Canlyniadau 341–360 o 20000 ar gyfer speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth

3. Cwestiynau Amserol: Orthios (30 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Mae hon wedi bod yn ergyd ofnadwy i economi’r ynys, a byddaf yn dweud mwy am hynny mewn eiliad, ond yn fwy uniongyrchol, wrth gwrs, i'r gweithlu, ac rwy'n cydymdeimlo â hwy heddiw. Dywedodd un wrthyf eu bod wedi cael gwybod drwy grŵp negeseuon WhatsApp. Mae aelod o fy nhîm wedi bod yn cymryd rhan y prynhawn yma mewn cyfarfod tasglu a sefydlwyd i helpu gweithwyr, ac rwy’n ddiolchgar i...

3. Cwestiynau Amserol: Orthios (30 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cyhoeddiad fod Orthios wedi cael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr ac effaith hynny ar y 120 o swyddi yn lleol? TQ616

10., 11. & 12. Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022 (29 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: I gloi, Llywydd, rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi gorfod gwneud pob math o arfarniadau gwleidyddol ar ôl edrych ar dystiolaeth. Yn yr achos hwn, rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi cael ei farn yn anghywir, a dyna pam y byddwn ni'n gwrthwynebu'r rheoliad diwygiedig hwn. 

10., 11. & 12. Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022 (29 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Mi ddywedodd y Gweinidog y prynhawn yma allwn ni ddim cadw rheoliadau yn eu lle am byth. Dwi'n cytuno yn llwyr, a phetasem ni'n cael y bleidlais yma mewn tair wythnos, dwi'n reit siŵr y buaswn i'n ei chefnogi, ond efo pobl sydd yn dal yn teimlo'n fregus ac yn nerfus yn gorfod mynd i siop neu fynd ar fws neu drên, pam creu mwy o risg iddyn nhw rŵan? Y warchodaeth arall sy'n mynd yn llwyr...

10., 11. & 12. Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022 (29 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Gadewch i mi ddyfynnu geiriau'r Prif Weinidog yn gynharach y prynhawn yma, wrth ateb cwestiwn, mewn gwirionedd, am y gwasanaeth ambiwlans. Dywedodd bod 'gennym ni rai o'r niferoedd uchaf o bobl yn mynd yn sâl gyda'r feirws ar unrhyw adeg yn y pandemig cyfan. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, fe wnaethom ni lwyddo i leihau nifer y bobl yn ein gwelyau ysbyty a oedd yn dioddef o'r coronafeirws...

10., 11. & 12. Rheoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Newid Dyddiad Dod i Ben) (Cymru) 2022, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2022 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 8) 2022 (29 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Mae yna dri set o reoliadau o'n blaenau ni heddiw. Mae'r ddau gyntaf yn estyn y sefyllfa bresennol. Gan ein bod ni mewn sefyllfa ddigon heriol ar hyn o bryd efo achosion uchel iawn o COVID, rydyn ni'n credu bod hynny'n beth synhwyrol iawn i'w wneud. Mi fyddwn ni yn cefnogi y rheoliadau hynny, felly, a dwi ddim yn meddwl bod angen sylwadau pellach gen i. Ond am yr union reswm rydyn ni yn mynd...

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun Cartrefi i Wcráin (29 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Apêl arall i gyflymu'r broses fisa. Mae yna gymuned ar Ynys Môn sy'n barod i groesawu mam a merch; mae'r wisg ysgol yn barod i'w gwisgo. Aeth naw diwrnod heibio erbyn hyn ers i'r teulu ar Ynys Môn ddechrau'r broses o wneud cais am fisa—gwneud hynny eu hunain, yn hytrach na'i gadael i'r fam a'r ferch, oherwydd yn Saesneg yn unig y mae ar gael ac nid ydyn nhw'n rhugl yn Saesneg, oherwydd...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (22 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Mi hoffwn i gael datganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog iechyd yn ymateb i bryderon sydd gen i ynglŷn ag arafwch bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i ymateb i ymholiadau a chwynion. Mae yna un achos yn sefyll allan yn benodol, yn ymwneud ag ymholiad ar ran etholwraig sy'n dioddef o COVID hir. Rŷn ni'n dal i aros am ymateb llawn i ymholiad ers mis Mai 2021 am y driniaeth a'r gefnogaeth sydd ar...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Canolfan Iechyd Newydd yng Nghaergybi (22 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Mae bron i dair blynedd wedi mynd heibio ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr orfod cymryd rheolaeth uniongyrchol dros feddygfeydd Longford Road a Cambria yng Nghaergybi, ac, ydy, mae wedi bod yn gyfnod o her na welwyd ei thebyg o'r blaen i ofal sylfaenol ym mhob man. Ond, ers bron i dair blynedd bellach, mae cleifion yn y ddwy feddygfa hynny wedi gorfod derbyn safon gofal ymhell...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Strategaeth Frechu COVID-19 (22 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch i lwyddiant y rhaglen frechu, mae cyfran y bobl sy'n dal y feirws ac sydd yn mynd yn ddifrifol wael yn gymharol is o'i gymharu â'r hyn y dylai fo fod, ond, wrth gwrs, mae yna gynnydd sylweddol, fel y dywedodd y Prif Weinidog, yn y nifer sydd yn dal y feirws ar hyn o bryd. Dwi'n clywed am drafferthion staffio mewn iechyd a gofal, ysgolion yn gyrru plant adref, un coleg addysg bellach...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Canolfan Iechyd Newydd yng Nghaergybi (22 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu canolfan iechyd newydd yng Nghaergybi? OQ57829

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Janet Finch-Saunders (Aberconwy) — Cynllunio morol yng Nghymru (16 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch am y cynnig sydd o'n blaenau ni heddiw yma i'r Aelod dros Aberconwy. Dwi yn gweld gwerth ystyried sut y gellid tynnu ynghyd y gwahanol elfennau sy'n ymwneud â chynllunio mewn perthynas â'r môr mewn fframwaith deddfwriaethol newydd, er fy mod i, fel Aelod Ogwr, ddim yn hollol eglur bod angen gwneud hynny. Mae ystyried hynny a gwthio'r ffiniau ynghylch beth sy'n bosibl, dwi'n meddwl,...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Cyfranogiad y Cyhoedd ym Mhwyllgorau'r Senedd (16 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Wel, diolch yn fawr iawn am y syniad yna. Yn sicr, mae angen i ni wastad fod yn trio arloesi yn y ffordd rydyn ni'n ymgysylltu efo pobl. Mae'r Pwyllgor Deisebau, wrth gwrs, yn bwyllgor sy'n cael ei yrru gan ymgysylltu uniongyrchol efo pobl Cymru. Dwi'n gwybod bod Jack, yn ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau, wedi bod yn ymwneud ag un ymgyrch arbennig o lwyddiannus yn ddiweddar, ac o...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd: Cyfranogiad y Cyhoedd ym Mhwyllgorau'r Senedd (16 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn. Mae annog ymgysylltu efo pwyllgorau'n elfen bwysig o waith ymgysylltu'r Senedd, a hynny er mwyn sicrhau, wrth gwrs, fod barn y cyhoedd yn cael ei adlewyrchu yn ein trafodaethau. Yn ystod y pandemig, mi lwyddwyd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd drwy raglen ymgysylltu rithwir, yn cynnwys grwpiau ffocws a digwyddiadau ar-lein eraill, ac wrth i ni symud yn ôl...

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Diweddariad ar y Strategaeth Ddigidol (15 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar yr agenda ddigidol yng Nghymru, dwi'n croesawu'r diweddariad yma gan y Gweinidog heddiw yma. Dwi'n edrych ymlaen hefyd i glywed y diweddariad y mae'n bwriadu ei gyhoeddi yn fuan ar y cynllun delifro ar gyfer digidol. Dwi'n ddiolchgar, a dweud y gwir, ac mae'n bwysig rhoi hyn ar y cofnod, am arweiniad y Gweinidog yn y...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Wcráin ( 9 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Wcráin ( 9 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Os na welodd neb ffilm Channel 4 neithiwr am y ffordd y gwnaeth yr Urdd groesawu plant a theuluoedd o Affganistan gyda breichiau agored i'r gwersyll gyferbyn â'r Senedd hon, byddwn yn argymell eich bod yn ei gwylio. Fe'm gwnaeth yn hynod falch fel Cymro ein bod wedi estyn y croeso hwnnw. Onid yw'n wir fod yn rhaid i'n croeso i'n cyfeillion o Wcráin fod yr un mor gynnes?

3. Cwestiynau Amserol: Gwasanaethau Fasgwlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 9 Maw 2022)

Rhun ap Iorwerth: Dywed AGIC wrthym fod y broses uwchgyfeirio hon yn sicrhau y gall ystod o randdeiliaid gymryd camau penodol a chyflym i sicrhau bod gofal diogel ac effeithiol yn cael ei ddarparu. Felly, gadewch inni oedi gyda'r gair hwnnw, 'diogel'. Mae AGIC wedi rhoi’r mesur uwchgyfeirio hwn ar waith am fod adroddiad coleg brenhinol y llawfeddygon wedi nodi nifer o bryderon sydd, yn ein barn ni, yn dangos...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.