fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd y bu Llywodraeth Cymru mor gywir i'w ddatgan. A allwch ddarparu unrhyw fanylion pellach inni heddiw ynglŷn â sut y byddwch yn gweithio gyda...
Vikki Howells: 9. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth ddyrannu cyllid fel rhan o'r Ail Becyn Buddsoddi Cyfalaf? OAQ54702
Vikki Howells: 5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gynyddu nifer y twristiaid sy'n ymweld â Chymoedd De Cymru? OAQ54701
Vikki Howells: Diolch am ateb calonogol iawn, Weinidog. Ers i Animal Aid ryddhau eu ffilm ysgytwol o greulondeb yn lladd-dy Farmers Fresh ym mis Medi, mae ymchwiliad arall gan Animal Equality, a ryddhawyd yr wythnos ddiwethaf, wedi dangos tystiolaeth yr un mor echrydus o greulondeb erchyll yn erbyn anifeiliaid yn yr un lladd-dy. Mae camerâu cudd wedi dangos anifeiliaid yn cael eu taflu, eu tynnu gerfydd eu...
Vikki Howells: 9. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ystyriaeth Llywodraeth Cymru ynghylch cyflwyno teledu cylch cyfyng gorfodol ar gyfer lladd-dai yng Nghymru? OAQ54663
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hwn yn ddatganiad 90 eiliad am dedi cyffredin—tedi cyffredin a gafodd ei daflu, ei wneud yn fyw gan ddyn smotiog ac a gafodd bwerau arbennig gan fam natur. Ie, dyma ddatganiad 90 eiliad am SuperTed. Ymddangosodd SuperTed, y comisiwn cyntaf un gan S4C, ar deledu Cymraeg am y tro cyntaf ar 1 Tachwedd 1982, felly mae'r mis hwn yn nodi ei ben blwydd yn 37 oed....
Vikki Howells: Diolch, Gwnsler Cyffredinol. Fel y gwyddoch, mae dysgwyr o Gymru wedi elwa’n fawr o Erasmus+, gyda dros €40 biliwn yn dod i Gymru rhwng 2014 a 2018 i gefnogi dros 7,000 o gyfranogwyr mewn 245 o brosiectau. Gwn fod Comisiwn yr UE wedi awgrymu, ar gyfer y cylch a fydd yn cychwyn yn 2021, y bydd cwmpas y cynllun yn dod yn fyd-eang, ond fel gyda chymaint o bethau eraill, mae'r ansicrwydd a...
Vikki Howells: 5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch cyfranogiad parhaus myfyrwyr o Gymru yn rhaglen Erasmus+ ar ôl Brexit? OAQ54639
Vikki Howells: Diolch, Prif Weinidog. Roeddwn i'n poeni'n fawr o ddarllen y papurau briffio o Araith ddiwethaf y Frenhines a oedd yn awgrymu y bydd y gronfa ffyniant gyffredin, a fydd yn disodli cyllid strwythurol yr UE, yn cael ei thrin yng nghyd-destun datganoli yn Lloegr. Y gobaith yw y bydd etholiad yn arwain at newid dull yn San Steffan, ond, yng ngoleuni pwysigrwydd unrhyw gynllun olynol i Gymru, a...
Vikki Howells: 6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch gweithredu'r gronfa ffyniant gyffredin arfaethedig? OAQ54640
Vikki Howells: Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddwn yn falch o ddarllen eich datganiad ysgrifenedig ar 30 Medi ar iechyd a gofal digidol a ddangosai fod cynnydd yn cael ei wneud, ac yn sicr mae'n rhywbeth y gwelaf ei fod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ar y rheng flaen mewn ymweliadau â gwahanol brosiectau yn fy etholaeth. Rwyf wedi tynnu sylw o'r blaen at sut y gall iechyd a gofal digidol gefnogi fy...
Vikki Howells: 4. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi arloesi digidol o fewn gwasanaethau iechyd a gofal? OAQ54576
Vikki Howells: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi lles meddyliol o fewn y sector addysg?
Vikki Howells: A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch creu Cronfa Ffyniant Gyffredin?
Vikki Howells: Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am gynhyrchu'r adroddiad rhagorol hwn. Nid wyf yn aelod o'r pwyllgor hwnnw, ond mae'r materion y mae'n eu trafod yn peri pryder mawr i lawer o fy etholwyr. A buaswn yn mynd ymhellach i ddweud, am gyfnod sylweddol o amser ers i mi gael fy ethol, mai helpu etholwyr y gwrthodwyd bathodyn glas iddynt yw’r...
Vikki Howells: Gweinidog, diolch am eich diweddariad heddiw. Mae fy nghwestiwn yn ymwneud â'r mater o newid diwylliant. Rydym ni i gyd yn gwybod bod newid diwylliannol yn rhywbeth sy'n anodd iawn ei weithredu, ond mae mor bwysig ac yn sail i'r holl waith sydd angen ei wneud i roi gwasanaethau mamolaeth Cwm Taf ar sail ddiogel a chynaliadwy. Dechreuodd y panel trosolwg ar ei waith ym mis Mai eleni, ac rwy'n...
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Weinidog, am y diweddariad yna. Rwyf i wir yn croesawu cyllid y rhaglen cyfleusterau a gweithgareddau cymunedol yng Nghwm Cynon. Mae wedi helpu rhai prosiectau cwbl ryfeddol i gychwyn. Ond wedi dweud hynny, o fy mhrofiad i o ymwneud â grwpiau cymunedol sy'n mynd drwy'r broses ymgeisio, mae'r llinellau amser a roddir iddyn nhw yn aml yn aneglur, gall y dyddiadau y maen nhw'n...