Canlyniadau 341–360 o 800 ar gyfer speaker:Hannah Blythyn

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Rhenti ar gyfer Tai Cymdeithasol (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Rwy'n cydnabod bod darparu'r holl dai sydd eu hangen arnom ar draws deiliadaethau yn her, ac yn her nid yn unig i'r rhai sy'n cyflenwi tai, ond heriau i'r bobl sydd angen y tai hynny hefyd. Rydych yn gwbl gywir i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu na ddylai rhenti eleni yn y sector tai cymdeithasol gynyddu mwy na 2.4 y cant. Mae...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Rhenti ar gyfer Tai Cymdeithasol (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Mae'n rhaid i renti fod yn fforddiadwy i bobl sy'n byw mewn tai cymdeithasol. Mae'n ofynnol i landlordiaid cymdeithasol gydymffurfio â pholisi rhenti cyfredol Llywodraeth Cymru, sy'n darparu fframwaith sy'n golygu bod landlordiaid cymdeithasol yn gyfrifol am bennu'r rhenti ar gyfer eu tai a'u tenantiaid eu hunain.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Amodau Cynllunio (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Rwy'n ymwybodol iawn o'r sylwadau a wnaed yn ddyfal eisoes gan yr Aelod ynglŷn â'r mater hwn, ac o'r sylw lleol a chyhoeddus a'r teimlad cyhoeddus wrth ei wraidd, a pham. O ran y penderfyniad, rydych yn gofyn mewn perthynas ag asesiad effaith amgylcheddol y cais cynllunio yr ymdrinnir ag ef gan gyngor Bro Morgannwg, a gwn fod y cyn Brif Weinidog wedi ysgrifennu atoch i ddweud nad oedd yn...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Amodau Cynllunio (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Clywaf yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud. Pan fo rhwymedigaethau cynllunio yn cael eu negodi gan awdurdodau lleol a datblygwyr—ac maent yn cynrychioli amodau pwysig, gan gynnwys amodau y mae llawer ohonom yn y Siambr hon o'u plaid—mae'n bwysig fod y datblygwr yn diogelu hynny er budd y cyhoedd. Fel rwyf wedi'i ddweud eisoes, os yw'r cyhoedd wedi bod yn dilyn cais cynllunio penodol gyda...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Amodau Cynllunio (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Mae rhwymedigaeth gynllunio yn gontract preifat cyfreithiol rwymol rhwng datblygwr ac awdurdod cynllunio lleol. Felly, nid yw ymlyniad datblygwr i gytundeb o'r fath yn fater ar gyfer Llywodraeth Cymru.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Rheoliadau Draenio Trefol Cynaliadwy (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: O ran dehongliad cyrff cymeradwyo'r systemau draenio cynaliadwy o'r rheoliadau, mae'r systemau draenio cynaliadwy, fel mater sy'n ymwneud â dŵr, yn fater i Weinidog yr Amgylchedd, ond deallaf y dylai awdurdodau lleol fod wedi derbyn canllawiau mewn perthynas â'r cyrff cymeradwyo a sut y rhoddir hynny ar waith. Ni chredaf y gallwn anwybyddu'r ffaith ein bod yn gwybod y bydd systemau draenio...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Rheoliadau Draenio Trefol Cynaliadwy (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2017 yn awgrymu y gallai systemau draenio cynaliadwy sy'n cydymffurfio ac sydd wedi'u cynllunio'n dda arbed bron i £1 biliwn i Gymru mewn costau cyfalaf adeiladu yn unig erbyn 2021 ac y gallant ysgogi manteision ehangach nid yn unig i'n hamgylchedd, ond i'r economi ehangach, o £20 miliwn y flwyddyn.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Boddhad y Cyhoedd o ran Gwasanaethau Awdurdodau Lleol (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n codi pwynt da iawn ynglŷn â sut y mae hyn yn dal i fod o dan ofal y cyngor yn ei awdurdod ei hun, ond mae llawer o awdurdodau wedi ystyried trosglwyddo asedau fel dewis amgen yn ogystal â chyfleusterau a weithredir gan y gymuned. Fe sonioch chi am y gwahaniaeth statws o ran rhyddhad ardrethi annomestig o ran beth sy'n eiddo i gyngor awdurdod...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Boddhad y Cyhoedd o ran Gwasanaethau Awdurdodau Lleol (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Mae'r Aelod yn codi—a gwn fod hwn yn bwynt y mae'r Aelod wedi'i godi o'r blaen o ran amlder casgliadau gwastraff, a chasgliadau gwastraff gweddilliol yn benodol. Rwy'n gwrthod y demtasiwn i wneud jôc am siarad sbwriel. [Torri ar draws.] Mae'n werth nodi bod yr adroddiadau y cyfeiriwch atynt, mewn gwirionedd, yn un o'r 10 cwyn uchaf ar gyfer yr holl gynghorau yn Lloegr, ond serch hynny, pan...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Boddhad y Cyhoedd o ran Gwasanaethau Awdurdodau Lleol (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Mae llywodraeth leol yn darparu gwasanaethau hanfodol sy'n cefnogi pobl a chymunedau. Mae cael adborth yn rhan bwysig o hyn, ac roedd 77 y cant o'r ymatebwyr i'r arolwg cenedlaethol diweddaraf yng Nghymru yn fodlon â'u gallu i gael mynediad at y gwasanaethau a'r cyfleusterau y maent eu hangen.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Mae'r Aelod yn codi'r cyfleoedd rydym wedi eu trafod yn gynharach yn y Siambr hon ar gyfer hunanadeiladu a galluogi mwy o gyfleoedd i hunanadeiladu drwy ein rhaglen newydd, yn ogystal â mwy o gyfleoedd i ddatblygwyr adeiladau ac adeiladwyr bach a chanolig yng Nghymru. Mae'r 'Polisi Cynllunio Cymru' diwygiedig wedi'i gyhoeddi, ac mae hwnnw'n ceisio mynd i'r afael â nifer o'r materion sy'n...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Yn amlwg, mae cytundebau 106 yn cynnig cyfle i gymunedau lleol sicrhau manteision ehangach o ddatblygiadau mawr, neu ddatblygiadau yn eu hardal. Ac yn amlwg, pan roddir sicrwydd i bobl leol yn rhan o'r cynnig ar ei ffurf gychwynnol, rydym yn cydnabod y bydd yn dod law yn llaw â gwahanol gytundebau a phrosiectau datblygu cymunedol—mae'n creu pryderon pan nad yw hynny'n digwydd. Ac yn sicr,...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Pan fyddwn yn rhoi sylw i ddatblygiadau mawr, mae'r Aelod wedi nodi—fel y gŵyr llawer o'r Aelodau o'u bagiau post eu hunain—yr angen i ystyried, yn rhan o'r broses honno, ac yn rhan o'r cynlluniau datblygu lleol, y seilwaith lleol hwnnw yn ogystal â'r effaith ar yr amgylchedd. Ac yn ddiweddar cawsom adolygiad o 'Polisi Cynllunio Cymru', er mwyn ehangu'r cyd-destun hwnnw, ac i ystyried...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Credaf fod yr Aelod yn nodi rhai pwyntiau pwysig iawn, o ran sut y dylem symud ymlaen, ac o ran gweithio gyda'n gweithlu diwyd mewn llywodraeth leol y dibynnwn arnynt er mwyn cael y gwasanaethau sy'n gwneud gwahaniaeth i'n bywydau bob dydd. Ac yn sicr, mae'n rhywbeth yr hoffai'r Aelod ei drafod gyda ni ymhellach y gallwn ei ystyried yn y dyfodol.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rydych yn codi nifer o bwyntiau allweddol. Mae materion gweithlu lleol yn faterion i'r awdurdodau lleol unigol ar hyn o bryd. Yn amlwg, rydych yn codi nifer o faterion allweddol, a materion y gellir eu hystyried mewn perthynas â deddfwriaeth yn y dyfodol.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: O ran creu—mae'r Aelod yn codi cwestiwn diddorol iawn; fe'i codwyd o'r blaen, o ran y potensial ar gyfer un raddfa gyflogau gwasanaethau cyhoeddus ganolog. Ac yn amlwg, mae angen gwneud unrhyw beth o'r fath mewn partneriaeth a thrwy drafod gyda chynrychiolwyr undebau llafur mewn llywodraeth leol, yn ogystal â chynrychiolwyr llywodraeth leol. Mae pethau fel—yn amlwg, fe nodoch chi'r...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Yn sicr, rwy'n cymeradwyo unrhyw ymdrechion i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu yn y sector yng Nghymru, ac yn y wlad yn gyffredinol. Rydych yn llygad eich lle wrth ddweud, fel y dywedasom ni, ei fod yn fater o fwy nag ystyried ac edrych ar yr adolygiad a'r cynigion arloesol a geir ynddo, a fydd nid yn unig yn sicrhau manteision posibl i'r tenantiaid, ac yn mynd i'r afael yn...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Rydych yn llygad eich lle eu bod yn syniadau arloesol iawn, a dyma'r math o syniadau sydd eu hangen arnom yn rhan o'n trafodaeth ynglŷn â'r ffordd y gweithiwn ar y cyd yng Nghymru i wneud gwahaniaeth i'n cymunedau a'r bobl yn ein cymunedau. Mae'r syniad o weithio gyda Rhentu Doeth Cymru i lunio modiwl ar iechyd meddwl yn bendant yn un y dylid ei ystyried, ond gan mai uwch-eilydd wyf fi...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: Yn sicr, rwy'n ymuno â chi i groesawu'r adroddiad a'r canfyddiadau a'r materion a godwyd ganddo heddiw. Bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a minnau, wrth gwrs, yn archwilio'r canfyddiadau hynny gyda chrib fân ac yn ymateb maes o law. A chredaf eich bod yn gwbl iawn i godi'r pwynt ynghylch cymorth nid yn unig i denantiaid, o ran eu hiechyd meddwl, a'r effaith a gaiff hynny ar allu...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Mynd i'r Afael â Chysgu ar y Stryd (20 Chw 2019)

Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i John? Gwn fod gan yr Aelod, yn ei rôl fel Cadeirydd y pwyllgor, gryn ddiddordeb yn y maes hwn. Gwnaethoch bwyntiau tebyg iawn i'r rhai a wnaeth Leanne. Cyfeiriaf yn ôl at yr adroddiad yr wythnos diwethaf gan y bwrdd monitro annibynnol ar gyfer CEM Caerdydd, a oedd yn cynnwys canfyddiadau llwm iawn. Rydym yn cydnabod bod problem benodol yn CEM Caerdydd gyda lefelau uchel o...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.