Canlyniadau 341–360 o 2000 ar gyfer speaker:Darren Millar

9. Dadl Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Meddwl ( 6 Hyd 2021)

Darren Millar: Roeddwn wrth fy modd pan benodwyd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant newydd oherwydd gwn am ei hangerdd personol i fod eisiau mynd i'r afael â'r problemau a gawsom yn ein gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc dros y blynyddoedd, ac roeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg pan luniodd ei adroddiad 'Cadernid Meddwl'. Ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Gweinidog yn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Dal i Fyny ym Maes Addysg ( 6 Hyd 2021)

Darren Millar: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n amlwg yn falch iawn fod gan Lywodraeth Cymru gynllun, ond mae'n bwysig iawn ein bod ni, fel Aelodau o'r Senedd, yn gallu monitro gweithrediad a chynnydd y cynllun hwnnw. A gaf fi ofyn, a fyddwch yn cyhoeddi cerrig milltir allweddol ac yn sicrhau bod adroddiadau rheolaidd ar gael i Aelodau o'r Senedd er mwyn sicrhau ein bod yn gallu mynd i'r afael...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Dal i Fyny ym Maes Addysg ( 6 Hyd 2021)

Darren Millar: 7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddal i fyny ym maes addysg ar ôl y pandemig? OQ56966

9. Cyfnod Pleidleisio ( 5 Hyd 2021)

Darren Millar: A, Llywydd, mae gennym ni Aelod o hyd sy'n ceisio mynd i mewn i Zoom ac nid yw'n gallu mynd i mewn i Zoom.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 5 Hyd 2021)

Darren Millar: Trefnydd, a gaf i alw am ddau ddatganiad heddiw, os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r gwasanaeth ambiwlans. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei gwneud yn glir y bydd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn fisol am y cyflawni o ran y cynllun cyflenwi ambiwlansys, ac roeddwn i'n meddwl tybed a fyddai modd eu cyhoeddi fel y gallai Aelodau'r Senedd gael...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Lluoedd Arfog ( 5 Hyd 2021)

Darren Millar: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Un o'r pethau y mae'r gymuned lluoedd arfog yng Nghymru yn ei werthfawrogi yn wirioneddol yw'r cyfle i goffáu digwyddiadau arwyddocaol mewn hanes milwrol ac i fyfyrio a chofio'r rhai hynny a fu farw yn y cyfnodau hynny o wrthdaro. Un o'r llwyddiannau yr ydym ni wedi eu gweld yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf o ran gallu coffáu digwyddiadau fu...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Lluoedd Arfog ( 5 Hyd 2021)

Darren Millar: 6. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gymuned y lluoedd arfog? OQ56980

9. Dadl Fer: Cyhoeddi adroddiad Holden — Amser ar gyfer tryloywder ar wasanaethau iechyd meddwl yng Ngogledd Cymru (29 Med 2021)

Darren Millar: Mae'n peri digalondid mawr i mi wybod bod gennym Lywodraeth Cymru yma sydd wedi methu ymyrryd hyd yma i sicrhau y gellir lledaenu goleuni haul diheintiol ar yr adroddiad—adroddiad Holden—yr ydym yn ei drafod. Gwyddom fod problemau dwfn yn ein gwasanaethau iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, ac rwyf am ofyn i'r Gweinidog, ynghyd â'r corws o leisiau sydd eisoes wedi siarad, a'r siaradwyr...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Seryddiaeth (29 Med 2021)

Darren Millar: Rwy'n siomedig iawn o glywed yr ymateb hwnnw, Weinidog. Fe fyddwch yn gwybod bod syllu ar sêr a seryddiaeth yn rhywbeth y mae llawer o bobl ledled Cymru'n teimlo'n angerddol yn ei gylch ac mae'n rhywbeth y mae gennyf innau ddiddordeb brwd ynddo mewn gwirionedd. Dechreuais ymddiddori yn y pwnc—[Anghlywadwy.]—y cyfyngiadau symud tra'r oeddem yng nghamau cynnar y pandemig, ac un o'r pethau...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi: Seryddiaeth (29 Med 2021)

Darren Millar: 4. Pa flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i seryddiaeth o fewn ei pholisi gwyddoniaeth? OQ56903

QNR: Cwestiynau i Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant (29 Med 2021)

Darren Millar: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol GIG Cymru i Gyn-filwyr?

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cysylltiadau Rhynglywodraethol (28 Med 2021)

Darren Millar: Rwy'n awyddus i orffen ar nodyn cadarnhaol.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cysylltiadau Rhynglywodraethol (28 Med 2021)

Darren Millar: Roeddwn i'n falch iawn, Prif Weinidog, o glywed eich cyfeiriadau chi at ymgysylltu ag Iwerddon drwy'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ac yn wir y gwaith arall yr ydych chi wedi bod yn ei wneud. Yn amlwg, rwy'n ymfalchïo fy mod i'n ddinesydd Gwyddelig yn ogystal â bod yn ddinesydd Prydeinig, ac rwyf i o'r farn fod y cydberthnasau hynny'n eithriadol o bwysig i Gymru, o gofio bod gennym ni...

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cysylltiadau Rhynglywodraethol (28 Med 2021)

Darren Millar: Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad chi. Fel rydych chi'n dweud, ni ddylai hi fod yn syndod i neb yn y Siambr hon, oherwydd y gwahaniaethau gwleidyddol sydd rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Llywodraeth Geidwadol y DU, fod yna densiynau, ar brydiau; mae hynny'n ddealladwy mewn democratiaeth sy'n ethol Llywodraethau o wahanol liwiau yng Nghymru ac ar lefel y DU. Felly, rwyf i braidd yn...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (28 Med 2021)

Darren Millar: Diolch am y datganiad busnes. A gaf i alw am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda—y cyntaf gan y Gweinidog addysg ynghylch a oes tystysgrifau arholiad ar gael ai peidio gan CBAC? Mae etholwr wedi cysylltu â mi yr wythnos hon sy'n awyddus iawn i gychwyn ar radd nyrsio, ond mae wedi gorfod ei gohirio ddwywaith oherwydd nad yw'n gallu cael gafael ar gopïau o'i dystysgrifau...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (21 Med 2021)

Darren Millar: Roedd y digwyddiadau y gwnaethom ni eu gweld yn datblygu yn Afghanistan dros yr haf wedi gadael pawb wedi'u dychryn a'u harswydo, a dweud y gwir, gyda'r golygfeydd a ddatblygodd. Un o'r grwpiau o bobl yng Nghymru a gafodd eu heffeithio arnyn nhw'n arbennig gan y golygfeydd hynny oedd cyn-filwyr yn y wlad hon, y mae llawer ohonyn nhw wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog yn Afghanistan. A gaf i...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Amddiffynfeydd rhag Llifogydd (14 Gor 2021)

Darren Millar: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Ac a gaf fi fod y cyntaf i ddiolch i Lywodraeth Cymru am y rhaglen waith newydd y mae'n gobeithio ei lansio yn ardaloedd Tywyn, Bae Cinmel a Llanddulas yn fy etholaeth, sydd wedi wynebu perygl llifogydd ers blynyddoedd lawer, gan gynnwys, wrth gwrs, y llifogydd mwyaf dinistriol o fewn cof yng Nghymru yn 1990? Un o'r pryderon ynghylch y cynlluniau a allai gael...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Amddiffynfeydd rhag Llifogydd (14 Gor 2021)

Darren Millar: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fuddsoddi mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd yng Ngorllewin Clwyd? OQ56764

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd: Coed a Phren (13 Gor 2021)

Darren Millar: A gaf i groesawu'r datganiad heddiw? Rwy'n frwdfrydig iawn ynghylch coed fel yr ydych chi, ac rwy'n credu ei bod yn gwbl wych bod y targed uchelgeisiol cenedlaethol hwn yn cael ei osod yn awr. A gaf i ddiolch i Lywodraeth Cymru hefyd am y grantiau a ddarparodd drwy Cadwch Gymru'n Daclus a Coed Cadw ar gyfer plannu coedwig fechan ym Mae Cinmel yn fy etholaeth i, sydd wedi sbarduno'r gymuned...

3. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Confensiwn ar ein Dyfodol Cyfansoddiadol (13 Gor 2021)

Darren Millar: A gaf i ddweud fy mod i'n croesawu'r ffaith eich bod chi wedi gwneud y datganiad hwn i'r Siambr heddiw yn hytrach nag i'r cyfryngau yn gyntaf? Rwyf i o'r farn y gallai rhai o'ch cyd-Aelodau ddysgu llawer oddi wrthych, Gweinidog. Fel rydym wedi dweud yn y gorffennol, nid ydym o'r farn fod yna unrhyw awydd ymhlith y cyhoedd i hon fod yn flaenoriaeth ar hyn o bryd, ond rydym ni'n derbyn bod gan...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.