Jane Hutt: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, am roi cyfle arall i ni roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n ceisio noddfa yng Nghymru. Pan roddais yr wybodaeth ddiweddaraf i chi ddiwethaf bron i fis yn ôl, roedd Cymru wedi croesawu ychydig dros 1,120 o bobl Wcráin o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin, gan gynnwys drwy ein llwybr uwch-noddwr, ac rwy'n...
Jane Hutt: Diolch yn fawr. Pwynt pwysig iawn yw hwnnw. Rwy'n siŵr bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ymwybodol o hynny eisoes, sef y pryderon eto gan Cyngor ar Bopeth, ein darparwyr cynghori sengl ni, ac oni bai ei bod hi'n gwbl eglur a gorfodol ei fod yn mynd i'r deiliad, ni allwn ni ymddiried yn hynny. Felly, fe fyddwn ni'n codi'r pwynt hwnnw. Diolch yn fawr iawn i chi, Huw Irranca-Davies.
Jane Hutt: Wrth gwrs, fel rydym ni wedi dweud, ac fel gwyddom ni—ac mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd gyda ni'r prynhawn yma ac wedi ymgysylltu â'r trafodaethau hyn i gyd—mae hwn yn gyfrifoldeb traws lywodraeth o ran mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw, gyda darparwyr tai, darparwyr tai cymdeithasol, ond gyda'r sector rhentu preifat yn ymgysylltu hefyd, yn ogystal â hynny. O ran toriadau i'r...
Jane Hutt: Diolch yn fawr am eich cwestiwn pwysig iawn.
Jane Hutt: Wel, diolch yn fawr iawn i chi, Mike Hedges. Rydych chi'n disgrifio gwirioneddau bod yn dlawd yn eglur iawn, ac mae hi'n costio mwy i chi fod yn dlawd ym mhob agwedd ar fywyd, a pha mor greulon yw'r sefyllfa honno, o ran bwyd, gwres, a thai. Felly, diolch i chi am groesawu llawer o'r mesurau yr ydym ni'n eu cymryd. Rwyf i'n cytuno yn llwyr â chi, ac rwyf i am fynd yn ôl at y mater hwnnw...
Jane Hutt: Mae hi'n amlwg y gall pobl sy'n ei chael hi'n anodd o ganlyniad i'r argyfwng costau byw droi at ddarparwyr eu cronfa gynghori sengl nhw, ac rwyf i am fynd ymlaen at y gronfa cymorth dewisol hefyd, oherwydd, yn amlwg, mae honno eisoes ar waith. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gyfleu'r neges hon, onid yw hi, ynglŷn â mynediad i'r cynllun talebau tanwydd newydd. Rydym ni'n hysbysu pobl am...
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Sioned Williams. Ydych, rydych chi'n nodi, fel gwnes innau, pa mor eang yw'r argyfwng—chwyddiant sydd ar ei lefel uchaf ers mis Mawrth 1982 erbyn hyn, pan oedd ar 9.1 y cant; y cynnydd ym mis Ebrill, sy'n cael ei yrru gan gostau ynni, o fwy na 50 y cant oherwydd codi'r cap ynni; a'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn dweud bod yr aelwydydd tlotaf yn wynebu cyfraddau chwyddiant...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood. Fe fyddwn i'n rhyfeddu yn fawr iawn, gan eich bod chi'n gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar dlodi tanwydd, pe na fyddech chi'n cydnabod llymhau'r argyfwng costau byw a methiant Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â'r materion hyn gyda'u pwerau nhw o ran trethu a budd-daliadau. Dim ond o ran cydnabod, fel dywedais i, mai Llywodraeth y DU sydd â'r cyfrifoldeb...
Jane Hutt: Diolch, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau heddiw ynglŷn â'r argyfwng costau byw cynyddol, sy'n cael ei deimlo yn enbyd gan y rhai mwyaf agored i niwed, gan bobl anabl a chartrefi incwm is. Dros yr wythnos diwethaf, rydym ni wedi gweld tystiolaeth bellach o ba mor gyflym y mae prisiau yn codi. Aeth y gost o lenwi car teulu o faint cyfartalog dros £100 am y...
Jane Hutt: Diolch yn fawr. Mae'n gwestiwn pwysig iawn. Rwy'n credu y byddwch yn cofio trafodaeth bwerus rhwng y Prif Weinidog a Ken Skates ychydig wythnosau'n ôl am effaith tlodi tanwydd, a'r ffaith y gallai pobl fod yn hunan-ddatgysylltu mesuryddion rhagdalu. Felly, rwy'n falch eich bod wedi tynnu ein sylw at hyn. Thema fy nghwestiynau heddiw oedd effaith costau byw a thlodi tanwydd—yr argyfwng...
Jane Hutt: Mae ein rhaglen Cartrefi Clyd ar gyfer aelwydydd incwm is yn arbed £300 y flwyddyn ar gyfartaledd drwy wella effeithlonrwydd ynni. Mae aelwydydd oedran gweithio cymwys hefyd yn elwa ar daliad cymorth tanwydd y gaeaf o £200, ac mae taliad costau byw o £150 yn cael ei wneud i bob eiddo ym mandiau’r dreth gyngor A i D.
Jane Hutt: Diolch yn fawr am y cwestiwn a'r pwyntiau allweddol hynny, sydd, rwy'n siŵr, yn cael eu rhannu ar draws y Siambr o ran yr ymrwymiad enfawr—a gwneuthum y pwynt hwn yn fy natganiad—ymrwymiad enfawr y teuluoedd noddi hynny, sydd wedi agor eu cartrefi, fel y dywedais, a helpu pobl i gael eu cefnau atynt wrth iddynt ddechrau ar eu bywydau yng Nghymru. Gweithredoedd eithriadol o garedigrwydd...
Jane Hutt: Mae tua 2,000 o Wcreiniaid bellach wedi cyrraedd Cymru o dan gynllun Cartrefi i Wcráin. Noddwyd tua 500 o'r rhain gan Lywodraeth Cymru. Mae canllawiau ar gael i awdurdodau lleol a noddwyr yn ogystal â'n gwefan Noddfa ar gyfer Wcreiniaid. Mae ein canolfan gyswllt 24/7 a'n partneriaid yn y trydydd sector hefyd yn darparu cymorth.
Jane Hutt: Diolch, Delyth Jewell. Mae eich rôl a'ch profiad o weithio yn Cyngor ar Bopeth yn werthfawr iawn, ac mae'n ddefnyddiol cael y ffocws penodol hwnnw ar sut y gallwn adfer ar ôl y pandemig a mynd yn ôl i weld cleientiaid wyneb yn wyneb, rhywbeth y gwyddom ei fod yn werthfawr iawn i bobl hŷn, ond hefyd i bobl a all fod ag anghenion a phroblemau cymhleth yn aml. Eleni, rwyf wedi sicrhau bod...
Jane Hutt: Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i gefnogi gwasanaethau cynghori felly gallwn fod yn hyderus fod rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn gallu cael gafael ar gyngor ar ddyledion a budd-daliadau lles. Mae'r gwasanaethau a ddarperir ganddynt yn achubiaeth i lawer o bobl sy'n cael anhawster gyda'r argyfwng costau byw.
Jane Hutt: Diolch i chi, Altaf Hussain, ac rwyf newydd sôn am ffyrdd yr ydym yn canolbwyntio’n benodol ar anghenion pobl hŷn, yn enwedig gyda’r ymgyrch genedlaethol i annog pobl i fanteisio ar fudd-daliadau, ond hefyd drwy sicrhau, wrth imi gyfarfod â’r comisiynydd pobl hŷn, Age Cymru a grwpiau trawsbleidiol, ein bod yn ystyried profiad bywyd pobl hŷn ac yn rhannu hwnnw, nid yn unig gyda’r...
Jane Hutt: Wel, Mike Hedges, rydych yn gwneud pwyntiau hollbwysig ac yn darparu tystiolaeth o'r rheswm pam y mae angen y cynnydd hwnnw arnom gan Lywodraeth y DU i bensiynau’r wladwriaeth. Nid yn unig y mae angen ychwanegu atynt, mae angen eu huwchraddio hefyd. Hynny yw, mae gennym y sefyllfa gyda'r holl fudd-daliadau ar ôl iddo gael ei uwchraddio 3.1 y cant ym mis Ebrill, ac eto, dyma ni gyda...
Jane Hutt: Dywed Age Cymru y bydd yr argyfwng costau byw yn cynyddu canran yr incwm net y mae pensiynwyr yn ei wario ar nwyddau a gwasanaethau hanfodol o 58 y cant yn 2021-22 i 73 y cant yn y flwyddyn ariannol hon. Mae pobl hŷn yn grŵp blaenoriaeth ar gyfer gwasanaethau’r gronfa gynghori sengl, a phobl hŷn yw 33 y cant o’r rhai sy’n gofyn am gyngor.
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Ken Skates, ac a gaf fi ddiolch ichi am y gefnogaeth a roesoch yn eich rôl flaenorol, nid yn unig i'r rhwydwaith o lysgenhadon cyflogaeth i'r anabl, gyda chefnogaeth Gweinidog yr Economi, ond hefyd am ddatblygu'r contract economaidd hollbwysig hwnnw, sydd, mewn gwirionedd, o ran y pedair colofn, yn cynnwys gwaith teg? Mae'n cynnwys y gofyniad i fusnes ddangos yr hyn y...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, Natasha Asghar, gan mai dyma nod allweddol ein hyrwyddwyr cyflogaeth pobl anabl—mae gennym rwydwaith newydd sy'n helpu i godi ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr o gyfleoedd gweithio hyblyg. Maent yn bobl anabl sy'n arwain y ffordd; maent wedi sefydlu rhwydwaith cryf o gyflogwyr, ond maent hefyd yn dangos y gellir newid agwedd cyflogwyr fel eu bod yn...